https://insidehmcts.blog.gov.uk/justice-without-barriers-the-northampton-crown-court-story-podcast-transcript/

Justice Without Barriers: The Northampton Crown Court Story - podcast transcript

[English] - [Cymraeg]

Aaron: Welcome to Inside HMCTS, the podcast that takes you behind the scenes of Britain’s courts and tribunals, I’m Aaron.

Sian: And I’m Sian and we’re from the HMCTS Communications team. And in this episode we discuss a case that could have fallen apart, but didn’t, thanks to some extraordinary teamwork.

Aaron: That’s right. We’re going to Northampton Crown Court, that hosted a trial that normally would’ve been heard at the Old Bailey in London. And the reason? The defendant had such complex medical and mobility needs that transporting him just wasn’t possible.

Sian: The court just wasn’t built for it. And yet, thanks to some inspired problem-solving, teamwork, and determination, justice was delivered.

Let’s set the scene. The defendant was accused of murdering a custody officer. In the same incident, he turned the gun on himself, leaving him with severe brain injuries and confined to a wheelchair.

Aaron: Now normally, a case of this seriousness would be heard at the Old Bailey. But transporting the defendant to London, several hours each way, plus the medical support that would be required, would have made a fair trial almost impossible.

Sian: In researching this episode, we spoke to Adrian, the operations manager for Northamptonshire’s courts, and he told us about the first conversation he had, a phone call from a High Court Judge’s clerk, asking if they could host the trial because the defendant had particular mobility needs. At first, he thought, this sounded tricky, but as always, his starting point was: we want to help, we want to make this work.

Aaron: The problem? Northampton Crown Court is a very old building that wasn’t really cut out of this type of trial originally. Seven flights of stairs separate the cells from the courtroom. No lifts. No routes for a wheelchair.

Sian: Nick, the court delivery manager we spoke to put it bluntly: This was an old court that could accommodate people with mobility issues. So, a lot of changes just to get the defendant into the building would need to be made.

Aaron: And then there was the question of dignity. How do you bring in a high-profile defendant securely, without turning it into a spectacle for the media?

Sian: Gaye, who was the clerk for the trial, told us of the importance of protecting the defendant’s wellbeing and dignity, while still making sure the court was safe and justice could be done.

Aaron: The team began brainstorming. Adrian told us how they met with police and healthcare staff, looking at every possible route. In the end, they used what used to be the staff café as an entrance. They cleared it out, risk-assessed it, and installed a temporary lift.

Inside the courtroom, further changes were needed. Nick detailed how they had ramps installed into the dock. This involved taking out seats so the wheelchair could fit. They also had screens and hearing aids so the defendant could follow what was going on, because he also had hearing difficulties.

Sian: And outside the courtroom, adjustments too. Disabled toilets were locked and reserved exclusively for the defendant and were searched daily by security. Separate waiting rooms were set aside, one for the victim’s family, another for the defendant, and even one for members of the media.

Aaron: And then came the trial itself. Because of his condition, the defendant couldn’t sit for long stretches.

Sian: Gaye explained: it was granted that during the prosecution’s case, they’d sit for 30 minutes at a time. But when the defendant gave evidence, it was 20 minutes before a break. And the judge kept to that timetable rigidly.

Aaron: Another challenge was communication. The defendant could barely speak. Instead, he wrote his answers on a whiteboard. Normally, court proceedings are recorded on microphones. But silent handwriting? That couldn’t be captured.

Sian: So, Gaye improvised and set up a tiny webcam on a laptop, just the kind used for staff meetings. She placed it on the table in front of the defendant, pressed record, and every twenty minutes saved the file. That way the court had a visual record of his evidence.

Aaron: We’ve not seen another court that had done anything like this before. But with some creative thinking, they made it work. Simple, low-cost and it preserved the evidence properly for appeal if needed.

Sian: Of course, this wasn’t happening in a vacuum. The victim was a police officer. Emotions were high. Media interest was intense.

Aaron: Nick told us about the high level of interest, family, media, even other officers. At one point they had to open another courtroom just so people could watch on screens what was happening in the main court.

Sian: Security was stepped up. Police from the Met and Northamptonshire forces were stationed throughout the building. Corridors were cleared before the defendant moved anywhere. Ambulances with blacked-out windows brought the defendant in each day.

Aaron: Adrian said it best, how this was a really good example of collaborative working. It couldn’t have been done alone. Police, healthcare, security, facilities, everyone had to be creative and open for it to work.

Sian: And everyone had to know what was going on. They all had crucial jobs, one guard not at the right door could have caused a problem with the gates. It showed how every piece had to fit together.

Aaron: In the end, the trial ran smoothly. The jury heard everything. The families were accommodated. The media got access. And above all, justice was done.

Sian: When the trial finished, it was a massive relief. But as Adrian put it, it felt like exactly what they were there for. Proving that justice can be delivered, even when the circumstances are extreme.

Aaron: This trial could have been delayed, derailed, or deemed impossible. But instead, with creativity and teamwork, justice was served.

Sian: And maybe that’s the lesson here, courts aren’t just bricks and mortar, they’re people. People adapting, improvising, and solving problems so that fairness prevails.

Aaron: That’s it for this episode of Inside HMCTS. Thank you so much for joining us.

Sian: We’ll be back next time with another story from behind the scenes of the justice system.

[English] - [Cymraeg]

Cyfiawnder heb Rwystrau: Stori Llys y Goron Northampton - trawsgrifiad podlediad

Aaron: Croeso i Inside HMCTS, y podlediad sy’n mynd â chi tu ôl i’r llenni yn llysoedd a thribiwnlysoedd Prydain. Aaron ydw i.

Sian: A Siân ydw i, ac rydyn ni’n aelodau o Dîm Cyfathrebiadau GLlTEF. Yn y bennod hon rydym yn trafod achos y byddai wedi chwalu’n llwyr oni bai am waith tîm anhygoel.

Aaron: Ydyn wir. Rydyn ni’n mynd i Lys y Goron Northampton, a wnaeth gynnal treial a fyddai wedi cael ei wrando yn yr Old Bailey yn Llundain fel arfer. A’r rheswm? Roedd gan y diffynnydd anghenion meddygol a symudedd mor gymhleth nid oedd yn bosib ei gludo i Lundain.

Sian: Nid oedd y llys yn addas i’r achos hwn. Ond eto, diolch i waith datrys problemau penigamp, gweithio fel tîm, a phenderfyniad y tîm, llwyddwyd i weinyddu cyfiawnder.

Felly, beth am beintio darlun o’r sefyllfa. Roedd y diffynnydd wedi’i gyhuddo o lofruddio swyddog y ddalfa. Ond yn yr un digwyddiad, bu iddo droi’r gwn ar ei hun, gan adael ei hun gydag anafiadau difrifol i’r ymennydd, ac roedd rhaid iddo fod mewn cadair olwyn.

Aaron: Fel arfer, byddai achos mor ddifrifol â hyn yn cael ei wrando yn yr Old Bailey. Ond byddai cludo’r diffynnydd i Lundain, sy’n daith o sawl awr y ddwy ffordd, a darparu’r holl gymorth meddygol angenrheidiol, wedi golygu bod sicrhau treial deg bron yn amhosib.

Sian: Wrth gynnal ymchwil ar gyfer y bennod hon, bu inni siarad gydag Adrian, rheolwr gweithrediadau llysoedd Northampton. Dywedodd wrthym am y sgwrs gyntaf a gafodd am yr achos, gyda chlerc un o farnwyr yr Uchel Lys, yn gofyn a fyddai modd i Northampton gynnal y treial oherwydd bod gan y diffynnydd anghenion symudedd penodol. Yn gyntaf, meddyliodd, roedd hyn yn swnio’n gymhleth, ond ei bwynt cychwyn oedd: rydw i eisiau helpu, rydyn ni eisiau gwneud i hyn weithio.

Aaron: Y broblem? Mae Llys y Goron Northampton yn adeilad hen iawn ac nid oedd yn addas ar gyfer y math hwn o dreial yn wreiddiol. Mae saith rhes o risiau rhwng y celloedd a’r ystafell llys. Nid oes lifftiau. Nid oes llwybrau i gadeiriau olwyn.

Sian: Meddai Nick, y rheolwr cyflawni bu inni siarad ag ef, yn blwmp ac yn blaen: Roedd hwn yn hen lys nad oedd yn gallu darparu ar gyfer pobl gydag anghenion symudedd. Felly, byddai’n rhaid gwneud llawer o newidiadau i gael y diffynnydd i mewn i’r adeilad.

Aaron: Ac yna roedd rhaid ystyried urddas hefyd. Sut ydych chi’n dod â diffynnydd proffil uchel i mewn yn ddiogel, heb ei droi’n syrcas i’r cyfryngau?

Sian: Dywedodd Gaye, sef clerc y treial, am bwysigrwydd gwarchod lles ac urddas y diffynnydd, ac ar yr un pryd sicrhau bod y llys yn ddiogel a bod modd gweinyddu cyfiawnder.

Aaron: Dechreuodd y tîm feddwl am syniadau. Dywedodd Adrian wrthym eu bod wedi cwrdd â staff yr heddlu a staff gofal iechyd, gan edrych ar bob llwybr posib. Yn y diwedd, penderfynwyd i ddefnyddio’n hen gaffi i staff fel mynedfa i’r diffynnydd. Cliriwyd y gofod, cynhaliwyd asesiad risg a chafodd lifft dros dro ei osod yno.

Yn yr ystafell llys, roedd angen newidiadau pellach. Manylodd Nick am osod rampiau yn y doc. Roedd rhaid tynnu seddi ymaith fel bod digon o le i’r gadair olwyn. Roedd sgriniau a dolenni clyw hefyd, fel bod modd i’r diffynnydd ddilyn yr hyn oedd yn digwydd, gan bod ganddo anawsterau clyw hefyd.

Sian: A thu allan i’r ystafell llys, mwy o addasiadau. Roedd y toiledau i bobl anabl wedi cloi ac ar gael i’r diffynnydd yn unig ac roeddynt yn cael eu chwilio’n ddyddiol gan staff diogelwch. Neilltuwyd ystafelloedd aros ar wahân, un ar gyfer teulu’r dioddefwr, ac un arall ar gyfer y diffynnydd, ac hyd yn oed ystafell aros ar gyfer aelodau’r cyfryngau.

Aaron: Ac yna daeth y treial ei hun. Oherwydd ei gyflwr, nid oedd y diffynnydd yn gallu eistedd am gyfnodau hir.

Sian: Esboniodd Gaye: cytunwyd y byddant yn eistedd am 30 munud ar y tro wrth i’r erlyniad gyflwyno eu hachos. Ond pan roedd y diffynnydd yn rhoi tystiolaeth, caniatawyd 20 munud cyn cymryd seibiant. Ac mi wnaeth y barnwr gadw at yr amserlen honno’n gadarn iawn.

Aaron: Roedd cyfathrebu yn her arall. Roedd y diffynnydd prin yn gallu siarad. Yn hytrach, roedd yn ysgrifennu ei atebion ar fwrdd gwyn. Fel arfer, mae achosion llys yn cael eu recordio gyda meicroffonau, ond nid oedd modd cadw cofnod o beth oedd yn cael ei ysgrifennu.

Sian: Felly, bu i Gaye feddwl ar ei thraed a gosod camera gwe ar liniadur, yn union fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer cyfarfodydd tîm. Bu iddi ei osod ar y bwrdd o flaen y diffynnydd, pwyso record ac roedd yn cadw’r ffeil bob 20 munud. Felly, roedd gan y llys gofnod gweledol o’i dystiolaeth.

Aaron: Nid ydym wedi gweld llys arall yn gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen. Ond trwy feddwl yn greadigol, ddaru nhw lwyddo i wneud pethau weithio. Roedd yn syml, roedd y gost yn isel, ac roedd yn cadw cofnod o’r dystiolaeth ar gyfer apelio os oedd angen.

Sian: Wrth gwrs, roedd hyn ddim yn digwydd mewn gwagle. Swyddog heddlu oedd y dioddefwr. Roedd pawb yn emosiynol iawn. Roedd y sylw gan y cyfryngau yn sylweddol iawn.

Aaron: Soniodd Nick am y lefel uchel o ddiddordeb - teulu, y cyfryngau, hyd yn oed swyddogion heddlu eraill. Ar un pwynt, roedd rhaid agor ystafell llys arall fel bod modd i bobl wylio’r hyn oedd yn digwydd yn y prif ystafell lys ar sgriniau.

Sian: Roedd rhaid cynyddu’r trefniadau diogelwch. Roedd swyddogion o heddluoedd y Met a Swydd Northampton wedi’u lleoli trwy’r adeilad i gyd. Roedd coridorau yn cael eu clirio cyn i’r diffynnydd symud i unrhyw le. Roedd ambiwlans gyda ffenestri tywyll yn dod â’r diffynnydd i mewn bob dydd.

Aaron: Bu i Adrian grynhoi’r achos orau, roedd hon yn enghraifft wych o weithio cydweithredol. Nid oed modd i un person yn unig ei wneud. Roedd rhaid i bawb - yr heddlu, y swyddogion diogelwch, y gweithwyr gofal iechyd, yr adran cyfleusterau - fod yn greadigol ac yn agored i sicrhau ei fod yn gweithio.

Sian: Ac roedd rhaid i bawb wybod beth oedd yn digwydd.  Roedd gan bawb rôl hollbwysig, os nad oedd un swyddog wrth y drws cywir, gallai hynny wedi achosi problemau gyda’r giatiau. Roedd yn dangos sut roedd rhaid i bob darn o’r jig-so fod yn y lle iawn.

Aaron: Yn y diwedd, rhedodd y treial yn esmwyth. Mi glywodd y rheithgor bob dim. Bodlonwyd anghenion y teuluoedd. Cafodd y cyfryngau fynediad. Ac yn bwysicaf oll, cafodd cyfiawnder ei weinyddu.

Sian: Pan daeth y treial i ben, roedd yn rhyddhad mawr. Ond fel dywedodd Adrian, roedd yn teimlo mai dyna’n union oedd eu pwrpas nhw. Profi bod modd gweinyddu cyfiawnder, hyd yn oed mewn amgylchiadau eithriadol o anodd.

Aaron: Gallai’r treial wedi cael ei ohirio, wedi chwalu neu wedi’i ystyried yn amhosib. Ond yn lle hynny, gyda chreadigrwydd a gweithio fel tîm, cafodd cyfiawnder ei weinyddu.

Sian: Ac efallai dyna’r wers yma, nid yw llysoedd yn frics a morter yn unig, maen nhw’n bobl hefyd. Pobl yn addasu, ar fyr rybudd weithiau, ac yn datrys problemau fel bod tegwch yn ennill y dydd.

Aaron: Dyna ddiwedd y bennod hon o Inside HMCTS. Diolch yn fawr iawn am ymuno â ni.

Sian: Byddwn yn dychwelyd tro nesa gyda stori arall o du ôl i llenni’r system gyfiawnder.