https://insidehmcts.blog.gov.uk/12-months-of-justice-the-hmcts-2024-review-podcast-transcript/
12 Months of Justice: The HMCTS 2024 Review - podcast transcript
[English] - [Cymraeg]
Aaron Wilson:
Hello, and welcome to the latest episode of Inside HMCTS with me, Aaron Wilson, from the communications team. In today's episode, we'll be reflecting on the best of 2024, looking back at the highlights from the year across HMCTS.
We saw new systems implemented, new campaigns launched, additional courtrooms opened, and even a change of government midway through the year. So now is an ideal time to take a look back at a year filled with progress and transformation within HMCTS.
This year kicked off with the launch of our inside criminal courts campaign, featuring weekly insights from our colleagues across the United Kingdom.
We had some team members in a variety of roles from a court usher to a business change manager, with the idea being to give a look behind the scenes at how different roles contribute to the delivery of justice.
Here's what Nasima, a court clerk, had to say about the role she plays in justice.
Nasima Begum:
So the main role, of the court clerk is making sure that your court is running smoothly. So getting your court from a to b, start of the day till the end of the day. Then there's the role of administration.
So making sure any orders from a hearing, is all getting done. And it's also about case progression. So making sure that a case is go going from start to finish with no issues whatsoever. And then on the side, I mean, I wouldn't say it's the main part of the role, but I am there to assist the judge. So that is, it is a part of the role, but I wouldn't say it's the biggest part of the role because there is so much that we do in the day.
But I am here as an assistant to the judge, to make sure that, a, he's doing the right thing, and b, just helping him out if he if he needs anything and just making sure that my case is running smoothly. I have a passion for justice. Just the justice system, getting justice for both defendants and victims. And then the other thing that I love about my job is that every day is different. Every day is a new story, a new, you know, a new victim, a new defendant, and no 2 days are the same and I love that every day, is so varied.
Aaron Wilson:
Nasima there sharing her contributions to justice.
This year, we also launched this very podcast taking a deeper dive into some of the projects and initiatives being delivered across the organisation.
We've been lucky enough to have some fantastic speakers on the podcast, and we'll continue to bring you more stories as we head into 2025. If you haven't caught up with our other 9 installments yet and fancy some listening over Christmas, head to our blog where you can find every single episode. Simply search ‘Inside HMCTS podcast’.
We've explored open days, discovered more about the small claims mediation service, heard about the outreach work we're doing with the University of Reading, and even looked at how we're improving access to justice across our courts and tribunals to make the system accessible to everyone that needs it. Let's say more about that now from Mike Williams, our deputy director for service excellence.
Mike Williams:
Often when people think about accessibility, it's the kind of the physical access into court. So, you know, how do you get round, with ramps or wider doors, for example, with for people with physical disabilities is where the work that my teams get involved with is, is around the whole range of accessibility.
So that might be somebody who has a visual impairment or maybe neurodiverse. So there there's a huge range of of things that we get involved with.
Aaron Wilson:
In October, we had a host of guests join us for the anti-knife crime event at Westminster Magistrates Court, which was a great opportunity for communities across justice to come together and highlight the dangers of carrying a weapon.
We were lucky enough to be joined by Ian Rawlins, a legal adviser from London, who gave us his views on why events like this are so important.
Ian Rawlins:
Teddy Burton, one of the heads from Winchmore, he came up to me and said, yeah, this is brilliant this is really good, I'm really enjoying myself, I didn't know it was going to be this good. I'm really happy about it, I'm mad about it, he said, and that's the teacher.
And it was good to see when Steel Warriors were doing their calisthenics with the bars that where the teachers were getting involved in the midst of things, she was putting the kids to shame with how many, dips she could do. And, she actually emailed me when she got home to say what a brilliant day she had, and the kids were buzzing on the train going home.
Aaron Wilson:
Unfortunately, we must acknowledge that incidents do sometimes happen, such as knife crime, and justice needs to be dealt fairly and accordingly.
Our mission not only remains to continue to improve the system, but also expand our court and tribunal capacity to deal with cases more efficiently.
There's been no exception to that this year, and we've opened several new sites and courtrooms, including our new state of the art Westgate Business and Property Court and Employment Tribunals in Leeds, additional courtrooms in Fleetwood, and announcing plans for a new hub for justice in Blackpool to name a few examples.
Let's return to Leeds now to hear from northeast delivery director Graeme who told us what the opening of Westgate means for justice.
Graeme Goldsmith:
This new building will give us much needed flexibility in the northeast. In Leeds, specifically, it gives us more than 50 hearing rooms across 3 different sites within a 250-yard radius.
The facilities are really modern, and so that level of IT investment that we've got means that there will be significant flexibility for me as a delivery director as our workload changes between now and into the future. I think as well, it will give the staff a new modern purpose-built building for them to deliver the best service that they can for the public.
In every room in every courtroom and hearing room in this building has got state of the art IT equipment, so we can deal with remote hearings, we can deal with bringing witnesses in or claimants in from anywhere in the world. We've got an ability as well for judges to be able to interact with parties in a different way, we don't necessarily need everybody to be here in person. So we can do hybrid hearings, we can do fully remote hearings, we can also do more traditional in person hearings with all the parties in the courtroom. and just in terms of the volume of work that we've undertaken already, we've already dealt with over 200 commercial disputes in the Business and Property Courts.
We've got a real range of different employment tribunal work that we deal with from individuals who have an issue with their employer and are acting in person, right the way up to huge equal peer claims across some of the big supermarkets that we've been dealing with as well. So the range of disputes that we deal with and the range of issues that we resolve is quite significant in this new building.
Aaron Wilson:
Nightingale courts have also played a key part in delivering justice since the pandemic back in 2020 and this year, we extended 20 locations in order to keep justice moving forwards.
One of our other lasting commitments remains to ensure justice is open and transparent, something our open day events contribute to massively. They provide the public the chance to see behind the scenes of justice, chat with our colleagues, and often experience how processes work within the courtroom.
Let's remind ourselves what our colleagues said our open day held in Derby.
Glynn:
I think it's it's vital to get the public into public buildings. This is a fantastic building, but so that they can see and experience the sort of work we do.
Bal Atwal:
So my name is. I'm deputy bench chairman for South Derbyshire Magistrates’ Court and my role today has been welcoming the public into our courtrooms, answering any questions, but I've also been defense solicitor as part of our mock trial in one of the call rooms today.
Watching a 9 year old boy do be part of the, mock trial and be the defendant, he did an amazing job. Itwas so rewarding to watch it, and well done him.
Aaron Wilson:
Whilst we facilitated plenty of external events, we've also had some closer to home, and our annual regional and national awards were a great success once again this year. These events helped to shine a small light on some of the outstanding contributions to justice that our colleagues make and how they make a difference every single day.
Our team attended the national awards in September and caught up with Katie, one of our bailiffs. Here's what she had to say after collecting her well-deserved award.
Katy Watts:
Why was I nominated? I was nominated, because when I first started, I saved a life. A man had stopped breathing in front of me, so I had to do CPR.
It made me determined to want to be a part of HMCTS, because I obviously realised that I'm doing something right and it made me a strong person, I would say, because anything after that is easy.
I'm proud of working for HMCTS because as much as it is hard, and we all have really hard roles to do, we're like family, and everybody looks after everybody, and that's a really nice thing.
Aaron Wilson:
As a multinational organisation, our teams in Scotland and Wales have also had a busy year administrating justice. I caught up with Hannah-Jo from Scotland to find out more about the state of play in tribunals there, but first, let's hear from my colleague, Rhydian, who told me more about some of the work in Wales that's taken place this year.
So, Rhydian, welcome to the podcast. Thanks for joining us. Firstly, it's been a busy year in Wales by all accounts. So, tell me, how did 2024 start off for you?
Rhydian Jenkins:
Thank you very much. So we kicked off the year in February with cyberbullying awareness sessions at Cardiff Magistrates Court with over 200 children in attendance and then by March, MyHMCTS became available to professional users in Welsh enhancing accessibility. And then in April, we launched the second Pathfinder project in Southeast Wales, followed by a ‘lessons learned’ workshop later in the year in November with 126 attendees.
Aaron Wilson:
Brilliant. And there's been some outstanding work in the region this year, but can you tell me how you celebrate success within the organisation as well?
Rhydian Jenkins:
Yeah. No problem. So, the regional award ceremony in July saw that as our best yet, combining formal recognition with and then in August, our Welsh language team enjoyed engaging with the public during the National Eisteddfod in Pontypridd.
And then September brought 3 runners up at the National Awards alongside the relaunch of the updated bailiff manual. And then in October, we hosted the annual legal service for the first time in the beautiful Saint David's Cathedral.
Aaron Wilson:
Brilliant. And has there been any other successful projects supported the delivery of justice in White House that you'd like to mention?
Rhydian Jenkins:
Yes. There's been many to mention. Some of the achievements include the successful transition of road traffic single justice procedure work to the Common Platform, innovative pilots in Mold and method of the magistrates’ court, and significant improvements in the business continuity plans.
We've also reduced over 6,000 outstanding Cafcass Cymru claims to just 37 and expanded joint working initiatives such as the 2024 Police Disclosure Working Group.
Mold Crown Court also joined the jury support pilot, now offering Welsh language counseling for jurors. And then finally, we hosted several high profile visits, including the master of the roles topping off a productive and collaborative year for our Welsh team.
Aaron Wilson:
Well, it sounds like it's been a busy year in 2024 for the Welsh team, Rhyd, but wishing you all the best for 2025.
Rhydian Jenkins:
Thank you very much and we’ll see you then.
Aaron Wilson:
That was Rhydian there covering off some highlights in Wales for us.
Now as some of you may or may not know, HMCTS is also responsible for the administration of tribunals in Scotland.
As an incredibly important arm of justice, Hannah Jo tells us more about the best of the year north of the border.
Hi, Hannah Jo. Welcome to the podcast. Firstly, thanks for agreeing to come on and speak to us about some highlights in Scotland. I know, obviously, it's been a busy year for you guys in in Scotland, but how did 2024 kick off for you?
Hannah-Jo Bird
Hi Aaron, thanks for having me, so in January saw we snow and ice threaten hearings across Scotland, but thanks to our dedicated staff, no disruptions occurred. During this time, Employment Tribunals cleared 30,000 withdrawn equal pay cases, a major milestone. Then not long after in February, SSCS welcomed Glasgow University law students to observe hearings.
Aaron Wilson:
And have there been any other successful highlights that have supported the delivery of justice in Scotland that stand out to you?
Hannah-Jo Bird:
Yes. Definitely. In April, we introduced text message reminders for criminal injury compensation hearings, making the process more efficient for our users and representatives.
In June, the document submission service went live for criminal injury compensation jurisdiction, allowing appellants and representatives to upload documents digitally for hearings, which is an important step in the CIC reform journey.
Then we introduced a web chat in July for Social Security and Child Support, and the Immigration and Asylum Chamber went live with the appeals list assessed as an early adopter in the same month.
Aaron Wilson:
It sounds to me as though there's been some impressive work in the reading this year. Can you tell us how you celebrated success within the organisation? Any highlights there?
Hannah-Jo Bird:
July was a busy month with Regional Awards and not long after, at the National Awards, Edinburgh's own Aliya Arslan excelled on the stage, co-presenting at the HMCTS Awards.
Aaron Wilson:
I think you mentioned, obviously, it's been a really busy year, and we're obviously we do our highlights moving towards the end of the year here. So can you sort of wrap up from the last couple of months of what's happened to for you?
Hannah-Jo Bird:
So in September, Employment Tribunals welcomed staff from the advisory conciliation and arbitration service, providing them with an overview of the ET processing system and in the same month, criminal injury compensation reviewed all legacy cases to ensure effective progression of the caseload.
In October, alongside the service team, the Immigration and Asylum Chamber staff in Glasgow provided the IAC president and reform leadership judges with an overview of list assist and addressed any concerns ahead of the national rollout.
Lastly, in November, a member of our Edinburgh Employment Tribunal team spoke to the Northern Ireland and Scotland Schools Outreach Network about civil service careers. Then the Immigration and Asylum Chamber welcomed 50 university students to observe hearings and meet judges.
Aaron Wilson:
And just like that, we're at the end of another year. It's been another year of change across HMCTS, and 2025 will bring new challenge with it.
If you've enjoyed listening to the podcast this year or have any feedback, be sure to drop a comment on our blog page. Just search inside HMCTS podcast.
To keep in touch with our latest updates, you can follow us on our social media channels across Facebook, LinkedIn, X, and now with our WhatsApp updates channel.
But for now, from all of us at HMCTS, however you're spending the festive period, we hope you have a very merry Christmas and wish you all the best for the new year ahead.
[English] - [Cymraeg]
12 Mis o Gyfiawnder: Adolygiad GLlTEF 2024 - trawsgrifiad podlediad
Aaron Wilson:
Helo, a chroeso i bennod ddiweddaraf Inside HMCTS gyda fi, Aaron Wilson, o’r tîm cyfathrebiadau. Ym mhennod heddiw, byddwn yn myfyrio ar y gorau o 2024, gan edrych yn ôl ar uchafbwyntiau’r flwyddyn ledled GLlTEF.
Bu inni weld systemau newydd yn cael eu rhoi ar waith, ymgyrchoedd newydd yn cael eu lansio, ystafelloedd llys ychwanegol yn agor, a hyd oed newid i’r llywodraeth yn y ystod y flwyddyn. Felly dyma’r adeg ddelfrydol i edrych yn ôl ar flwyddyn llawn cynnydd a thrawsnewid o fewn GLlTEF.
Dechreuodd y flwyddyn gyda lansiad ein hymgyrch tu mewn i’r llysoedd troseddol, a oedd yn cynnwys mewnwelediadau wythnosol gan ein cydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig.
Roedd gennym aelodau o staff o rolau amrywiol, o dywysydd llys i reolwr newid busnes, gyda’r syniad o roi cipolwg tu ôl i’r llenni ar sut mae rolau gwahanol yn cyfrannu at weinyddu cyfiawnder.
Dyma beth oedd gan Nasima, clerc y llys, i ddweud am y rôl mae hi’n ei chwarae i weinyddu cyfiawnder.
Nasima Begum:
Felly prif rôl clerc y llys yw sicrhau bod y llys yn gweithredu’n esmwyth. Felly symud y llys yn ei flaen, o A i B, o gychwyn y diwrnod hyd at ddiwedd y diwrnod. Mae yna hefyd rhan weinyddol i’w chwarae.
Felly sicrhau bod unrhyw orchmynion o wrandawiad yn cael eu gwneud. Ac mae hefyd yn ymwneud â symud achosion yn eu blaenau. Felly, sicrhau bod yr achos yn symud ymlaen o ddechrau i ddiwedd heb unrhyw drafferth. Ac hefyd ar yr ochr, wel, nid yw’n prif ran o’r rôl, ond rwyf yna i gynorthwyo’r barnwr. Felly, mae hynny’n rhan o’r rôl, ond nid dyna’r rhan fwyaf o’r rôl oherwydd mae yna gymaint rydym yn ei wneud mewn diwrnod.
Ond rwyf yma hefyd fel cynorthwyydd i’r barnwr, i sicrhau ei fod/bod yn gwneud y peth iawn, yn ei helpu os oes angen rhywbeth arno/arni a sicrhau bod yr achos yn symud yn ei flaen yn ddidrafferth. Rwy’n angerddol am gyfiawnder. Y system gyfiawnder, a sicrhau cyfiawnder i ddiffynyddion a dioddefwyr. A’r peth arall rwy’n garu am fy ngwaith yw bod pob diwrnod yn wahanol. Mae pob diwrnod yn stori newydd, gwyddoch chi, dioddefwr newydd, diffynnydd newydd ac nid yw 2 ddiwrnod byth yr un peth, a dw i wrth fy modd bod pob diwrnod yn mor amrywiol.
Aaron Wilson:
Dyna ni Nasima yn rhannu ei chyfraniadau i gyfiawnder.
Eleni, bu inni lansio’r podlediad llwyddiannus hwn, sy’n edrych yn fanylach ar rai o’r prosiectau a’r mentrau sy’n cael eu gweithredu ledled y sefydliad.
Rydym wedi bod yn ddigon lwcus i gael siaradwyr gwych ar y podlediad, a byddwn yn parhau i rannu mwy o straeon gyda chi wrth i ni gamu mewn i 2025. Os nad ydych wedi gwrando ar y 9 pennod arall eto, ac eisiau rhywbeth i wrando arno dros y Nadolig, ewch i’n blog lle gallwch ddod o hyd i bob pennod. Chwiliwch am ‘Inside HMCTS Podcast’.
Rydym wedi trafod dyddiau agored, wedi canfod mwy am y gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain, clywed mwy am y gwaith estyn allan rydym yn ei wneud gyda Phrifysgol Reading, ac hyd yn oed wedi edrych ar sut rydym yn gwella mynediad at gyfiawnder ledled ein llysoedd a thribiwnlysoedd i wneud y system yn hygyrch i bawb sydd ei hangen. Byddwn trafod mwy am hynny nawr gyda Mike Williams, ein Dirprwy Gyfarwyddwr dros Ragoriaeth Gwasanaeth.
Mike Williams:
Pan fydd pobl yn meddwl am hygyrchedd, yn aml iawn mae’n nhw’n meddwl am fynediad ffisegol i’r llys. Felly, sut ydych chi’n mynd o amgylch yr adeilad, gyda rampiau neu ddrysau llydan, ar gyfer pobl gydag anableddau corfforol - ond mae’r gwaith mae fy nhimau i yn rhan ohono yn delio â’r ystod llawn o faterion hygyrchedd.
Felly gall bod rhywun â nam ar ei olwg neu efallai rhywun sy’n niwroamrywiol. Felly mae yna ystod eang o bethau rydym yn rhan ohonynt.
Aaron Wilson:
Ym mis Hydref, bu inni groesawu nifer o westeion ar gyfer y digwyddiad yn erbyn tro yn Llys Ynadon San Steffan, a oedd yn gyfle gwych i gymunedau ledled y sector cyfiawnder i ddod ynghyd ac amlygu peryglon cario arf.
Roeddem yn ddigon ffodus i gael Ian Rawlins, cynghorydd cyfreithiol o Lundain, i ymuno â ni, a roddodd ei safbwyntiau ar pam bod digwyddiadau fel hyn mor bwysig.
Ian Rawlins:
Mi wnaeth Teddy Burton, un o’r penaethiaid yn Ysgol Winchmore, ddod i fy ngweld a meddai, ie, mae hyn yn wych, mae’n dda iawn, rwyf wir yn mwynhau fy hun, doeddwn i ddim yn gwybod roedd o’n mynd i fod mor dda. Rwyf wrth fy modd efo fo, meddai, a’r athro oedd hynny.
Ac roedd hi’n braf gweld, pan oedd Steel Warriors yn gwneud ei gweithdy calisthenics gyda’r bariau - roedd un o’r athrawon yn ei chanol hi, ac roedd hi’n codi cywilydd ar y plant gyda nifer y ‘dips’ roedd hi’n gallu gwneud. Ac mi wnaeth hi anfon e-bost ataf pan wnaeth hi gyrraedd adra i ddweud bod hi wedi cael diwrnod gwych ac roedd y plant yn ‘buzzing’ ar y trên wrth fynd adref.
Aaron Wilson:
Yn anffodus, mae’n rhaid i ni gydnabod bod digwyddiadau yn codi weithiau, fel troseddau gyda chyllyll, a rhaid i gyfiawnder ddelio ag ef yn deg ac yn y ffordd gywir.
Mae ein cenhadaeth yn parhau i fod - parhau i wella’r system, ond hefyd ymestyn capasiti ein llysoedd a thribiwnlysoedd i ddelio ag achosion yn fwy effeithlon.
Nid oes unrhyw eithriadau i hynny wedi bod eleni, ac rydym wedi agor sawl safle newydd a nifer o ystafelloedd llys newydd, gan gynnwys ein Llys Busnes ac Eiddo a Thribiwnlysoedd Cyflogaeth o’r radd flaenaf yn Westgate, Leeds, ystafelloedd llys ychwanegol yn Fleetwood, a chyhoeddi cynlluniau i greu canolfan newydd yn Blackpool, i enwi dim ond llond llaw o enghreifftiau.
Wnawn ni ddychwelyd i Leeds nawr i glywed gan Graeme, Cyfarwyddwr Cyflawni Gogledd Ddwyrain Lloegr, a oedd yn rhannu beth fydd agor y ganolfan Westgate yn ei olygu ar gyfer cyfiawnder.
Graeme Goldsmith:
Bydd yr adeilad newydd hwn yn rhoi hyblygrwydd roedden ni wir ei angen yma yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr. Yn Leeds, yn benodol, mae’n darparu dros 50 o ystafelloedd gwrandawiadau ar draws 3 safle gwahanol i gyd o fewn radiws o 250 llath.
Mae’r cyfleusterau yn fodern iawn, ac mae’r lefel hynny o fuddsoddiad o ran TG yn golygu bydd yna ddigonedd o hyblygrwydd ar gyfer y dyfodol i mi fel cyfarwyddwr cyflawni wrth i’n baich gwaith newid rhwng nawr a’r dyfodol. Rwy’n meddwl hefyd, bydd yn rhoi adeilad newydd, modern a phwrpasol iddynt ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallant i’r cyhoedd.
Mae gan bob un ystafell llys ac ystafell wrandawiadau offer TG o’r radd flaenaf, felly gallwn ddelio â gwrandawiadau o bell, a dod â thystion neu hawlwyr i mewn o unrhyw le yn y byd. Mae’r gallu yno hefyd i farnwyr rhyngweithio â’r partïon mewn ffordd wahanol, nid ydym o reidrwydd angen pawb i fod yma yn bersonol. Felly gallwn gynnal gwrandawiadau cymysg, gallwn gynnal gwrandawiadau sy’n gyfan gwbl o bell, a gallwn gynnal gwrandawiadau wyneb yn wyneb traddodiadol lle bo’r holl bartïon yn y ystafell llys. O ran faint o waith rydym eisoes wedi’i gwblhau, rydym wedi delio â dros 200 o anghydfodau masnachol yn y Llysoedd Busnes ac Eiddo.
Mae gennym amrywiaeth o waith gwahanol yn y tribiwnlys cyflogaeth, o unigolion sydd â phroblem gyda’u cyflogwr ac sy’n ymgyfreithwyr drostynt eu hunain, hyd at hawliadau anferthol rhwng cyfoedion cyfartal (equal peers) ar draws rhai o’r archfarchnadoedd mawr. Felly mae’r amrywiaeth o anghydfodau rydym yn delio â hwy a’r ystod o anghydfodau rydym yn eu datrys yn yr adeilad newydd hwn o bwys.
Aaron Wilson:
Mae’r llysoedd Nightingale hefyd wedi chwarae rôl allweddol mewn gweinyddu cyfiawnder ers y pandemig yn 2020, a bu inni ymestyn 20 o leoliadau i sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i fynd yn ei flaen.
Un o’n hymrwymiadau parhaus arall yw sicrhau bod cyfiawnder yn agored ac yn dryloyw, ac mae ein digwyddiadau diwrnod agored yn cyfrannu’n anferthol at hynny. Maen nhw’n rhoi cyfle i’r cyhoedd weld y tu ôl i’r llenni, siarad gyda’n cydweithwyr ac yn aml, profi sut mae prosesau yn gweithio o fewn yr ystafell llys.
Beth am atgoffa ein hunain beth ddywedodd ein cydweithwyr am y diwrnod agored a gynhaliwyd yn Derby.
Glynn:
Mae’n hollbwysig ein bod yn cael y cyhoedd i ddod i mewn i adeiladau cyhoeddus. Mae hwn yn adeilad gwych, ond hefyd gallant weld a phrofi’r math o waith rydym yn ei wneud.
Bal Atwal:
Fy enw yw Bal Atwal. Fi yw’r Dirprwy Gadeirydd Mainc ar gyfer Llys Ynadon De Swydd Derby a fy rôl heddiw yw croesawu’r cyhoedd i’n ystafelloedd llys, gan ateb unrhyw gwestiynau, ond rwyf hefyd wedi chwarae rôl cyfreithiwr yr amddiffyniad yn ein treial ffug yn un o’n ystafelloedd llys heddiw.
Wnes i wylio plentyn 9 oed yn bod yn rhan o’r treial ffug heddiw, a bod yn ddiffynnydd, roedd o’n hollol wych. Roedd yn rhoi llawer o foddhad i’w weld a da iawn fo.
Aaron Wilson:
Er ein bod wedi hwyluso llawer o ddigwyddiadau allanol, rydym hefyd wedi cynnal rhai yn agosach i adref, ac roedd ein gwobrau rhanbarthol a chenedlaethol yn lwyddiant ysgubol unwaith eto eleni. Mi wnaeth y digwyddiadau hyn daflu goleuni ar rai o gyfraniadau anhygoel y mae ein cydweithwyr yn eu gwneud ym maes cyfiawnder a sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth bob dydd.
Bu i’n tîm fynychu’r gwobrau cenedlaethol ym mis Medi a dal i fyny gyda Katy, un o’n beilïaid. Dyma beth ddywedodd hi ar ôl casglu ei gwobr haeddiannol iawn.
Katy Watts:
Pam gefais i fy enwebu? Cefais fy enwebu oherwydd, pan roeddwn i newydd ddechrau yn fy swydd, mi wnes i achub bywyd. Roedd dyn wedi rhoi’r gorau i anadlu o fy mlaen i, felly roedd rhaid i mi wneud CPR.
Wnaeth hyn fy wneud yn benderfynol o fod yn rhan o GLlTEF, oherwydd yn amlwg mi wnes i sylweddoli fy mod i’n gwneud rhywbeth yn iawn ac roedd yn gwneud fi’n berson cryf, oherwydd ar ôl hynny, roedd unrhyw beth arall yn mynd i fod yn hawdd.
Rwy’n falch o weithio i GLlTEF oherwydd er ei fod yn anodd, ac mae gennym rolau heriol i’w cyflawni, rydym fel teulu, ac mae pawb yn gofalu am ei gilydd, ac mae hynny’n rhywbeth neis iawn.
Aaron Wilson:
Fel sefydliad sy’n weithredol mewn sawl gwlad, mae ein timau yng Nghymru a’r Alban hefyd wedi cael blwyddyn prysur yn gweinyddu cyfiawnder. Wnes i gael sgwrs gyda Hannah-Jo o’r Alban, i ganfod mwy am sefyllfa’r tribiwnlysoedd yno, ond yn gyntaf, cawn glywed gan fy nghydweithiwr, Rhydian, a oedd wedi dweud mwy am y gwaith sydd wedi digwydd yng Nghymru eleni.
Felly, Rhydian, croeso i’r podlediad. Diolch am ymuno gyda ni. Yn gyntaf, mae wedi bod yn flwyddyn brysur yng Nghymru yn ôl sôn. Felly, beth am ddweud mwy am sut ddechreuodd 2024 i chi?
Rhydian Jenkins:
Diolch yn fawr iawn. Felly bu inni gychwyn y flwyddyn gyda sesiynau ymwybyddiaeth seibr-fwlio ym mis Chwefror yn Llys Ynadon Caerdydd. Roedd dros 200 o blant wedi mynychu ac yna, erbyn mis Mawrth, roedd MyHMCTS ar gael i ddefnyddwyr proffesiynol yn y Gymraeg, i wella hygyrchedd. Wedyn ym mis Ebrill bu inni lansio’r aril brosiect Braenaru yn Ne-Ddwyrain Cymru, ac yna roedd gweithdy ‘gwersi a ddysgwyd’ ym mis Tachwedd, gyda 126 o bobl yn mynychu.
Aaron Wilson:
Gwych. Ac mae gwaith anhygoel wedi bod yn y rhanbarth eleni, ond a allwch ddweud wrthyf sut rydych yn dathlu llwyddiant o fewn y sefydliad hefyd?
Rhydian Jenkins:
Ie. Dim problem. Felly roedd y seremoni wobrau ranbarthol eleni, ym mis Gorffennaf, yr un gorau erioed, gan gyfuno cydnabyddiaeth ffurfiol gyda digon o hwyl, ac yna ym mis Awst, mi wnaeth ein tîm iaith Gymraeg fwynhau rhyngweithio gyda’r cyhoedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.
Ac yna ym mis Medi, roedd 3 o Gymru wedi dod yn ail yn y gwobrau cenedlaethol, a bu inni lansio’r llawlyfr newydd i feilïaid. Yna ym mis Hydref, bu inni gynnal y gwasanaeth cyfreithiol blynyddol yng Nghadeirlan Tyddewi am y tro cyntaf - lleoliad hollol hyfryd.
Aaron Wilson:
Gwych. A oes unrhyw brosiectau llwyddiannus eraill wedi bod i gefnogi cyfiawnder yn White House yr hoffet sôn amdanynt?
Rhydian Jenkins:
Oes. Mae gormod i sôn amdanynt! Mae rhai o’r llwyddiannau yn cynnwys y trosglwyddiad llwyddiannus o waith traffig gweithdrefn un ynad i’r Platfform Cyffredin, cynlluniau peilot arloesol yn Yr Wyddgrug a dull y llys ynadon, a gwelliannau sylweddol i gynlluniau parhad busnes.
Rydym hefyd wedi lleihau dros 6,000 o hawliadau Cafcass Cymru i dim ond 37 ac wedi ymestyn mentrau gwaith fel y Gweithgor Datgeliadau’r Heddlu 2024.
Bu i Lys y Goron Yr Wyddgrug hefyd ymuno â’r cynllun peilot cymorth i reithwyr, sydd bellach yn cynnig cwnsela i reithwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac yn olaf, bu inni gael nifer o ymweliadau proffil uchel gan bobl o bwys, gan gynnwys Meistr y Rholiau, gan gloi blwyddyn gynhyrchiol yn llawn cydweithio i’n tîm yma yng Nghymru.
Aaron Wilson:
Wel, mae’n swnio fel bod 2024 wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i’r tîm, Rhyd, a dw i’n dymuno’n dda iawn i chi am 2025.
Rhydian Jenkins:
Diolch yn fawr iawn a mi wnawn ni weld chi bryd hynny.
Aaron Wilson:
Felly dyna oedd Rhydian yn sôn am rai o’r uchafbwyntiau yng Nghymru.
Efallai bod rhaid ohonoch yn gwybod, neu ddim, bod GLlTEF hefyd yn gyfrifol am weinyddu’r tribiwnlysoedd yn yr Alban.
Fel cangen bwysig iawn o gyfiawnder, mae Hannah-Jo yn dweud mwy wrthym am uchafbwyntiau’r flwyddyn i fyny i’r Gogledd o’r ffin.
Helo, Hannah-Jo. Croeso i’r podlediad. Yn gyntaf, diolch am gytuno i ddod i siarad gyda ni am rai o’r uchafbwyntiau yn yr Alban. Rwy’n gwybod ei bod wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i chi yn yr Alban, wrth gwrs, ond sut wnaeth 2024 gychwyn?
Hannah-Jo Bird
Helo Aaron, diolch am y gwahoddiad. Felly, ym mis Ionawr roedd eira a rhew yn bygwth ein gallu i gynnal gwrandawiadau ledled yr Alban, ond diolch i’n staff ymroddedig, nid oedd unrhyw aflonyddwch. Yn ystod y cyfnod hwn, bu i’r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth glirio 30,000 o achosion cyflog cyfartal a dynnwyd yn ôl, sy’n garreg filltir enfawr. Wedyn ddim yn hir ar ôl hynny ym mis Chwefror, croesawodd SSCS myfyrwyr y gyfraith o Brifysgol Glasgow i arsylwi gwrandawiadau.
Aaron Wilson:
Ac a oes unrhyw uchafbwyntiau neu lwyddiannus eraill wedi bod i gefnogi cyfiawnder yn yr Alban sy’n sefyll allan i chi?
Hannah-Jo Bird:
Oes. Yn bendant. Ym mis Ebrill, bu inni gyflwyno negeseuon atgoffa ar ffurf negeseuon testun ar gyfer gwrandawiadau iawndal am anafiadau troseddol, gan wneud y broses yn fwy effeithlon i’n defnyddwyr a’n cynrychiolwyr.
Ym mis Mehefin, mi wnaeth y gwasanaeth cyflwyno dogfennau fynd yn fyw yn yr awdurdodaeth iawndal am anafiadau troseddol, gan alluogi i apelyddion a chynrychiolwyr lwytho dogfennau yn ddigidol ar gyfer gwrandawiadau, sy’n gam pwysig yn y siwrne diwygio ar gyfer CIC.
Yna bu inni gyflwyno nodwedd sgwrsio dros y we ar gyfer gwaith Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, ac mi wnaeth y Siambr Mewnfudo a Lloches fynd yn fyw gyda’r rhestr apeliadau fel rhan o brosiect mabwysiadu cynnar, i gyd o fewn yr un mis.
Aaron Wilson:
Wel mae’n amlwg bod gwaith anhygoel wedi bod eleni. A allwch ddweud wrthych sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant o fewn y sefydliad? Unrhyw uchafbwyntiau yn hynny o beth?
Hannah-Jo Bird:
Roedd mis Gorffennaf yn fis prysur iawn, gyda’r Gwobrau Rhanbarthol, ac wedyn y Gwobrau Cenedlaethol ddim yn hir ar ôl hynny, gyda ein cydweithiwr o Gaeredin, Aliya Arslan, yn rhagori ar y llwyfan, yn chwarae rhan yn cyflwyno Gwobrau GLlTEF.
Aaron Wilson:
Wnaethoch chi sôn, wrth gwrs, bod 2024 wedi bod yn flwyddyn brysur iawn, ac rydym ni yn trafod ein huchafbwyntiau wrth fynd tuag at ddiwedd y flwyddyn yma. Fedri di grynhoi y deufis diwethaf a beth sydd wedi digwydd?
Hannah-Jo Bird:
Ym mis Medi, mi wnaeth y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth groesawu staff o’r gwasanaeth cynghori, cymodi a chyflafareddu, gan roi trosolwg iddynt o system brosesu’r tribiwnlys cyflogaeth ac yn yr un mis, mi wnaeth yr awdurdodaeth iawndal am anafiadau troseddol adolygu’r holl hen achosion i sicrhau bod achosion yn cael ei symud yn eu blaenau yn effeithiol.
Ym mis Hydref, ochr yn ochr â’r tîm gwasanaeth, bu i staff y Siambr Mewnfudo a Lloches yn Glasgow roi trosolwg o ‘list assist’ i lywydd yr IAC a barnwyr arweinyddol y prosiect diwygio, a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon cyn cyflwyno’r system yn genedlaethol.
Yn olaf, ym mis Tachwedd, bu i aelod o’r Tim Tribiwnlys Cyflogaeth Caeredin siarad gyda Rhwydwaith Estyn Allan i Ysgolion Gogledd Iwerddon a’r Alban am yrfaoedd yn y gwasanaeth sifil. Yna bu i bennaeth y Siambr Mewnfudo a Lloches groesawu 50 o fyfyrwyr prifysgol i arsylwi gwrandawiadau a chwrdd â barnwyr.
Aaron Wilson:
A dyna ni, mewn chwinciad rydym wedi dod i ddiwedd blwyddyn arall. Mae wedi bod yn flwyddyn arall o newid ledled GLlTEF a bydd 2025 yn dod â heriau newydd.
Os ydych wedi mwynhau gwrando ar y podlediad eleni neu os oes gennych unrhyw adborth, mae croeso i chi adael sylwadau ar dudalen ein blog. Chwiliwch am Inside HMCTS Podcast.
I gael y diweddariad diweddaraf, gallwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ar draws Facebook, LinkedIn, X, a bellach ein sianel diweddariadau ar WhatsApp.
Ond am y tro, gan bawb yma yn GLlTEF, ni waeth sut rydych yn treulio cyfnod yr ŵyl, gobeithiwn y cewch Nadolig Llawen iawn a dymunwn yn dda i chi am y flwyddyn i ddod.