Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2023/12/20/sharing-our-expertise-on-access-to-justice-on-a-global-stage/

Sharing our expertise on access to justice on a global stage

Posted by: , Posted on: - Categories: Court and tribunal reform, General

[English] - [Cymraeg]

 

Earlier in December I represented HMCTS at the 2023 Organization for Economic Cooperation and Development (OECD) Global Roundtable on Equal Access to Justice: Making People-centred Justice Happen. Hosted by the Slovenian Ministry of Justice, attendees from across the world gathered to share knowledge and insight on improving access to justice for their citizens.

We’ve been working closely with the OECD since 2018, sharing our experience in justice reform to support the development of the People Centred Justice framework. The framework uses best practice to help countries implement their commitments to the United Nations Sustainable Development Goal (SDG) 16 and provide access to justice for all.

Providing access to justice is recognised as a “fundamental right underpinning quality democracies, inclusive growth and equality of opportunity” and I’m really proud that HMCTS is part of this initiative.

OECD Conference, Slovenia

Measuring and improving access to justice in court services

During the event I delivered a workshop to share a draft toolkit I’ve created based on our recently published access to justice assessments. The aim of the toolkit is to create a practical resource for other OECD members to use to measure access to justice in their own country.

The workshop was attended by representatives from the US, South Korea, Spain, Slovenia, Canada, Brazil, Ireland, South Africa, Belgium and France. Organisations including the World Bank, United Nations, European Commission and the Cyber Justice Lab also attended to explore issues including:

  • the foundations organisations need in place to be user-centred and measure access to justice
  • defining access to justice
  • measuring access to justice
  • understanding barriers to accessing justice
  • improving access to justice
  • monitoring access to justice
  • identifying evidence gaps to drive improvements

We received positive feedback from workshop attendees and found that people were very interested in using the toolkit.

Our experience and case studies were critical to that, especially to help with understanding the definition we used, the data we collect, how we analyse it and examples of improvements we’ve made to services. Attendees felt these were processes and ideas that could be replicated by other OECD members, which was really reassuring.

I shared our experience of compiling our access to justice assessments and how we’re using the information they’ve uncovered to improve our services so that we break down barriers for our users.

Members of the OECD Conference delegation.

Next steps

Attending and presenting at the conference was a good opportunity for us to gain more insight from other countries and it was interesting to hear alternative approaches and priorities. I found that other OECD countries are being very proactive in seeking and collecting feedback from court users.

They have a big focus on the in-court experience and access to justice and ask for court user views at the end of their case. I’m keen to learn more about this and explore how we can replicate that approach in the UK.

Over the coming months we’ll continue to work closely with the OECD and are planning a co-authored publication that sets out good practice for measuring access to justice in court services by early 2024.

It’s a hugely rewarding piece of work to be a part of, and I’m really proud that HMCTS - representing the UK - is playing a leading role in such a vital area.

[English] - [Cymraeg]

Rhannu ein harbenigedd ar fynediad at gyfiawnder ar lwyfan byd-eang

Yr wythnos diwethaf cynrychiolais GLlTEF ym Mord Gron Byd-eang 2023 OECD ar Fynediad Cyfartal at Gyfiawnder: Gwneud i Gyfiawnder sy’n Canolbwyntio ar Bobl Ddigwydd. Wedi'i gynnal gan Weinyddiaeth Gyfiawnder Slofenia, daeth mynychwyr ledled y byd ynghyd i rannu gwybodaeth a mewnwelediad ar wella mynediad at gyfiawnder i'w dinasyddion.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos ag OECD ers 2018, gan rannu ein profiad o ddiwygio cyfiawnder i gefnogi datblygiad y fframwaith Cyfiawnder sy’n Canolbwyntio ar Bobl. Mae'r fframwaith yn defnyddio arferion gorau i helpu gwledydd i weithredu eu hymrwymiadau i Nod Datblygu Cynaliadwy 16 y Cenhedloedd Unedig a darparu mynediad at gyfiawnder i bawb. Mae darparu mynediad at gyfiawnder yn cael ei gydnabod fel “hawl sylfaenol sy’n sail i ddemocratiaethau o safon, twf cynhwysol a chyfle cyfartal” ac rwy’n falch iawn bod GLlTEF yn rhan o’r fenter hon.

 

Mesur a gwella mynediad at gyfiawnder mewn gwasanaethau llys

Yn ystod y digwyddiad, cyflwynais weithdy i rannu pecyn cymorth drafft yr wyf wedi’i greu yn seiliedig ar ein hasesiadau mynediad at gyfiawnder a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Nod y pecyn cymorth yw creu adnodd ymarferol i aelodau eraill OECD ei ddefnyddio i fesur mynediad at gyfiawnder yn eu gwlad eu hunain. Mynychwyd y gweithdy gan gynrychiolwyr o’r UDA, De Korea, Sbaen, Slofenia, Canada, Brasil, Iwerddon, De Affrica, Gwlad Belg a Ffrainc. Roedd sefydliadau gan gynnwys Banc y Byd, y Cenhedloedd Unedig, y Comisiwn Ewropeaidd a’r Labordy Cyfiawnder Seiber hefyd yn bresennol i archwilio materion gan gynnwys y canlynol:

  • y sylfeini sydd eu hangen ar sefydliadau i ganolbwyntio ar y defnyddiwr a mesur mynediad at gyfiawnder
  • diffinio mynediad at gyfiawnder
  • mesur mynediad at gyfiawnder
  • deall y rhwystrau i gael mynediad at gyfiawnder
  • gwella mynediad at gyfiawnder
  • monitro mynediad at gyfiawnder
  • adnabod bylchau yn y dystiolaeth i ysgogi gwelliannau

Cawsom adborth cadarnhaol gan fynychwyr y gweithdy a chanfuwyd bod gan bobl ddiddordeb mawr mewn defnyddio'r pecyn cymorth. Roedd ein profiad a’n hastudiaethau achos yn hollbwysig i hynny, yn enwedig i helpu i ddeall y diffiniad a ddefnyddiwyd gennym, y data rydym yn ei gasglu, sut rydym yn ei ddadansoddi ac enghreifftiau o welliannau rydym wedi’u gwneud i wasanaethau. Teimlai’r mynychwyr fod y rhain yn brosesau a syniadau y gellid eu hailadrodd gan aelodau eraill OECD, a oedd yn galonogol iawn.

Rhannais ein profiad o lunio ein hasesiadau mynediad at gyfiawnder a sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth y maent wedi’i datgelu i wella ein gwasanaethau fel ein bod yn cael gwared â’r rhwystrau i’n defnyddwyr.

 

Camau nesaf

Roedd mynychu’r gynhadledd a chyflwyno ynddi yn gyfle da i ni gael mwy o fewnwelediad gan wledydd eraill ac roedd yn ddiddorol clywed am ddulliau a blaenoriaethau amgen. Canfyddais fod gwledydd eraill OECD yn rhagweithiol iawn wrth geisio a chasglu adborth gan ddefnyddwyr llys. Maent yn canolbwyntio'n fawr ar y profiad yn y llys a mynediad at gyfiawnder ac yn gofyn am farn defnyddwyr llys ar ddiwedd eu hachos. Rwy’n awyddus i ddysgu mwy am hyn ac archwilio sut y gallwn efelychu’r dull hwnnw yn y DU.

Dros y misoedd nesaf byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r OECD ac rydym yn cynllunio cyhoeddiad ar y cyd sy'n nodi arferion da ar gyfer mesur mynediad at gyfiawnder mewn gwasanaethau llys erbyn dechrau 2024. Mae'n ddarn o waith boddhaol iawn i fod yn rhan ohono, ac rwy'n falch iawn bod GLlTEF − sy'n cynrychioli'r DU − yn chwarae rhan flaenllaw mewn maes mor hanfodol.

Sharing and comments

Share this page