[English] - [Cymraeg]
Hello, my name is Hywel Hughes and I’m Head of Welsh Language Services at HMCTS. As more and more of our services become available digitally, it’s important these services become equally accessible to those who wish to interact with us through the Welsh language.
We take the obligations of our Welsh Language Scheme very seriously and our ongoing commitment in this respect can be seen in that Welsh speakers can go online to, enter their plea in Welsh or pay a fine in Welsh. Here’s a full list of all welsh services on GOV.UK.
We wanted to ensure that blogs such as this one are available in Welsh and I believe we are the first blog on GOV.UK to publish all posts bilingually. I hope that as many Welsh speakers as possible grasp the opportunity and use our Welsh language services.
As we increase our online service offering, it’s vital that Welsh speakers have access to justice through the Welsh language, as justice ultimately revolves around communication.
During the next few weeks and months the Welsh Language Unit’s in-house team of translators and designers will be working with HMCTS project teams to provide Welsh online services for key initiatives. We’ll also be looking at ways of making bilingual court forms more readily accessible on GOV.UK.
[English] - [Cymraeg]
Gwasanaethau Iaith Gymraeg GLlTEM
Helo, fy enw i yw Hywel Hughes a fi ydy Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Wrth i fwy a mwy o’n gwasanaethau ddod ar gael yn ddigidol, mae’n bwysig bod y gwasanaethau hyn yr un mor hygyrch i’r rhai sy’n dymuno delio â ni drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn cymryd goblygiadau ein Cynllun Iaith Gymraeg yn gwbl o ddifrif, a gellir gweld ein hymrwymiad parhaus yn hyn o beth trwy’r ffaith bod siaradwyr Cymraeg yn gallu mynd ar-lein i gofnodi eu ple yn Gymraeg neu dalu dirwy yn Gymraeg. Dyma restr lawn o holl wasanaethau Cymraeg ar GOV.UK.
Rydym eisiau sicrhau bod blogiau fel hon ar gael yn Gymraeg ac rwy’n credu mai ni yw’r blog cyntaf ar GOV.UK sy’n cyhoeddi eu holl flogiau yn ddwyieithog. Rwy’n gobeithio y bydd cymaint â phosib o siaradwyr Cymraeg yn manteisio ar y cyfle hwn i ddefnyddio ein gwasanaethau Cymraeg.
Fel rydym yn cynyddu ein gwasanaethau sydd ar gael ar-lein, mae'n hanfodol bod gan siaradwyr Cymraeg fynediad at gyfiawnder drwy’r Gymraeg, gan fod cyfiawnder, yn y pen draw, yn ymwneud â chyfathrebu.
Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, bydd cyfieithwyr a dylunwyr Uned yr Iaith Gymraeg yn gweithio ar y cyd â thimau prosiect GLlTEM i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar-lein ar gyfer prosiectau allweddol. Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod ffurflenni dwyieithog y llys ar gael yn rhwyddach ar GOV.UK.