Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/finding-resolution-inside-the-small-claims-mediation-service-podcast-transcript/

Finding Resolution: Inside the Small Claims Mediation Service - podcast transcript

[English] - [Cymraeg]

David Franks: There was very little red tape, very little hanging about. Incredibly prompt response and in my particular case, a satisfactory outcome. All I'd say is that I wish I'd known about this before because I spent months, literally months, trying to pursue this without raising the bar to, you know, mediation, small claims, all the rest of it.

 

Aaron Wilson: Disputes can arise in many areas of our daily lives, from contesting a parking ticket to disagreeing over payments for goods and services. This can lead to people making a claim in the civil courts to seek money they believe they're owed by another person or business. But what if there was a quicker, less stressful way to resolve your case without going to court?

I'm Aaron Wilson from the HMCTS Communications team, and today we're talking about mediation and how it's helping more people than ever before to resolve their case away from the courtroom. We'll be speaking to someone who's used our mediation service when they found themselves in a dispute with a large courier firm. But first, we'll be speaking to David Kerry.

He's one of our new mediators. It's his job to speak to both parties separately and work to find a solution that everyone can agree on without needing to go to court.

So, David, if I can come to you quickly. How have you helped people to reach an agreement, and are there any cases that stand out for you in particular?

 

David Kerry: There was an elderly lady that had got a parking infringement notice. She hadn’t displayed a parking badge, which was required for parking there. And upon the opening of the call, she made it quite clear to me that she'd been losing sleep and the anxiety of the court process was really, really pressuring her and putting that added pressure on her. As the mediation went through, I was putting her at ease, you know, giving her that opportunity to explore a solution without impacting that case. That was the key thing, that without the prejudice element of it, the case would continue on to court without this influencing it. Being able to explore that and explore that option freely actually helped her find a solution.

And she was extremely grateful. At the end, you did feel that that relief come away from them, that the  pressure had been taken out of their everyday lives. And it wasn't a huge sum of money, it wasn't a large sum of money in the way of things. But for someone that was on a limited income, you could really feel they were able to explore a payment method that worked with their income and they were able to explore that freely, and they controlled that rather than them having it dictated to them at some point, you know, if they were found at fault rather than being told they had to pay someone some money, they were able to explore it on their terms. So that was that was one that was really quite meaningful to me.

Another one I had was parents either side, a client and a defendant, which was a mother and father, and it was all in relation to money for their child to go on a school trip. And in that one they were both quite emotional.

They both wanted the best for their child. Unfortunately, their relationship had broken down, but it shouldn't be impacting the joint thing they'd got together there, the child, that was the key thing in this mediation.

 

Aaron Wilson: Thanks for that, David. It's so good to hear about cases where mediation has helped people find the solution without going to court.

Ok, so David, as someone who's used the Small Claims Mediation Service, can I just bring you in here? Can you tell me a little bit about your experience of using the Small Claims Mediation Service and what your situation was at the time when you used it?

 

David Franks: Sure, in a nutshell. Basically, I ran out of options in claiming recompense from a company that had lost a package that I’d thankfully insured. And one of the things that I do want to talk about is that there is this horrible black hole at the moment, where contacting companies through websites is pretty difficult. You get a bot, and in this particular instance, because I had queried it, I had a reference number.The reference number, if you quote that, you are told an investigation is ongoing and to hang up. If you don't have the reference number, you can't get through at all.

So that's the reason and the circumstance that I was forced to look for recompense elsewhere other than the company.

 

Aaron Wilson: Ok, and without naming the company or anything like that, can I just get you to outline what the issue was that forced you to use the Small Claims Mediation Service?

 

David Franks: Yeah. Part of my career is photography, and I ordered some photographic equipment which arrived, but it wasn't actually compatible with my operating system. So I phoned the vendor and he agreed to give me my money back once it was couriered to them. So thankfully I had the presence of mind to insure it with the company arranging the transport.

But they lost it and they admitted that they lost it. It's really a matter of trying to find out what how to go about claiming my money back.

 

Aaron Wilson: And could you talk us through what the process was like for you, for using the mediation service?

 

David Franks: Yeah. I mean, the process was really positive. Because I'd run the whole gauntlet of all the avenues that were available to me, I kind of googled around and found the small claims service and contacted them. Within a week, I had a phone call back from one of the mediators, who was very professionally neutral when I was describing the case, which is as it should be. They agreed that there was a case to answer. And within, I think, 3 or 4 hours, I had an offer back from the courier company, which was low, and I refused it.

The mediator then went back and got another offer from this company and I accepted and I was happy.

 

Aaron Wilson: So it sounds like you had quite a positive experience with the service. I know you've touched on that a little bit there, but what were your general thoughts around the service and then the speed it worked at?

 

David Kerry: Well, to be honest with you, I was a bit surprised. Forgive me, but, you know, you think local government, government organisations, all of this is going to take about a month before anybody even notices. But it was within the week it was done and dusted and sorted.

 

Aaron Wilson: So I understand previously you had a few concerns that you might have to go to court around it and face a large corporation face-to-face, how did you feel when you realised you wouldn't have to go to court and you could use this service?

 

David Franks: Extremely relieved. I guess that because I hadn't used the service before, it was all a bit of an unknown. I didn't know how effective the service would be.

 

Aaron Wilson: And as someone who's gone through the service, what would you say to someone else who is looking at this as a way to resolve a dispute.

 

David Franks: I would say just do it because there is very little red tape, very little hanging about, incredibly prompt response. And in my particular case, a satisfactory outcome. All I'd say is that I wish I'd known about this before because I spent months, literally months trying to pursue this without raising the bar to, you know, mediation, small claims, all the rest of it. And it did feel like David versus Goliath. It felt like they've got tens of lawyers at their disposal.

I'm just a little guy, freelance photographer. And so, yeah, it did feel daunting until I found the mediation service.

 

Aaron Wilson: So there's been a recent change in the Small Claims Mediation Service, which means more people than ever before can solve their dispute by attending an appointment and so I've got Kim Wager here with me now, who is Head of Dispute Resolution. Kim can you tell us what's new with the service?

 

Kim Wager: Yeah. Mediation has now become a required part of the journey. For money claims under £10,000. Around 70% of all money claims under £10,000 pounds are now required to attend a free one hour mediation appointment with the Small Claims Mediation Service. Previously, it was offered on a voluntary basis. Parties, claimants and defendants could choose to go to mediation if they wanted to, but they were not required to.

And the success rate was really very good. It was over half of the cases were resolved at mediation by the parties finding something, a resolution that worked for both of them. All of the evidence suggests that there wasn't really very much of an understanding of the mediation process or the benefits that it could bring, and therefore we decided to make it a required part of the of the litigation journey so when a claim is put into the court, when legal proceedings have begun fora money claim of under £10,000, parties will be required to attend the mediation session. They will not be required to resolve it, to come to a settlement, but they will be required to attend and try to resolve it if they can.

 

Aaron Wilson: Just to make it clear, what is the process if they can't resolve it?

 

Kim Wager: Yeah. I mean, if the dispute isn't resolved in mediation, it will automatically go on to a hearing before a judge for a judicial decision and that will put an end to it.

 

Aaron Wilson: Akeela Amijee, you're a mediation manager here at HMCTS, and your team is managing an increase in mediation appointments. How are they finding the work firstly?

 

Akeela Amijee: Yes, sure Aaron. So as you know, mediation is a brilliant service and making it a key step is incredibly exciting and positive. We're absolutely ready. What we've done in readiness is done a mass recruitment of mediators.

We've improved our internal booking system, and we've reviewed our current working practice. The feedback that we received from the mediators that have already started with us that it's a brilliant service to work for. The feedback that we've also received is that they can almost hear the weight being lifted off the party's shoulders, which is extremely, satisfying, for the service and to hear that they've been able to achieve that in that one hour telephone appointment provides a swifter, consensual resolution.

And I think the parties echo that in all the feedback that we receive.

 

Aaron Wilson: So if people don't settle their case follow mediation and they do still need to go to court, can the mediation process still be helpful?

 

Akeela Amijee: Yes, absolutely. So whilst a mediation appointment doesn't settle, it starts that conversation, which they probably were afraid to have and quite often before it reaches a court hearing, they do settle. And we do get feedback back saying, you know, whilst we attended the mediation appointment and we didn't reach a settlement today, they can confirm that they were able to continue the conversation and, have fed back to us that they have reached an agreement, which is fantastic.

 

Aaron Wilson: Thanks, Akeela, and thanks to all of my guests for joining me today. If you'd like to find out more about what you can expect from a mediation appointment, you can watch our video by searching for “what is Small Claims mediation” on YouTube. You can also read our blog about the service by visiting insidehmcts.blog.gov.uk and searching for “small claims”.

Thanks so much for listening and we look forward to speaking to you on the next episode soon.

 

[English] - [Cymraeg]

Dod o hyd i Ddatrysiad: Tu mewn i'r Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain - trawsgrifiad podlediad

David Franks: Ychydig iawn o fiwrocratiaeth oedd yna, ychydig iawn o oedi. Ymateb hynod brydlon ac yn fy achos penodol i, canlyniad boddhaol. Y cyfan y byddwn i’n ei ddweud yw hoffwn pe bawn i’n gwybod am hyn o’r blaen oherwydd treuliais fisoedd, yn llythrennol fisoedd, yn ceisio mynd ar drywydd hyn heb godi’r bar i gyfryngu, hawliadau bychain, a’r gweddill i gyd.

 

Aaron Wilson: Gall anghydfodau godi mewn sawl maes o’n bywydau bob dydd, o herio tocyn parcio i anghytuno ynghylch taliadau am nwyddau a gwasanaethau. Gall hyn arwain at bobl yn gwneud hawliad yn y llysoedd sifil i geisio arian maen nhw’n credu sy’n ddyledus iddyn nhw gan berson neu fusnes arall. Ond beth os oedd ffordd gyflymach, gyda llai o straen i ddatrys eich achos heb fynd i’r llys?

Aaron Wilson ydw i o dîm Cyfathrebu GLlTEF, a heddiw rydym ni’n sôn am gyfryngu a sut mae’n helpu mwy o bobl nag erioed o’r blaen i ddatrys eu hachos y tu allan i’r llys. Byddwn ni’n siarad â rhywun sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth cyfryngu pan oedden nhw mewn anghydfod gyda chwmni cludo mawr. Ond yn gyntaf, byddwn yn siarad â David Kerry.

Mae’n un o’n cyfryngwyr newydd. Ei waith ef yw siarad â’r ddwy ochr ar wahân a gweithio i ddod o hyd i ateb y gall pawb gytuno arno heb fod angen mynd i’r llys.

Felly, David, os caf ddod atoch chi’n gyflym. Sut ydych chi wedi helpu pobl i ddod i gytundeb, ac a oes unrhyw achosion sy’n sefyll allan i chi yn benodol?

 

David Kerry: Roedd gwraig oedrannus wedi cael hysbysiad torri rheolau parcio. Nid oedd hi wedi arddangos bathodyn parcio, a oedd ei angen ar gyfer parcio yno. Ac ar ôl i’r alwad gychwyn, fe wnaeth hi’n gwbl glir i mi ei bod hi wedi bod yn colli cwsg ac roedd pryder proses y llys wirioneddol yn rhoi pwysau arni ac yn rhoi’r pwysau ychwanegol hwnnw arni. Wrth i’r cyfryngu fynd rhagddo, roeddwn i’n tawelu ei meddwl, wyddoch chi, gan roi’r cyfle iddi archwilio datrysiad heb effeithio ar yr achos hwnnw. Dyna oedd y peth allweddol, heb yr elfen ragfarn ohono, y byddai’r achos wedi mynd yn ei flaen i’r llys heb i hyn ddylanwadu arno. Roedd gallu archwilio hynny ac archwilio’r opsiwn hwnnw’n rhydd wedi ei helpu i ddod o hyd i ateb.

Ac roedd hi’n hynod ddiolchgar. Ar y diwedd, roeddech chi’n teimlo bod y rhyddhad hwnnw ganddyn nhw, bod y pwysau wedi’i godi allan o’u bywydau bob dydd. Ac nid oedd yn swm enfawr o arian, nid oedd yn swm mawr o arian o ystyried pethau. Ond i rywun a oedd ar incwm cyfyngedig, fe allech chi wir deimlo eu bod yn gallu archwilio dull talu a oedd yn gweithio gyda’u hincwm a’u bod yn gallu archwilio hynny’n rhydd, ac roedden nhw’n rheoli hynny yn hytrach na’i fod yn cael ei orfodi arnyn nhw ar ryw bwynt, wyddoch chi, os canfuwyd eu bod ar fai yn hytrach na chael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw dalu rhywfaint o arian i rywun, roedden nhw’n gallu ei archwilio ar eu telerau nhw. Felly dyna oedd un a oedd yn wirioneddol ystyrlon i mi.

Un arall oedd gen i oedd rhieni’r naill ochr, cleient a diffynnydd, sef mam a thad, ac roedd y cyfan mewn perthynas ag arian i’w plentyn fynd ar drip ysgol. Ac yn yr achos hwn roedd y ddau yn eithaf emosiynol.

Roedd y ddau eisiau’r gorau i’w plentyn. Yn anffodus, roedd eu perthynas wedi chwalu, ond ni ddylai fod yn effeithio ar y peth oedd ganddyn nhw ar y cyd, sef y plentyn, dyna oedd y peth allweddol yn y cyfryngu hwn.

 

Aaron Wilson: Diolch am hynny, David. Mae mor dda clywed am achosion lle mae cyfryngu wedi helpu pobl i ddod o hyd i’r ateb heb fynd i’r llys.

Felly David, fel rhywun sydd wedi defnyddio’r Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain, a gaf i ddod â chi i mewn yma? A allwch ddweud ychydig wrtha i am eich profiad o ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain a beth oedd eich sefyllfa ar yr adeg y gwnaethoch chi ei ddefnyddio?

 

David Franks: Yn sicr, yn gryno. Yn y bôn, rhedais allan o opsiynau wrth hawlio ad-daliad gan gwmni a oedd wedi colli parsel yr oeddwn wedi ei yswirio, diolch byth. Ac un o'r pethau yr wyf am siarad amdano yw bod y twll du erchyll hwn ar hyn o bryd, lle mae cysylltu â chwmnïau drwy wefannau yn eithaf anodd. Rydych chi’n cael bot, ac yn yr achos penodol hwn, oherwydd fy mod wedi ei gwestiynu, roedd gennyf gyfeirnod. Gyda’r cyfeirnod, os byddwch chi’n dyfynnu hwnnw, byddan nhw’n dweud wrthych fod ymchwiliad yn mynd rhagddo ac i roi’r ffôn i lawr. Os nad yw’r cyfeirnod gennych chi, ni allwch fynd drwyddo o gwbl.

Felly dyna’r rheswm a’r amgylchiad wnaeth fy ngorfodi i chwilio am ad-daliad mewn man arall heblaw’r cwmni.

 

Aaron Wilson: Iawn, a heb enwi’r cwmni na dim byd felly, wnewch chi amlinellu beth oedd y mater a wnaeth eich gorfodi i ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain?

 

David Franks: Gwnaf. Rhan o fy ngyrfa yw ffotograffiaeth, ac fe wnes i archebu offer ffotograffig a gyrhaeddodd, ond nid oedd yn gydnaws â fy system weithredu. Felly ffoniais y gwerthwr a chytunodd i roi fy arian yn ôl i mi unwaith y byddai’n cael ei anfon atyn nhw. Felly diolch byth fy mod i wedi bod digon doeth i’w yswirio gyda’r cwmni oedd yn trefnu’r cludiant.

Ond fe gollon nhw’r offer ac fe wnaethon nhw gyfaddef eu bod wedi ei golli. Mae’n wir yn fater o geisio darganfod sut i fynd ati i hawlio fy arian yn ôl.

 

Aaron Wilson: Ac a allech chi siarad â ni drwy sut oedd y broses i chi, ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth cyfryngu?

 

David Franks: Gallaf. Roedd y broses yn gadarnhaol iawn. Gan fy mod i wedi ystyried yr holl lwybrau a oedd ar gael i mi, fe wnes i ddefnyddio Google a dod o hyd i’r gwasanaeth hawliadau bychain a chysylltu â nhw. O fewn wythnos, cefais alwad ffôn yn ôl gan un o’r cyfryngwyr, a oedd yn niwtral iawn yn broffesiynol pan oeddwn yn disgrifio’r achos, sydd fel y dylai fod. Fe wnaethon nhw gytuno fod achos i’w ateb. Ac o fewn, rwy’n meddwl, 3 neu 4 awr, cefais gynnig yn ôl gan y cwmni cludo, a oedd yn isel, ac fe wnes i ei wrthod.

Yna aeth y cyfryngwr yn ôl a chael cynnig arall gan y cwmni hwn ac fe wnes i ei dderbyn ac roeddwn yn hapus.

 

Aaron Wilson: Felly mae’n swnio fel eich bod wedi cael profiad eithaf cadarnhaol gyda’r gwasanaeth. Rwy’n gwybod eich bod wedi cyffwrdd â hyn ychydig yn y fan yna, ond beth oedd eich barn gyffredinol am y gwasanaeth ac yna’r cyflymder yr oedd yn gweithio arno?

 

David Kerry: Wel, i fod yn onest gyda chi, roeddwn i wedi synnu braidd. Maddeuwch i mi, ond, wyddoch chi, rydych chi’n meddwl bod llywodraeth leol, sefydliadau’r llywodraeth, yn mynd i gymryd tua mis cyn i neb sylwi hyd yn oed. Ond o fewn yr wythnos cafodd ei gwblhau a’i sortio.

 

Aaron Wilson: Felly rwy’n deall bod gennych chi ychydig o bryderon yn flaenorol y gallai fod yn rhaid i chi fynd i’r llys ac wynebu corfforaeth fawr wyneb yn wyneb, sut oeddech chi’n teimlo pan wnaethoch chi sylweddoli na fyddai’n rhaid i chi fynd i’r llys ac y gallech chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?

 

David Franks: Wedi cael rhyddhad eithriadol. Mae’n debyg oherwydd nad oeddwn i wedi defnyddio’r gwasanaeth o’r blaen, roedd y cyfan braidd yn anhysbys. Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor effeithiol fyddai’r gwasanaeth.

 

Aaron Wilson: Ac fel rhywun sydd wedi mynd drwy’r gwasanaeth, beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun arall sy’n edrych ar hyn fel ffordd o ddatrys anghydfod.

 

David Franks: Byddwn yn dweud wrthyn nhw i ddefnyddio’r gwasanaeth oherwydd mai ychydig iawn o fiwrocratiaeth sydd, ychydig iawn o oedi, ymateb hynod brydlon. Ac yn fy achos penodol i, canlyniad boddhaol. Y cyfan y byddwn i’n ei ddweud yw hoffwn pe bawn i’n gwybod am hyn o’r blaen oherwydd treuliais fisoedd, yn llythrennol fisoedd, yn ceisio mynd ar drywydd hyn heb godi’r bar i gyfryngu, hawliadau bychain, a’r gweddill i gyd. Ac roedd yn teimlo fel Dafydd yn erbyn Goliath. Roedd yn teimlo bod ganddyn nhw ddegau o gyfreithwyr ar gael iddyn nhw.

Dim ond un person bach ydw i, ffotograffydd llawrydd. Ac felly, oedd, roedd yn teimlo’n frawychus nes i mi ddod o hyd i’r gwasanaeth cyfryngu.

 

Aaron Wilson: Felly bu newid diweddar yn y Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain, sy’n golygu bod mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn gallu datrys eu hanghydfod trwy fynychu apwyntiad ac felly mae Kim Wager yma gyda mi nawr, sy’n Bennaeth Datrys Anghydfodau. Kim allwch chi ddweud wrthym beth sy'n newydd gyda'r gwasanaeth?

 

Kim Wager: Gallaf. Mae cyfryngu bellach wedi dod yn rhan ofynnol o’r daith. Ar gyfer hawliadau arian o dan £10,000. Bellach mae’n ofynnol i tua 70% o’r holl hawliadau arian o dan £10,000 i fynychu apwyntiad cyfryngu awr o hyd gyda’r Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain. Cyn hynny, roedd yn cael ei gynnig ar sail wirfoddol. Gallai partïon, hawlwyr a diffynyddion ddewis mynd i gyfryngu os oedden nhw’n dymuno, ond nid oedd yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny.

Ac roedd y gyfradd llwyddiant yn dda iawn. Roedd dros hanner yr achosion wedi’u datrys yn ystod cyfryngu pan ddaeth y partïon o hyd i rywbeth, datrysiad a weithiodd i’r ddau ohonyn nhw. Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu nad oedd llawer o ddealltwriaeth mewn gwirionedd o’r broses gyfryngu na’r manteision a allai ddod yn ei sgil, ac felly fe benderfynon ni ei gwneud yn rhan ofynnol o daith yr ymgyfreitha felly pan gyflwynir hawliad i’r llys, pan fydd achos cyfreithiol wedi cychwyn ar gyfer hawliad arian o lai na £10,000, bydd yn ofynnol i bartïon fynychu’r sesiwn gyfryngu. Ni fydd yn ofynnol iddyn nhw ei ddatrys, i ddod i setliad, ond bydd gofyn iddyn nhw fynychu a cheisio ei ddatrys os gallan nhw

 

Aaron Wilson: Er mwyn ei gwneud yn glir, beth yw’r broses os na allan nhw ei datrys?

 

Kim Wager: Wel. Hynny yw, os na chaiff yr anghydfod ei ddatrys trwy gyfryngu, bydd yn mynd ymlaen yn awtomatig i wrandawiad gerbron barnwr am benderfyniad barnwrol a bydd hynny’n dod â’r anghydfod i ben.

 

Aaron Wilson: Akeela Amijee, rydych chi’n rheolwr cyfryngu yma yn GLlTEF, ac mae’ch tîm yn rheoli chynnydd mewn apwyntiadau cyfryngu. Sut maen nhw’n mwynhau’r gwaith yn gyntaf?

 

Akeela Amijee: Ie, Aaron. Felly fel y gwyddoch chi, mae cyfryngu yn wasanaeth gwych ac mae ei wneud yn gam allweddol yn hynod gyffrous a chadarnhaol. Rydyn ni’n hollol barod. Yr hyn yr ydym ni wedi’i wneud i baratoi yw gwaith recriwtio torfol ar gyfer cyfryngwyr.

Rydyn ni wedi gwella ein system archebu fewnol, ac rydyn ni wedi adolygu ein harferion gwaith presennol. Yr adborth a gawsom ni gan y cyfryngwyr sydd eisoes wedi dechrau gyda ni yw ei fod yn wasanaeth gwych i weithio iddo. Yr adborth a gawsom ni hefyd yw eu bod nhw bron yn gallu clywed y pwysau’n cael ei godi oddi ar ysgwyddau’r parti, sy’n hynod o foddhaol i’r gwasanaeth a chlywed eu bod wedi gallu cyflawni hynny yn ystod yr apwyntiad ffôn awr o hyd hwnnw yn darparu datrysiad cyflymach, cydsyniol.

Ac rwy’n meddwl bod hynny’n cael ei adlewyrchu gan y partïon yn yr holl adborth a gawn.

 

Aaron Wilson: Felly os na fydd pobl yn setlo eu hachos yn dilyn cyfryngu a bod angen iddyn nhw fynd i’r llys o hyd, a all y broses gyfryngu fod yn ddefnyddiol o hyd?

 

Akeela Amijee: Gallai, yn bendant. Felly er nad yw apwyntiad cyfryngu yn setlo, mae’n dechrau’r sgwrs, y mae’n bosib eu bod yn ofn ei chael ac yn eithaf aml cyn iddo gyrraedd gwrandawiad llys, maen nhw’n setlo. Ac rydyn ni’n cael adborth yn dweud, wyddoch chi, er ein bod wedi mynychu’r apwyntiad cyfryngu ac na wnaethon ni ddod i setliad heddiw, gallan nhw gadarnhau eu bod wedi gallu parhau â’r sgwrs ac, wedi rhoi adborth i ni eu bod wedi dod i gytundeb, sy'n wych.

 

Aaron Wilson: Diolch, Akeela, a diolch i fy holl westeion am ymuno â mi heddiw. Os hoffech chi gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o apwyntiad cyfryngu, gallwch wylio ein fideo trwy chwilio am “beth yw cyfryngu Hawliadau Bychain” ar YouTube. Gallwch hefyd ddarllen ein blog am y gwasanaeth drwy fynd i insidehmcts.blog.gov.uk a chwilio am “hawliadau bychain”.

Diolch yn fawr am wrando ac edrychwn ymlaen at siarad â chi yn y bennod nesaf yn fuan.