[English] - [Cymraeg]
Following my previous blog on the current state of our criminal courts, I want to share our vision for the future and the steps we're taking to build a more efficient and effective justice system.
2025: a year to build on firm foundations
A significant milestone approaches at the end of the month as the HMCTS Reform Programme concludes. But this marks the beginning of a new phase rather than an endpoint. Drawing on everything we've learned, we're assembling a team of project management and business change experts from across HMCTS and beyond. With their expertise we'll focus on carefully managed, incremental improvements that will allow us to better deliver changes and make the justice system work better for everyone.
For example, we'll improve how the Common Platform criminal case management system connects with the Police National Computer, enabling faster updates and reducing the time spent managing case information. We'll also expand the system to handle more types of cases, including probation breaches and all non-police prosecutors, increasing the capabilities of the system and streamlining more processes. The link between the Crown Court's Digital Case System and Common Platform will be strengthened, further improving the movement of materials between magistrates' and the Crown Court. I'm confident that these changes will help build a more efficient service that works better for everyone who uses it.
Close working between staff in courts and our Service Centres continues to strengthen the service we provide in magistrates' courts. In 2024, Service Centres handled over three-quarters of a million phone calls and emails relating to criminal cases. Last year we migrated all calls from magistrates’ courts in the North West and South West regions to our Service Centres. We’ll be extending these improvements to the remaining 5 regions in the first half of 2025, reducing pressure on court staff and improving services for our court users.
We're also investing in our greatest asset – our people. We've recently acted on legal advisor pay, doubling their allowance, and launched a successful recruitment campaign to bring 150 new legal advisors into the system. This will allow us to run more sessions and courts in the coming year and beyond.
We'll build on what we've achieved in the Reform Programme, ensuring these changes deliver their full potential while avoiding disruption to vital services. This approach means we can continue modernising our criminal court services while maintaining stability - learning from experience to make each improvement count.

Technology and innovation
Common Platform continues to evolve, making daily operation smoother and more efficient, delivering real benefits across the justice system. Every case now has a single unique reference number that can be used by all parties - from police to CPS to courts - making it much simpler to track a case. When cases conclude, police forces receive instant notifications of Crown Court results, enabling faster updates to the Police National Computer. Non-Crown Prosecution Service (CPS) prosecutors are now able to view and upload case materials directly on a case-by-case basis, as well as check in to hearings, streamlining the process further for another of our partners.
For lesser criminal offences prosecuted under the Single Justice Procedure (SJP), digital improvements mean cases can be processed through Common Platform as soon as the plea has been received – a significant improvement from the previous system where cases could not be dealt with until 28 days had passed. We’ve now introduced this to all police forces to prosecute SJP cases in this way. It is enabling them – and a range of other non-police prosecutors – to deliver functions more swiftly and accurately.
Elsewhere, our Digital Audio Visual Equipment programme continues to transform our courtrooms by updating or replacing outdated trial technology like screens and microphones. The latest phase has already successfully upgraded 57 courtrooms. Looking ahead, our next phase will focus on modernising 65 Crown Court rooms and 15 magistrates' court rooms currently operating with end-of-life equipment, ensuring our justice system has the technology it needs to operate effectively.
Supporting vulnerable witnesses
We now have 39 ‘remote link sites’ nationally where witnesses can give evidence away from court, and we're expanding our capability for pre-recorded cross-examination. This technology is helping almost 2,000 vulnerable witnesses each year give their best evidence while feeling safe and supported.
We're particularly proud of our ability to facilitate evidence-giving from bespoke locations, including homes and care facilities, for those who might struggle to attend court.
Collaborative working
Through the Criminal Justice Board, chaired by the Lord Chancellor, senior leaders from across the system including ministers, Police and Crime Commissioners, the Criminal Bar Association, legal professionals and the judiciary, are coming together to create a shared vision and coordinated approach.
Additionally, following its earlier successes, the Senior Presiding Judge will expand the Crown Court Improvement Group (CCIG) to include magistrates' courts, becoming the Criminal Courts Improvement Group, where all key criminal justice agencies will work together to improve efficiency and access to justice across the criminal courts. This cross-system collaboration proved particularly effective during recent challenges such as prison estate capacity and last summer's civil unrest, where our coordinated response enabled swift justice, demonstrating what we can achieve when working together.
Our commitment
As we move into 2025, our mission remains clear: to support people in accessing justice when they need it as a service-led organisation.
While there's no quick fix to current pressures, these coordinated efforts and ongoing improvements give us a clear path forward. The justice system faces unprecedented challenges, but through innovation, collaboration, and dedication, we're building a stronger, more efficient criminal courts system for the people who need it.
[English] - [Cymraeg]
Meithrin Dyfodol Cyfiawnder Troseddol: Ein Gweledigaeth ar gyfer 2025 a thu hwnt (Rhan 2)
Yn dilyn fy mlog blaenorol ar gyflwr presennol ein llysoedd troseddol, rwyf eisiau rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'r camau rydyn ni'n eu cymryd i greu system gyfiawnder fwy effeithlon ac effeithiol.
2025: blwyddyn i adeiladu ar sylfeini cadarn
Mae carreg filltir arwyddocaol yn agosáu at ddiwedd y mis wrth i Raglen Ddiwygio GLlTEF ddod i ben. Ond mae hyn yn nodi dechrau cyfnod newydd yn hytrach na diweddglo. Gan dynnu ar bopeth rydyn ni wedi'i ddysgu, rydym yn ymgynnull tîm o arbenigwyr rheoli prosiectau a newid busnes o bob rhan o GLlTEF a thu hwnt. Gyda'u harbenigedd byddwn yn canolbwyntio ar welliannau cynyddol a fydd yn ein galluogi i gyflawni newidiadau yn well a gwneud i'r system gyfiawnder weithio'n well i bawb.
Er enghraifft, byddwn yn gwella sut mae’r Platfform Cyffredin (system rheoli achosion troseddol) yn cysylltu â Chyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, gan alluogi diweddariadau cyflymach a lleihau'r amser a dreulir yn rheoli gwybodaeth achosion. Byddwn hefyd yn ehangu'r system i drin mwy o fathau o achosion, gan gynnwys torri amodau yn ystod eich cyfnod ar brawf a phob erlyniadau nad ydynt yn rhai’r heddlu, gan gynyddu galluoedd y system a symleiddio mwy o brosesau. Bydd y cysylltiad rhwng System Achosion Digidol Llys y Goron a'r Platfform Cyffredin yn cael ei gryfhau, gan wella’r broses o symud deunyddiau ymhellach rhwng y Llys Ynadon a Llys y Goron. Rwy'n hyderus y bydd y newidiadau hyn yn helpu i greu gwasanaeth mwy effeithlon sy'n gweithio'n well i bawb sy'n ei defnyddio.
Mae gweithio'n agos rhwng staff yn y llysoedd a'n Canolfannau Gwasanaeth yn parhau i gryfhau'r gwasanaeth a ddarperir mewn llysoedd ynadon. Yn 2024, bu i Ganolfannau Gwasanaeth ymdrin â dros dri chwarter miliwn o alwadau ffôn ac e-byst yn ymwneud ag achosion troseddol. Y llynedd fe wnaethom symud pob galwad o lysoedd ynadon yn rhanbarthau Gogledd Orllewin a De Orllewin Lloegr i'n Canolfannau Gwasanaeth. Byddwn yn ymestyn y gwelliannau hyn i'r 5 rhanbarth sy'n weddill yn hanner cyntaf 2025, gan leihau pwysau ar staff y llys a gwella gwasanaethau i'n defnyddwyr llysoedd.
Rydym hefyd yn buddsoddi yn ein hased mwyaf – ein pobl. Yn ddiweddar, rydym wedi gweithredu ar gyflogau cynghorwyr cyfreithiol, dyblu eu lwfans, a lansio ymgyrch recriwtio lwyddiannus i ddod â 150 o gynghorwyr cyfreithiol newydd i'r gwasanaeth. Bydd hyn yn caniatáu inni gynnal mwy o sesiynau a llysoedd yn y flwyddyn i ddod a thu hwnt.
Byddwn yn adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn y Rhaglen Ddiwygio, gan sicrhau bod y newidiadau hyn yn cyflawni eu potensial llawn tra'n osgoi tarfu ar wasanaethau hanfodol. Mae'r dull hwn yn golygu y gallwn barhau i foderneiddio ein gwasanaethau llysoedd troseddol tra'n cynnal sefydlogrwydd - dysgu o brofiad i wneud i bob gwelliant gyfri.

Technoleg ac arloesi
Mae’r Platfform Cyffredin yn parhau i esblygu, gan wneud ein gweithrediadau dyddiol yn fwy llyfn ac yn fwy effeithlon, gan ddarparu manteision gwirioneddol ar draws y system gyfiawnder. Mae gan bob achos un cyfeirnod unigryw y gellir ei ddefnyddio gan bob parti - o'r heddlu i’r CPS i'r llysoedd - gan ei gwneud hi'n llawer symlach olrhain achos. Pan fydd achosion yn dod i ben, mae'r heddluoedd yn derbyn hysbysiadau cyflymach o ganlyniadau Llys y Goron, gan alluogi diweddariadau cyflymach i Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Mae erlynwyr nad ydynt yn rhai Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) bellach yn gallu gweld a llwytho deunyddiau achos yn uniongyrchol fesul achos yn ogystal â chael mynediad i wrandawiadau sy'n symleiddio'r broses ymhellach ar gyfer un arall o'n partneriaid.
Ar gyfer troseddau troseddol is sy'n cael eu herlyn o dan y Weithdrefn Un Ynad (SJP), mae gwelliannau digidol yn golygu y gellir prosesu achosion trwy’r Platfform Cyffredin cyn gynted ag y bydd y ple wedi'i dderbyn – gwelliant sylweddol o'r system flaenorol lle na ellid ymdrin ag achosion nes bod 28 diwrnod wedi mynd heibio. Rydym bellach wedi cyflwyno hyn i bob heddlu i erlyn achosion SJP yn y modd hwn. Mae'n eu galluogi - ac ystod o erlynwyr eraill nad ydynt yn yr heddlu - i gyflawni swyddogaethau yn gyflymach ac yn gywir.
Mewn mannau eraill, mae ein rhaglen Offer Digidol Gweledol yn parhau i drawsnewid ein hystafelloedd llys trwy ddiweddaru neu ddisodli hen dechnoleg treialon fel sgriniau a meicroffonau. Mae'r cam diweddaraf eisoes wedi uwchraddio 57 o ystafelloedd llys yn llwyddiannus. Wrth edrych ymlaen, bydd ein cam nesaf yn canolbwyntio ar foderneiddio 65 o ystafelloedd Llys y Goron a 15 ystafell llys ynadon sy'n gweithredu ar hyn o bryd gydag offer sy’n dod i ddiwedd eu hoes, gan sicrhau bod gan ein system gyfiawnder y dechnoleg sydd ei hangen arni i weithredu'n effeithiol.
Cefnogi tystion bregus
Erbyn hyn mae gennym 39 o safleoedd cysywllt o bell yn genedlaethol lle gall tystion roi tystiolaeth i ffwrdd o’r llys, ac rydym yn ehangu ein gallu ar gyfer croesholi wedi'i recordio ymlaen llaw. Mae'r dechnoleg hon yn helpu bron i 2,000 o dystion bregus bob blwyddyn i roi eu tystiolaeth orau tra'n teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
Rydym yn arbennig o falch o'n gallu i hwyluso rhoi tystiolaeth o leoliadau pwrpasol, gan gynnwys cartrefi a chyfleusterau gofal, i'r rhai a allai gael trafferth mynychu'r llys.
Cydweithio
Trwy'r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Ganghellor, mae uwch arweinwyr o bob rhan o'r system gan gynnwys gweinidogion, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, Cymdeithas y Bar Troseddol, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a'r farnwriaeth yn dod at ei gilydd i greu gweledigaeth a rennir a dull cydgysylltiedig.
Yn ogystal, yn dilyn ei lwyddiannau cynharach, bydd yr Uwch Farnwr Llywyddol yn ehangu Grŵp Gwella Llys y Goron (CCIG) i gynnwys Llysoedd yr Ynadon, gan ddod yn Grŵp Gwella Llysoedd Troseddol, lle bydd yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol allweddol yn gweithio gyda'i gilydd i wella effeithlonrwydd a mynediad at gyfiawnder ar draws y llysoedd troseddol. Profodd y cydweithrediad traws-system hwn yn arbennig o effeithiol yn ystod heriau diweddar fel capasiti’r ystad carchardai ac aflonyddwch sifil yr haf diwethaf, lle roedd ein hymateb cydgysylltiedig yn galluogi cyfiawnder cyflym, gan ddangos yr hyn y gallwn ei gyflawni wrth weithio gyda'n gilydd.
Ein hymrwymiad
Wrth i ni symud i mewn i 2025, mae ein bwriad yn parhau i fod yn glir: cefnogi pobl i gael mynediad at gyfiawnder pan fydd ei angen arnynt fel sefydliad a arweinir gan wasanaethau.
Er nad oes ateb cyflym i'r pwysau presennol, mae'r ymdrechion cydgysylltiedig hyn a'r gwelliannau parhaus hyn yn rhoi llwybr clir i ni ymlaen. Mae'r system gyfiawnder yn wynebu heriau digynsail, ond trwy arloesi, cydweithredu, ac ymroddiad, rydym yn creu system llysoedd troseddol cryfach, mwy effeithlon ar gyfer y bobl sydd ei hangen.
1 comment
Comment by Mark Jones posted on
Until the government deal with the issue of decaling number of Duty Solicitors, the improvements mean very little, with an average age of over 50 in the next 10 years there will be a decline in that service. There is trouble in store for the lower courts, and the police stations.
When you have to wait until the afternoon to deal with a morning case because SERCO has not pick people up from the police station until after 11:45, this is what needs to be sorted out.