Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2025/02/19/shaping-civil-justice-reflecting-on-successes-and-looking-to-the-future/

Shaping civil justice: reflecting on successes and looking to the future 

Posted by: , Posted on: - Categories: Civil, Court and tribunal reform, Digital services

[English] - [Cymraeg]

Justice should be easy for everyone to access. In today’s world, that means providing digital services that make our processes easier and more efficient to use.

The national roll-out of our end-to-end digital service has removed unnecessary paperwork and streamlined the process. To make changes work as smoothly as possible, some courts and legal representatives tested new ways of working before wider roll-out. I'm grateful to our staff and to those legal professionals for their valuable feedback, which was important to iron out any final issues.

What do these changes mean for court users? 

Legal representatives can now progress their clients’ cases entirely online, with real-time progress updates, 24/7 case access, and built-in efficiency tools that minimise delays. This means the need for legal professionals to contact us for case updates is reduced.

The service continues to evolve and we are making improvements for those who are not legally represented. In November, we launched a new service which sees 16 County Courts testing the end-to-end service for Litigants in Person. This will allow us to resolve any issues before national roll-out later this year.

People representing themselves say it’s easy to submit claims online, saving time and reducing stress. The system’s user-friendly design makes it simple and encourages people to self-serve.

Close-up of hands typing on a laptop, wearing a dark blazer and a gold ring. A wooden desk with a phone and notebook.

Update on Civil Reform plans 

The full digital service for money and damages claims marks a significant achievement for our Reform programme, which was launched in 2016. We’ve delivered major improvements during the programme, which is set to end in March 2025.

Last year, we reviewed the scope of the Civil Reform Programme. We have made some adjustments to allow us to deliver the rest of civil reform well. The review posed difficult challenges and we have had to remove some of the things we wanted to do from the project. This includes the ability for users issuing bulk claims to use the digital Online Civil Money Claims Service, the journey for damages claims, higher value claims, and multi-party claims involving unrepresented parties, and some of the supporting features like ability to bulk scan forms submitted on paper.

What comes next? 

We have built solid foundations on which we can continue to modernise more services. Our services are built in an agile way, so we can continue to adapt them in response to users’ needs, policy or legislative changes, and we can continue to improve them in the future.

Work is now underway to design and develop a digital service for housing possession claims.  A digital system will reduce errors and manual handling and provide a modern and user-friendly interface so people can progress their cases effectively.

Looking further ahead, we will continue to improve money and damages claims services to increase the volume of cases that can be included. We will also ensure they can remain digital throughout the process.

The civil courts today

It is important to provide the best digital services for our users, but it is equally important to improve our civil court operations. Outstanding caseloads remain high and waiting times too long for cases going to trial. But we are committed to better performance.

Initial delays at the Civil National Business Centre (CNBC) in Northampton have been tackled, with all key stages of a claim now processed within 10 working days. Call waiting times have fallen from 40 minutes to 10 minutes by the end of 2024, and we will continue to improve this.

More users are tracking cases online, reducing the need to call. A pilot webchat service for professional users and a new queued call-back system are further cutting wait times. If successful, these will be expanded to all users.

We also introduced a big policy change in 2024 which made mediation a key part of resolving small claims under £10,000. This helps more people settle disputes without going to a full hearing. We expanded HMCTS’ Small Claims Mediation Service - hiring more mediators, adding administrative staff and improving the booking system. Most users are given a mediation appointment within four weeks. We have seen a record number of cases referred to mediation and feedback has been overwhelmingly positive, with users welcoming a quicker, lower-cost alternative to court.

Working together for a better future

I’m incredibly proud of what we’ve achieved so far, but there is much more to do. We’re committed to improving services and listening to feedback from staff, stakeholders, and the public. It takes time, and it is complex, but the aim is the same: modernise the civil courts so people and businesses can resolve their disputes swiftly, and conveniently.

 Keep up to date with the latest Civil news and information by subscribing to our e-alerts and newsletters.

[English] - [Cymraeg]

Siapio cyfiawnder sifil: myfyrio ar lwyddiannau ac edrych i'r dyfodol

Dylai cyfiawnder fod yn hawdd i bawb gael mynediad ato. Yn y byd sydd ohoni, mae hynny'n golygu darparu gwasanaethau digidol sy'n gwneud ein prosesau'n haws ac yn fwy effeithlon i'w defnyddio.

Mae cyflwyno ein gwasanaeth digidol o'r dechrau i'r diwedd yn genedlaethol wedi cael gwared ar waith papur diangen a symleiddio'r broses. Er mwyn gwneud i newidiadau weithio mor llyfn â phosibl, profodd rhai llysoedd a chynrychiolwyr cyfreithiol ffyrdd newydd o weithio cyn cyflwyno'r newidiadau yn ehangach. Rwy'n ddiolchgar i'n staff ac i'r gweithwyr cyfreithiol proffesiynol hynny am eu hadborth gwerthfawr, a oedd yn bwysig i ddatrys unrhyw faterion terfynol.

Beth mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i ddefnyddwyr y llys?

Gall cynrychiolwyr cyfreithiol bellach symud achosion eu cleientiaid yn gyfan gwbl ar-lein, gyda diweddariadau cynnydd mewn amser real, mynediad 24/7 at achosion, ac adnoddau effeithlonrwydd sy'n lleihau oedi. Mae hyn yn golygu bod yr angen i weithwyr proffesiynol cyfreithiol gysylltu â ni am ddiweddariadau ynglŷn ag achosion yn cael eu lleihau.

Mae'r gwasanaeth yn parhau i esblygu ac rydym yn gwneud gwelliannau i'r rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n gyfreithiol. Ym mis Tachwedd, gwnaethom lansio gwasanaeth newydd a welodd 16 Llys Sirol yn profi'r gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatrys unrhyw faterion cyn ei gyflwyno'n genedlaethol yn ddiweddarach eleni.

Mae pobl sy'n cynrychioli eu hunain yn dweud ei bod hi'n hawdd cyflwyno hawliadau ar-lein, gan arbed amser a lleihau straen. Mae dyluniad hawdd ei ddefnyddio y system yn ei gwneud hi'n syml ac yn annog pobl i hunan-gyflwyno.

Y newyddion diweddaraf am gynlluniau Diwygio Sifil

Mae'r gwasanaeth hawliadau digidol lawn am arian ac iawndal yn nodi cyflawniad sylweddol i'n rhaglen Ddiwygio, a lansiwyd yn 2016. Rydym wedi cyflawni gwelliannau mawr yn ystod y rhaglen, a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2025.

Y llynedd, fe wnaethom adolygu cwmpas y Rhaglen Ddiwygio Sifil. Rydym wedi gwneud rhai addasiadau i'n galluogi i gyflwyno gweddill y diwygiadau sifil yn dda. Roedd yr adolygiad yn peri heriau anodd ac rydym wedi gorfod cael gwared ar rai o'r pethau yr oeddem eisiau eu gwneud o'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys y gallu i ddefnyddwyr sy'n cyhoeddi hawliadau swmp i ddefnyddio'r Gwasanaeth Hawliadau am Arian Sifil Ar-lein digidol, y siwrnai ar gyfer hawliadau am iawndal, hawliadau gwerth uwch, a hawliadau aml-barti sy'n cynnwys partïon heb gynrychiolaeth, a rhai o'r nodweddion ategol fel y gallu i sganio ffurflenni a gyflwynir ar bapur.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Rydym wedi adeiladu sylfeini cadarn y gallwn barhau i foderneiddio mwy o wasanaethau arnynt. Mae ein gwasanaethau wedi'u creu mewn ffordd ystwyth, fel y gallwn barhau i'w haddasu mewn ymateb i anghenion defnyddwyr, polisïau neu newidiadau deddfwriaethol, a gallwn barhau i'w gwella yn y dyfodol.

Mae gwaith bellach ar y gweill i ddylunio a datblygu gwasanaeth digidol ar gyfer hawliadau meddiant tai.  Bydd system ddigidol yn lleihau gwallau a gwaith trin â llaw ac yn darparu rhyngwyneb modern a hawdd ei ddefnyddio fel y gall pobl symud eu hachosion yn eu blaenau yn effeithiol.

Wrth edrych ymhellach ymlaen, byddwn yn parhau i wella gwasanaethau hawliadau am arian ac iawndal i gynyddu nifer yr achosion y gellir eu cynnwys. Byddwn hefyd yn sicrhau y gallant barhau'n ddigidol drwy gydol y broses.

Y llysoedd sifil heddiw

Mae'n bwysig darparu'r gwasanaethau digidol gorau i'n defnyddwyr, ond mae'r un mor bwysig gwella ein gweithrediadau llys sifil. Mae llwythi achosion sy'n weddill yn parhau i fod yn uchel ac amseroedd aros yn rhy hir ar gyfer achosion sy'n mynd i dreial. Ond rydym wedi ymrwymo i berfformio’n well.

Mae oedi cychwynnol yn y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol (CNBC) yn Northampton bellach wedi cael eu datrys, gyda holl gamau allweddol hawliad bellach yn cael eu prosesu o fewn 10 diwrnod gwaith. Mae amseroedd aros galwadau wedi lleihau o 40 munud i 10 munud erbyn diwedd 2024, a byddwn yn parhau i wella hyn.  

Mae mwy o ddefnyddwyr yn olrhain achosion ar-lein, gan leihau'r angen i ffonio. Mae’r gwasanaeth peilot ar gyfer gwe-sgwrs i ddefnyddwyr proffesiynol a system newydd ffonio yn ôl hefyd yn torri amseroedd aros ymhellach. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i bob defnyddiwr. Fe wnaethom hefyd gyflwyno newid polisi mawr yn 2024 a wnaeth cyfryngu yn rhan allweddol o ddatrys hawliadau bychain o dan £10,000. Mae hyn yn helpu mwy o bobl i ddatrys anghydfodau heb fynd i wrandawiad llawn. Gwnaethom ehangu Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain GLlTEF - penodi mwy o gyfryngwyr, ychwanegu staff gweinyddol a gwella'r system archebu. Mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn cael apwyntiad cyfryngu o fewn pedair wythnos. Rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o achosion yn cael eu cyfeirio at gyfryngu ac mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda defnyddwyr yn croesawu dewis arall cyflymach, cost is i'r llys.

Gweithio gyda'n gilydd i greu dyfodol gwell

Rwy'n hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn, ond mae llawer mwy i'w wneud. Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a gwrando ar adborth gan staff, rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Mae'n cymryd amser, ac mae'n gymhleth, ond yr un yw'r nod: moderneiddio'r llysoedd sifil fel y gall pobl a busnesau ddatrys eu hanghydfodau yn gyflym, ac yn gyfleus.

Tanysgrifiwch i'n e-rybuddion a'n cylchlythyrau er mwyn cael y newyddion a'r wybodaeth sifil ddiweddaraf

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.