https://insidehmcts.blog.gov.uk/inside-the-courtroom-inspiring-young-minds-through-mock-trials-podcast-transcript/

Inside the Courtroom: Inspiring young minds through mock trials- podcast transcript

[English] - [Cymraeg]

Aaron Wilson:

Hello and welcome to Inside HMCTS podcast — the show that takes you behind the scenes of the courts and tribunals service. 

In this episode, we’re stepping inside our courtrooms with Young Citizens, a national charity helping young people experience and understand the justice system first-hand through active learning experiences like mock trials. 

We’ll hear from the people making it happen, the volunteers who give their time, and the students whose lives are shaped by these unique events. 

I'm delighted to say I'm joined by Josh Shipp from HMCTS and Akasa Pradham from Young Citizens.

Josh, let’s start with you. For people who don’t know, can you explain your role at HMCTS and how it connects to this partnership please? 

Josh Shipp:

So my name is, Josh and I am Head of Operational Support at HMCTS. My role is a national role. I lead a team that is principally responsible for supporting the delivery of frontline operations. So we are the first point of call when something goes wrong or when something novel or different occurs. 

We also play a part in the wider HMCTS approach to social mobility and to providing opportunities to access justice in a way that is both educational but also informative for younger people or more vulnerable users of our services.

Aaron Wilson:

And am I right in thinking part of that is about supporting projects like the Magistrates’ Mock Trial Scheme. 

Josh Shipp:

One of the additional things I'm responsible for is the grant that we award to Young Citizens to deliver a program of mock trials for young people, specifically called the Magistrates Mock Trial Scheme. 

Aaron Wilson:

And this isn’t something new — you’ve been working with Young Citizens for a long time. How did it all begin? 

Josh Shipp:

So HMCTS and Young Citizens or the Citizenship Foundation as it's known for quite some time, have worked together since prior to HMCTS being His Majesty's Courts and Tribunal Service. And when they first started to deliver their programs and their, their projects, roughly mid 2010's, HMCTS started to deliver some government grants to charities to provide mock trials, and the opportunity to come into a court and tribunal service.

And Young Citizens have received that funding for well over a decade. Now that funding is regularly reviewed. And it includes some cash to provide for capital and resource costs for Young Citizens. So, that supports the sort of the creation of material and cases for children to use.

HMCTS also provides free use of our buildings and volunteer staff and security to enable these mock trials and the various competitions to take place within our buildings.  

Aaron Wilson:

Akasa, you’re at the heart of delivering these events. What’s the mission behind Young Citizens, and how do mock trials fit into it? 

Akasa Pradham:

Yeah. So our mission is essentially about empowering children and young people to become active and informed citizens. We do this in a variety of ways. But what we essentially believe, and it's the most effective way to do this, is by giving young people access to immersive civic experiences. So we believe citizenship isn't just a subject that you get taught in a classroom. 

And fundamentally, when we say citizenship education, it's anything that builds legal literacy or public confidence, in institutions like courts, and our democracy and, Parliament as well.

Aaron Wilson:

And these trials have been running for a long time, haven’t they? 

Akasa Pradham:

Yeah. So mock trials is a really, exciting program. It is essentially one of our longest, running active learning experiences that we've been running mock trials since 1991. And it might help to kind of situate us as a charity and how we started as well. So one of our founders, Lord Andrew Phillips, he was a solicitor back then, and he kind of went around in his community and realised that young people didn't really have accessible materials teaching them about the rule of law and the law and how it applies to them. 

So he used to just give kind of talks in his local schools to kind of, let young people inform young people about the laws that kind of apply to them, but also the institutions that that part off. And they helped shape as well. So mock trials can kind of be understood from that kind of seed idea of, you know, getting, taking this knowledge, making it accessible and putting it in front of young people.

Aaron Wilson:

When we say “mock trial”, it’s not pretend in the sense of a classroom play. This happens in real courtrooms, with real procedures — just like it did for Annabel in Croydon. 

Annabel - Student experience from Croydon:

"I found being a legal advisor very fun because although you need to have a lot of practice, the practice is 100% worth it and when you’re up there and you’re understanding what you’re saying and feeling what you’re doing it feels really good.  

I did feel really nervous especially when you’re about to do it but when you’re doing it and in the flow you forget about the nerves and you’re just enjoying that you’re there and that you have this opportunity.” 

Aaron Wilson:

Akasa, these events clearly leave a mark. How do they help change the way young people see the justice system? 

Akasa Pradham: 

Yeah, that's a really important point. And actually, I think for us, you know, for us, public legal education is everyone's responsibility. You know, anyone who has, some influence or can impart some knowledge onto young people. I think public legal education is one of the key tenants that should be kind of, shared as part of, entitlement for all young people, right? 

Because you are, as you mentioned, going to have an interaction with the law or the justice system, even if you, are not, you know, committing a crime. I think there's sometimes lots of misconceptions as well. You know, most young people will interact with the law much earlier in the sense of maybe, a housing dispute, or a, you know, they might have to sign a tenancy agreement at some point in their lives. 

They're not necessarily connecting the dots. That's a legal thing that I'm doing. That's a legal action. 

And yet we find actually many young people lack that basic understanding of, of the justice system and the Constitution. So, and that is for us, you know, a real problem because without that foundational knowledge that basic kind of knowledge and confidence to be able to navigate the legal system, they might have a negative view of it, but actually more what we find is they might not have a view at all. 

Aaron Wilson:

Of course, the best way to understand the impact is to hear from the young people themselves. Here’s Benjamin, who took on the role of the defendant. 

Benjamin - Student experience from Croydon:

"It’s probably the most stressful thing I’ve ever done, but it’s boosted my confidence a lot and honestly just seeing people trying to defend me makes the feel a lot better about myself." 

Aaron Wilson:

Akasa, that’s a big confidence boost. What is it about being in a courtroom that makes such a difference compared to learning about justice in a classroom? 

Akasa Pradham: 

Yeah, I mean, I think that immersive element of it, you know, not only is it the thing that students enjoy the most and is the most memorable, but it's also the most effective, you know, how do you get young people to understand really abstract concepts about justice and the rule of law? Actually, there's a body of research that suggests that actually getting them to do it, you know, actually be in the space, understand how it works, interact with others through it. 

Those are some of the most effective ways to kind of embed that learning early on as well. So one of the, kind of really special, unique things about, the mock trials is, is how close our link to the court system is, and not just that, that not only kind of allows them to see these institutions in action, but see, you know, you can experience the justice system from the inside. 

And we are so lucky and so fortunate to because we've been running, since, the 90s. We have such, strong links with both the legal system. So, you know, every year, thousands of, barristers, judges, magistrates actively put time and support in, to make this happen, including kind of HMCTS staff who make it possible on the day. 

But it's those interactions on the day itself actually speaking to a legal advisor. And, you know, you're playing the role of a legal advisor. You've prepped for six weeks, you know, learning what a legal advisor does and how they might interact with the case. And then you on the day might actually get to speak to a legal advisor, or you might get to speak to a magistrate and hear from their perspective how, it works for them.” 

Aaron Wilson:

Judging by the feedback that we had from the event at Croydon it sounds like it was a very enjoyable experience. Here’s Lord Ponsonby, who volunteered his time to take part as a lead magistrate in the mock trials.  

Lord Ponsonby:  

I think the things I've always enjoyed the part in the most is when you see, on the face of the young people, the sort of light bulb moment where they understand that the way you say something really has an impact and it can influence the decision of a court. And I think when they find that exciting and that you can I can pick up on, I think anyone can pick up on. 

Aaron Wilson:

For some, it could be the start of a new legal ambition. Here’s Adele, who was one of the winners on the day. 

Adele - Student experience from Croydon:

It just feels so amazing to win, as we’ve put in so much work and effort and it’s so incredible to see it all pay off. It’s such a unique experience, we’ve never done anything like it 

Aaron Wilson:

Josh, hearing that, it’s clear these days mean a lot to the students. But they also seem to mean a lot to our own people. Why do so many HMCTS colleagues volunteer their time for this? 

Josh Shipp:

I think it's a really rewarding opportunity for people Aaron. I have done my role now and be HMCTS for quite a few years. And often we know that when people come to our buildings in is in a negative scenario, you know, people often interact with HMCTS at some of the most difficult times in their lives. It is a really nice opportunity for court clerks, operations managers, sort of ushers to do something that is really positive and a real change.

And it's also a really nice opportunity for people that are in roles that are often overlooked to shout and to say, you know, look at what we do to” 

Aaron Wilson:

Josh, before we wrap up, what’s next for this partnership? 

Josh Shipp:

And we are really committed to continue to offer opportunities to young people to come and experience HMCTS. Over the last few years, that offer has expanded. So in, in some earlier iterations of this podcast, I know people have talked about the open days that we now offer in some places. And I've also talked about some of the anti knife crime events that we've delivered and the delivery of grants, in whatever form we do that is continually reviewed. 

That is government best practice that sort of set out in the things that the Civil service has to do to deliver grants. But that aside, doesn't change the approach HMCTS wants to take and which we continually review with ministers in the senior judiciary to offer up opportunities to come and learn about the Courts & Tribunal Service of the wider, the wider justice system. 

And we're really committed to that. So, in addition to offering more trials to Young Citizens, continuing to offer the use of our buildings to charities for these kinds of events elsewhere, we are as I said, exploring opportunities to deliver legal finances. We have delivered those to some people who already had roles in HMCTS. We are weighing up whether to do that via external recruitment too. We have a new schools outreach program where people who work in the Courts and Tribunals Service can go out to their local school can volunteer for an afternoon to deliver, sort of a life skills lesson or interview techniques, etc.. But we are also looking at the national approach to work experience and work shadowing, and that may be law students who go to shadow, a member of the judiciary but also offering people the opportunity to go and shadow a clerk or an usher or witness services, and getting to see the other bits of HMCTS in the wider justice system while still at school, while still considering their opportunities.  

Aaron Wilson:

Well thank you so much to both of my guest for coming on to this episode of Inside HMCTS and thanks as well to the people who gave interviews at the mock trials, glad they had a good time.

Mock trials are more than a competition — they’re a way of building skills, confidence and understanding for young people, and showing that justice is for everyone. 

If you’d like to find out more about the Magistrates’ Mock Trial Scheme or how to get involved, visit www.youngcitizens.org or check the links in the show notes. 

Thanks for listening — and we’ll see you next time for another look inside HMCTS. 

[English] - [Cymraeg]

Y tu mewn i’r Llys: Ysbrydoli meddyliau ifanc trwy dreialon ffug – trawsgrifiad podlediad

Aaron Wilson:

Helo a chroeso i bodlediad Inside HMCTS – y sioe sy’n mynd â chi y tu ôl i lenni’r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd. 

Yn y bennod hon, rydym yn camu i mewn i’n llysoedd gyda Young Citizens, elusen genedlaethol sy’n helpu pobl ifanc gael profiad a deall y system gyfiawnder yn uniongyrchol drwy brofiadau dysgu gweithredol fel treialon ffug. 

Byddwn yn clywed gan y bobl sy’n gwneud iddo ddigwydd, y gwirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser, a’r myfyrwyr â’u bywydau’n cael eu siapio gan y digwyddiadau unigryw hyn. 

Mae’n bleser gennyf ddweud bod Josh Shipp o GLlTEF ac Akasa Pradham o Young Citizens yn ymuno â mi. 

Josh, gadewch i ni ddechrau gyda chi. I bobl sydd ddim yn gwybod, allwch chi egluro eich rôl yn GLlTEF, a sut mae’n cysylltu â’r bartneriaeth hon? 

Josh Shipp:

Felly, fy enw i yw Josh ac rwy’n Bennaeth Cefnogaeth Weithredol yn GLlTEF. Mae fy rôl yn un genedlaethol. Rwy’n arwain tîm sy’n bennaf gyfrifol am gefnogi darpariaeth gweithrediadau rheng flaen. Felly, ni yw’r pwynt cyswllt cyntaf pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le neu os bydd rhywbeth newydd neu wahanol yn digwydd.  

Rydym hefyd yn chwarae rhan yn agwedd y GLlTEF ehangach tuag at symudedd cymdeithasol a rhoi cyfleoedd i gael mynediad i gyfiawnder mewn ffordd sy’n addysgiadol ond hefyd yn llawn gwybodaeth i bobl ifanc neu ddefnyddwyr ein gwasanaethau sy’n fwy agored i niwed.

Aaron Wilson:

Ac ydw i’n iawn yn meddwl bod rhan o hynny ynglŷn â chefnogi prosiectau fel Cynllun Treial Ffug yr Ynadon. 

Josh Shipp:

Un o’r pethau ychwanegol rwy’n gyfrifol amdano yw’r grant a gyflwynir gennym i Young Citizens i ddarparu rhaglen o dreialon ffug ar gyfer pobl ifanc, a elwir yn benodol yn Gynllun Treial Ffug yr Ynadon. 

Aaron Wilson:

Ac nid yw hyn yn rhywbeth newydd – rydych wedi bod yn gweithio gyda Young Citizens ers amser maith. Sut wnaeth y cyfan ddechrau? 

Josh Shipp:

Felly mae GLlTEF a Young Citizens neu’r Citizenship Foundation fel y gelwir ers peth amser, wedi gweithio gyda’i gilydd ers cyn i GLlTEF fod yn Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi. A phan wnaethan nhw ddechrau darparu eu rhaglenni a’u prosiectau, tua canol 2010au, dechreuodd GLlTEF ddarparu grantiau’r llywodraeth i elusennau i ddarparu treialon ffug a’r cyfle i ddod i wasanaeth llys a thribiwnlys.

Ac mae Young Citizens wedi derbyn y cyllid hwnnw ers ymhell dros ddegawd.  Mae’r cyllid hwnnw yn cael ei adolygu’n rheolaidd.  Ac mae’n cynnwys arian i ddarparu ar gyfer costau cyfalaf ac adnoddau i Young Citizens. Felly, mae hynny’n cefnogi’r math o greu deunydd ac achosion i blant eu defnyddio.

Mae GLlTEF hefyd yn darparu defnydd rhad ac am ddim o’n hadeiladau a staff gwirfoddol a diogelwch i alluogi’r treialon ffug hyn a’r amrywiol gystadlaethau gael eu cynnal yn ein hadeiladau.  

Aaron Wilson:

Akasa, rydych chi’n ganolog i ddarparu’r digwyddiadau hyn. Beth yw’r bwriad y tu ôl i Young Citizens, a sut mae treialon ffug yn ffitio i mewn iddo? 

Akasa Pradham:

Ia. Felly, mae ein bwriad yn ei hanfod ynglŷn â grymuso plant a phobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithgar a gwybodus. Rydym yn gwneud hyn mewn amrywiol ffyrdd.  Ond yr hyn rydym yn gredu yn ei hanfod, ac mae’r ffordd mwyaf effeithiol o wneud hyn, yw drwy roi mynediad i bobl ifanc i brofiadau sifil trochol. Felly, rydym yn credu nad yw dinasyddiaeth yn bwnc a addysgir yn yr ystafell ddosbarth yn unig. 

Ac yn sylfaenol, pan fyddwn yn dweud addysg dinasyddiaeth, mae’n unrhyw beth sy’n datblygu llythrennedd cyfreithiol neu hyder y cyhoedd, mewn sefydliadau fel llysoedd, a’n democratiaeth a’r Senedd hefyd. 

Aaron Wilson:

Ac mae’r treialon hyn wedi bod yn rhedeg ers amser maith yndo? 

Akasa Pradham:

Do. Felly, mae treialon ffug yn rhaglen gyffrous iawn.  Mae’n un o’n profiadau dysgu gweithredol sydd wedi bod yn rhedeg hiraf rydym wedi bod yn cynnal treialon ffug ers 1991. A gall helpu i’n gosod fel elusen a sut y gwnaethom ddechrau hefyd.  Felly, un o’n sylfaenwyr, yr Arglwydd Andrew Phillips, roedd yn gyfreithiwr bryd hynny, ac roedd yn mynd o gwmpas yn ei gymuned a sylweddolodd nad oedd gan bobl ifanc ddeunydd hygyrch i’w haddysgu am reolaeth y gyfraith a’r gyfraith a sut mae’n berthnasol iddyn nhw.  

Felly, roedd yn rhoi sgyrsiau yn ei ysgolion lleol, i adael i bobl ifanc, i hysbysu pobl ifanc am y cyfreithiau a’r math sy’n berthnasol iddyn nhw, ond hefyd y sefydliadau. Ac roedden nhw’n helpu i’w siapio hefyd. Felly, gall treialon ffug gael eu deall o’r syniad hedyn, o, de chi’n gwybod, cael, mynd a’r wybodaeth hon, ei gwneud yn hygyrch a’i rhoi gerbron pobl ifanc.

Aaron Wilson:

Pan fyddwn yn dweud “treial ffug”, nid yw’n ffugio fel mewn drama ystafell ddosbarth. Mae hyn yn digwydd mewn llysoedd go iawn, gyda gweithdrefnau go iawn - fel y digwyddodd i Annabel yn Croydon. 

Annabel - Profiad myfyriwr o Croydon:

“Roedd bod yn gynghorydd cyfreithiol yn lawer o hwyl er eich bod angen llawer o ymarfer, mae’r ymarfer werth o 100% a phan ydych i fyny yno ac yn deall beth ydych yn ei ddweud ac yn teimlo beth ydych yn ei wneud mae’n teimlo’n dda iawn.   

Roeddwn yn teimlo’n nerfus iawn pan oeddwn ar fin ei wneud ond pan ydych yn ei wneud ac yn canolbwyntio rydych yn anghofio am y nerfau ac rydych yn mwynhau bod yno a chael y cyfle hwn.” 

Aaron Wilson:

Akasa, mae’r digwyddiadau hyn yn amlwg yn gadael eu marc. Sut maent yn helpu i newid y ffordd mae pobl ifanc yn gweld y system gyfiawnder? 

Akasa Pradham: 

Ia, mae hynny’n bwynt pwysig iawn.  Ac mewn gwirionedd, dw i’n meddwl i ni, de chi’n gwybod, i ni mae addysg gyfreithiol gyhoeddus yn gyfrifoldeb ar bawb. De chi’n gwybod, unrhyw un sydd â rhywfaint o ddylanwad neu sy’n gallu rhoi rhywfaint o wybodaeth i bobl ifanc. Dw i’n meddwl bod addysg gyfreithiol gyhoeddus yn un o’r tenantiaid allweddol y dylid rhannu fel rhan o, hawl pobl ifanc, iawn? 

Oherwydd, fel wnaethoch chi sôn, rydych yn mynd i ryngweithio gyda’r system gyfiawnder neu’r gyfraith, hyd yn oed os nad ydych, de chi’n gwybod, wedi cyflawni trosedd. Dw i’n meddwl bod yna lawer o gamsyniadau weithiau hefyd. De chi’n gwybod, bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn rhyngweithio gyda’r gyfraith yn llawer cynt yn yr ystyr, efallai  anghytundeb ynghylch tai, neu, de chi’n gwybod, efallai bod yn rhaid iddynt lofnodi cytundeb tenantiaeth ar ryw bwynt yn eu bywydau.  

Nid ydynt yn angenrheidiol yn deall y sefyllfa. Mae hynny’n rhywbeth cyfreithiol ydw i’n ei wneud. Mae hynny’n gam cyfreithiol. 

Ac eto, de ni’n gweld bod gan lawer o bobl ifanc ddiffyg dealltwriaeth sylfaenol o’r system gyfiawnder a’r Cyfansoddiad.  Felly, ac mae hynny i ni, de chi’n gwybod, yn broblem wirioneddol oherwydd heb y wybodaeth sylfaenol honno, y wybodaeth sylfaenol a’r hyder i allu deall y system gyfreithiol, efallai y bydd ganddynt farn negyddol, ond mewn gwirionedd, yr hyn rydym yn ei weld yw efallai nad oes ganddynt farn o gwbl.  

Aaron Wilson:

Wrth gwrs, y ffordd orau i ddeall yr effaith yw i glywed gan y bobl ifanc eu hunain. Dyma Benjamin, wnaeth dderbyn rôl y diffynnydd.  

Benjamin - Profiad myfyriwr o Croydon:

“Mae’n siŵr mai dyma’r peth llawn straen mwyaf i mi ei wneud erioed, ond mae wedi rhoi llawer o hwb i fy hyder ac mewn gwirionedd mae gweld pobl yn ceisio fy amddiffyn yn gwneud i mi deimlo’n llawer gwell am fy hun.” 

Aaron Wilson:

Akasa, mae hynny’n hwb mawr i hyder.  Sut mae bod yn y llys yn gwneud cymaint o wahaniaeth o’i gymharu â dysgu am gyfiawnder mewn ystafell ddosbarth? 

Akasa Pradham: 

Ia, dw i’n meddwl mai’r elfen drochi, de chi’n gwybod, nid yn unig y peth mae myfyrwyr yn ei fwynhau fwyaf a’r peth mwyaf cofiadwy, ond mae’r peth mwyaf effeithiol hefyd, de chi’n gwybod, sut ydych yn cael pobl ifanc i ddeall cysyniadau haniaethol am gyfiawnder a rheolaeth y gyfraith?  Mewn gwirionedd, mae yna ymchwil sy’n awgrymu bod eu cael i’w wneud, de chi’n gwybod, bod yn y lle, deall sut mae’n gweithio, rhyngweithio gydag eraill drwyddo. 

Dyna rai o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i ymgorffori’r dysgu yn gynnar hefyd.   Felly, un o’r pethau arbennig, unigryw iawn am y treialon ffug yw, pa mor agos yw eich cyswllt â system y llys, ac nid yn unig hynny, sy’n caniatáu iddynt weld y sefydliadau hyn ar waith, ond gweld, de chi’n gwybod, gallwch gael profiad o’r system gyfiawnder o’r tu mewn.  

Ac rydym mor lwcus ac mor ffodus oherwydd bod y system yn rhedeg ers y 90au. Mae gennym gysylltiadau mor gryf gyda’r ddwy system gyfreithiol. Felly, de chi’n gwybod, bob blwyddyn, mae miloedd o fargyfreithwyr, barnwyr, ynadon yn rhoi amser a chefnogaeth i wneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys  staff GLlTEF sy’n ei wneud yn bosibl ar y diwrnod.  

Ond y rhyngweithio ar y diwrnod ei hun, siarad gyda chynghorydd cyfreithiol.  A de chi’n gwybod, de chi’n chwarae rôl cynghorydd cyfreithiol.  Rydych wedi paratoi ers chwech wythnos, de chi’n gwybod, dysgu beth mae cynghorydd cyfreithiol yn ei wneud a sut maent yn rhyngweithio gyda’r achos. Ac yna rydych chi ar y diwrnod efallai’n cael siarad gyda chynghorydd cyfreithiol, neu efallai y cewch siarad gydag ynad a chlywed eu safbwynt sut mae’n gweithio iddyn nhw.”  

Aaron Wilson:

Yn ôl yr adborth rydym wedi’i dderbyn o’r digwyddiad yn Croydon, mae’n ymddangos ei fod yn brofiad pleserus iawn. Dyma’r Arglwydd Ponsonby, wnaeth roi ei amser yn wirfoddol i gymryd rhan fel ynad arweiniol yn y treialon ffug.  

Yr Arglwydd Ponsonby:   

Dw i’n meddwl mai’r pethau dwi di fwynhau fwyaf yw pan rydych yn gweld, ar wyneb y bobl ifanc, y math o ddealltwriaeth ble maent yn deall bod y ffordd yr ydych yn dweud rhywbeth yn cael effaith a gall ddylanwadu ar benderfyniad llys.   A dw i’n meddwl pan maent yn gweld hynny’n gyffrous a gallwch, gallaf ei ddeall, dw i’n meddwl y gall unrhyw un ei ddeall. 

Aaron Wilson:

I rai, gall fod yn ddechrau uchelgais cyfreithiol newydd.   Dyma Adele, un o’r enillwyr ar y diwrnod.  

Adele - Profiad myfyriwr o Croydon:

Mae’n teimlo mor anhygoel i ennill, gan ein bod wedi gwneud cymaint o waith ac ymdrech ac mae mor anhygoel ei weld i gyd yn llwyddo.  Mae’n brofiad mor unigryw, de ni erioed wedi gwneud unrhyw beth tebyg  

Aaron Wilson:

Josh, clywed hynny, mae’n amlwg bod y diwrnodau hyn yn golygu llawer i’r myfyrwyr.  Ond maent hefyd yn ymddangos yn golygu llawer i’n bobl ein hunain hefyd.  Pam bod cymaint o gydweithwyr GLlTEF yn rhoi eu hamser yn wirfoddol ar gyfer hyn?  

Josh Shipp:

Dw i’n meddwl ei fod yn gyfle sy’n rhoi boddhad mawr i bobl Aaron. Dw i wedi gwneud fy rôl nawr a gyda GLlTEF ers cryn dipyn o flynyddoedd. Ac yn aml, de ni’n gwybod pan mae pobl yn dod i’n hadeiladau mae mewn sefyllfa negyddol, de chi’n gwybod, mae pobl yn aml yn rhyngweithio gyda GLlTEF ar rai o’r adegau mwyaf anodd yn eu bywydau.    Mae’n gyfle braf iawn i glercod y llys, rheolwyr gweithrediadau, tywyswyr i wneud rhywbeth sy’n gadarnhaol iawn ac yn newid go iawn.

Ac mae hefyd yn gyfle braf iawn i bobl sydd mewn rolau sy’n cael eu hanwybyddu’n aml i weiddi a dweud, de chi’n gwybod, edrychwch beth yden ni’n ei wneud” 

Aaron Wilson:

Josh, cyn i ni orffen, beth nesaf i’r bartneriaeth hon? 

Josh Shipp:

Ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i barhau i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddod a chael profiad GLlTEF. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r cynnig hwnnw wedi ymestyn.  Felly, mewn rhai iteriadau cynharach o’r podleidiad hwn, dw i’n gwybod bod pobl wedi siarad am y dyddiau agored rydym nawr yn eu cynnig mewn rhai mannau.  A dw i hefyd wedi siarad am rai o’r digwyddiadau yn erbyn troseddau cyllyll a darparu grantiau, mewn pa bynnag ffordd yr ydym yn gwneud hynny yn cael ei adolygu’n barhaus.  

Mae hynny’n arfer da’r llywodraeth sy’n cynnwys y pethau sy’n rhaid i’r gwasanaeth Sifil eu gwneud i ddarparu grantiau.  Ond heblaw am hynny, nid yw’n newid y camau mae GLlTEF eisiau eu cymryd ac rydym yn ei adolygu’n barhaus gyda gweinidogion yn yr uwch-farnwriaeth i gynnig cyfleoedd i ddod i ddysgu am y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd o’r system gyfiawnder ehangach.  

Ac rydym wirioneddol wedi ymrwymo i hynny.  Felly, yn ogystal â chynnig mwy o dreialon i Young Citizens, parhau i gynnig y defnydd o’n hadeiladau i elusennau i’r mathau hyn o ddigwyddiadau, de ni, fel y dywedais, yn edrych ar gyfleoedd i ddarparu cyllid cyfreithiol. De ni wedi darparu’r rheini i rai bobl oedd eisoes â rolau o fewn GLlTEF.  De ni’n pwyso a mesur pa un ai i wneud hynny drwy recriwtio allanol hefyd.  Mae gennym raglen estyn allan i ysgolion newydd ble gall pobl sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd fynd allan i’w hysgol leol i wirfoddoli am brynhawn i ddarparu gwers sgiliau bywyd neu dechnegau cyfweld ac ati.  Ond rydym yn edrych ar yr agwedd genedlaethol hefyd ar gyfer profiad gwaith a chysgodi, a gall hynny fod yn fyfyrwyr y gyfraith sy’n mynd i gysgodi aelod o’r farnwriaeth ond hefyd rhoi cyfle i bobl fynd i gysgodi clerc neu dywysydd neu wasanaethau tyst a chael gweld y rhannau eraill o GLlTEF yn y system gyfiawnder ehangach tra’n dal yn yr ysgol, tra’n dal i ystyried eu cyfleoedd.   

Aaron Wilson:

Wel diolch yn fawr iawn i’r ddau westai am fod yn rhan o’r bennod hon o Inside HMCTS a diolch hefyd i’r bobl wnaeth roi cyfweliad yn y treialon ffug, falch eu bod wedi cael amser da.

Mae treialon ffug yn fwy na chystadleuaeth - maent yn ffordd o ddatblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth i bobl ifanc a dangos bod cyfiawnder i bawb.   

Os hoffech wybod mwy am Gynllun Treial Ffug yr Ynadon neu sut i gymryd rhan, ewch i www.youngcitizens.org  neu ewch i’r ddolen yn y nodiadau.  

Diolch am wrando - welwn ni chi’r tro nesaf i gael golwg arall o fewn GLlTEF.