Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2020/08/27/next-steps-towards-recovery-in-the-crown-court/

Next steps towards recovery in the Crown Court

Posted by: , Posted on: - Categories: Crime


[English] - [Cymraeg]

We’ve talked about the challenges of Recovery in the Crown Courts from COVID-19 in a blog by our chief executive posted on 9 July. I want to provide more details about what those steps towards recovery will look like in the crime jurisdiction and highlight some of the collaborative work that has been going on with our justice partners to get us to the current position.

The progress that we’ve made so far in recovering the work of the criminal courts is a testament to the tireless work and invaluable contributions of a number of working groups, many brought together as part of our COVID-19 response. Huge thanks, in particular, go to the Criminal Bar Association, Bar Council, The Law Society, Crown Prosecution Service and the police who have been so influential in developing these critical recovery plans.

Progress so far

We are rightly proud of the significant progress made in the criminal courts since the start of the pandemic, with over 1,500 cases being dealt with each week, many adapting and using technology in innovative ways.

Since May, when jury trials resumed, more than 690 jury trials have been listed and disposed of. From this week, jury trials will be taking place in 66 Crown Court buildings and two Nightingale Courts (Prospero House and Swansea Civic Centre); 93 courtrooms are available for jury trials and we expect this to increase to 100 usable jury trial rooms by the end of August.

Where court rooms haven’t been suitable to hold jury trials, appeals, sentencing, confiscation and other work such as Section 28 hearings, have continued to take place. However, we know there is more to do, and we will have to use every lever available to us, to make sure that defendants, complainants and witnesses aren’t left in unending delay.

Increasing jury trial capacity

As some of you working in different courts around the country may already have seen, we’re increasing capacity by installing plexiglass screens and modular Portakabin buildings to help address the current social distancing requirements.

So far, we’ve identified almost 200 courtrooms and 59 retiring rooms which would benefit from screens. Those for juries have already been installed in one courtroom in Leeds and three in Liverpool and an ambitious rolling programme of works is underway. By the end of October, we expect to have rapidly increased capacity, thanks to installation of the screens in around 250 court and retiring rooms.

We’re considering where we should prioritise Portakabin units. These insulated units with running water offer suitable facilities for jury deliberating rooms and so have the potential to reduce pressure on court building facilities and in some cases free up courtrooms currently already being used for that purpose.

Supporting victims and witnesses

As we have reconfigured some courts to meet the current safety requirements, we’ll re-evaluate all special measures already granted to vulnerable or intimidated witnesses to make sure they are still workable, for example, the use of screens as previously intended.

We’re also extending the s.28 scheme to 16 additional Crown Courts from this week. Some courtrooms that may not yet be able to accommodate trials may be able to hear s.28 cases, due to the reduction in number of participants required to be physically present in the courtroom.

We’ll continue to work alongside the judiciary to prioritise and support trials involving youth defendants.

COVID-19 operating hours

In her blog, our chief executive made clear that COVID-19 operating hours are a measure to deal with the current unprecedented circumstances and that our modelling shows that unless we make use all the levers available to us, we will not be able to recover, nor to meet the standards that those who use the justice system rightly expect.

The approach being tested in the Crown court, starting at Liverpool Crown Court last week, involves a minimum of two court rooms operating jury trials in the same court centre. In one courtroom, two lists will operate: one in the morning and a second list in the afternoon, Monday to Friday. Alongside this, a ‘standard hours’ court will operate. This will ensure that if, for any reason, a case is unsuitable for the earlier or later session court, it can still be listed in the usual way.

We recognise that changing operating hours will impact court users as well as our staff. It’s critical that we consider and review the differing impacts, including for vulnerable court users and those with caring responsibilities, as well as whether the predicted level of benefit is achieved.

Continuing the journey

Like many organisations around the world, HMCTS is having to adapt because of the pandemic – exploring and pursuing innovative and sometimes radical ways forward to meet the demands of extremely challenging times.

The progress we’ve made and the insight we’ve gained are thanks to the collective effort and will of those whose steadfast contributions have helped to put us on the road to recovery.

But we will not be complacent. We know there’s much more to do, and many challenges still to overcome, on the way to full recovery. I can assure you that we’ll continue to listen to your views and ideas, and learn from your experiences as we build on those plans together.

 


[English] - [Cymraeg]

Camau nesaf tuag at adferiad Llysoedd y Goron

Rydym wedi trafod heriau Adferiad Llysoedd y Goron yn dilyn COVID-19 mewn blog gan ein prif weithredwr a gyhoeddwyd ar y 9fed o Orffennaf. Rwyf eisiau darparu rhagor o fanylion ynghylch sut bydd y camau tuag at adferiad yn edrych o fewn yr awdurdodaeth droseddol ac amlygu rhywfaint o’r cydweithio sydd wedi bod yn digwydd gyda’n partneriaid cyfiawnder sydd wedi cyfrannu at ein sefyllfa bresennol.

Mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud hyd yma i adfer gwaith y llysoedd troseddol yn destament i waith diflino a chyfraniadau amhrisiadwy nifer o weithgorau - llawer ohonynt oedd wedi’i ffurfio fel rhan o’n hymateb i COVID-19. Diolch yn fawr, yn enwedig, i Gymdeithas y Bar Troseddol, Cyngor y Bar, Cymdeithas y Gyfraith, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu, sydd wedi cael dylanwad enfawr ar ddatblygu’r cynlluniau adfer allweddol hyn.

Y cynnydd hyd yma

Rydym yn falch iawn o’r cynnydd sylweddol a wnaed yn y llysoedd troseddol ers i’r pandemig gychwyn, gyda dros 1,500 o achosion yn cael eu prosesu bob wythnos, a llawer ohonynt yn defnyddio technoleg mewn ffyrdd arloesol.

Ers mis Mai, pan ddechreuon ni gynnal treialon â rheithgor unwaith eto, mae dros 690 o dreialon â rheithgor wedi’u rhestru a’u cwblhau. O’r wythnos hon, mi fydd treialon â rheithgor yn cael eu cynnal mewn 66 o Lysoedd y Goron ac mewn dau Lys ‘Nightingale’ (Prospero House a Chanolfan Ddinesig Abertawe); mae 93 o ystafelloedd llys ar gael ar gyfer treialon â rheithgor a rhagwelwn y bydd yn cynyddu i 100 o ystafelloedd erbyn diwedd mis Awst.

Lle nad yw ystafelloedd llys wedi bod yn addas ar gyfer cynnal treialon â rheithgor, mae apeliadau, dedfrydu, atafaelu a gwaith arall, fel gwrandawiadau Adran 28, wedi parhau i ddigwydd. Fodd bynnag, gwyddwn fod mwy i’w wneud a bydd rhaid inni ddefnyddio pob adnodd sydd ar gael inni i sicrhau na fydd diffynyddion, achwynwyr a thystion yn gorfod dioddef oedi diddiwedd.

Cynyddu capasiti ar gyfer treialon â rheithgor

Fel y bydd rhai ohonoch sy’n gweithio mewn llysoedd gwahanol ledled y wlad eisoes wedi’i weld, rydym yn cynyddu capasiti trwy osod sgriniau Plexiglass ac unedau ar wahân (Portakabins) i helpu i fynd i’r afael â’r gofynion ymbellhau cymdeithasol presennol.

Hyd yma, rydym wedi adnabod bron i 200 o ystafelloedd llys a 59 o ystafelloedd ymneilltuo lle byddai gosod sgriniau yn fuddiol. Mae sgriniau ar gyfer rheithgorau eisoes wedi’u gosod mewn un ystafell llys yn Leeds a thair ystafell llys yn Lerpwl ac mae cynllun gwaith uchelgeisiol wrthi’n mynd rhagddo. Erbyn diwedd mis Hydref, disgwyliwn y byddwn wedi cynyddu capasiti yn gyflym, diolch i osod sgriniau mewn oddeutu 250 o ystafelloedd llys ac ystafelloedd ymneilltuo.

Rydym yn ystyried pa safleoedd y dylid eu blaenoriaethu o ran gosod unedau Portakabin. Mae’r unedau ynysedig hyn, sydd â ffynhonnell ddŵr, yn cynnig cyfleusterau addas ar gyfer ystafelloedd ymneilltuo i reithgorau, ac felly mae potensial iddynt leihau’r pwysau ar gyfleusterau adeiladau llys ac mewn rhai achosion rhyddhau ystafelloedd llys sy’n cael eu defnyddio at y diben hwnnw ar hyn o bryd.

Cefnogi dioddefwyr a thystion

Gan ein bod wedi ad-drefnu rhai llysoedd i fodloni’r gofynion diogelwch cyfredol, byddwn yn ail-werthuso’r holl fesurau sydd eisoes wedi’u caniatáu ar gyfer tystion bregus neu dystion sy’n cael eu bygwth i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ymarferol, er enghraifft, defnyddio sgriniau fel y bwriedir yn flaenorol.

Rydym hefyd yn ymestyn y cynllun Adran 28 i 16 o Lysoedd y Goron ychwanegol o’r wythnos hon ymlaen. Gall rhai o’r ystafelloedd nad ydynt yn addas ar gyfer cynnal treialon â rheithgor ar hyn yn bryd fod yn addas ar gyfer gwrando achosion Adran 28, oherwydd y lleihad mewn nifer y partïon y mae’n ofynnol iddynt fod yn bresennol yn y llys.

Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r farnwriaeth i flaenoriaethu a chefnogi treialon sy’n ymwneud â diffynyddion sy’n bobl ifanc.

Oriau gweithredu COVID

Yn ei blog, bu i’n prif weithredwr nodi’n glir bod oriau gweithredu COVID yn fesur i ddelio â’r amgylchiadau digynsail presennol a bod ein modelu yn dangos, oni bai ein bod yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael inni, ni fyddwn yn gallu cyflawni’r adferiad, na bodloni’r safonau a ddisgwylir gan ddefnyddwyr y system gyfiawnder.

Mae’r dull sy’n cael ei brofi yn Llysoedd y Goron, gan ddechrau gyda Llys y Goron Lerpwl yr wythnos ddiwethaf, yn cynnwys o leiaf dwy ystafell llys yn gweithredu treialon â rheithgor yn yr un ganolfan llys. Mewn un ystafell llys, bydd dwy restr yn cael eu gweithredu - un yn y bore a’r ail restr yn y prynhawn - dydd Llun i ddydd Gwener. Ochr yn ochr â hyn, bydd ystafell llys gydag oriau gweithredu ‘safonol’ yn gweithredu hefyd. Bydd hyn yn sicrhau, os am unrhyw reswm, y bydd achos yn anaddas ar gyfer y sesiwn llys gynharach neu’r sesiwn hwyrach, y gellir ei restru yn y ffordd arferol.

Cydnabyddwn y bydd newid oriau gweithredu yn effeithio ar ddefnyddwyr y llysoedd ac ein staff. Mae’n hanfodol ein bod yn ystyried ac yn adolygu’r effeithiau amrywiol, yn cynnwys yr effaith ar ddefnyddwyr llys bregus a’r sawl sydd â dyletswyddau gofal, ynghyd ag ystyried a gafodd y lefel ddisgwyliedig o fudd ei chyflawni ai peidio.

Y camau nesaf

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, mae GLlTEM yn gorfod addasu yn sgil y pandemig – gan archwilio i, a dilyn ffyrdd arloesol, ac weithiau ffyrdd radical, i fodloni gofynion cyfnod hynod heriol.

Mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud, diolch i ymdrechion a phenderfyniad pawb sydd wedi gwneud cyfraniadau cadarn, wedi ein cynorthwyo i’n rhoi ar ben ffordd yn y broses adfer.

Fodd bynnag, ni fyddwn yn ymlacio. Gwyddwn fod llawer mwy i’w wneud a llawer o heriau i’w goresgyn, ar y siwrnai i adfer ein gwasanaethau yn llawn. Gallaf eich sicrhau y byddwn yn parhau i wrando ar eich safbwyntiau a’ch syniadau a dysgu gan eich profiadau wrth inni ddatblygu cynlluniau gyda’n gilydd.

Sharing and comments

Share this page