Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2020/09/14/helping-local-authorities-to-support-vulnerable-children/

Helping local authorities to support vulnerable children

Posted by: , Posted on: - Categories: Court and tribunal reform, Digital services, Family


[English] - [Cymraeg]

In September 2019 we updated you on how the Family Public Law digital service will work and how it will help achieve the best outcome for children in public law cases.

How COVID-19 affected our service

The global pandemic meant that our national roll-out plans were put on hold, however we have used the time to significantly improve the performance and robustness of our service. We have reduced slow response times by 98.6%, from 14.5% in April to 0.2% in July. We have also reduced the number of errors users experienced from 0.4% in April to 0.1% in July.

Mother and daughter holding each other's hands in the park

Latest enhancements to the digital service

Since March 2020 we have researched and improved how the case management order process should work. Given the urgency of the applications, we want to provide the most efficient method for local authorities to provide draft orders for review and approval by the judiciary.

We have been told by local authorities that our improved process ‘is very quick and easy’. In one case this resulted in a turnaround of 35 minutes from the point a draft was submitted to the judge approving the order and notifications being sent to all parties.

We have also worked closely with our local authorities to improve the way they complete the C110a digital application form. Local authorities can now review a draft of their application as a pdf at any point in the drafting process. Each section of the form has flags to indicate progress which makes collaborative working between local authority solicitors easier.

Legal representatives

We can now add legal firm representatives to digital cases. This means representatives can access case documents, upload evidence and view case information, such as next hearing details and directions that need to be completed.

Courts and Tribunals Service Centres and new ways of working

In March 2020 we successfully moved public law work across 3 family courts in Swansea, Cardiff and Liverpool to a centralised team based in Stoke. Many of the administrative tasks are now handled by a public law team, offering greater consistency and familiar support contacts for our users.

Today we begin our national roll-out, remaining courts, local authorities, legal representative firms and the Judiciary will be onboarded to the digital service in a phased approach.

What happens next?

We will be contacting users with all the information they need to begin using the new service including online guidance and training materials. We will continue to engage with legal representatives, and a webinar is planned where legal firms specialising in public law can find out more about the benefits of the service and sign up.

Webinars will be advertised on our reform events page and on our weekly stakeholder bulletin.

The pause in roll-out due to COVID-19 means the project will now run until April 2021. Until then we will continue to improve the service based on user feedback and work closely with family courts and their users to ensure we achieve the best outcomes for vulnerable children.

We would welcome your feedback and if you have any comments or questions please contact us by email.


[English] - [Cymraeg]

Helpu Awdurdodau Lleol i gefnogi plant bregus

Ym mis Medi 2019, fe wnaethom eich diweddaru ar sut bydd y gwasanaeth Cyfraith Deuluol Gyhoeddus yn gweithio a sut y bydd yn helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer plant mewn achosion cyfraith gyhoeddus.

Sut wnaeth COVID-19 effeithio ar ein gwasanaeth?

Golygodd y pandemig byd-eang fod rhaid inni ohirio ein cynlluniau i gyflwyno’r gwasanaeth yn genedlaethol. Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio’r amser i wella perfformiad a chadernid ein gwasanaeth. Rydym wedi lleihau amseroedd ymateb araf o 98.6%, i lawr o 14.5% ym mis Ebrill i 0.2% ym mis Gorffennaf. Rydym hefyd wedi lleihau nifer y gwallau roedd defnyddwyr yn dod ar eu traws, o 0.4% ym mis Ebrill i 0.1% ym mis Gorffennaf.

Y gwelliannau diweddaraf i’r gwasanaeth digidol

Ers mis Mawrth 2020 rydym wedi ymchwilio i’r ffordd y mae’r broses ar gyfer gorchmynion rheoli achos yn gweithio a’i gwella. Gan ystyried natur brys y ceisiadau, rydym eisiau darparu’r dull mwyaf effeithlon i Awdurdodau Lleol allu darparu gorchmynion drafft i’w hadolygu a’u cymeradwyo gan y farnwriaeth.

Mae Awdurdodau Lleol wedi dweud wrthym fod ein proses sydd wedi’i gwella ‘yn gyflym ac yn hawdd iawn’. Mewn un achos, o fewn 35 munud i ddrafft gael ei gyflwyno i’r barnwr, roedd y barnwr wedi cymeradwyo’r gorchymyn a chafodd hysbysiadau eu hanfon at yr holl bartïon.

Rydym hefyd wedi gweithio’n agos ag Awdurdodau Lleol i wella’r ffordd maen nhw’n llenwi’r fersiwn digidol o’r ffurflen C110a. Nawr gall Awdurdodau Lleol adolygu drafft o’u cais ar ffurf ffeil PDF unrhyw bryd yn ystod y broses ddrafftio. Mae gan bob rhan o’r ffurflen fflagiau sy’n dangos y cynnydd a wneir, sy’n hwyluso gweithio ar y cyd rhwng cyfreithwyr awdurdodau lleol.

Cynrychiolwyr cyfreithiol

Nawr gellir ychwanegu cynrychiolwyr cwmnïau cyfreithiol at achosion digidol. Mae hyn yn golygu y gall cynrychiolwyr gael mynediad at ddogfennau’r achos, llwytho tystiolaeth ac edrych ar wybodaeth am yr achos, fel manylion y gwrandawiad nesaf a chyfarwyddiadau y mae'n rhaid eu cwblhau.

Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd a ffyrdd newydd o weithio

Ym mis Mawrth 2020, symudwyd y gwaith cyfraith gyhoeddus o 3 llys teulu yn Abertawe, Caerdydd a Lerpwl i dîm wedi’i ganoli yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd yn Stoke. Mae llawer o’r tasgau gweinyddol nawr yn cael eu gwneud gan ein tîm cyfraith gyhoeddus, gan ddarparu mwy o gysondeb a chysylltiadau cymorth cyfarwydd ar gyfer ein defnyddwyr.

Heddiw rydym yn cychwyn ar y broses o gyflwyno’r gwasanaeth yn genedlaethol. Bydd y gwasanaeth digidol yn cael ei gyflwyno yn raddol i’r llysoedd sy’n weddill, Awdurdodau Lleol, cwmnïau cynrychiolwyr cyfreithiol a’r Ynadaeth.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn cysylltu â defnyddwyr, gan ddarparu’r holl wybodaeth maen nhw ei hangen i ddechrau defnyddio’r gwasanaeth newydd, yn cynnwys canllawiau a deunyddiau hyfforddi ar-lein. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr cyfreithiol ac rydym yn cynllunio ar gyfer cynnal gweminar lle bydd cwmnïau cyfreithiol sy’n arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus yn cael rhagor o wybodaeth am fuddion y gwasanaeth a chofrestru i’w ddefnyddio.

Bydd gweminarau yn cael eu hysbysebu ar dudalen digwyddiadau ein rhaglen ddiwygio ac yn ein bwletin wythnosol i randdeiliaid.

Oherwydd bod y broses gyflwyno wedi’i gohirio o ganlyniad i COVID-19, bydd y prosiect nawr yn rhedeg hyd at Ebrill 2021. Tan hynny, byddwn yn parhau i wella’r gwasanaeth yn seiliedig ar sylwadau gan ddefnyddwyr a byddwn yn gweithio’n agos â llysoedd teulu a’u defnyddwyr i sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer plant bregus.

Croesawn eich sylwadau ac oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost i ni.

Sharing and comments

Share this page