Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2016/06/30/welcome-to-the-new-inside-hmcts-blog/

Welcome to the new Inside HMCTS blog

Posted by: , Posted on: - Categories: General


[English] - [Cymraeg]

Welcome to this first blog post for ‘Inside HMCTS’, our regular update for stakeholders and customers. This blog aims to replace our various external newsletters that currently provide updates on our programmes and projects. Our aim is to ensure we get the right information to you at the right time in a way that works for you.

We know that providing regular, targeted updates on the topics of interest to you will mean that you get access to information that you want, rather than simply what we think you might want to hear about. This new blog is one way to help us do that more effectively.

What will this blog cover?

We’ll have regular posts on our digital transformation along with features on the people and teams from across HMCTS who deliver our services. It will include updates at a working level on our new digital products and services and keep you updated on how and when they will be developed, our testing results and any learnings that help future designs. We’ll also post interviews from our stakeholders and customers, but in addition to that, each post will be categorised. This means you’ll be able to access information that interests you quickly and easily. Simply select what you’re most interested in from the drop down menu on the right-hand side of the screen which will tailor the search results to that category.

Getting the information that you need

New posts will be added regularly as we are not tied to a monthly or quarterly publishing schedule. That means we can get new information to you as it becomes available. To help with this, we’ll be introducing email alerts, so you’ll know when an article on a topic that you’re interested in is published on our blog.

Feedback

We would like you to be involved and use the blog to give us your thoughts and feedback. Our blog policy sets out how you can participate and how it will be moderated by the HMCTS Communication Team.

We welcome your feedback and will aim reply to any comments as quickly as possible, so let us know what you think. We’d also be grateful to hear what you would like more information on and we’ll then try and cover that in our future posts. We want to know what works for you and what doesn’t.

We hope you find this blog useful but don’t worry about missing anything as you can you subscribe to posts using our email alert reminder service for topics of interest to you.


[English] - [Cymraeg]

Croeso i’r blog cyntaf yma ar gyfer ‘Tu Mewn i GLITEM’, ein diweddariad rheolaidd ar gyfer rhanddeiliaid a chwsmeriaid. Nod y blog yma yw cymryd lle ein cylchlythyrau allanol amrywiol sy’n darparu diweddariadau ar hyn o bryd am ein rhaglenni a’n prosiectau. Ein nod ni yw sicrhau ein bod yn cyflwyno’r wybodaeth gywir i chi, ar yr amser cywir ac mewn ffordd sy’n gweithio i chi.

Rydyn ni’n gwybod bod darparu diweddariadau rheolaidd, wedi’u targedu, ar y pynciau sydd o ddiddordeb i chi’n golygu eich bod yn cael mynediad at y wybodaeth rydych chi ei heisiau, yn hytrach na dim ond beth rydyn ni’n ei feddwl rydych eisiau ei glywed. Mae’r blog newydd yma’n un ffordd o’n helpu ni i wneud hynny’n fwy effeithiol.

Beth fydd y blog yma’n ei gynnwys

Bydd gennym ni wybodaeth reolaidd am ein trawsnewid digidol a hefyd straeon am y bobl a’r timau o bob rhan o GLlTEM sy’n darparu ein gwasanaethau. Bydd yn cynnwys diweddariadau ar lefel gwaith am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau digidol newydd ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut a phryd byddant yn cael eu datblygu, ein canlyniadau profi ac unrhyw ddysgu a fydd o help gyda chynlluniau yn y dyfodol. Hefyd byddwn yn cynnwys cyfweliadau gan ein rhanddeiliaid a’n cwsmeriaid ond, hefyd, bydd yr holl gynnwys yn cael ei gategoreiddio. Mae hyn yn golygu y bydd posib i chi weld y wybodaeth sydd o ddiddordeb i chi yn gyflym ac yn rhwydd. Dewiswch yr hyn sydd o ddiddordeb pennaf i chi oddi ar y gwymprestr ar ochr dde’r sgrin, i deilwra’r canlyniadau chwilio i’r categori hwnnw.

Cael y wybodaeth y mae arnoch ei hangen

Bydd gwybodaeth newydd yn cael ei hychwanegu’n rheolaidd gan nad ydym wedi’n clymu i amserlen gyhoeddi fisol neu chwarterol. Mae hyn yn golygu y gallwn gael gwybodaeth newydd i chi fel bydd yn dod ar gael. I helpu gyda hyn, byddwn yn cyflwyno hysbysiadau e-bost, fel eich bod yn cael gwybod pan mae erthygl neu bwnc sydd o ddiddordeb i chi’n cael ei gyhoeddi ar ein blog.

Adborth

Hoffem i chi gymryd rhan a defnyddio’r blog i roi eich barn a’ch adborth. Mae polisi ein blog yn nodi sut gallwch chi gymryd rhan a sut caiff hynny ei gymedroli gan Dîm Cyfathrebu GLlTEM.

Rydyn ni’n croesawu eich adborth a byddwn yn ceisio ateb unrhyw sylwadau cyn gynted â phosib, felly cofiwch roi gwybod i ni beth yw eich barn. Byddem hefyd yn falch o glywed beth hoffech chi gael mwy o wybodaeth amdano ac wedyn byddwn yn ceisio trafod hynny mewn cofnodion blog yn y dyfodol. Rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n gweithio i chi a beth sydd ddim.

Gobeithio eich bod yn teimlo bod y blog yma’n ddefnyddiol ond peidiwch â phoeni am golli unrhyw beth, oherwydd fe allwch chi danysgrifio i gofnodion blog gan ddefnyddio ein gwasanaeth atgoffa hysbysiadau e-bost ar gyfer y pynciau sydd o ddiddordeb i chi.

Sharing and comments

Share this page