Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2020/09/01/building-confidence-in-using-the-cloud-video-platform-for-hearings/

Building confidence in using the Cloud Video Platform for hearings

Posted by: , Posted on: - Categories: Court and tribunal reform, Digital services


[English] - [Cymraeg]

Many of us who work in the justice system have witnessed at first-hand the widespread and fast-paced changes to our ways of working over the last few months, as we have all had to respond to the disruption caused by the coronavirus pandemic.

Although audio and video technology has long played a part in running our courts and tribunals, we have particularly relied on its support during our response to the outbreak.

In this respect, we were in a relatively advanced position - certainly compared to other international jurisdictions, as many of our online services were already well-established under our programme of reform. And crucially, they were sustainable, even as fewer court buildings were open and many staff were working from home, meaning that those who needed them were still able to access justice at a time when many other aspects of our society and normal life were put on pause.

Accelerating the use of technology

One of our initial responses to the crisis was to accelerate and expand the effective use of technology across all jurisdictions, to maximise its impact. This included rolling out new hardware to improve the quality of video hearings with Cloud Video Platform (CVP), now available in all Crown and magistrates’ courts, as well as civil and family jurisdictions.

CVP enables HMCTS and the judiciary to manage and conduct cases with all, or a number of parties, attending the hearing through secure video conference.

CVP training package

To support advocates using the technology, particularly those in civil and family courts, we’ve developed a training package in collaboration with the Family Law Bar Association (FLBA) technology sub committee and the judiciary.

It’s aimed at users of CVP in the Civil & Family Court, but the product really applies to all. The training will help you to learn the features for full and hybrid CVP hearings, showing the different ways to access the system and how to use the functions to participate in a video hearing. Even if you have no experience of video hearings, it will help you to use CVP confidently.

Darren Howe QC, chair of the FLBA committee who co-produced the training, commented:

“We’re delighted to provide this training package which will support users of this relatively new technology to use it effectively - to its full capability - which will ultimately result in more effective hearings for all parties.

“The training platforms takes you through, on a click-by-click basis, the steps you need to take to join a CVP hearing and, once in, how to work effectively with the functions available including how to share documents with both witnesses and the Judge. It is essential training for any civil or family advocate who may use CVP in the civil or family courts.”

“I’m delighted that feedback so far has been very positive. We’ll keep the training up-to-date and I do hope that many other colleagues will find it useful too.”

Further training materials

We’re developing similar online training for witnesses and parties, as a well as a slightly moderated version of the current package for the criminal judiciary. They should be available in September this year.

Please do feed back any comments about the training to my team, who will use it to refine and inform any new training materials.

 


[English] - [Cymraeg]

Adeiladu hyder mewn defnyddio Platfform Fideo’r Cwmwl ar gyfer gwrandawiadau

Mae llawer ohonom sy’n gweithio o fewn y system gyfiawnder wedi profi’r newidiadau eang i’n dulliau gwaith yn bersonol. Gweithredwyd y newidiadau hyn ar gyflymder dros y misoedd diwethaf, wrth inni orfod ymateb i’r helbul a achoswyd gan y pandemig coronafeirws.

Er bod technoleg sain a fideo wedi chwarae rhan yng ngweithrediad ein llysoedd a thribiwnlysoedd ers peth amser, rydym wedi bod yn neilltuol ddibynnol ar ei chefnogaeth yn ystod ein hymateb i’r feirws.

Yn hyn o beth, roeddem mewn sefyllfa eithaf datblygedig - yn bendant o gymharu ag awdurdodaethau rhyngwladol eraill, gan fod llawer o’n gwasanaethau ar-lein eisoes wedi’u sefydlu o dan ein rhaglen ddiwygio. Yn hollbwysig, roeddent yn gynaliadwy, hyd yn oed pan oedd llai o lysoedd ar agor a llawer o staff yn gweithio o adref, roedd y sawl oedd eu hangen dal yn gallu cael mynediad at gyfiawnder ar adeg pan oedd agweddau eraill ar ein cymdeithas a bywyd arferol wedi dod i stop.

Cyflymu’r defnydd o dechnoleg

Un o’n hymatebion cychwynnol i’r argyfwng oedd cyflymu ag ymestyn ein defnydd effeithiol o dechnoleg ar draws pob awdurdodaeth, i fanteisio i’r eithaf ar ei heffaith. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno offer newydd i wella ansawdd gwrandawiadau fideo gyda Phlatfform Fideo’r Cwmwl (CVP), sydd bellach ar gael yn yr holl lysoedd ynadon a llysoedd y Goron, ynghyd â’r awdurdodaethau sifil a theulu.

Mae’r CVP yn galluogi GLlTEM i reoli a chynnal gwrandawiadau gyda phob un, neu sawl un o’r partïon yn mynychu’r gwrandawiad trwy gynhadledd fideo ddiogel.

Pecyn hyfforddiant CVP

I gefnogi adfocadau sy’n defnyddio’r dechnoleg, yn enwedig y rhai hynny yn y llysoedd sifil a theulu, rydym wedi datblygu pecyn hyfforddiant ar y cyd ag is-bwyllgor technoleg Cymdeithas y Bar Cyfraith Deuluol (FLBA) a’r farnwriaeth.

Mae wedi’i anelu at ddefnyddwyr CVP yn y Llysoedd Sifil a Theulu, ond mae’n berthnasol i bawb. Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â nodweddion gwrandawiadau CVP llawn a gwrandawiadau cymysg, gan ddangos y ffyrdd gwahanol i gael mynediad at y system a sut i ddefnyddio’r swyddogaethau i gymryd rhan mewn gwrandawiad fideo. Hyd yn oed os nad oes gennych brofiad o wrandawiadau fideo, bydd yn eich helpu i ddefnyddio’r CVP yn hyderus.

Meddai Darren Howe CF, cadeirydd y pwyllgor a ddatblygodd yr adnodd hyfforddiant ar y cyd â’r gwasanaeth llysoedd:

“Rydym yn falch iawn i ddarparu’r pecyn hyfforddiant hwn, a fydd yn cefnogi defnyddwyr y dechnoleg eithaf newydd hon i’w defnyddio’n effeithiol – a gwneud y gorau ohoni – a fydd yn y pen draw yn arwain at wrandawiadau mwy effeithiol i’r holl bartïon.

“Mae’r platfformau hyfforddiant yn eich tywys trwy broses, gan glicio drwy bob cam unigol, yn dangos y camau mae’n rhaid ichi eu cymryd i ymuno â gwrandawiad CVP ac, unwaith y byddwch wedi ymuno, sut i ddefnyddio’r swyddogaethau sydd ar gael yn effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys rhannu dogfennau gyda thystion a’r Barnwr. Mae’r hyfforddiant hwn yn hanfodol i unrhyw adfocad yn y llysoedd sifil a theulu a all fod yn defnyddio’r CVP yn y llysoedd teulu neu sifil.”

“Rwy’n hapus iawn i glywed bod yr adborth hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r hyfforddiant a mawr obeithiaf y bydd yn ddefnyddiol i lawer o gydweithwyr eraill hefyd.”

Deunyddiau hyfforddiant pellach

Rydym yn datblygu pecyn hyfforddiant ar-lein tebyg ar gyfer tystion a phartïon, ynghyd â fersiwn ychydig yn wahanol i’r pecyn cyfredol, ar gyfer barnwriaeth yr awdurdodaeth droseddol. Dylai’r rhain fod ar gael ym mis Medi eleni.

Mae croeso ichi anfon unrhyw adborth a sylwadau am yr hyfforddiant at fy nhîm, a fydd yn eu ddefnyddio i fireinio a chyfarwyddo unrhyw ddeunyddiau hyfforddiant newydd.

Sharing and comments

Share this page