[English] - [Cymraeg]
Interpreters are a vital part of the justice system. Through their skills we meet our duty to provide access to justice and ensure everyone involved in a hearing can understand proceedings.
Coming to a court or tribunal can be a stressful experience, but for complainants or witnesses who may not speak English as their first language that anxiety can be increased. The ability to understand what’s happening and enabling people to communicate clearly is critical to the smooth running of a hearing, and for defendants, interpreters can be vital to receiving a fair trial.

Skilled interpreters meet the needs of our users
Each day, interpreters support around 600 hearings in venues ranging from high security prisons to Crown Courts. They interpret a huge range of languages from Bantu to Polish, as well as delivering British Sign Language (BSL) interpretation or our obligations under the Welsh Language Act. Interpreters support in-person and remote hearings across the civil, criminal and family courts, and in tribunals.
Court or tribunal interpreters are highly skilled and experienced professionals. Many are qualified to degree level in their chosen language, but for some particularly rare languages where qualifications are not available, or there are fewer interpreters, we’re more flexible balancing support for court users with the experts available to work with us.
In 2022, Ann Carlisle – a professional linguist and former Chief Executive Officer of the Chartered Institute of Linguists – began an Independent Technical Review of Qualifications and Experience Requirements for the Provision of Spoken Language Interpreting for the Ministry of Justice (with the exception of Welsh language interpretation which is subject to separate qualification and experience requirements overseen by Cymdeithas Cyfieithwy Cymru/Association of Welsh Translators and Intepreters). We’ve accepted all the recommendations made in the review such as providing training to ensure interpreters have the skills they need to support remote hearings effectively.
Planning for the future
The needs of our users and interpreters are changing, so we’re looking to the future and running a procurement exercise that we expect to complete in 2026 for the provision of language services to take us through to 2030. We currently work with interpreter services organisation TheBigWord need and our own Welsh Language Unit to book Welsh language interpreters. to ensure court users can access the interpreters they need. This is because the justice system is complex and finding interpreters for the variety of languages needed to the high standard the justice system demands is rightly time-consuming. If court staff were responsible for this, it would impact the time they have to spend on progressing hearings and supporting judges.
This does not diminish the value we place on interpreters work and we’ve listened to their feedback and ideas on how we can continuously improve. For example, from 2026, we’ll be strengthening safeguarding guidance for interpreters so that they can be confident in highlighting any safeguarding concerns they encounter whilst working with us.
We’re increasing the support we offer trainee interpreters as they begin their career and we’ll also improve signposting for all interpreters when they work on hearings dealing with sensitive issues. Interpreters will be able to decline bookings that they may find particularly distressing, for example, hearings involving sexual abuse or murder.
These plans are very important to us. By supporting interpreters and listening any concerns they raise we’ll continue to ensure anyone – whether they’re at risk of being evicted, dealing with domestic violence, or involved in a case that relates to children – can access swifter, effective access to justice through our courts and tribunals.
[English] - [Cymraeg]
Taflu sbotolau ar gyfieithu yn ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd
Mae cyfieithwyr yn rhan hanfodol o’n system gyfiawnder. Trwy eu sgiliau nhw rydym yn bodloni ein dyletswydd i ddarparu mynediad at gyfiawnder a sicrhau bod pawb sy’n rhan o wrandawiad yn gallu deall achos.
Mae dod i lys neu dribiwnlys yn gallu bod yn brofiad sy’n peri straen, ond ar gyfer achwynwyr neu dystion nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf, gall y profiad beri hyd yn oed mwy o bryder. Mae’r gallu i ddeall beth sy’n digwydd a galluogi pobl i gyfathrebu’n glir yn allweddol i sicrhau bod gwrandawiad yn digwydd yn ddidrafferth, ac ar gyfer diffynyddion, gall cyfieithwyr fod yn hanfodol ar gyfer sicrhau treial teg.

Mae cyfieithwyr medrus yn bodloni anghenion ein defnyddwyr
Pob dydd, mae cyfieithwyr yn darparu cymorth mewn oddeutu 600 o wrandawiadau mewn lleoliadau sy’n amrywio o garchardai diogelwch uchel i Lysoedd y Goron. Maen nhw’n cyfieithu amrywiaeth eang iawn o ieithoedd, o Bantu i Bwyleg, ynghyd â darparu gwasanaeth dehongli iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu gyflawni ein rhwymedigaethau dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg. Mae cyfieithwyr yn darparu cymorth mewn gwrandawiadau wyneb yn wyneb a gwrandawiadau o bell ar draws y llysoedd sifil, troseddol a theulu, ac yn y tribiwnlysoedd.
Mae cyfieithwyr y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn weithwyr proffesiynol hynod fedrus a phrofiadol. Mae llawer ohonynt gyda chymwysterau lefel gradd yn yr iaith o’u dewis, ond ar gyfer rhai ieithoedd prin iawn lle nad oes cymwysterau ar gael, neu os oes nifer llai o gyfieithwyr, rydym yn fwy hyblyg o ran sicrhau cymorth i ddefnyddwyr y llys gyda’r arbenigwyr sydd ar gael i weithio gyda ni.
Yn 2022, bu i Ann Carlisle - ieithydd proffesiynol a chyn Brif Weithredwr Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion - gychwyn Adolygiad Technegol Annibynnol o’r Gofynion Cymwysterau a Phrofiad ar gyfer Darparu Gwasanaethau Cyfieithu ar y Pryd i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (gan eithrio cyfieithu ar y pryd Cymraeg, sy’n destun gofynion ar wahân o ran cymwysterau a phrofiad, ac sydd wedi’i oruchwylio gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru). Rydym wedi derbyn yr holl argymhellion a wnaed yn yr adolygiad, fel darparu hyfforddiant i sicrhau bod gan cyfieithwyr y sgiliau maen nhw eu hangen i gefnogi gwrandawiadau o bell yn effeithiol.
Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Mae anghenion ein defnyddwyr a’n cyfieithwyr yn newid, felly rydym yn edrych i’r dyfodol ac yn cynnal ymarfer caffael yr ydym yn disgwyl y byddwn yn ei gwblhau yn 2026, ar gyfer y ddarpariaeth gwasanaethau iaith hyd at 2030. Rydym yn gweithio gyda’r sefydliad gwasanaethau cyfieithu TheBigWord ar hyn o bryd i sicrhau bod defnyddwyr y llys yn cael mynediad at y cyfieithwyr maen nhw eu hangen ac mae ein Huned Iaith Gymraeg ni yn trefnu cyfieithwyr Cymraeg. Mae hyn oherwydd bod y system gyfiawnder yn gymhleth ac mae dod o hyd i gyfieithwyr ar gyfer yr amrywiaeth o ieithoedd sydd eu hangen ac at y safon uchel y mae’r system gyfiawnder yn ei mynnu, wrth reswm, yn cymryd cryn dipyn o amser. Os byddai staff y llys yn gyfrifol am hyn, byddai’n cael effaith ar yr amser sydd ganddynt i symud achosion yn eu blaenau a chefnogi barnwyr.
Nid yw hyn yn lleihau’r gwerth a roddwn ar waith cyfieithwyr ac rydym wedi gwrando ar eu hadborth a’u syniadau ar sut y gallwn wella’n barhaus. Er enghraifft, o 2026, byddwn yn cryfhau’r canllawiau diogelu ar gyfer cyfieithwyr fel eu bod yn gallu bod yn hyderus wrth godi unrhyw bryderon diogelu sydd ganddynt pan fyddant yn gweithio gyda ni.
Rydym yn cynyddu’r gefnogaeth a roddwn i gyfieithwyr dan hyfforddiant wrth iddynt gychwyn eu gyrfa a byddwn hefyd yn gwella’r broses gyfeirio i’r holl gyfieithwyr pan fyddant yn gweithio mewn gwrandawiadau sy’n ymdrin â materion sensitif. Bydd cyfieithwyr yn gallu gwrthod gwaith os ydynt yn teimlo y byddai rhywbeth yn gallu peri gofid iddynt, er enghraifft, gwrandawiadau sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu lofruddiaeth.
Mae’r trefniadau hyn yn bwysig iawn i ni. Trwy gefnogi cyfieithwyr a gwrando ar unrhyw bryderon maen nhw’n eu codi, byddwn yn parhau i sicrhau bod unrhyw un - p’un ydynt mewn risg o gael eu troi allan, yn dioddef cam-drin domestig, neu’n rhan o achos sy’n ymwneud â phlant - yn gallu cael mynediad cyflymach ac effeithiol at gyfiawnder trwy ein llysoedd a'n tribiwnlysoedd.
Leave a comment