https://insidehmcts.blog.gov.uk/evicting-the-stereotypes-the-real-bailiffs-at-work-part-1-podcast-transcript/
Evicting the Stereotypes: The Real Bailiffs at Work (Part 1) - podcast transcript
[English] - [Cymraeg]
Aaron Wilson:
Hello. We're back with another episode of Inside HMCTS. Thank you for tuning in again and for our first time listeners, welcome to the podcast. Today we're going to be talking about bailiffs, what their day-to-day role entails, how they work, and asking how much of the role is like you see on TV. Well, I'm delighted to say I'm joined by a range of colleagues with various amounts of experience in the profession.
Olivia, Sarah, Sofiya, Muneeba, thank you so much for joining me today and agreeing to come and talk to us about your job. I've got plenty of questions to ask you, but first we're going to hear from my colleague Claire, who recently joined one of our bailiff teams in London for an eviction to see what really happens. Take a listen here.
Claire Powell:
I've just spent a day on the road with two county court bailiffs. Wendy is a bailiff manager with 30 years’ experience and Karen, a bailiff of 16 years.
Wendy and Karen kindly allowed me to follow them around today, and it's certainly been an eye opener. As we drove to the first job of the day, which was an eviction, I asked Wendy and Wendy Jones: how they first became bailiffs. What does it take to do the job and what do they look for in new recruits?
Wendy Jones:
I was working for the Girl Guides Association up in Buckingham Palace Road in the shop. And I saw the advert for the county court bailiff and not having been particularly studious, I think the word might be, at school. What attracted me was the fact that they said that you didn't actually have to have any academic qualifications, and I thought, okay, you just had to be good with people and I thought, well, okay, I'm quite good with people, I'm going to apply for this.
Karen Anemaet:
I was in the Prison Service had a very young family, and prison service shifts are not great when you've got a young family and so I liked the job, but I wasn't happy, happy there. So, I started to look for something else, and I just happened to come across, it was actually on the Jobcentre website, the job for being a bailiff. Now then all of a sudden I got asked for an interview.
I didn't think I'd get the job, went to the interview. It was quite kind of quite overwhelmed because it was a panel of people, I had to go to Petty France. Did the interview and I got the job, so the rest is history. I've been here ever since.
Claire Powell:
What do you sort of look for when you're looking for new bailiffs?
Wendy Jones:
We look at, we look at their ability to we have like structured questions that we ask at the interviews and we like it that people are able to take an initiative, we look at, a little bit of a sense of humor. You know, we look for people that, that seem to be quite caring people.
You know, it's very difficult when you just get a feel when you're doing an interview if someone you know is going to be a good bailiff. But of course, we've got a proper interview selection process and if they score high enough, if their examples are good, then everybody deserves a chance.
You know most of the time we you know, we're very, very lucky and we get really suitable people, but you know, the job isn't for everybody.
Claire Powell:
Yeah.
Wendy Jones:
Karen and I, before I became the manager, Wendy Jones: and I were bailiff partners.
Claire Powell:
So, what's happening here?
Karen Anemaet:
We’re going to evict people now in this block of flats.
Wendy Jones:
And this is John. Him and his team they are the council locksmiths, and we we've known him a long, long time.
Aaron Wilson:
Well we'll hear a little bit more from the team later in the episode, but for now it's back to our guests in the studio and welcome again to you all. Olivia, if I can come to you first, and I know we've heard a bit from Wendy and Karen, there just on sort of what their day to day routine is, but what does a typical day look like for you? Or maybe I should be saying, is there such thing, as a typical day?
Olivia Niamh Simon:
So it's not just collecting money from people. That's generally what people think we do. They think we barge into people's homes and take everything we don't. It's much more than that. Yes, of course we do the warrants of control, which is the debt collecting. But it's also service of important court documents like non-molestation orders and divorce orders, repossession of property, delivery and statements of means forms, to private individuals and also companies where, for example, if they haven't, if they haven't paid a debt that they've had, it goes through their employer.
So then we take it that way. And it's also, that's the main actual job we do. But we're also a very close-knit team. So it there's a lot of teamwork involved. And obviously to be able to do your job, you need to have colleagues who you can talk to. And if something goes a bit wrong or you've had a bad day or something quite, I don't want to say traumatic, I mean, a bit different happens to have a nice team to go with, you know, to speak to somebody about what's happened. It's not just, oh, there's happened brush it under the carpet, we actually have a very decent team to talk to.
Aaron Wilson:
And Sarah, I know you've been a bailiff for 26 years now, but what does your routine look like? How do you set up for the day?
Sarah Bell:
Yeah. So we start most days off into the office to plan the day's work. What we do there is that we route plan. We decide what urgent there’s possessions to be set, there's a lot of work every day, there's never quiet day, and it's our responsibility to make sure your targets are met and dates are kept to.
So, we set all of our own possessions. We don't have much clerical support here. We do it all ourselves, and we plan the route. So it's the best, the best route so the business gets the best out of it as well. We have to identify if we think it's going to be a high risk and whether we need more than one person to go out on that.
We liaise with the office staff because obviously, we work really closely with, with them. And here in Durham we actually have the hub, the bailiff hub, which is where all the warrants go to first before they actually come to the bailiff.
Aaron Wilson:
Thank you both for sharing that. So, let's rejoin Claire now following the eviction in London to find out more about Wendy and Karen's job and their process.
Claire Powell:
After the eviction, which went smoothly, Wendy and Karen allow me into the block of flats where they tell me more about their day to day role.
Karen Anemaet:
Right, we’re going up one flight of stairs. Do you want to come through now?
Now, what we would do as bailiffs, normally when this happens, we open our cupboards, we check no one's hiding inside. Especially if it's an empty property. We break in, we’ll knock at the door if there’s no answer we’ll break in with the locksmith. We will check literally everywhere. Make sure no one's hiding anywhere, so that we can sign over a vacant property.
Claire Powell:
Has that happened in the past with somebody?
Karen Anemaet:
Yeah, we've had people hide in the loft and come in when we’ve gone away, but obviously we won't go up into lofts because it's not safe for us to do that.
Claire Powell:
Yeah.
Wendy Jones:
Nowadays the, health and safety culture has grown so much, there's lots of things that we used to do that we don't do anymore.
Claire Powell:
If you come across a situation where you don't feel safe, then you would just walk away?
Karen Anemaet:
Yeah, yeah. And if walking’s not helping we run.
Claire Powell:
Does it happen a lot where you maybe come across difficult situations like that?
Karen Anemaet:
But the aggression levels of people have risen quite substantially over the years.
Wendy Jones:
So our de-escalating skills have had to be really heightened. That's a real skill in this job. To you know, and I'm always I'm amazed, it still amazes me after all this time that you can because of your people skills, you can talk somebody out of the house.
Claire Powell:
Yeah, that's a skill.
Wendy Jones:
It really is a skill. I mean, it never ceases to amaze me, you know I’ve said to you loads of times.
Karen Anemaet:
I mean, if somebody shouting at you, you being aggressive, body language being a bit “yeah, I’m a big bailiff”, it doesn't help, you know, I'll just stand there very quietly, very docile. And then when he stops shouting, I'll say, “right Sir, can I speak now?” And I'll start speaking, talk over, and I’ll go, “Sir, I’ve allowed you to say what you need to say, but you need to listen to me now”, and I keep it very low key.
And we end up when they leave with: “You've been so nice”, and you know, it's just about trying to keep people calm and being kind.
Aaron Wilson:
One thing that was sort of, I think has become a bit of a theme here, is about having good communication with people. And I think it seems to me like that is a key skill to have when you're sort of going to, to meet people or sort of knocking on doors and that sort of thing. Do you think that's the case Sarah?
Sarah Bell:
Communication skills for a bailiff is key. It's about how you stand. It's about eye contact. It's about being confident, but not cocky. And also, I think you have to know, you have to change your persona for the person you're dealing with. Some people need you to be really professional. Some people need you to almost be the friend.
And I always say, I can go from being really professional and from I'm from a little village and I'll say I'll go from and then I go to being a villager because my accent changes and everything, and I know it does, but that's what that person needs me to be. That's what I'll do.
Aaron Wilson:
And I'm assuming you agree, Olivia, because you look like you were nodding when I asked that question just now.
Olivia Niamh Simon:
Absolutely. You need to be able to talk to people. I mean, I'm not doing a very good job now because I keep falling over my words. So, yes, of course you need to know the job. You need to know what you’re doing, you need to know the laws. But as long as you can make them aware that you're nothing like the people that they’re seeing on the television, they're normally fine.
I mean, sometimes you get the odd person who's quite irate and shouting in your face and has got their camera in your face saying: “look what this person's doing to me”. But then once you actually talk to them and just try and get on their level and it's like: “look, I'm not here, I'm not like them people”.
If I'm here to do this I’ve been sent, and they’re normally like: “oh right, okay”. And quite a lot of the time I do get thanked, which is weird. Who would thank a bailiff, but you do get thanked occasionally when you’ve helped somebody.
Aaron Wilson:
So we're going to return to Claire now for one last time, as we start to take a look at some of the stereotypes around bailiffs and in particular female bailiffs as well.
Claire Powell:
Have you like, over the years, being a female bailiff, have you noticed any kind of surprise at that or anything like that?
Wendy Jones:
I think being a female doing this job is a huge advantage. So, I might go to the door and I might say, “oh good morning, I'm Wendy from Croydon County Court, I'm a court officer”. And they look at me and go, “oh, what have you got a black belt in karate or something like that?”
You know, and I'd say, “well, you know, behave yourself, or you might find out”, you know, that that kind of thing. There's no there's no point in being sort of officious with people when you go to their houses. No point at all. You know, you use open body language, you know, you sort of smile and, you know, the end of day, it's a job we're having to do.
Karen Anemaet:
You know, you do have to find that happy medium, because if you're too smiley they think you're kind of gloating. So, you have to kind of find that balance.
Wendy Jones:
Yeah, you do.
Karen Anemaet:
You do not always walk in, introduce myself. And I'm how we get in on, like, you're ready to go and you and everybody's different. People react differently. I'm might go to the door and someone just doesn't like me, and that's one of the benefits of working in a partnership. Because if I find I'm not getting anywhere, I'll kind of retreat back and my partner will, kind of like a tag team.
Wendy Jones:
It’s like good cop, bad cop kind of thing.
Karen Anemaet:
Kind of like a tag team thing. And so that's the benefits of working in a pair, I think.
Wendy Jones:
Yeah. But the but the initial impact of you being on the doorstep, it makes a huge difference. You know, if you're there all sort of standing there, you know, that kind of thing, it puts people's backs up. If you're not like that initially, it’s quite difficult for them then to be like that back.
Claire Powell:
But definitely yeah. They just might have this image of a bailiff being quite burly and you know, a little bit scary. And it's a totally different reality.
Wendy Jones:
Yeah. In London we've been out in pairs now for quite a good…
Karen Anemaet:
Long time.
Wendy Jones:
Now, 12, 14 years.
Claire Powell:
Yeah. Do you tend to have a regular partner?
Karen Anemaet:
Yes, but we do switch around.
Claire Powell:
It must be nice to have that regular partner because you get to know each other so well?
Karen Anemaet:
Yeah. And you know they’ve got your back. But then the whole team is like that, because we've worked together, like on the team at Croydon, I’ve worked with every one of them in a partnership.
Claire Powell:
Do you socialise outside work as well?
Karen Anemaet:
Yeah.
Wendy Jones:
Yeah. So, I've got a team in another court as well. So, I've got 11 bailiffs in my team. And for me, it's really important that they consider themselves as a team as well the two courts together. So we have, we have bailiff breakfasts. So, we might every couple of months all meet up and have breakfast together which is really nice, isn't it? Everyone really enjoys that. Lots of, mickey taking going on and lots of banter and, you know, usually at my expense. Yeah, but, like, like Karen and I, we were partners, but we are friends as well, so it's…
Karen Anemaet:
So we’ll socialise outside as well.
Wendy Jones:
Yeah. So you know, the team I've got a Bromley, they're a very close team as well. I'm lucky that I've got the teams that I have.
Claire Powell:
What are your kind of family and friends thinking about what you do, do they ever ask you about it or anything?
Karen Anemaet:
My husband says don't mess with my wife.
Aaron Wilson:
So we will hear more from Claire, Karen and Wendy in the follow up, part two to this episode, which should release next week. But for all of you back here in the studio, I just wanted to ask you, ask you all really about some of the stereotypes you've faced personally and also, perhaps a side that people don't see you around your job, could you tell me a little bit more about the support you can provide and the positive impacts that you can also make on your communities? And Sofiya, if you don't mind, I'll come to you and first talk about that.
Sofiya Romano:
I think it's really important the amount of people you’ll go to their house and once you get there, you realise they're vulnerable and they're not in a situation to one, deal with, you know, their finances, themselves or just circumstances in general that they're a vulnerable person. You can then push it forward and sort of, you know, make sure they get some help, find out whether you need to contact family and friends to help them.
Not everyone is in the position to sort these things out themselves. And we’re a good introduction to, you know, making sure that, it gets done properly.
Aaron Wilson:
And I think something you said earlier, Olivia, which I just wanted to come back to, you said that you've sometimes been thanked for doing your job, which has taken you by surprise. Could you expand on that all for me?
Olivia Niamh Simon:
I'm not going to sit here and say people thank me for bringing them debts to their doors, because it's not, it's when I've taken the time to actually sit there with them or stand and talk to them about it, like, look, this has happened. This is what you need to do. If you need me to help, I can do that. I've got these phone numbers for you, I can help you with that.
It's when you take that little bit more time and speak to them like they're a human, you know, they're very thankful. Unlike, instead of just leaving them in the dark, if they need help, where I can see that they can't quite gather what's going on, I will help them. I'd be like, for example with a repossession, if it's a no fault one and they're leaving because their landlord wants the property back, I go there with my notice that I legally have to give to them, but I also include two lots of letters with Citizen’s Advice numbers on Shelter's number on, the local council’s number on and they do thank me for that because it's, it's not just, “here’s your notice, you’re going”, it's “here's your notice, but also here's some numbers that you can have that are going to help you. You need to keep these. You need to phone these people”.
Aaron Wilson:
And Muneeba, thank you so much for for being patient and waiting for me to come to you, but, well, but what's sort of been the general reaction sometimes when you've sort of knocked on people's door, to do your job effectively?
Muneeba Nasir:
So Aaron, basically it will be like, if I go for an eviction, let's say, and I'll knock on the door, there'll be landlord or the locksmiths that will be present with me at the property and as soon as I knock on the door, the first thing is: “oh, it's a bailiff. Oh, are you here to take everything away?”
And, you know: “oh, I was expecting a six foot tall man, big henchman and, you know, you're a female, Asian, woman, who's doing this job that's very different, isn't it? Do you get a lot of, like, abuse and stuff like that, I say, no, I mean, you know, why do we have this stereotype image of a six foot tall man, that's been shown on channel four to, you know, come round and knock on the door and say it's a bailiff? Why can't it be somebody, you know, just a normal person who can do this job?
So, I think a lot of people have that image because obviously they watch those programmes and they think it's somebody, you know, really tough who's going to come and knock all the stuff out, take everything away.
We do have, sort of protocols in place where when we go to deliver the notice to let them know what date we're coming to do it, so in between they have all these options of contacting the court making an arrangement.
Even with the eviction, you know, they do get the chance to make an application to the court before the time of eviction. So, you know, sort of we are there to help them, not just, you know, make them homeless or but, it's the situation, really that they need to take control of as well by, you know, sort of contacting and making the right choices and things like that, not just leaving it right till the end.
A lot of the time we do at the sort of like helping these people out rather than, you know, obviously making them more vulnerable to debts and everything. So, we do tell them all these options that are available for them. They can give us a call, we can help them if they are on benefits or things that, there are certain forms that they can fill in and, you know, sort of make the payments rather than putting themself into this situation where we do end up taking control of the goods.
So, yeah, I think we do as a team, what I've noticed is we always do try our best for these people to obviously, you know, help them as much as we can before it gets out of hand and, you know, sort of everything gets taken away. This is not what our main aim or the goal is.
Aaron Wilson:
And how about you Sofiya, I know there's been a few sort of mentions, earlier to sort of TV programmes and those programmes building stereotypes of the profession that you do. But, what what's your experience been, is it similar or do you think it's very different to sort of what is shown in that sense?
Sofiya Romano:
I mean, if anything, you're not there just to demand money. You’re basically sent there, in my eyes, to sort of get the debtor to just liaise with the company they owe money. You're just the first point of call to get them to start talking, a lot of people will bury their head in the sand and sort of avoid it until the very last minute.
And our job really is to get them talking, work out whether they can afford to pay it, you know, and go from there, set up payment plans, just try and get them talking and get the ball rolling really.
Aaron Wilson:
Do you think it's as much about sort of how you communicate with people?
Sofiya Romano:
Oh one hundred percent. Yeah, yeah. I mean, I was quite surprised how many people were quite positive being a female in it. They're very open. I think if anything, like they find it easier to talk to you, they know you're not just going to sort of have this image in their head of this big burly bloke who's just not interested “computer says no, I need the money”.
And you've just got to talk to them, find out their circumstance. Everyone's lives are different and people are generally quite open, and then you know where to go for the next steps.
Aaron Wilson:
Well, that's it. We're officially out of time for this episode. Sophia, Muneeba, Olivia and Sarah, thank you so much again for coming on. I think we're due to have a few of you back on part two of this conversation, so I look forward to welcoming you back to that. Thanks also to Claire, Karen, and Wendy for giving us a behind the scenes look at the role of a bailiff, and we'll hear more from the three of them next week as well.
For everyone tuning in at home, remember, if you don't already, you can subscribe to our podcast wherever you get your content from. And you can also find all of our existing episodes there too, or by visiting our blog at insidehmcts.blog.gov.uk.
You can also start today with all of our latest information and news across our social media channels that's on X, Facebook, LinkedIn and also our new WhatsApp updates channel.
So thanks for tuning in again and be sure to join us for part two of this episode. Take care.
[English] - [Cymraeg]
Troi’r Stereoteipiau Allan: Beilïaid Go Iawn yn y Gwaith (Rhan 1) - trawsgrifiad podlediad
Aaron Wilson:
Helo. Rydyn ni’n ôl gyda phennod arall o Inside HMCTS. Diolch am diwnio i mewn eto ac i’n gwrandawyr sy’n gwrando am y tro cyntaf, croeso i’r podlediad. Heddiw rydyn ni’n mynd i fod yn siarad am feilïaid, beth mae eu rôl o ddydd i ddydd yn ei olygu, sut maen nhw’n gweithio, a gofyn pa mor debyg yw eu rôl i beth welwch chi ar y teledu. Wel, mae’n bleser gen i ddweud bod ystod o gydweithwyr sydd â phrofiadau amrywiol yn y proffesiwn yn ymuno â mi.
Olivia, Sarah, Sofiya, Muneeba, diolch yn fawr iawn am ymuno â mi heddiw a chytuno i ddod i siarad â ni am eich swydd. Mae gen i ddigonedd o gwestiynau i’w gofyn ichi, ond yn gyntaf rydyn ni’n mynd i glywed gan fy nghydweithiwr Claire, a ymunodd ag un o’n timau beilïaid yn Llundain yn ddiweddar ar gyfer troi rhywun allan i weld beth sy’n digwydd mewn gwirionedd. Gwrandewch yma.
Claire Powell:
Dwi newydd dreulio diwrnod ar y ffyrdd gyda dau feili llys sirol. Mae Wendy yn rheolwr beili gyda 30 mlynedd o brofiad ac mae Karen yn feili ers 16 mlynedd.
Bu Wendy a Karen mor garedig â gadael i mi eu dilyn o gwmpas heddiw, ac yn sicr mae wedi bod yn agoriad llygad. Wrth inni yrru i swydd gyntaf y dydd, sef troi rhywun allan, gofynnais i Wendy a Wendy Jones: sut wnaethan nhw ddod yn feilïaid yn y lle cyntaf. Beth sydd ei angen i wneud y swydd a beth maen nhw’n chwilio amdano mewn recriwtiaid newydd?
Wendy Jones:
Roeddwn i’n gweithio i’r Girl Guides Association i fyny yn Buckingham Palace Road yn y siop. A gwelais yr hysbyseb ar gyfer beili’r llys sirol a gan fy mod heb dalu llawer o sylw, dwi’n meddwl, yn yr ysgol. Yr hyn a ddenodd fi oedd y ffaith eu bod wedi dweud nad oedd yn rhaid i chi gael unrhyw gymwysterau academaidd mewn gwirionedd, ac roeddwn i’n meddwl, iawn, roedd yn rhaid i chi fod yn dda gyda phobl ac roeddwn i’n meddwl, wel, iawn, dwi’n eithaf da gyda phobl, dwi’n mynd i wneud cais am y swydd hon.
Karen Anemaet:
Roeddwn i’n gweithio yn y Gwasanaeth Carchardai gyda theulu ifanc iawn, ac nid yw shifftiau gwasanaeth carchardai yn wych pan mae gennych chi deulu ifanc ac felly roeddwn i’n hoffi’r swydd, ond nid oeddwn yn hapus yno. Felly, mi wnes i ddechrau chwilio am rywbeth arall, ac mi wnes i ddigwydd dod ar draws, mewn gwirionedd roedd ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith, y swydd ar gyfer bod yn feili. Mwyaf sydyn wedyn, fe wnaethon nhw ofyn i mi ddod am gyfweliad.
Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n cael y swydd, es i’r cyfweliad. Roedd o’n brofiad wnaeth fy llethu ychydig gan ei fod yn banel o bobl, roedd yn rhaid i mi fynd i Petty France. Mi wnes i’r cyfweliad a chefais y swydd, felly dyna ni. Dwi wedi bod yma ers hynny.
Claire Powell:
Beth ydych chi’n edrych amdano pan fyddwch chi’n chwilio am feilïaid newydd?
Wendy Jones:
Rydyn ni’n edrych ar eu gallu.. mae gennym ni gwestiynau strwythuredig tebyg rydyn ni’n eu gofyn yn y cyfweliadau ac rydyn ni’n hoffi bod pobl yn gallu achub y blaen, rydyn ni’n edrych ar, ychydig o synnwyr digrifwch. Wyddoch chi, rydym ni’n edrych am bobl sy’n ymddangos yn bobl eithaf gofalgar.
Wyddoch chi, mae’n anodd iawn pan fyddwch chi’n cael teimlad pan fyddwch chi’n gwneud cyfweliad os yw rhywun yn mynd i fod yn feili da. Ond wrth gwrs, mae gennym ni broses ddethol cyfweliad bwrpasol ac os ydyn nhw'n sgorio'n ddigon uchel, os yw eu henghreifftiau'n dda, yna mae pawb yn haeddu cyfle.
Wyddoch chi y rhan fwyaf o’r amser rydyn ni’n ffodus iawn, iawn ac rydyn ni’n cael pobl addas iawn, ond wyddoch chi, nid yw’r swydd ar gyfer pawb.
Claire Powell:
Ie.
Wendy Jones:
Roedd Karen a minnau, cyn imi ddod yn rheolwr, yn bartneriaid beili.
Claire Powell:
Felly, beth sy’n digwydd yma?
Karen Anemaet:
Rydyn ni’n mynd i droi pobl allan nawr yn y bloc hwn o fflatiau.
Wendy Jones:
A dyma John. Ef a’i dîm yw seiri cloeon y cyngor, ac rydym wedi’u hadnabod ers amser maith.
Aaron Wilson:
Wel fe gawn ni glywed ychydig mwy gan y tîm yn nes ymlaen yn y bennod, ond am y tro fe awn ni'n ôl at ein gwesteion yn y stiwdio a chroeso eto i chi gyd. Olivia, os caf ddod atoch chi’n gyntaf, a gwn ein bod ni wedi clywed ychydig gan Wendy a Wendy Jones, ynghylch beth yw eu trefn dyddiol, ond sut olwg sydd ar ddiwrnod arferol i chi? Neu efallai y dylwn ddweud, a oes y fath beth, â diwrnod arferol?
Olivia Niamh Simon:
Felly nid dim ond casglu arian gan bobl ydyn ni. Yn gyffredinol, dyna mae pobl yn meddwl ein bod ni’n ei wneud. Maen nhw’n meddwl ein bod ni’n rhuthro i mewn i gartrefi pobl ac yn cymryd popeth. Nid dyna ydyn ni’n ei wneud. Mae’n llawer mwy na hynny. Ydym, wrth gwrs rydyn ni yn gwneud y gwaith gwarantau rheolaeth, sef y casglu dyledion. Ond rydyn ni hefyd yn cyflwyno dogfennau llys pwysig fel gorchmynion rhag molestu a gorchmynion ysgariad, adfeddiannu eiddo, dosbarthu a ffurflenni datganiadau modd, i unigolion preifat a hefyd i gwmnïau lle, er enghraifft, os nad ydyn nhw wedi talu dyled y maent wedi’i chael, mae’n mynd drwy eu cyflogwr.
Felly, rydym yn ei gymryd y ffordd hynny. A dyna hefyd, dyna’r prif waith gwirioneddol yr ydym ni’n ei wneud. Ond rydym hefyd yn dîm clos iawn. Felly mae llawer o waith tîm ynghlwm. Ac yn amlwg er mwyn gallu gwneud eich swydd, mae angen i chi gael cydweithwyr y gallwch chi siarad â nhw. Ac os aiff rhywbeth o’i le neu os ydych chi wedi cael diwrnod gwael neu mae rhywbeth eithaf, dydw i ddim eisiau dweud trawmatig, ychydig yn wahanol yn digwydd mae’n braf cael tîm clên i fynd gyda nhw, wyddoch chi, i siarad â rhywun am yr hyn sydd wedi digwydd. Nid yw’n, o, mae wedi digwydd, dylen ni ei frwsio o dan y carped, mewn gwirionedd mae gennym dîm da iawn i siarad â nhw.
Aaron Wilson:
A Sarah, dwi’n gwybod eich bod chi wedi bod yn feili ers 26 mlynedd bellach, ond sut mae eich diwrnod arferol chi’n edrych? Sut ydych chi’n paratoi ar gyfer y diwrnod?
Sarah Bell:
Ie. Felly rydyn ni’n dechrau’r rhan fwyaf o ddyddiau yn y swyddfa yn cynllunio gwaith y diwrnod. Yr hyn a wnawn ni yno yw cynllunio llwybr. Ni sy’n penderfynu pa bethau brys i’w blaenoriaethau, mae gwaith adfeddiannu i’w drefnu, mae llawer o waith bob dydd, does byth diwrnod tawel, a’n cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod ein targedau’n cael eu bodloni a’n bod yn cadw at ddyddiadau.
Felly, rydyn ni’n trefnu ein holl waith adfeddiannu ein hunain. Nid oes gennym ni lawer o gefnogaeth glerigol yma. Rydyn ni’n gwneud y cyfan ein hunain, ac rydyn ni’n cynllunio’r llwybr. Felly dyma’r llwybr gorau, felly mae’r busnes yn cael y gorau ohono hefyd. Mae’n rhaid i ni nodi a ydyn ni’n meddwl ei fod yn mynd i fod yn risg uchel ac a oes angen mwy nag un person arnom ni i fynd allan i wneud y gwaith hynny.
Rydyn ni’n cysylltu â staff y swyddfa oherwydd yn amlwg, rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gyda nhw. Ac yma yn Durham mae gennym ni’r ganolfan mewn gwirionedd, y ganolfan beilïaid, sef lle mae’r holl warantau’n mynd iddo yn gyntaf cyn iddyn nhw ddod at y beilïaid mewn gwirionedd.
Aaron Wilson:
Diolch i’r ddau ohonoch chi am rannu hynny. Felly, gadewch i ni ailymuno â Claire nawr yn dilyn y troi allan yn Llundain i ddarganfod mwy am swydd Wendy a Karen a’u proses nhw.
Claire Powell:
Ar ôl y troi allan, a aeth yn esmwyth, mae Wendy a Karen yn gadael i mi fynd i mewn i’r bloc o fflatiau lle maen nhw’n dweud mwy wrthyf am eu rôl o ddydd i ddydd.
Karen Anemaet:
Reit, rydyn ni’n mynd i fyny un rhes o risiau. Ydych chi eisiau dod drwodd nawr?
Nawr, beth fyddem ni’n ei wneud fel beilïaid, fel arfer pan fydd hyn yn digwydd, rydyn ni’n agor cypyrddau, rydyn ni’n gwirio nad oes unrhyw un yn cuddio y tu mewn. Yn enwedig os yw’n eiddo gwag. Rydyn ni’n torri i mewn, byddwn yn curo ar y drws ac os nad oes ateb byddwn yn torri i mewn gyda’r saer cloeon. Byddwn ni’n gwirio’n llythrennol ym mhobman. Gwneud yn siŵr nad oes neb yn cuddio yn unman, fel y gallwn ni drosglwyddo eiddo gwag ymlaen.
Claire Powell:
Ydy hynny wedi digwydd yn y gorffennol gyda rhywun?
Karen Anemaet:
Ydy, rydyn ni wedi cael pobl yn cuddio yn y groglofft ac yn dod i mewn pan fyddwn ni wedi gadael, ond yn amlwg ni fyddwn ni’n mynd i fyny i groglofftydd oherwydd nid yw’n ddiogel i ni wneud hynny.
Claire Powell:
Ie.
Wendy Jones:
Y dyddiau hyn, mae’r diwylliant iechyd a diogelwch wedi tyfu cymaint, mae llawer o bethau yr oedden ni’n arfer eu gwneud nad ydyn ni’n eu gwneud mwyach.
Claire Powell:
Os ydych chi’n dod ar draws sefyllfa lle nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel, yna a fyddech chi’n cerdded i ffwrdd?
Karen Anemaet:
Byddwn, byddwn. Ac os nad yw cerdded yn helpu rydyn ni’n rhedeg.
Claire Powell:
A yw hyn yn digwydd yn aml, lle efallai y byddwch chi’n dod ar draws sefyllfaoedd anodd fel hynny?
Karen Anemaet:
Ond mae lefelau ymddygiad ymosodol pobl wedi codi’n eithaf sylweddol dros y blynyddoedd.
Wendy Jones:
Felly bu’n rhaid gwella ein sgiliau osgoi gwrthdaro. Mae hynny’n sgil go iawn yn y swydd hon. Wyddoch chi, a dwi bob amser yn rhyfeddu, mae’n dal i fy rhyfeddu ar ôl yr holl amser hwn y gallwch chi oherwydd eich sgiliau pobl, gallwch chi gael rhywun allan o’r tŷ drwy siarad â nhw.
Claire Powell:
Ydy, mae hynny'n sgil.
Wendy Jones:
Mae wir yn sgil. Hynny yw, mae wastad yn fy rhyfeddu, rydych chi’n gwybod fy mod i wedi dweud wrthych chi lawer o weithiau.
Karen Anemaet:
Hynny yw, os oes rhywun yn gweiddi arnoch chi, yn ymddwyn yn ymosodol, nid yw iaith y corff sy’n dangos “ie, rydw i’n feili mawr”, nid yw’n helpu, wyddoch chi, mi fydda i’n sefyll yno’n dawel iawn, yn dawel iawn. Ac yna pan fydd yn rhoi’r gorau i weiddi, mi fydda i’n dweud, “iawn Syr, ga i siarad nawr?” Ac mi fydda i’n dechrau siarad, yn siarad drostyn nhw, ac yn mynd, “Syr, dwi wedi caniatáu ichi ddweud beth sydd angen i chi ei ddweud, ond mae angen i chi wrando arna i nawr”, a dwi’n ei gadw’n ddi-ffwdan iawn.
Ac yn y pen draw pan fyddan nhw’n gadael gyda: “Rydych chi wedi bod mor neis”, a wyddoch chi, dim ond ceisio cadw pobl yn ddigynnwrf a bod yn garedig ydyn ni.
Aaron Wilson:
Un peth dwi’n meddwl sydd wedi dod yn dipyn o thema yma, yw cyfathrebu da gyda phobl. Ac rwy'n meddwl ei bod hi'n ymddangos i mi fod hynny'n sgil allweddol i'w gael pan fyddwch chi'n mynd i gyfarfod â phobl neu'n curo ar ddrysau a'r math yna o beth. Ydych chi’n meddwl bod hynny’n wir Sarah?
Sarah Bell:
Mae sgiliau cyfathrebu beilïaid yn allweddol. Mae’n ymwneud â sut rydych chi’n sefyll. Mae’n ymwneud â chyswllt llygaid. Mae’n ymwneud â bod yn hyderus, ond nid yn orhyderus. A hefyd, rwy’n meddwl bod yn rhaid i chi wybod, mae’n rhaid i chi newid eich persona ar gyfer y person rydych chi’n delio ag ef. Mae rhai pobl angen i chi fod yn wirioneddol broffesiynol. Mae rhai pobl angen i chi fod yn ffrind iddyn nhw bron.
A dwi wastad yn dweud, dwi’n gallu mynd o fod yn wirioneddol broffesiynol a dwi’n dod o bentref bach a bydda i’n bydda i’n mynd o hynny i fod yn berson o bentref achos mae fy acen yn newid a phopeth, a dwi’n gwybod ei fod yn gwneud, ond dyna beth mae’r person yna angen i mi fod. Dyna beth fydda i’n ei wneud.
Aaron Wilson:
A dwi’n cymryd yn ganiataol eich bod chi’n cytuno, Olivia, oherwydd roeddech chi’n edrych fel eich bod chi’n nodio pan wnes i ofyn y cwestiwn yna yn awr.
Olivia Niamh Simon:
Yn bendant. Mae angen i chi allu siarad â phobl. Hynny yw, dydw i ddim yn gwneud hynny’n dda iawn ar y funud oherwydd rydw i’n baglu dros fy ngeiriau o hyd. Felly, oes, wrth gwrs mae angen i chi wybod y swydd. Mae angen i chi wybod beth rydych chi’n ei wneud, mae angen i chi wybod y cyfreithiau. Ond cyn belled â’ch bod chi’n gallu eu gwneud nhw’n ymwybodol nad ydych chi’n ddim byd tebyg i’r bobl maen nhw’n eu gweld ar y teledu, maen nhw’n iawn fel arfer.
Hynny yw, weithiau rydych chi’n cael rhywun sy’n eithaf blin ac yn gweiddi yn eich wyneb ac sydd â’u camera yn eich wyneb yn dweud: “edrychwch beth mae’r person hwn yn ei wneud i mi”. Ond yna unwaith y byddwch chi’n siarad â nhw a cheisio cyrraedd eu lefel nhw ac mae fel: “edrychwch, dydw i ddim fel y bobl hynny”.
Os ydw i yma i wneud hyn rydw i wedi cael fy anfon, ac maen nhw fel arfer fel: “O iawn, oce”. Ac yn aml rwy’n cael diolch, sy’n rhyfedd. Pwy fyddai’n diolch i feili, ond byddwch chi’n cael diolch yn achlysurol pan fyddwch chi wedi helpu rhywun.
Aaron Wilson:
Felly rydyn ni’n mynd i ddychwelyd at Claire nawr am y tro olaf, wrth i ni ddechrau edrych ar rai o’r stereoteipiau ynghylch beilïaid ac yn arbennig beilïaid benywaidd hefyd.
Claire Powell:
Ydych chi wedi hoffi bod yn feili benywaidd dros y blynyddoedd, a ydych chi wedi sylwi ar unrhyw fath o syndod gan bobl at hynny neu unrhyw beth felly?
Wendy Jones:
Dwi’n meddwl mae bod yn fenyw wrth wneud y swydd hon yn fantais enfawr. Felly, efallai y bydda i’n mynd at y drws ac efallai y byddai i’n dweud, “o bore da, Wendy o Lys Sirol Croydon ydw i, swyddog llys ydw i”. Ac maen nhw’n edrych arna i ac yn mynd, “o, beth sydd gennych chi fel black belt mewn karate neu rywbeth felly?”
Wyddoch chi, ac mi fydda i’n dweud, “wel bihafiwch, neu efallai y byddwch chi’n cael gwybod”, wyddoch chi, y math yna o beth. Na, does dim pwynt bod yn ymwthgar gyda phobl pan fyddwch chi’n mynd i’w tai. Dim pwynt o gwbl. Wyddoch chi, rydych chi’n defnyddio iaith corff agored, rydych chi’n gwenu ac, wyddoch chi, ar ddiwedd y dydd, mae'n swydd rydyn ni'n gorfod ei gwneud.
Karen Anemaet:
Wyddoch chi, mae’n rhaid i chi ddod o hyd i’r cydbwysedd hwnnw, oherwydd os ydych chi’n gwenu gormod maen nhw’n meddwl eich bod chi’n ymfalchïo yn yr holl beth. Felly, mae’n rhaid ichi ddod o hyd i’r cydbwysedd hwnnw.
Wendy Jones:
Oes, mae’n rhaid ichi.
Karen Anemaet:
Nid ydych bob amser yn cerdded i mewn, yn cyflwyno eich hun. A dyma sut rydyn ni’n dod i mewn, fel, rydych chi’n barod i fynd ac rydych chi a phawb yn wahanol. Mae pobl yn ymateb yn wahanol. Efallai fy mod i’n mynd at y drws a dydy rhywun ddim yn fy hoffi, a dyna un o fanteision gweithio mewn partneriaeth. Oherwydd os bydda i’n gweld nad ydw i’n cyrraedd unman, fe fydda i’n cilio’n ôl a bydd fy mhartner yn dod i mewn yn debyg i dîm tag.
Wendy Jones:
Mae fel “good cop, bad cop” math o beth.
Karen Anemaet:
Fel tîm tag math o beth. Ac felly dyna fanteision gweithio mewn pâr, dwi'n meddwl.
Wendy Jones:
Ie. Ond mae’r argraff gyntaf o fod ar garreg y drws, mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr. Wyddoch chi, os ydych chi’n sefyll yno, wyddoch chi, y math yna o beth, mae’n cythruddo pobl. Os nad ydych chi fel yna i ddechrau, mae’n eithaf anodd iddyn nhw ymateb felly yn ôl.
Claire Powell:
Ond yn bendant ie. Efallai bod ganddyn nhw’r ddelwedd hon fod beilïaid yn eithaf mawr a wyddoch chi, ychydig yn frawychus. Ac mae'n realiti hollol wahanol.
Wendy Jones:
Ydy. Yn Llundain rydyn ni wedi bod allan mewn parau nawr am dipyn...
Karen Anemaet:
Amser hir.
Wendy Jones:
Tua 12, 14 mlynedd.
Claire Powell:
Ie. Ydych chi’n tueddu i gael partner rheolaidd?
Karen Anemaet:
Ydym, ond rydym yn newid o gwmpas.
Claire Powell:
Mae’n rhaid ei bod hi’n braf cael y partner rheolaidd hwnnw oherwydd eich bod chi’n dod i adnabod eich gilydd mor dda?
Karen Anemaet:
Ydy. Ac rydych chi’n gwybod bod nhw’n cadw eich cefn chi. Ond yna mae'r tîm cyfan fel yna, oherwydd rydyn ni wedi gweithio gyda'n gilydd, fel ar y tîm yn Croydon, dwi wedi gweithio gyda phob un ohonyn nhw mewn partneriaeth.
Claire Powell:
Ydych chi’n cymdeithasu tu allan i’r gwaith hefyd?
Karen Anemaet:
Ydym.
Wendy Jones:
Ydym. Felly, mae gen i dîm mewn llys arall hefyd. Felly, mae gen i 11 o feilïaid yn fy nhîm. Ac i mi, mae’n bwysig iawn eu bod yn ystyried eu hunain fel tîm yn ogystal â’r ddau lys gyda’i gilydd. Felly rydym ni’n cynnal brecwastau beilïaid. Felly, efallai y byddwn ni i gyd yn cyfarfod bob cwpl o fisoedd i gael brecwast gyda’n gilydd sy’n braf iawn, yn tydi? Mae pawb yn mwynhau hynny’n fawr. Mae llawer o dynnu coes yn mynd ymlaen a llawer o hwyl a, wyddoch chi, fel arfer ar fy mhen i. Ie, ond, roedd Karen a minnau, roedden ni’n bartneriaid, ond rydyn ni’n ffrindiau hefyd, felly mae’n…
Karen Anemaet:
Felly byddwn yn cymdeithasu tu allan i’r gwaith hefyd.
Wendy Jones:
Byddwn. Felly wyddoch chi, mae’r tîm sydd gyda fi yn Bromley, maen nhw’n dîm agos iawn hefyd. Dwi’n lwcus bod gen i’r timau sydd gen i.
Claire Powell:
Beth mae eich teulu a ffrindiau yn meddwl am yr hyn yr ydych yn ei wneud, a ydyn nhw byth yn holi chi amdano neu unrhyw beth?
Karen Anemaet:
Mae fy ngŵr yn dweud peidiwch â thynnu blewyn o drwyn fy ngwraig.
Aaron Wilson:
Felly byddwn yn clywed mwy gan Claire, Karen a Wendy yn yr hanner dilynol, rhan dau i’r bennod hon, a ddylai gael ei rhyddhau yr wythnos nesaf. Ond i bob un ohonoch yn ôl yma yn y stiwdio, roeddwn i eisiau gofyn i chi i gyd mewn gwirionedd am rai o’r stereoteipiau rydych chi wedi’u hwynebu’n bersonol a hefyd, efallai ochr nad yw pobl yn ei gweld ohonoch chi yn eich swydd, a allech chi ddweud ychydig mwy wrthyf i am y gefnogaeth y gallwch ei darparu a’r effeithiau cadarnhaol y gallwch chi hefyd eu cael ar eich cymunedau? A Sofiya, os nad oes ots gennych chi, fe ddof i atoch a siarad yn gyntaf am hynny.
Sofiya Romano:
Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig iawn o ran faint o bobl y byddwch chi’n mynd i’w tŷ ac ar ôl i chi gyrraedd yno, rydych chi’n sylweddoli eu bod nhw’n agored i niwed ac nad ydyn nhw mewn sefyllfa i ddelio â, wyddoch chi, â’u harian, eu hunain neu eu hamgylchiadau cyffredinol gan eu bod yn berson agored i niwed. Yna gallwch chi wthio pethau ymlaen a threfnu, wyddoch chi, gwneud yn siŵr eu bod yn cael rhywfaint o help, darganfod a oes angen i chi gysylltu â theulu a ffrindiau i’w helpu.
Nid yw pawb mewn sefyllfa i ddatrys y pethau hyn eu hunain. Ac rydyn ni’n ffordd dda i ddechrau hyn, wyddoch chi, i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn iawn.
Aaron Wilson:
Ac rwy’n meddwl bod rhywbeth y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, Olivia, yr oeddwn i eisiau dod yn ôl ato, fe wnaethoch chi ddweud eich bod wedi cael diolch weithiau am wneud eich gwaith, sydd wedi eich synnu. A allech chi ymhelaethu ar hynny i gyd i mi?
Olivia Niamh Simon:
Dydw i ddim yn mynd i eistedd yma a dweud bod pobl yn diolch i mi am ddod â dyledion i’w drysau, oherwydd nid yw hynny’n digwydd, mae pan dwi wedi cymryd yr amser i eistedd yno gyda nhw neu sefyll a siarad â nhw am y peth, fel, edrychwch, mae hyn wedi digwydd. Dyma beth sydd angen i chi ei wneud. Os oes angen i mi helpu, gallaf wneud hynny. Mae gen i’r rhifau ffôn hyn i chi, gallaf eich helpu gyda hynny.
Dyna pryd y byddwch yn cymryd ychydig mwy o amser ac yn siarad â nhw mewn modd dynol, wyddoch chi, maen nhw’n ddiolchgar iawn. Yn hytrach na eu gadael nhw yn y tywyllwch, os oes angen help arnyn nhw, lle galla i weld na allan nhw ddeall beth sy’n digwydd, byddaf yn eu helpu. Byddwn, er enghraifft gydag adfeddiant, os yw’n un heb fai a’u bod yn gadael oherwydd bod eu landlord eisiau’r eiddo yn ôl, dwi’n mynd yno gyda fy hysbysiad y mae’n rhaid i mi ei roi iddyn nhw’n gyfreithiol, ond dwi hefyd yn cynnwys dau lythyr gyda rhifau Cyngor ar Bopeth a rhif Shelter, rhif y cyngor lleol ac maen nhw’n diolch i mi am hynny oherwydd nid, “dyma’ch hysbysiad, rydych chi’n mynd”, ydyw ond yn hytrach “dyma’ch hysbysiad, ond hefyd dyma rai rhifau fydd yn gallu eich helpu chi. Mae angen i chi gadw’r rhain. Mae angen i chi ffonio’r bobl hyn”.
Aaron Wilson:
A Muneeba, diolch yn fawr i chi am fod yn amyneddgar ac am aros i mi ddod atoch chi, ond, wel, ond beth yw'r ymateb cyffredinol sydd wedi bod weithiau pan fyddwch chi wedi curo ar ddrws pobl, i wneud eich gwaith yn effeithiol?
Muneeba Nasir:
Felly Aaron, yn y bôn, os byddaf am droi rhywun allan, gadewch i ni ddweud, mi fydda i’n curo ar y drws, fe fydd yna landlord neu’r seiri cloeon yn bresennol gyda mi yn yr eiddo a chyn gynted ag y byddaf yn curo ar y drws, y peth cyntaf yw: “O, beili yw e. O, ydych chi yma i gymryd popeth?”
Ac, wyddoch chi: “O, roeddwn i’n disgwyl dyn chwe throedfedd o daldra, dyn mawr cryf a, wyddoch chi, rydych chi’n fenyw, Asiaidd, sy’n gwneud y swydd hon, mae hynny’n wahanol iawn, yn tydi? A ydych chi’n cael eich cam-drin a phethau felly yn aml, dwi’n dweud, na, wyddoch chi, pam mae gennym ni’r ddelwedd stereoteip hon o ddyn chwe throedfedd o daldra, sydd wedi’i ddangos ar sianel pedwar i, wyddoch chi, ddod draw a churo ar y drws a dweud ei fod yn feili? Pam na all fod yn rhywun, wyddoch chi, sy’n berson normal sy’n gallu gwneud y swydd hon?
Felly, dwi’n meddwl bod gan lawer o bobl y ddelwedd honno oherwydd yn amlwg maen nhw’n gwylio’r rhaglenni hynny ac maen nhw’n meddwl ei fod yn rhywun, wyddoch chi, sy’n galed iawn sy’n mynd i ddod i daflu’r holl bethau allan, cymryd popeth.
Mae gennym ni, fath o brotocolau ar waith pan fyddwn ni’n mynd i gyflwyno’r hysbysiad i roi gwybod iddyn nhw ar ba ddyddiad rydyn ni’n dod i wneud hynny, felly rhwng hynny mae ganddyn nhw’r holl opsiynau hyn o gysylltu â’r llys i wneud trefniadau.
Hyd yn oed gyda’r troi allan, wyddoch chi, maen nhw’n cael cyfle i wneud cais i’r llys cyn yr amser troi allan. Felly, wyddoch chi, rydym ni yno i’w helpu, nid yn unig, wyddoch chi, eu gwneud nhw’n ddigartref ond, dyna’r sefyllfa, mewn gwirionedd y mae angen iddyn nhw gymryd rheolaeth drosti hefyd drwy, wyddoch chi, cysylltu a gwneud y dewisiadau cywir a phethau felly, nid dim ond gadael pethau tan y funud olaf.
Yn aml rydym yn helpu’r bobl hyn yn hytrach na, wyddoch chi, yn amlwg eu gwneud yn fwy agored i ddyledion a phopeth. Felly, rydym yn dweud wrthyn nhw am yr holl opsiynau hyn sydd ar gael iddyn nhw. Gallan nhw roi galwad i ni, gallwn eu helpu nhw os ydyn nhw ar fudd-daliadau neu mae rhai ffurflenni y gallan nhw eu llenwi a, wyddoch chi, gwneud y taliadau yn hytrach na rhoi eu hunain yn y sefyllfa hon lle rydym yn y pen draw yn meddiannu’r nwyddau.
Felly, ie, dwi’n meddwl ein bod ni fel tîm, yr hyn dwi wedi sylwi arno yw ein bod ni bob amser yn gwneud ein gorau glas dros y bobl hyn, yn amlwg, wyddoch chi, eu helpu cymaint ag y gallwn ni cyn i bethau fynd dros ben llestri a, wyddoch chi, mae popeth yn cael eu cymryd.
Nid dyma beth yw ein prif nod.
Aaron Wilson:
A beth amdanoch chi Sofiya, dwi’n gwybod bod yna ychydig o sôn wedi bod, yn gynharach, am raglenni teledu a’r rhaglenni hynny sy’n adeiladu stereoteipiau o’r proffesiwn rydych chi’n ei wneud. Ond, beth yw eich profiad chi, a yw’n debyg neu a ydych chi’n meddwl ei fod yn wahanol iawn i’r hyn sy’n cael ei ddangos?
Sofiya Romano:
Hynny yw, os rhywbeth, nid ydych chi yno i fynnu arian yn unig. Yn y bôn, rydych yn cael ei hanfon yno, yn fy marn i, i gael y dyledwr i gysylltu â’r cwmni y mae arno arian iddyn nhw. Chi yw’r pwynt cyswllt cyntaf i’w cael i ddechrau siarad, bydd llawer o bobl yn rhoi eu pen yn y tywod ac yn ei osgoi tan y funud olaf un.
A’n gwaith ni mewn gwirionedd yw eu cael nhw i siarad, gweithio allan a ydyn nhw’n gallu fforddio ei dalu, wyddoch chi, a mynd o’r fan honno, sefydlu cynlluniau talu, dim ond ceisio eu cael nhw i siarad a rhoi’r pethau ar ben ffordd mewn gwirionedd.
Aaron Wilson:
Ydych chi’n meddwl ei fod yn ymwneud dipyn â’r ffordd rydych chi’n cyfathrebu â phobl?
Sofiya Romano:
O cant y cant. Ydw, ydw. Hynny yw, roeddwn i’n synnu braidd faint o bobl oedd yn eithaf positif oherwydd fy mod yn fenyw. Maen nhw’n agored iawn. Rwy’n meddwl os rhywbeth, eu bod yn ei chael hi’n haws siarad â chi, maen nhw’n gwybod nad ydych chi’n mynd i gael y ddelwedd hon yn eu pen o’r dyn ffyrnig hwn sydd heb ddiddordeb “na yw na, dwi angen yr arian”.
Ac mae’n rhaid i chi siarad â nhw, darganfod beth yw eu hamgylchiadau. Mae bywydau pawb yn wahanol ac mae pobl yn eithaf agored ar y cyfan, ac yna rydych chi’n gwybod ble i fynd ar gyfer y camau nesaf.
Aaron Wilson:
Wel, dyna ni. Rydym wedi rhedeg allan o amser yn swyddogol ar gyfer y bennod hon. Sophia, Muneeba, Olivia a Sarah, diolch yn fawr iawn unwaith eto am ddod. Dwi’n meddwl ein bod yn disgwyl cael ychydig ohonoch yn ôl ar ran dau o’r sgwrs hon, felly edrychaf ymlaen at eich croesawu yn ôl i hynny. Diolch hefyd i Claire, Karen, a Wendy am roi cipolwg tu ôl i’r llenni i ni ar rôl beilïaid, a chawn glywed mwy gan y tri ohonyn nhw yr wythnos nesaf hefyd.
I bawb sy’n tiwnio mewn gartref, cofiwch, os nad ydych chi’n gwneud hynny’n barod, gallwch chi danysgrifio i’n podlediad o ble bynnag rydych chi’n cael eich cynnwys.
A gallwch hefyd ddod o hyd i bob un o’n penodau presennol yno hefyd, neu drwy ymweld â’n blog yn insidehmcts.blog.gov.uk.
Gallwch hefyd ddechrau heddiw gyda’n holl wybodaeth a newyddion diweddaraf ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol sydd ar X, Facebook, LinkedIn a hefyd ein sianel diweddariadau WhatsApp newydd.
Felly diolch am diwnio i mewn eto a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â ni ar gyfer rhan dau o’r bennod hon. Cymerwch ofal.