Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2020/09/09/surviving-plagues-pestilence-and-pandemics-overcoming-challenge-in-the-magistrates-courts/

Surviving plagues, pestilence and pandemics: overcoming challenge in the magistrates’ courts

Posted by: , Posted on: - Categories: Court and tribunal reform, Crime


[English] - [Cymraeg]

The historic institution of the magistracy in England and Wales can be traced back almost 1,000 years. Its official birth came in 1285, during the reign of Edward I, when ‘good and lawful men’ were commissioned to keep the King’s peace. It has since survived plagues and pestilence, war and revolution. And now coronavirus.

The impacts of coronavirus (COVID-19) have tested all of us in ways which would have been impossible to conceive of just a few months ago. The collective efforts of the judiciary, legal professionals and staff meant the system was kept up and running, to serve those most in need - at a time when many other pillars of our society were unable and when justice in some other countries was completely paused.

This would not have been possible without the people who volunteer to become magistrates and dedicate their time to this vital public service. Magistrates’ courts, including the magistracy in the Family Court, are quite simply a vital part of the justice system.

That has never been more evident than when reflecting on their work since March and I want to highlight their successes over the last few months, to give their work the recognition it deserves.

Context and initial response

Almost all criminal cases start in the magistrates’ court and 95% of them will be completed there. The other, most serious offences are then passed on to the Crown Court, either for sentencing or for full trial with a judge and jury.

Over five months ago, when the country went into lockdown, we reduced the work in the magistrates’ courts to the most urgent cases only as we responded to the emergency measures. Back then, we were adjourning 60 per cent of new cases, as well as adjourning most of the existing work in our lists. In the week before Easter only one summary trial went ahead.

We’ve been dealing with the impact of these necessary measures results ever since.

It’s perhaps worth noting that at the height of the pandemic, the Magistrates’ Association ran a survey amongst their members which demonstrated their willingness to sit extra sessions in the evenings and weekends. Getting such sessions up and running is not easy but we owe an enormous debt of gratitude to those volunteers who committed to providing an effective justice service to the public during those extraordinary times.

Looking forwards to recovery in the magistrates’ courts

We have all had to adapt to rapidly changing circumstances in the last few months, both personally and professionally. Many magistrates successfully worked from home, reducing the footfall in court buildings, when it was required.

One of the things that undoubtedly helped us work through the pandemic has been magistrates running remote Single Justice Procedure sessions, helping to clear thousands of cases. In some areas, they were running them successfully as weekday evening sessions.

And they have willingly embraced new technologies, as we rapidly rolled out the Cloud Video Platform, revolutionising the way courts operated across different jurisdictions with over 30,000 of these hearings being conducted so far. We will continue to monitor and improve the system and listen to feedback from magistrates on its performance.

To demonstrate how far we’ve recovered from that initial position, since the middle of July the magistrates’ courts have consistently been completing more cases than have been received. In recent months, if you exclude Single Justice Procedure sessions, the number of sittings of the magistrates’ courts in this new, socially distanced, world has increased to the point where we are now at around 90% of the equivalent period in 2019. Our ambition is to get this figure above 100% everywhere, if we can do so safely.

But there are undoubtedly still challenges ahead and confidence in the criminal justice system, especially in the courts, will be tested in the coming months. The work of magistrates is integral to this but we have already learnt a great deal about what works, and what doesn’t.

Our initial caution with single listing all trials, with relatively precise timings for cases was right, but we have now increased listing loadings and have been able to open more courtrooms at some venues than we previously thought possible.

Preparing for the future in unpredictable times

We have outlined more detailed plans in our update on the response to COVID-19 in the criminal courts, published this week. But we also know from our experiences to date that there isn’t one single solution to help us recover and that solutions will need to vary depending on area.

We will need to use a combination of Nightingale courts, remote working, and social distancing at 1m plus mitigations into the foreseeable future to help recovery in the wider criminal justice system, as well as using different operating hours where that makes sense. But we will carry on learning, adapting and be ready to respond quickly, to unpredictable circumstances, while monitoring our work to clear the backlog.

I am grateful that we can rely on the support and resilience of those in the magistrates’ courts who have a long-standing history of rising to challenge and surviving worst-case scenarios. I am confident that together we will emerge from this latest crisis with a justice system not only intact but stronger, more effective and well-equipped to face a different future.

Visit GOV.UK, if you would like to find out more about the work of magistrates.


[English] - [Cymraeg]

Goroesi plâu, heintiau a phandemig: goresgyn yr her yn y llysoedd ynadon

Gellir olrhain sefydliad hanesyddol yr ynadaeth yng Nghymru a Lloegr yn ôl bron i 1,000 o flynyddoedd. Daeth i fod yn swyddogol yn 1285, yn ystod teyrnasiad Edward y Cyntaf, pan gomisiynwyd ‘dynion da a chyfreithlon’ i gadw heddwch y Brenin. Ers hynny mae wedi goroesi plâu, heintiau, rhyfeloedd a chwyldroadau. Ac yn awr bandemig byd-eang.

Mae effeithiau coronafirws (COVID-19) wedi profi pob un ohonom mewn ffyrdd a fyddai wedi bod yn amhosibl meddwl amdanynt ychydig fisoedd yn ôl. Roedd cydymdrech y farnwriaeth, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a staff yn golygu bod y system yn dal i weithio, i wasanaethu'r rhai mwyaf anghenus - ar adeg pan nad oedd llawer o gonglfeini eraill ein cymdeithas yn gallu gweithredu.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y bobl sy'n gwirfoddoli i ddod yn ynadon a neilltuo eu hamser i gyflawni’r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol hwn. Mae llysoedd ynadon, gan gynnwys yr ynadon yn y Llys Teulu, yn rhan hanfodol o'r system gyfiawnder.

Ni fu hynny erioed yn amlycach nag wrth ystyried eu gwaith ers mis Mawrth ac rwyf am dynnu sylw at eu llwyddiannau dros yr ychydig fisoedd diwethaf, i roi i'r llafur hwn gydnabyddiaeth haeddiannol.

Cyd-destun ac ymateb cychwynnol

Mae bron pob achos troseddol yn cychwyn yn y llys ynadon a bydd 95% ohonynt yn cael eu penderfynu yno. Trosglwyddir y troseddau eraill, y rhai mwyaf difrifol, i Lys y Goron, naill ai i'w dedfrydu neu ar gyfer treial llawn gyda barnwr a rheithgor.

Dros bum mis yn ôl, pan osodwyd cyfyngiadau ar y boblogaeth o achos yr argyfwng coronafeirws, cyfyngwyd gwaith yn y llysoedd ynadon i’r achosion yr oedd y mwyaf frys i ymdrin â hwy yn unig er mwyn arafu lledaeniad y firws. Ar y pryd, roeddem yn gohirio 60 y cant o achosion newydd, yn ogystal â gohirio'r rhan fwyaf o'r gwaith presennol yn ein rhestrau. Yn ystod yr wythnos cyn y Pasg dim ond un treial diannod a aeth yn ei flaen.

Rydyn ni wedi bod yn delio ag effaith y mesurau angenrheidiol hyn ers hynny.

Efallai ei bod yn werth nodi bod Cymdeithas yr Ynadon, ar anterth y pandemig, wedi cynnal arolwg ymhlith ei haelodau a ddangosodd eu parodrwydd i eistedd mewn sesiynau ychwanegol gyda'r nos ac ar benwythnosau. Nid yw'n hawdd cynnal sesiynau o'r fath ond rydym dan ddyled fawr i'r gwirfoddolwyr hynny a ymrwymodd i ddarparu gwasanaeth cyfiawnder effeithiol i'r cyhoedd yn ystod yr amseroedd rhyfeddol hynny.

Edrych ymlaen at adferiad yn y llysoedd ynadon

Rydym i gyd wedi gorfod addasu i amgylchiadau sy'n newid yn gyflym yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, yn bersonol ac yn broffesiynol. Gweithiodd llawer o ynadon o'u cartrefi yn llwyddiannus, gan leihau nifer yr ymwelwyr yn adeiladau'r llys, pan oedd angen gwneud hynny.

Un o'r pethau a oedd, heb os, wedi ein helpu i weithio trwy'r pandemig fu ynadon yn cynnal sesiynau gweithdrefn un ynad o bell, gan helpu i glirio miloedd o achosion. Mewn rhai ardaloedd, roeddent yn eu rhedeg yn llwyddiannus fel sesiynau gyda'r nos yn ystod yr wythnos.

Ac maent wedi croesawu technoleg newydd yn barod, wrth inni gyflwyno'r Platfform Fideo’r Cwmwl yn gyflym, gan chwyldroi'r ffordd yr oedd llysoedd yn gweithredu mewn gwahanol awdurdodaethau gyda dros 30,000 o'r gwrandawiadau hyn wedi cael eu cynnal hyd yn hyn. Byddwn yn parhau i fonitro a gwella'r system a gwrando ar sylwadau gan ynadon ar ei pherfformiad.

Er mwyn dangos i ba raddau rydym wedi ei hadfer o’r sefyllfa gychwynnol honno, ers canol mis Gorffennaf mae’r llysoedd ynadon wedi bod yn cwblhau mwy o achosion yn gyson nag a dderbynnid. Yn ystod y misoedd diwethaf, o eithrio sesiynau gweithdrefn un ynad, mae nifer yr eisteddiadau yn y llysoedd ynadon yn y byd newydd hwn, sy’n cadw pellter cymdeithasol, wedi cynyddu i'r pwynt lle'r ydym bellach ar oddeutu 90% o gymharu â’r cyfnod cyfatebol yn 2019. Ein nod yw sicrhau bod y ffigur hwn yn uwch na 100% ym mhobman, os gallwn wneud hynny'n ddiogel.

Ond heb os, mae yna heriau o'n blaenau o hyd a bydd hyder yn y system gyfiawnder troseddol, yn enwedig yn y llysoedd, yn cael ei brofi yn ystod y misoedd nesaf. Mae gwaith ynadon yn rhan annatod o hyn ond rydym eisoes wedi dysgu llawer am yr hyn sy'n gweithio, a'r hyn nad yw'n gweithio.

Roedd ein gofal cychwynnol wrth restru pob treial, gan nodi amseroedd cymharol fanwl ar gyfer achosion yn sylfaenol gywir, ond rydym bellach wedi cynyddu’r llwyth ar y rhestr ac wedi gallu agor mwy o ystafelloedd llys mewn rhai lleoliadau lle nad oedd hynny’n bosibl cynt.

Paratoi ar gyfer y dyfodol lle nad oes modd rhagweld be’ ddaw nesaf

Rydym wedi amlinellu cynlluniau manylach yn ein diweddariad ar yr ymateb  COVID-19 yn y llysoedd troseddol, a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Ond rydym hefyd yn gwybod o’n profiad hyd yma nad oes un ateb sengl i'n helpu i wella ac y bydd angen i'r atebion amrywio yn dibynnu ar yr ardal.

Bydd angen inni ddefnyddio cyfuniad o oriau gweithredu COVID, llysoedd Nightingale, gweithio o bell, a chadw pellter cymdeithasol o 1m ynghyd â mesurau eraill hyd y gellir rhagweld i helpu i adfer yn y system gyfiawnder troseddol ehangach. Ond byddwn yn parhau i ddysgu, addasu a bod yn barod i ymateb yn gyflym, i amgylchiadau anrhagweladwy, wrth fonitro ein gwaith i glirio'r gwaith sydd wedi hel.

Rwy’n ddiolchgar ein bod yn gallu dibynnu ar gefnogaeth a gwytnwch y rhai yn y llysoedd ynadon sydd â hanes hirsefydlog o ddal ati a dod drwyddi yn yr amgylchiadau gwaethaf. Rwy'n hyderus y byddwn gyda'n gilydd yn dod drwy’r argyfwng diweddaraf hwn gyda system gyfiawnder sydd nid yn unig mewn un darn ond hefyd yn gryfach, yn fwy effeithlon ac yn atebol i wynebu dyfodol gwahanol.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith ynadon a'r GOV.UK.

Sharing and comments

Share this page

1 comment

  1. Comment by Eva Sundman posted on

    As a magistrate-in-waiting (appointed 2 days before lockdown, eagerly awaiting being sworn in and trained), this was probably the most encouraging and hopeful communication I have read so far. Things are clearly moving forward in the background. Thank you.