[English] - [Cymraeg]
When I received the news that I was being given an award by the Civil Court Users Association (CCUA) I was really pleased and very surprised. I’ve been working with the association, and particularly its Chair, Rob Thompson, to help resolve queries on a range of issues making sure that people get the information and help they need quickly.
People and businesses come to a county court for all sorts of reasons. A business could be trying to recover money it’s owed, or a person could be claiming for compensation for an injury. It could even be a landlord applying for an order preventing a trespass on their land. What all these types of cases have in common is that they all involve real people trying to get their issue resolved as quickly as possible.
No two days are the same
I manage the Shoreditch and Clerkenwell County Court. It’s a busy court and I’m here every day helping people from all walks of life access justice. Each day brings a different challenge, whether that’s dealing with complex queries from solicitors, using my first aid skills to assist someone who has passed out in court, a party turning up for their hearing on the wrong day or a bag being left unattended in the building. Sometimes we’re helping people deal with an eviction notice which means they can be emotional and nervous about attending court. It’s personally satisfying to be able to help them whilst they’re with us and make the experience as smooth as it can be, even if we can’t resolve their issue for them.
All of this is a real team effort. I work closely with bailiffs, security and maintenance teams to keep the building, and justice, running. We help court users in ways that may feel quite small to some, dealing with enquiries, updating people on their hearing dates or organising a copy of an order relating to a case, but doing these things well really matters to us and my team work hard to deliver the best service we can.
A lifetime in the justice system
I joined the court service 30 years ago and was based in Sheffield, back then we took payments using an old 'Olivetti' printing machine and used old ledger books, a world away from how we work now. I began by working in a Crown Court which has allowed me to see the challenges in both jurisdictions too. I’ve also worked in courts across London where I started as a counter clerk. That’s where my passion for helping others began and that belief in public service has been a constant thread in my career. Now, I work closely with the HMCTS Investigation team to resolve complaints and feel like I’ve come full circle. I’ve become something of a “go to” person for issues in my area which gives me a lot of satisfaction.
Of course, things have changed whilst I’ve worked in the justice system. Technology has grown hugely. Everything was paper based when I started out but now cases can be managed from beginning to end online. That’s a huge change but it’s also brought a lot of flexibility because everyone can see which courtroom a judge is sitting in, the status of a case or when a hearing may have been arranged and that means we can help people more efficiently.
It was lovely to be recognised by the CCUA, and reading Rob’s comments - “This award serves as a token of our appreciation and recognition of her valuable contribution as someone who can inspire others working in similar roles” - reminded me of how proud I am to work at HMCTS and that we’re valued by the people we help.
Ultimately though, the best thing is being able to put a smile on someone’s face. For some people coming to court is a scary experience. Supporting people who come to us for justice, seeing them go through the system and resolve their challenges is definitely the most satisfying part of the job.
[English] - [Cymraeg]
Gweithio yn y llys sirol: Fy mhrofiad i o weithio fel rheolwr cyflenwi
Pan glywais y newyddion fy mod am gael gwobr gan Gymdeithas Defnyddwyr Llys Sirol (CCUA) roeddwn yn falch iawn ac wedi synnu. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r gymdeithas, ac yn arbennig Rob Thompson, Cadeirydd y gymdeithas, i helpu i ddatrys ymholiadau ar ystod o faterion gan sicrhau bod pobl yn cael yr wybodaeth a'r help sydd ei angen arnynt yn gyflym.
Mae pobl a busnesau yn dod i lys sirol am bob math o resymau. Gallai busnes fod yn ceisio adennill arian sy'n ddyledus iddo, neu gallai unigolyn fod yn hawlio iawndal am anaf. Gallai hyd yn oed fod yn landlord sy'n gwneud cais am orchymyn i atal tresmasu ar eu tir. Yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw eu bod yn ceisio datrys eu mater cyn gynted â phosibl.
Nid oes dau ddiwrnod yr un fath
Rwy'n rheoli Llys Sirol Shoreditch a Clerkenwell. Mae'n llys prysur ac rwyf yma bob dydd yn helpu pobl o bob cefndir i gael mynediad at gyfiawnder. Mae pob diwrnod yn dod â her wahanol, boed hynny'n delio ag ymholiadau cymhleth gan gyfreithwyr, defnyddio fy sgiliau cymorth cyntaf i gynorthwyo rhywun sydd wedi llewygu yn y llys, parti sy'n dod i'w gwrandawiad ar y diwrnod anghywir neu fag yn cael ei adael yn yr adeilad. Weithiau, rydym yn helpu pobl i ddelio â hysbysiad troi allan sy'n golygu y gallant fod yn emosiynol ac yn nerfus ynglŷn â mynychu'r llys. Mae'n rhoi boddhad personol gallu eu helpu tra byddant gyda ni a gwneud y profiad cystal ag y gall fod, hyd yn oed os na allwn ddatrys eu problem iddynt.
Mae hyn i gyd yn ymdrech tîm go iawn. Rwy'n gweithio'n agos gyda’r beilïaid, y tîm diogelwch a chynnal a chadw i gadw'r adeilad i redeg. Rydym yn helpu defnyddwyr y llys mewn ffyrdd a allai deimlo'n eithaf bach i rai, delio ag ymholiadau, diweddaru pobl ar ddyddiadau gwrandawiadau neu drefnu copi o orchymyn sy’n ymwneud ag achos, ond mae gwneud y pethau hyn yn dda yn bwysig iawn i ni ac mae fy nhîm yn gweithio'n galed i ddarparu'r gwasanaeth gorau y gallwn.
Bywyd yn y system cyfiawnder
Ymunais â'r gwasanaeth llys 30 mlynedd yn ôl ac roeddwn wedi fy lleoli yn Sheffield. Pryd hynny roeddem yn cymryd taliadau gan ddefnyddio hen beiriant argraffu 'Olivetti' a defnyddio hen lyfrau cyfriflyfr, byd i ffwrdd o sut rydym yn gweithio nawr. Dechreuais drwy weithio mewn llys y goron sydd wedi fy ngalluogi i weld yr heriau yn y ddwy awdurdodaeth hefyd. Rwyf hefyd wedi gweithio mewn llysoedd ar draws Llundain lle dechreuais fel clerc cownter. Dyna lle dechreuodd fy angerdd dros helpu eraill ac mae’r gred honno mewn gwasanaeth cyhoeddus wedi bod yn llinyn cyson yn fy ngyrfa. Nawr, rwy'n gweithio'n agos gyda thîm Ymchwiliadau GLlTEF i ddatrys cwynion ac yn teimlo fy mod i wedi dod yn gylch llawn, rydw i wedi dod yn berson "mynd at" ar gyfer materion yn fy ardal sy'n rhoi boddhad mawr imi.
Wrth gwrs, mae pethau wedi newid tra fy mod i wedi bod yn gweithio yn y system gyfiawnder. Mae technoleg wedi datblygu'n aruthrol. Roedd popeth yn seiliedig ar bapur pan ddechreuais i ond nawr gellir rheoli achosion o'r dechrau i'r diwedd ar-lein. Mae hynny'n newid enfawr ond mae hefyd wedi dod â llawer o hyblygrwydd oherwydd gall pawb weld ble mae barnwr, statws achos neu pryd y gallai gwrandawiad fod wedi'i drefnu ac mae hynny'n golygu y gallwn helpu pobl yn fwy effeithlon.
Roedd yn hyfryd cael fy nghydnabod gan y CCUA, a darllen sylwadau Rob "Mae'r wobr hon yn arwydd o'n gwerthfawrogiad a'n cydnabyddiaeth o'i chyfraniad gwerthfawr fel rhywun a all ysbrydoli eraill sy'n gweithio mewn rolau tebyg." Fe'm hatgoffodd o sut beth yw gweithio yn GLlTEF a'n bod ni'n cael ein gwerthfawrogi gan y bobl rydyn ni'n eu helpu.
Fodd bynnag yn y pen draw, y peth gorau yw gallu rhoi gwên ar wyneb rhywun. I rai pobl mae dod i'r llys yn brofiad brawychus. Mae cefnogi pobl sy'n dod atom am gyfiawnder, eu gweld yn mynd drwy'r system a datrys eu heriau yn bendant yn rhan fwyaf boddhaol o'r swydd.