Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/evicting-the-stereotypes-the-real-bailiffs-at-work-part-2-podcast-transcript/

Evicting the Stereotypes: The Real Bailiffs at Work (Part 2) - podcast transcript

[English] - [Cymraeg]

Aaron Wilson:

Welcome back to the Inside HMCTS podcast. Now, last week I promised you that we'd be back with the conclusion of our bailiff episode and that we'd also wrap up with Claire, Wendy, and Karen during their time on the road. And that's exactly what we're going to do today. I'm also joined this week by Rodger, Tatiana and Wendy, who I should also add is our second Wendy and not to be confused with the first.

I'm also rejoined by Muneeba and Sarah, who you'll remember from last week's episode, so welcome to all of you. Now, before we dive into some questions here, let's head back to Claire now to find out what happened next on her day with Wendy and Karen.

Claire Powell:

As I drove around with Wendy and Karen, it became clear that eviction is just a part of the job. I asked Wendy to tell me more about the different types of enforcement available to claimants.

Wendy Jones:

Claimants have got a choice of which type of enforcement they want to go for. The most common one is the warrant of control. Which they can either ask for the full amount or that can ask for a part payment. They're more likely to get the part payment because it's obviously a smaller amount. We've got maybe five different big companies. We call them the big five. And they're all companies that have bought debts from, catalogues, credit cards, phone companies, all sorts of, you know, that there are thousands of warrants that are issued every day from those from those kind of companies. And then they've bought a debt from them. And then they try and enforce the warrants to retrieve the money. They are the ones that will always make arrangements with people.

I mean, the purpose of a warrant of control really, it gives us the power to remove goods.

Claire Powell:

Yeah.

Wendy Jones:

To the value of the debt that's been collected and the cost of removal and sale has to be included as well.

Aaron Wilson:

We'll go back to Claire again shortly, but I just want to talk a bit more about becoming a bailiff. We had a few messages off the back of last week's episode. So Wendy, I wondered, as a bailiff manager, whether you could give us a better idea of what someone who joined your team might be doing on a day to day basis?

Wendy Seear:

So, we don't really have typical days for bailiffs. Every single day is different, and that's what's very good about the job and it's what the bailiffs enjoy the most. Whereas an administration duty would be you clock in at nine, you leave five, ‘bailiffing’ is very, very different. It's very flexible. So, the bailiff can either work from home to set up their, what we call a DRS, ready for the bailiff manager. Or they can go to the office to work. They'll take their warrants or their work for the day, they'll go out for the day. They may go back to the office to finish up, or they might go home to finish up. On a day a bailiff could find themselves doing anything from a warrant of control to serving non-molestation orders to serving a divorce, to doing evictions. So it can be very varied.

Aaron Wilson:

And would you agree with that, Tatiana? How does your day usually go?

Tatiana Abreu:

Like, obviously there's the misconception of, like, Can't Pay, Take it Away, but, I think we do quite the opposite. Like we go into people's houses, like we talk to them, we help them resolve the issue. We try to get the defendants to talk to the claimant. Find a middle ground, whether that's a payment plan or just helping their situation financially, give them a bit of advice, who they can bring to talk to, for example, to their mental health, who they can talk to about, like debt relief orders and stuff. And probably day to day like we do quite a lot of knocking on doors, speaking to people.

It's more like running errands sort of thing so like running like warrants of control. Sometimes we get the odd like, non-molestation orders, divorce, like child acts which take priority so we have to do those. But yeah, every day is just trying to bring the claimant and the defendant, like, closer together to establish something that they're both happy with.

Aaron Wilson:

Now, we've heard there isn't really a typical day for our bailiffs, and we're now going to go back to Claire as she finds out more on how Wendy and Karen deal with the unexpected.

Claire Powell:

Later on in the day, things took an unexpected turn when Wendy received a phone call from another bailiff team asking for backup.

Wendy Jones:

We've just had a phone call from, the bailiff team that are on an eviction. They’ve requested assistance because they've got a female in the property who, is refusing to leave. She's become quite agitated and they’ve rung to say that she's just taken her clothes off, and they're very uncomfortable. So can we go along to assist them so that's where we’re going. We've got, another waiting to be attended. So they're going to go along with those and, myself and Karen, we’re going to go and see what's going on here at this eviction.

Claire Powell:

Later on, we'll find out what happens at that eviction. But between jobs, I was very curious to know what happens to tenants if they reach the stage of being evicted from their property.

Wendy Jones:

Ok, so we are not, you know, legally trained if you like, that's the terminology. But we make it our business to have all the information that we can give to anybody that we're evicting, what the next steps are, now what they would, what they would normally, what they’re advised to do, is as soon as they get possession claim documentation is to present themselves to the council immediately to start the ball rolling with the council in finding them a property, because eventually they will become homeless.

So it's just making sure if they've got any kind of special medical needs that the right property can be found.

Claire Powell:

When you get home in the evening, are you able to switch off from stuff that you've seen in the day?

Karen Anemaet:

Sometimes things play on my mind, you know? And I think all wonder what happens to that little old man or, you know, because you do feel bad for people sometimes. You know, sometimes you've gone into a property where they've been living in such squalid conditions, you know, so it does play on your mind a little bit.

But I think as you kind of get into the job more, you kind of learn to push it away, you know? It is just part and parcel of the job and you learn not everyone lives the same.

Claire Powell:

As the day progressed, it became more and more clear that the work of bailiffs is very detailed and varied. I asked Wendy to tell me more about what training bailiffs receive when they first enter the service.

Wendy Jones:

Largely, I mean, when I started, I just went out every day. There was no there was no official package, there was no training plan. I just went out every day with every bailiff and learned on the job. I had a notebook, which I'll tell you, I had a headache for about three months when I, when I first did the job because trying to remember everything, and I thought I'll never remember all this, but, you know, gradually you do.

And then you ask more questions and gradually you just learn it. But then we've had a couple of training packages, which is good. So you've got all different aspects of all the different processes broken down. And then they would be explained by Karen or whoever's doing the training. And then they’re ticked off and then, we would meet with the manager maybe at the end of each week just to go through everything.

But there's nothing like actually learning out on the road. Any new bailiffs cannot actually go out on the road until they've got their stab vest. Which is actually quite a good thing now with the new Bailiff Learner Journey, because the first weeks of the bailiff training now is actually learning the background of everything in the office.

Which is, which is really good because they learn about the process right from the beginning of each of these, of these processes we've got so that they fully understand, why you've got the attachment of owners. They can feel confident in giving information at the doorstep instead of not having an idea.

It's a far more, complex training program, which is really good. There's also a brand new, face-to-face training course, which is a three day course, being rolled out maybe over the last six months now. So, new bailiffs come now are benefiting from the new course. And we are looking now to produce a bailiff manager's training course, which is going to be quite complex.

Aaron Wilson:

We'll return to the team one more time to find out exactly what happened at the end of that incident. But for now, I just wanted to address another question that's actually come up off the back of part one of this podcast, and that's about the application process. So, Tatiana, if you don't mind me coming to you, what's that like and what made you want to become a bailiff initially?

Tatiana Abreu:

I don't know, I knew that I kind of wanted to go into something that helps people and I knew that I wanted to go into something that is also in the court, like you kind of are your own boss in the sense, like you kind of work the hours you want, like you kind of do your own thing, like you are your own boss in terms of like you manage your own diary.

So that to me appealed, because the fact that we have flexibility. So, for example, if one day I have like a doctor's appointment, I don't have to take the day off, I can just work before my doctor's appointment or after. So, it's quite flexible, I'd say.

Aaron Wilson:

And how about you Muneeba, welcome back by the way, what would your advice be to someone who is considering applying to become a bailiff?

Muneeba Nasir:

I think it's one of the best decisions I ever made. Basically if you’re patient and you know, if you have the ability to remain calm in stressful situations, that's absolutely the job for you.

You know, also, you need to be able to accept all the criticism while you're working under this pressure because people are going to come with all sorts, you know, you just have to have the knowledge and the ability to deal with that situation because you don't know what the next house is going to be like or what the next person is going to be like, but you're going to be knocking on the door too.

So and also, you know, you need to be understanding about all the court procedures and regulations, because a lot of the time, their like: “you don't even know what you're doing”. So you know, “can you tell us that more about this?”, so I think whatever you're doing, you should be able to have full knowledge of all the rights that you have and that they have as well.

So, you know, a lot of the time you have to make them feel in charge as well. Like, look, you know, these are the things that you can do. I'm not here to do this. I'm here to help you before we get to this part. So it's never sort of like an attack on somebody, you know, you need to come out and you need to do this right now, or we're going to take everything away. No, it doesn't work like that and it absolutely doesn't work like how it shows on the TV.

Aaron Wilson:

Rodger, firstly, welcome to the podcast. You are the first male bailiff that we've had on, in these episodes. And I know we covered this a little bit in last week's episode, but I just want to ask you from your perspective, how different your job is to the TV shows that we see on our screens.

Rodger Day:

It's hugely different. I've, been in, I would say possibly fortunate, maybe the unfortunate position, I did get collared to do one of the TV programmes when they first started. The TV is very scripted, the producers, the cameramen that will be there with you, they tell you where to stand, where to look, essentially what to do. It's nothing like reality.

We're not commission based, we're salaried. So for us, as much as we do look to recover the money, we're also there to try and support people, help people. We fully understand that most people can't pull £3000 out of their back pocket. Times are difficult for everyone, including us. We understand that people just haven't got that much money. So for us, it's a case of more trying to get them to accept liability on the debt and then try and steer them towards a payment plan.

But we do stress to them that whatever they, especially if it's done through a court order, that whatever they agree to pay will be set down in a court order so it becomes binding, so then it's got to be something they can afford at the end of each month.

What we don't want to do is for them to come back and say, “oh, that's great, I can pay £500 a month, but then I can't pay my rent because then you control warrant essentially becomes a possession warrant when they haven't paid their rent for the next 18 months because they're paying off their debts.

So for us, I think we work as much as we are bailiffs, we also work as a support system for people as well. We're not we're not there to be heavy handed. We're not there to cause people problems or inflict misery. We just want the debts to be paid and for people to be comfortable with what they're paying.

Aaron Wilson:

You strike me as someone who enjoys your job, I think is the sort of vibe I'm getting from you. What do you think, for you, is the best part about your role?

Rodger Day:

Meeting different people. I have met some weird and wonderful people, really have. And I think not being office bound is always nice and it is just variety. There are no two days that are ever the same.

I genuinely walk in the office in the morning and go: “well I wonder what I've got today” because it won't be the same as yesterday, and I'll guarantee it won't be the same as tomorrow.

The actual the work is the same at a base level, so it still warrants of control, it's still warrants of possession, it's still serving process. That bit will never change, but that's a very small part of it, because once you've got that, you're then walking into the unknown which is different people, different situations, and literally anything can and probably has happened at some point.

Aaron Wilson:

I think Tatiana mentioned about the working arrangement earlier, but I just want to ask you personally more about your work life balance. What's it like being able to manage your own work agenda?

Rodger Day:

It's actually really good. Because they've got the flexibility to start and finish when they want. So, they can start at six in the morning and other days they can finish at nine at night, it’s encouraged, obviously people work, so for us being out at 1pm in the afternoon, knocking on doors, can be a little bit pointless sometimes because you're just not going to get to meet people. No one is going to answer the door because they're at work.

So for us, we sort of balance it a little bit. We'll start early, we'll finish late, we'll do Saturday mornings. So it means that during the week, if we've got something that we really need to get to, one of my lads, he has a medical appointment sort of 3:30pm in the afternoon. So for him that's great because he can start early in the morning, he's cleared his day’s work. He can then go and see that.

We've got some that have had school aged children. So some mornings they can take them to school, some mornings they can pick them up from school. They generally can't do both, but they can do one or the other. So the flexible working is probably one of the big draws to the job.

Aaron Wilson:

And Muneeba and Sarah, obviously you were on last week's episode, but I don't think this is something we covered there.

I know often you're out on your own when you're doing your job, but how important are your teams and working collectively to you?

Muneeba Nasir:

I think it's really important Aaron, because what I've learned from my team in the last three years, everyone has a different way and a protocol of dealing with things and a lot of the time, you can use those skills and techniques the way other people deal with it could, you might think you're doing it right, but there might be somebody else who's more experienced and, you know, we have these bailiffs who've been here for years and years and years like, you know, it's that good of a job. It's like people don’t actually want to leave.

So you do, you know, sort of share your sort of experience with them and they'll tell you how you can do it more, better next time and you know, because a lot of the time we get like things from a landlords and, you know, housing associations where I think, you know, that we should be just there doing their stuff, if you know what I mean. But, you know, a lot of the time you have to, sort of tell them like, no, look, this is how it works, and you have to be firm and these are the things that your team and your line managers, you know, sort of like, tells, you no, you don't have to go out of your way to do this thing.

This is how it works, these are how many days they have to wait for this appointment or, you know, so yeah, these are the things that you learn on a daily basis of how to deal with, like, you know, landlords or tenants or things like that. Every day, every situation is totally different. It's never the same.

Sarah Bell:

Oh, it's massively important.

It's a bit of a standing joke, I've been here a long time, and I'm the only girl. So it's like anything high risk, it’s like “ask Sarah, ask Sarah” and when my boss is off, I do cover for him.

And yeah, if I ever need assistance, if I’m somewhere on a job and I need assistance I know I can ring any of them, and no matter how far away they are, they wouldn't go: “oh no, no, I'm not coming”, they'll go: “right then I'll be there”. Like everyone says, I'll be there in 30 minutes, could be five minutes around the corner, but nobody would leave you hanging. Nobody.

Aaron Wilson:

Well thank you to all my guests for joining me today. It's been a pleasure to have you all on, and for everyone listening, we'll be back with another exciting episode in the very near future. But I know you all have been anxiously waiting to find out what happened on Claire's visit. So for the final word today, I'm going to hand back to her to wrap up.

Claire Powell:

As the day drew to a close, and while I was waiting for Wendy in the car, she came out to tell me what had happened with the lady that had refused to leave the property and what the next step would be.

Wendy Jones:

We're quite a little way on now, like we've been here quite a lot of good couple of hours now. Still waiting for the police. They've just told us that they are actually, we are their next call. We’ve managed to persuade the lady to get dressed, which is good and it's progress.

We understand from the family that there had been some kind of vulnerabilities. When the police come and we'll explain that the situation, they know that these things don't just happen just like that. This has been going on for a long time.

The claimants in this case, seemingly have been very, very lenient with her. They've tried all sorts of ways to try and reach her and try and come to some agreements. But it's just come to nothing and that's, that's why we're here.

[English] - [Cymraeg]

Cael gwared ar y Stereoteipiau: Beilïaid Go Iawn yn y Gwaith (Rhan 2) - trawsgrifiad podlediad

Aaron Wilson:

Croeso nôl i bodlediad Inside HMCTS. Yr wythnos ddiwethaf mi wnes i addo y byddwn yn dod yn ôl i orffen ein pennod am feilïaid, a dychwelyd i stori Claire, Wendy a Karen am eu hamser allan yn y byd fel beilïaid. A dyna’n union beth rydym am wneud heddiw. Mae Rodger, Tatiana a Wendy wedi ymuno gyda fi heddiw, a dylwn i ychwanegu mai Wendy arall yw hon, nid y Wendy rwyf eisoes wedi sôn amdani.

Mae Muneeba a Sarah, y byddwch yn eu cofio o’r bennod ddiwethaf, wedi dychwelyd hefyd, felly croeso i chi i gyd. Cyn i mi gychwyn gyda’r holi, awn ni yn ôl at Claire i ganfod beth ddigwyddodd nesaf yn ystod ei diwrnod o waith gyda Wendy a Karen.

Claire Powell:

Wrth i mi yrru o gwmpas gyda Wendy a Karen, mi wnes i sylweddoli bod troi allan jest yn rhan o’r swydd.  Mi wnes i ofyn i Wendy ddweud mwy i mi am y gwahanol fathau o orfodi sydd ar gael i hawlwyr.

Wendy Jones:

Mae hawlwyr yn gallu dewis pa fath o orfodi maen nhw eisiau. Yr un mwyaf cyffredin yw’r gwarant rheolaeth. Gyda hwn maen nhw un ai’n gallu gofyn i’r swm llawn gael ei dalu neu gallant ofyn am daliad rhannol. Maen nhw’n fwy tebygol o gael y taliad rhannol oherwydd yn amlwg mae’n swm llai. Mae gennym tua pum cwmni mawr gwahanol. Da ni’n galw nhw’n ‘y pump mawr’. Ac maen nhw i gyd yn gwmnïau sydd wedi prynu dyledion gan gatalogau, cardiau credyd, cwmnïau ffôn, bob math o bethau, wyddoch chi, felly mae miloedd o warantau yn cael eu codi yn ddyddiol gan gwmnïau fel hyn.  Ac maen nhw wedi prynu’r ddyled ganddynt. Ac yna maen nhw’n ceisio gorfodi’r gwarantau i gael yr arian yn ôl. Nhw yw’r rhai fydd wastad yn gwneud trefniadau gyda phobl.

Pwrpas gwarant rheolaeth yn y bôn, yw rhoi’r pŵer i ni symud y nwyddau.

Claire Powell:

Ie.

Wendy Jones:

Sy’n cynrychioli gwerth y ddyled sydd wedi’i chasglu a rhaid cynnwys cost symud y nwyddau a’u gwerthu hefyd.

Aaron Wilson:

Wnawn ni fynd yn ôl i Claire eto mewn eiliad, ond rwyf eisiau siarad ychydig mwy am ddod yn feili. Rydyn ni wedi cael nifer o negeseuon yn dilyn pennod yr wythnos ddiwethaf. Felly Wendy, dw i wedi bod yn meddwl, fel rheolwr beilïaid, a fyddi di’n gallu rhoi syniad gwell i ni o beth fyddai rhywun sy’n ymuno â’ch tîm yn ei wneud o ddydd i ddydd?

Wendy Seear:

Felly, nid oes ffasiwn beth â diwrnod arferol i feilïaid. Mae pob diwrnod yn wahanol, a dyna beth sy’n dda am y swydd a dyna beth mae beilïaid yn ei hoffi fwyaf. Mewn swydd weinyddol byddwch yn clocio i mewn am 9 ac yn gadael am 5, ond mae bod yn feili yn wahanol iawn, iawn.  Mae’n hyblyg iawn. Felly gall y beili un ai weithio o adra i wneud beth rydyn ni’n ei alw’n DRS, yn barod ar gyfer y rheolwr beilïaid. Neu gallant fynd i’r swyddfa i weithio. Byddant yn casglu eu gwarantau neu eu gwaith am y diwrnod, a byddant yn mynd allan am y diwrnod. Efallai byddant yn dychwelyd i’r swyddfa i orffen y gwaith, neu efallai byddant yn mynd adra i wneud hynny. Ar unrhyw ddiwrnod gall beili fod yn gwneud unrhyw beth, o warant rheolaeth i gyflwyno gorchymyn rhag molestu i gyflwyno cais am ysgariad, i droi pobl allan. Felly gall fod yn amrywiol iawn.

Aaron Wilson:

A fyddech yn cytuno gyda hynny, Tatiana? Sut mae eich diwrnod yn mynd fel arfer?

Tatiana Abreu:

Wel, yn amlwg mae gennych y camsyniad cyffredin o ‘Can’t Pay, Take it Away’, ond, rwy’n meddwl dan ni’n gweithredu’n hollol groes i hyn. Rydym yn mynd i gartrefi pobl, rydym yn siarad gyda nhw ac rydym yn eu helpu i ddatrys y broblem. Rydym yn ceisio cael y diffynyddion i siarad gyda’r hawlydd. Dod o hyd i dir cyffredin, p’un a yw hynny’n golygu cynllun talu, neu helpu gyda’u sefyllfa ariannol, rhoi ychydig o gyngor iddynt, pwy maen nhw’n gallu dod gyda nhw i siarad gyda nhw, er enghraifft, eu hiechyd meddwl, pwy maen nhw’n gallu siarad gyda nhw am bethau fel gorchmynion rhyddhad rhag dyledion a phethau fel na. Ac o ddydd i ddydd rydym yn gwneud cryn dipyn o gnocio ar ddrysau, siarad gyda phobl.

Mae’n fwy fel danfon negeseuon, fel gwarantau rheolaeth er enghraifft. Weithiau rydym yn cael ambell i orchymyn rhag molestu, ysgariad, pethau sy’n ymwneud â phlant sy’n cael blaenoriaeth, felly rydyn ni’n gwneud rheini hefyd. Ond ia, mae pob diwrnod yn ymwneud â dod â’r hawlydd a’r diffynnydd yn agosach at ei gilydd a dod i gytundeb ar rywbeth mae’r ddau ohonynt yn hapus ag ef.

Aaron Wilson:

Nawr, rydym wedi clywed does ddim ffasiwn beth â diwrnod arferol i feilïaid, ac rydym am fynd yn ôl at Claire wrth iddi ganfod mwy am sut mae Wendy a Karen yn delio â phethau annisgwyl.

Claire Powell:

Yn bellach ymlaen yn y dydd, mi wnaeth pethau newid yn annisgwyl pan gafodd Wendy alwad ffôn gan dîm arall o feilïaid yn gofyn am gymorth.

Wendy Jones:

Rydym ni newydd gael galwad ffôn gan dîm o feilïaid sydd wrthi’n troi rhywun allan. Maen nhw wedi gofyn am gymorth oherwydd bod ganddynt fenyw yn yr eiddo sy’n gwrthod gadael. Roedd hi wedi cynhyrfu ac maen nhw wedi ffonio i ddweud bod hi newydd dynnu ei dillad i ffwrdd, ac maen nhw’n anghyfforddus iawn. Felly rydym am fynd draw i roi cymorth iddynt, dyna lle rydyn ni’n mynd. Ac mae gennym fater arall yn aros i gael ei brosesu hefyd. Felly maen nhw’n mynd i ddelio â rheini a rydw i a Karen am fynd draw i weld beth sy’n mynd ymlaen gyda’r troi allan yma.

Claire Powell:

Yn ddiweddarach, byddwn ni’n cael gwybod beth ddigwyddodd yn y troi allan. Ond rhwng tasgau, roeddwn i’n chwilfrydig iawn i wybod beth sy’n digwydd i denantiaid pan maen nhw wedi cyrraedd y pwynt o gael eu troi allan o’u heiddo.

Wendy Jones:

Oce, wel, nid ydym wedi cael ein hyfforddi yn y gyfraith - dyna’r terminoleg cywir, ie? Ond rydym yn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth y gallwn ei rhoi i bwy bynnag rydym yn eu troi allan a beth fydd y camau nesaf. Fel arfer, beth fe’u cynghorir i wneud yw, unwaith maen nhw’n cael y gwaith papur am hawliad meddiannu, bod nhw’n cyflwyno eu hunain i’r cyngor ar unwaith i gychwyn y broses gyda’r cyngor i ddod o hyd i eiddo iddynt, oherwydd yn y pen draw byddant yn dod yn ddigartref.

Felly dan ni eisiau sicrhau, os oes ganddynt unrhyw anghenion arbennig, bod modd dod o hyd i’r eiddo iawn.

Claire Powell:

Pan fyddwch yn cyrraedd adra gyda’r nos, ydych chi’n gallu gadael fynd ar yr holl bethau rydych wedi’u gweld yn ystod y dydd?

Karen Anemaet:

Weithiau byddaf yn pendroni am bethau, wyddoch chi? A byddaf yn myfyrio am beth fydd yn digwydd i’r hen ddyn bach yna, neu weithiau byddwch yn teimlo’n ddrwg dros bobl. Weithiau rydych wedi mynd i mewn i eiddo lle maen nhw wedi bod yn byw, mewn amodau mor afiach a budr, felly mae’n gallu chwarae ar eich meddwl.

Ond wrth i chi dreulio mwy o amser yn y swydd, rydych chi’n dysgu sut i roi’r peth allan o’ch meddwl. Mae’n rhan o’r swydd, ac rydych chi’n dysgu nid yw pawb yn byw yn yr un ffordd.

Claire Powell:

Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, roedd hi’n dod yn fwyfwy amlwg bod gwaith beilïaid yn gallu bod yn fanwl iawn ac yn amrywiol iawn. Gofynnais i Wendy ddweud mwy i mi am yr hyfforddiant mae beilïaid yn ei gael pan fyddant yn cychwyn yn y swydd.

Wendy Jones:

Wel, yn bennaf, pan wnes i ddechrau, roedd i jest yn mynd allan bob dydd. Doedd na ddim pecyn swyddogol, doedd na ddim cynllun hyfforddiant. Roeddwn i jest yn mynd allan bob dydd gyda phob beili a dysgu wrth wneud y gwaith. Roedd gen i lyfr nodiadau, ac mae’n rhaid i mi ddweud, roedd gen i gur pen am tua tri mis pan wnes i ddechrau yn y swydd, achos roeddwn i’n trio cofio pob dim, ac roeddwn i’n meddwl fydda i byth yn gallu cofio hyn i gyd, ond, yn raddol, mi ydych chi’n gallu wneud o.

Ac rydych chi’n gofyn mwy o gwestiynau ac yn raddol rydych chi’n dysgu popeth.                                                               Ond ers hynny rydym ni wedi cael cwpl o becynnau hyfforddiant, sy’n dda. Felly mae gennych bob mathau o wahanol agweddau ar yr holl brosesau wedi’u torri i lawr i ffordd sy’n haws i’w deall. Ac yna byddai Karen neu bwy bynnag sy’n cynnal yr hyfforddiant yn esbonio popeth. Ac yna rydych chi’n ticio nhw i ffwrdd, a wedyn byddwn ni’n cwrdd â’r rheolwr ar ddiwedd bob wythnos ac yn mynd trwy popeth.

Ond does dim byd fel dysgu pan rydych allan ar y lonydd yn mynd ar alwadau. Nid yw beilïaid newydd yn cael mynd allan i weithio nes bod ganddynt fest diogelu rhag trywanu.  Sy’n beth da mewn gwirionedd gyda’r Taith Beili sy’n Ddysgwyr, oherwydd bellach, yn yr wythnosau cyntaf o’r hyfforddiant beili rydych chi’n dysgu cefndir popeth sy’n digwydd yn y swyddfa.

Sy’n beth da iawn, oherwydd maen nhw’n dysgu am y broses o’r cychwyn cyntaf, pob un o’r prosesau hyn sydd gennym, fel bod nhw’n eu deall yn llawn, a dyma pam bod gennych atodiad perchnogion. Maen nhw’n gallu teimlo’n hyderus yn rhoi gwybodaeth i rywun ar eu stepan drws yn lle bod chi mewn sefyllfa lle gennych chi ddim syniad.

Mae’n rhaglen llawer mwy cymhleth, sy’n beth da iawn. Mae yna hefyd gwrs hyfforddiant wyneb yn wyneb newydd sbon, sef cwrs dros dri diwrnod, ac mae wedi bod yn weithredol ers tua 6 mis rwan. Felly mae beilïaid newydd yn elwa o’r cwrs newydd. Ac rydym yn anelu at greu cwrs hyfforddiant i reolwyr beilïaid, sydd am fod yn eithaf cymhleth.

Aaron Wilson:

Byddwn yn dychwelyd i’r tîm unwaith eto i ganfod beth ddigwyddodd ar ddiwedd y digwyddiad hwnnw. Ond am y tro, roeddwn i eisiau mynd i’r afael â chwestiwn arall sydd wedi codi o ganlyniad i ran un y podlediad hwn, ac mae hynny’n holi am y broses ymgeisio. Felly, Tatiana, ga i ofyn i chi, sut beth ydy’r broses ymgeisio a beth wnaeth wneud i chi fod eisiau dod yn feili yn y lle cyntaf?

Tatiana Abreu:

Roeddwn i’n gwybod mod i eisiau gwneud rhywbeth sy’n helpu pobl ac roeddwn i’n gwybod roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gyda’r llysoedd. Ac rydych chi’n fos ar eich hun mewn ffordd, rydych chi’n rheoli eich oriau eich hun, dach chi’n gweithio’n annibynnol, ac rydych yn fos ar eich hun am bod chi’n rheoli dyddiadur eich hun.

Felly roedd hynny’n apelio i mi, y ffaith bod gennym hyblygrwydd. Felly, er enghraifft, os oes gennych apwyntiad doctor, dydw i ddim yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, galla i weithio cyn neu ar ôl fy apwyntiad doctor. Felly mae’n hyblyg iawn.

Aaron Wilson:

A beth amdanoch chi Muneeba, croeso nôl gyda llaw, beth fyddai dy gyngor i rywun sy’n ystyried gwneud cais i ddod yn feili?

Muneeba Nasir:

Rwy’n meddwl bod o’n un o’r penderfyniadau gorau dw i erioed wedi’i wneud. Yn y bôn, os ydych chi’n amyneddgar ac os oes gennych y gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd sy’n peri straen, dyma’r swydd i chi.

Wyddoch chi, dach chi angen bod â’r gallu i dderbyn beirniadaeth pan fyddwch yn gweithio dan bwysau oherwydd mae pobl yn mynd i ddweud pob math o bethau. Rhaid bod gennych yr wybodaeth a’r gallu i ddelio efo’r sefyllfa honno oherwydd dydych chi ddim yn gwybod sut fydd y tŷ nesaf neu sut bydd y person nesaf, ond byddwch chi’n cnocio ar eu drws ac yn gorfod bod yn barod am unrhyw beth.

Ac hefyd rhaid eich bod yn deall holl weithdrefnau a rheoliadau’r llys, oherwydd yn aml iawn maen nhw’n dweud pethau fel: “Dydych chi ddim yn gwybod be’ dach chi’n wneud”. Felly, byddan nhw’n gofyn “gallwch chi ddweud mwy am hyn?” felly dw i’n meddwl, beth bynnag rydych chi’n ei wneud, dylai fod gennych yr holl wybodaeth am yr hawliau sydd gennych ac hefyd yr hawliau sydd ganddyn nhw.

Yn aml iawn rhaid i chi wneud iddyn nhw deimlo mai nhw sy’n rheoli’r sefyllfa. Pethau fel, dyma’r pethau gallwch chi eu gwneud. Dydw i ddim yma i wneud hyn. Rwyf yma i helpu chi cyn i ni gyrraedd y rhan yma. Felly dydy o byth yn ymosod ar rywun mewn unrhyw ffordd, dan ni ddim yn dweud rydych chi angen dod allan a bod rhaid i chi wneud hyn rwan, neu rydyn ni’n mynd i symud popeth o’r eiddo. Na, dydy o ddim yn gweithio fel na ac yn bendant dydy o ddim yn gweithio fel maen nhw eu portreadu ar y teledu.

Aaron Wilson:

Rodger, yn gyntaf, croeso i’r podlediad. Ti yw’r beili gwrywaidd cyntaf rydyn ni wedi ei gael yn y penodau hyn. Rwy’n gwybod bod ni wedi trafod hyn rhywfaint ym mhennod wythnos ddiwethaf, ond roeddwn i eisiau gofyn am dy safbwynt di, pa mor wahanol yw dy swydd i’r rhaglenni teledu dan ni’n eu gweld?

Rodger Day:

Mae’n hollol wahanol. Rydw i wedi bod yn y sefyllfa ffodus, neu ella anffodus, o gael fy hun yn ymddangos yn un o’r rhaglenni teledu pan wnaethon nhw gychwyn am y tro cyntaf. Mae’r rhaglenni teledu wedi’u sgriptio, y cynhyrchwyr, y dynion camera sydd yna gyda chi, byddan nhw dweud wrthych ble i sefyll, ble i edrych, a beth i wneud yn y bôn. Dydy o ddim byd fel realiti.

Dydyn ni ddim yn gweithio ar gomisiwn, dan ni ar gyflog. Felly i ni, er ein bod yn anelu at adennill yr arian, rydym yna hefyd i drio cefnogi pobl a helpu pobl. Rydym yn deall yn iawn bod y mwyafrif o bobl yn methu tynnu £3000 allan o’u pocedi allan o ninlle. Mae hi’n anodd i bawb ar y funud, yn cynnwys ni. Felly rydyn ni’n deall bod gan pobl ddim cymaint o bres â hynny. Felly i ni, ein nod yw trio cael nhw i dderbyn atebolrwydd am y ddyled, ac yn ceisio eu llywio tuag at gynllun talu.

Ond rydym yn pwysleisio iddynt, yn enwedig os yw’n cael ei wneud drwy orchymyn llys, bod fydd beth bynnag maen nhw’n cytuno i dalu yn cael ei nodi’n ysgrifenedig mewn gorchymyn llys, felly mae’n rhwymol gyfreithiol wedyn, felly mae’n rhaid iddo fod yn swm maen nhw’n gallu ei dalu bob mis.

Beth rydym ni ddim eisiau yw iddynt ddod yn ôl a dweud, “oh mae hynny’n grêt, dw i’n gallu talu £500 y mis, ond wedyn dydw i ddim yn gallu talu rhent fi oherwydd wedyn mae eich gwarant rheolaeth yn dod yn warant meddiannu oherwydd bod nhw heb dalu eu rhent am yr 18 mis nesaf am bod nhw’n talu eu dyledion.

Felly i ni, er ein bod ni’n gweithio fel beilïaid, rydym ni hefyd yn gweithio fel system gefnogi i bobl hefyd. Dydyn ni ddim yna i fod yn llawdrwm. Dydyn ni ddim yna i achosi problemau i bobl neu wneud iddynt deimlo’n druenus.  Rydyn ni dim ond eisiau i’r dyledion gael eu talu, ac i bobl fod yn gyfforddus gyda faint maen nhw’n ei dalu.

Aaron Wilson:

Rwyt ti’n dod drosodd fel rhywun sy’n mwynhau ei waith, dyma’r argraff dw i’n ei gael gennyt. Beth wyt ti’n ei feddwl yw’r peth gorau am dy rôl?

Rodger Day:

Cyfarfod pobl wahanol. Rwyf wedi cyfarfod pobl ryfedd a rhyfeddol, wir yr. A dw i’n meddwl bod peidio â bod yn sownd yn y swyddfa drwy’r adeg yn braf, ac mae yna amrywiaeth. Mae pob diwrnod yn wahanol.

Dw i’n wirioneddol yn cerdded i mewn i’r swyddfa yn y bore ac yn meddwl: “Sgwn i pa waith fydd gen i heddiw?” oherwydd ni fydd yr un peth â ddoe, a gallaf warantu ni fydd yr un peth â fory chwaith.

Mae’r gwaith ei hun yr un peth ar lefel sylfaenol, fel mae o dal i fod yn warantau rheolaeth, gwarantau meddiannu, mae o dal yn broses o gyflwyno pethau. Bydd y rhan yna byth yn newid, ond mae hynny’n rhan fach iawn o’r gwaith, oherwydd er bod gennych hynny fel man cychwyn, rydych wir yn cerdded i mewn i sefyllfa anhysbys, gyda phobl wahanol, sefyllfaoedd gwahanol, ac yn llythrennol mae bron unrhyw beth yn gallu digwydd neu wedi digwydd ar ryw bwynt.

Aaron Wilson:

Dw i’n meddwl wnaeth Tatiana sôn am y trefniadau gwaith yn gynharach, ond roeddwn eisiau gofyn i ti’n bersonol am daro cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Sut beth ydy gallu rheoli dy waith dy hun?

Rodger Day:

Mae wir yn dda iawn. Oherwydd mae ganddynt yr hyblygrwydd i ddechrau a gorffen gweithio pan maen nhw eisiau. Felly gallant gychwyn am 6 yn y bore ac ar ddiwrnodau eraill efallai byddant yn gorffen gweithio am 9 o’r gloch yn y nos. Ac mae hyn yn cael ei annog, oherwydd os ydyn ni allan am 1pm yn cnocio ar ddrysau, wel gall hynny fod braidd yn ddibwrpas oherwydd mae pobl yn gweithio felly byddwn ni jest ddim yn mynd i weld pobl. Bydd neb yn ateb y drws am bod nhw yn y gwaith.

Felly, rydyn ni ceisio cydbwyso pethau ychydig. Byddwn ni’n cychwyn yn gynnar, neu’n gorffen yn hwyr, weithiau byddwn yn gweithio ar foreau Sadwrn. Felly mae hyn yn golygu, os oes gennym rhywbeth rydyn ni wir angen gwneud, er enghraifft, mae gan un o fy hogiau i apwyntiad meddygol am 3:30pm yn y pnawn.  Wel mae hynny’n grêt iddo, oherwydd mae o’n gallu dechrau gweithio yn gynnar yn y bore a gwneud ei ddiwrnod o waith. Ac wedyn mae o’n gallu mynd i’r apwyntiad.

Wedyn mae gennym staff sydd gyda plant oed ysgol. Felly weithiau maen nhw’n gallu mynd â nhw i’r ysgol, ac weithiau maen nhw’n gallu casglu nhw o’r ysgol. Nid ydyn nhw’n gallu gwneud y ddau, ond gallant wneud y naill neu’r llall. Felly mae gweithio’n hyblyg yn un o’r pethau mwyaf deniadol am y swydd.

Aaron Wilson:

A Muneeba a Sarah, yn amlwg roeddech chi ar y bennod ddiwethaf, ond dw i ddim yn meddwl ddaru ni drafod hwn bryd hynny.

Dw i’n gwybod eich bod allan ar ben eich hunain pan fyddwch yn gwneud eich gwaith, ond pa mor bwysig i chi yw eich timau a gweithio gyda’ch gilydd?

Muneeba Nasir:

Dw i’n meddwl bod o’n bwysig iawn Aaron, oherwydd beth rwyf wedi dysgu gan fy nhîm yn y tair blynedd diwethaf yw, mae gan pawb ffordd wahanol o weithio a phrotocol gwahanol wrth ymdrin â phethau, ac yn aml iawn gallwch chi ddefnyddio’r sgiliau a’r technegau hynny mae pobl eraill yn eu defnyddio. Efallai eich bod yn meddwl bod chi’n ei wneud yn iawn, ond gall fod rhywun sy’n fwy profiadol. Mae gennym ni feilïaid sydd wedi bod yma am flynyddoedd ar flynyddoedd, am bod hi’n swydd mor dda. Dydy pobl ddim eisiau gadael.

Felly dach chi’n rhannu eich profiad gyda nhw ac maen nhw’n dweud wrthych sut gallwch chi ei wneud o’n well y tro nesaf, oherwydd yn aml rydyn ni’n cael pethau gan landlordiaid a chymdeithasau tai lle dw i’n meddwl dylwn ni fod yn gwneud eu pethau nhw. Ond, yn aml rhaid i chi ddweud wrthynt na, edrychwch, dyma sut mae’n gweithio, a rhaid i chi fod yn gadarn, a dyma’r pethau mae eich tîm ac eich rheolwyr yn dweud wrthych, na, dwyt ti ddim yn gorfod mynd yr ail filltir i wneud y peth yma. 

Dyma sut mae’n gweithio, dyma faint o ddyddiau maen rhai iddynt aros am y apwyntiad yma. Felly dyma’r pethau rydych chi’n dysgu o ddydd i ddydd am sut i ymdrin â landlordiaid neu denantiaid a phethau felly. Bob dydd, mae pob sefyllfa’n hollol wahanol. Dydy o byth yr un peth.

Sarah Bell:

Mae’n bwysig ofnadwy.

Mae’n bach o jôc parhaol, dw i wedi yma ers tro byd, a fi yw’r unig fenyw. Felly os oes unrhyw beth risg uchel, maen nhw fel “gofyn i Sarah, gofyn i Sarah” a phan fydd fy mos ar wyliau, fydda i’n gwneud ei rôl o.

Ac ie, os ydw i angen cymorth, os ydw allan yn rhywle ar joban a dw i angen cymorth dw i’n gwybod galla i ffonio unrhyw un o’r tîm a dim ots pa mor bell i ffwrdd maen nhw, wneith nhw byth ddweud: “O na na, dw i ddim yn dod, wneith nhw ddweud: “Iawn, fydd i yna.” Bydd pawb yn dweud, bydda i yna mewn hanner awr, ond gallan nhw fod 5 munud i ffwrdd, ond byddai neb yn gadael ti lawr. Neb.

Aaron Wilson:

Wel diolch i bob un o fy ngwesteion am ymuno gyda fi heddiw. Mae wedi bod yn bleser cael chi i gyd yma, ac i bawb sy’n gwrando, byddwn yn ôl gyda pennod gyffrous arall i chi yn fuan iawn. Ond wrth gwrs, rydych chi’n gwybod fy mod i wedi bod yn aros yn awyddus iawn i ganfod beth ddigwyddodd ar ymweliad Claire. Felly, dw i am roi’r awenau iddi hi i gloi’r bennod.

Claire Powell:

Wrth i’r diwrnod ddod i ben, ac wrth i mi aros am Wendy yn y car, wnaeth hi ddod allan i ddweud beth oedd wedi digwydd gyda’r fenyw oedd wedi gwrthod gadael yr eiddo a beth fyddai’r cam nesaf.

Wendy Jones:

Mae cryn dipyn o amser wedi pasio erbyn hyn, mae na tua dwy awr wedi pasio. Dal i aros am yr heddlu. Maen nhw newydd ddweud wrthym mai ni yw eu galwad nesaf. Rydyn ni wedi llwyddo i berswadio’r fenyw i wisgo, sy’n beth da ac mae’n gynnydd.

Rydyn ni’n deall gan y teulu bod y fenyw hon yn fregus mewn rhyw ffordd. Pan fydd yr heddlu’n cyrraedd rydyn ni’n esbonio’r sefyllfa, maen nhw’n gwybod nad yw pethau’n digwydd ar unwaith. Mae hyn wedi bod yn digwydd am gyfnod hir.

Mae’n ymddangos bod yr hawlwyr yn yr achos hwn wedi bod yn drugarog iawn, iawn gyda hi. Maen nhw wedi trio bob math o ffyrdd i geisio cael gafael arni a dod i ryw fath o gytundeb. Ond mae eu hymdrechion wedi methu, a dyma pam rydyn ni yma.