[English] - [Cymraeg]
I’m John and I’m a solicitor working in London. During the course of my training contract I remember visiting a few courts quite regularly. As trainees, solicitors’ reasons for visiting court can often vary. Sometimes we’d have to lodge papers - which can be done quite quickly – whereas at other times we’d need to attend a full day of court proceedings.
On a particular occasion, I was rushing to submit an application before a court deadline – a situation that I’m sure resonates with many of my colleagues. I was in such a rush, that I forgot to pick up my mobile phone after the security check. It was over half an hour, when I was back at the entrance, just about to leave, before I realised my error. Slightly panicked, I informed security about the missing mobile phone.
They took a very sensible approach, asking me to identify the phone by its colour and case, and once I had done so, returning it to me very quickly. They were sure it was mine, because they’d already checked the CCTV to know who to look out for. I was really impressed with the proactive approach that security took and it meant I was able to collect my phone swiftly, with minimal disruption to others.
Security must be robust because of the contentious nature of the matters being resolved in court. Usually it will be two parties attending court with diametrically opposing aims, or significant sums of money at stake. The time invested to bring or defend proceedings can be vast, and often attending court will be the first time individuals have been in the same room for months if not years.
All these factors mean that attending court can be a challenging, emotional, and even daunting experience, so it is essential that the court itself is a calm and secure place. A big part of that is security. Individuals attending court should be able to feel safe, and an effective security check means that they can focus on litigation and not have to be concerned with their own safety.
Moreover, security processes remind everyone that we come to the court on equal terms, to be treated equally. Whether you’re defending or prosecuting, a witness, juror or bystander, each party abides by the same rules and procedures. We should all expect to receive equal treatment under the law, and we’re poignantly reminded of that by security each time we enter a court or tribunal building.
As legal professionals, we can sometimes get frustrated if we feel that court security procedures are carried out inconsistently. But I am hopeful that the professional users’ access scheme will mean faster, easier access for those of us who work regularly in courts and tribunals. In addition to this, clarity on what to expect and more visible, consistent information about security procedures that I have recently seen go up in court buildings can surely only be a good thing.
This is the second in a series of three blogs from the perspectives of different people who use and work in our courts and tribunals. The series is a part of a wider effort to update our information about court security, our safety processes and the principles which underpin them. To find our more, read Susan’s blog or visit GOV.UK to see our refreshed materials about court security.
[English] - [Cymraeg]
Profiad cyfreithiwr o weithdrefnau diogelwch GLlTEM
Fy enw i ydi John, ac rwy’n gyfreithiwr yn Llundain. Yn ystod fy nghyfnod dan hyfforddiant, rwy’n cofio ymweld ag ambell i lys yn weddol reolaidd. Fel cyfreithwyr dan hyfforddiant, rhaid i chi fynd i’r llys am wahanol resymau. Ar rai adegau rhaid cyflwyno papurau; mae’n bosib gwneud hyn yn eithaf cyflym. Ond ar adegau eraill, rhaid dod i’r llys i arsylwi achosion am ddiwrnod cyfan.
Ar y diwrnod dan sylw, roeddwn yn brysio i gyflwyno cais i’r llys o fewn terfyn amser penodol, sefyllfa sy’n gyfarwydd i lawer o’m cydweithwyr rwy’n siŵr. Roeddwn ar gymaint o frys anghofiais gasglu fy ffôn symudol ar ôl mynd trwy’r gwiriadau diogelwch. Roedd dros hanner awr wedi mynd heibio, ac roeddwn wrth y fynedfa yn mynd allan o’r llys cyn i mi sylweddoli beth oedd wedi digwydd. Roeddwn wedi cynhyrfu erbyn hyn, felly dywedais wrth swyddog diogelwch fy mod wedi colli’r ffôn.
Roeddynt yn gall iawn, a gofynnwyd i mi ddweud wrthynt pa liw oedd y ffôn a sut orchudd oedd ganddo. Cefais y ffׅôn yn ôl ar unwaith. Gan eu bod wedi edrych ar y ffilm teledu cylch cyfyng, roeddynt yn gwybod mai fi oedd yn berchen ar y ffôn. Gwnaeth hyn argraff fawr arnaf, ac oherwydd bod yr adran ddiogelwch yn gweithio mewn ffordd mor effeithlon, cefais fy ffôn yn ôl yn gyflym heb amharu gormod ar bobl eraill.
Rhaid i’r swyddogion diogelwch fod yn gadarn oherwydd natur ddadleuol yr achosion sy’n dod i’r llys. Fel arfer, mae amcanion y partïon sy’n dod i’r llys yn hollol groes i’w gilydd, neu mae arian mawr yn y fantol. Mae’n cymryd llawer o amser i ddod ag achosion i’r llys, a dyma’r tro cyntaf ers rhai misoedd neu flynyddoedd i lawer o unigolion fod yn yr un ystafell gyda’i gilydd.
Golyga hyn fod dod i’r llys yn brofiad heriol, emosiynol a hynod anodd i lawer, felly mae’n hanfodol fod pobl yn teimlo’n ddiogel ac nad ydynt yn cynhyrfu. Mae diogelwch yn rhan annatod o hyn. Dylai pawb sy’n dod i’r llys deimlo’n ddiogel, ac mae’r gwiriadau diogelwch yn golygu y gallant ganolbwyntio ar beth sy’n rhaid iddynt ei wneud yn hytrach na phoeni am eu diogelwch personol.
Hefyd, mae’r prosesau sy’n ymwneud â diogelwch yn atgoffa pawb sy’n dod i’r llys eu bod yn gyfartal, ac yn cael eu trin yn gyfartal. Pa un ai a ydych yn erlyn ynteu’n amddiffyn achos, yn dyst, yn aelod o’r rheithgor neu’n aelod o’r cyhoedd, mae’r un rheolau a gweithdrefnau’n berthnasol. Yn ôl y gyfraith, dylai pawb gael eu trin yn gyfartal, ac mae’r camau diogelwch yn ein hatgoffa o hynny bob tro rydym yn mynd i mewn i adeilad y llys neu dribiwnlys.
Fel cyfreithwyr, gallwn deimlo’n rhwystredig o bryd i’w gilydd os gwelwn nad yw’r gweithdrefnau diogelwch yn gyson yn y llysoedd. Ond, rwy’n ffyddiog y bydd y cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol yn golygu y caniateir mynediad i’r bobl sy’n gweithio yn y llysoedd yn rheolaidd yn gynt ac yn rhwyddach. Hefyd, mae’r wybodaeth am beth i’w ddisgwyl yn fwy gweladwy, a’r wybodaeth gyson am y gweithdrefnau diogelwch sydd i’w gweld mewn adeiladau llys yn ddiweddar yn siŵr o fod yn beth da.
Dyma'r ail o dri blog sy’n cyfleu safbwyntiau gwahanol bobl sy'n defnyddio ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd ac yn gweithio ynddynt. Mae'r gyfres yn rhan o ymdrech ehangach i ddiweddaru ein gwybodaeth am ddiogelwch y llysoedd, ein prosesau diogelwch a'r egwyddorion sy'n sail iddynt. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch flog Susan neu ewch i GOV.UK i weld ein deunyddiau newydd am ddiogelwch y llysoedd.