Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2025/04/01/all-of-us-might-need-the-justice-system-one-day-what-can-you-expect-and-how-has-hmcts-reform-made-things-better/

All of us might need the justice system one day: what can you expect and how has HMCTS reform made things better?

[English] - [Cymraeg]

If the justice system makes you think of criminals, victims, witnesses and juries, you’re not alone. Our criminal courts are a high-profile part of our justice system. We often read about them in the press or see them depicted on TV. Fortunately, our criminal courts are an area that most of us will hope to avoid during our lifetimes. 

But we may need to use other justice services at some point in our lives. It may come at a time when we least expect it. We may suffer the sad loss of a loved one and find ourselves dealing with their estate. In this situation, using our probate service becomes a reality. We might find ourselves owed money by a person or business and need the help of our civil money claims service to resolve the problem. Or through tribunals, we could need to appeal life changing decisions like unfair dismissal at work or about the benefits we rely on to provide for our families and those close to us. At times like these we all deserve to access efficient services that won’t make a tough situation more difficult.

As our Reform Programme draws to a close, I want to explain some of the ways we’ve improved these services and others, across our civil and family courts and tribunals.

What we set out to achieve

We needed to break down the barriers that many people felt and experienced when they used our civil and family courts and tribunals. Reform called time on people feeling alienated by an outdated system, moving away from paper-based forms, towards modern digital systems that are straightforward to access and navigate.

We’ve changed what we ask of people using our services, moving away from long paper forms with unfathomable language. And reduced the need for people to make journeys to and from our buildings, increasing use of technology to hear cases remotely, where a judge approves.

People like you helped through modernisation

Take online divorce. Before Reform, one user told us she nearly gave up on the process. The stress, complexity and cost of applying nearly became too much. In her own words, she felt ‘like an outsider in a system that spoke a different language’.

Contrast this with another user – Crispin – and his partner who took the difficult decision to separate, when our digital divorce service was available. While of course still a difficult time, he described the ‘smooth process’ as ‘one of the more positive parts of the divorce because everything went as it should’.

It’s so heartening to hear stories like Crispin’s, because I remember how far we’ve come in making the experience better for people rather than adding to their stress. Since 2019, Crispin’s application is one of over 500,000 applications made digitally. He and so many others benefit from a more accessible and modernised service. 24/7 access to their online applications, clear intuitive guidance, consistent support available directly from our knowledgeable Service Centre staff. This is how it should be for the people we serve.

It’s not just our family courts we’ve modernised. If you’ve ever tried to get money back owed from a business or contractor, you’ll know the last thing you need in those circumstances is a slow, outdated system.

It’s made the process three times faster than it was before. A free mediation service is also helping our users resolve disputes earlier and more cheaply. One solicitor told us a modernised service meant it took just 10 weeks to resolve a client’s case, meaning she could hire a new builder to fix a botched extension and enjoy her home once more.

For those who may be facing a desperate situation and need to seek asylum in the UK, resolve a dispute with their employer or appeal a crucial benefits decision, our tribunals act as a lifeline. Before we reformed these services, people challenging decisions made by powerful organisations or agencies described a hard, slow process. For those where English wasn’t their first language it was worst. These were very real barriers to accessing justice. Over 600,000 tribunal users have benefitted from modernised services that have transformed a range of tribunals appeals process.

Consistent services with satisfied users

User satisfaction rates across our digital services have consistently remained high across civil, family and tribunals services. For example, they’re at 80% in online divorce and 85% for social security and child support appeals.

This is partly due to a more consistent service delivered across our five national Service Centres. Everyone involved in delivering a service are centrally located and under one roof. Issues can be identified, addressed and resolved far more quickly and efficiently. It has put an end for the need to send information and instructions across multiple locations. Our Service Centre and National Business Centres dealt with over 2.8 million calls during 2024, many from people looking for support and information about civil, family or tribunals cases.

Reforming so many services has certainly been a challenge and we’ve listened, learned and adapted along the way. We’ve worked with our users and partners to inform change and make things better. We can see the results of this engagement - in January 2024 there was a backlog of 76,500 probate applications which we reduced to 37,200 in January 2025. This is thanks to a modern service and innovative working with experts in the field.

What are we doing next to improve our services?

Our improvements are far from over. We’ll keep developing our services. We will roll out the reformed private family law service and finish a more focused range of services in the civil courts. We will be developing new features in the money claims and damages claims services and designing a digital service for housing possession claims.

In years to come I want to be able to share more stories like Crispin’s who experienced a smooth, supportive service. And never again do I want to hear stories of outdated processes meaning people nearly give up on the process. Experiences like this must firmly stay in the past.

To find out more about our civil, family and tribunals reformed services, visit our GOV.UK pages. Or subscribe and listen to the HMCTS Podcast series to hear first-hand from people using and delivering our services.

[English] - [Cymraeg]

Efallai y bydd angen y system gyfiawnder ar bob un ohonom un diwrnod: beth allwch chi ei ddisgwyl a sut mae diwygio GLlTEF wedi gwneud pethau'n well?

Os yw'r system gyfiawnder yn gwneud i chi feddwl am droseddwyr, dioddefwyr, tystion a’r rheithgor, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae ein llysoedd troseddol yn rhan annatod o'n system gyfiawnder. Rydym yn aml yn darllen amdanynt yn y wasg neu'n eu gweld yn cael eu portreadu ar y teledu. Yn ffodus, mae ein llysoedd troseddol yn rhywle y bydd y rhan fwyaf ohonom yn gobeithio ei osgoi yn ystod ein bywydau. 

Ond efallai y bydd angen i ni ddefnyddio gwasanaethau cyfiawnder eraill ar ryw adeg yn ein bywydau. Efallai y bydd yn dod ar adeg pan rydyn ni'n ei ddisgwyl leiaf. Efallai y byddwn yn dioddef profedigaeth yn y teulu ac yn gorfod delio gyda’u hystad. Yn y sefyllfa hon, mae defnyddio ein gwasanaeth profiant yn dod yn realiti. Efallai y byddwn mewn sefyllfa lle bydd ar rywun neu fusnes arian inni ac o ganlyniad, bydd angen help ein gwasanaeth hawliadau am arian yn y llys sifil arnom i ddatrys y broblem. Neu drwy’r tribiwnlysoedd, efallai y byddai angen i ni apelio yn erbyn penderfyniadau sy'n newid bywydau fel diswyddo annheg yn y gweithle neu am y budd-daliadau yr ydym ni'n dibynnu arnynt i'w darparu i'n teuluoedd a'r rhai sy'n agos atom. Ar adegau fel hyn rydym i gyd yn haeddu cael mynediad at wasanaethau effeithlon na fydd yn gwneud sefyllfa anodd yn anoddach.

Wrth i'n Rhaglen Diwygio ddod i ben, rwyf eisiau esbonio rhai o'r ffyrdd yr ydym wedi gwella'r gwasanaethau hyn ac eraill, ar draws ein llysoedd sifil, teulu a’r tribiwnlysoedd.

Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni

Roedd angen i ni ddileu’r rhwystrau a deimlodd llawer o bobl pan oeddent yn defnyddio ein llysoedd sifil a theulu a'n tribiwnlysoedd. Mae’r rhaglen ddiwygio wedi hepgor pobl rhag teimlo'n estron o ganlyniad i hen system, gan symud i ffwrdd o ffurflenni papur, tuag at systemau digidol modern sy'n hawdd eu cyrchu a'u llywio.

Rydym wedi newid yr hyn rydyn ni'n gofyn i’r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, gan symud i ffwrdd o ffurflenni papur hir gydag iaith gymhleth. A lleihau'r angen i bobl deithio i'n hadeiladau ac oddi yno, gan gynyddu'r defnydd o dechnoleg i wrando achosion o bell, os bydd y barnwr yn cymeradwyo.

Helpu pobl fel chi trwy foderneiddio

Ystyriwch y gwasanaeth ysgariad ar-lein. Cyn y rhaglen ddiwygio, dywedodd un defnyddiwr wrthym ei bod bron â rhoi'r gorau i'r broses. Daeth y straen, y cymhlethdod a’r effaith o wneud cais bron yn ormod. Yn ei geiriau ei hun, roedd hi'n teimlo 'fel rhywun ar yr ymylon mewn system sy'n siarad iaith wahanol'.

Cymharwch hyn â defnyddiwr arall - Crispin - a'i bartner a wnaeth y penderfyniad anodd i wahanu, pan oedd ein gwasanaeth ysgariad digidol ar gael. Er wrth gwrs yn dal i fod yn amser anodd, disgrifiodd y 'broses didrafferth’ fel 'un o'r rhannau mwy cadarnhaol o'r broses ysgariad oherwydd bod popeth wedi mynd fel y dylai'.

Mae mor galonogol clywed straeon fel un Crispin, oherwydd rwy'n cofio pa mor bell rydyn ni wedi dod i wneud y profiad yn well i bobl yn hytrach nag ychwanegu at eu straen. Ers 2019, mae cais Crispin yn un o dros 500,000 o geisiadau a wnaed yn ddigidol. Mae ef a chymaint o bobl eraill yn elwa o wasanaeth mwy hygyrch wedi’i foderneiddio. Mynediad 24/7 i'w ceisiadau ar-lein, arweiniad greddfol clir, cymorth cyson sydd ar gael yn uniongyrchol gan ein staff gwybodus yn ein Canolfan Gwasanaeth. Dyma sut y dylai fod i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu.

Nid ein llysoedd teulu yn unig rydyn ni wedi'u moderneiddio. Os ydych chi erioed wedi ceisio cael arian yn ôl gan fusnes neu gontractwr, byddwch chi'n gwybod mai'r peth olaf sydd ei angen arnoch yn yr amgylchiadau hynny yw system araf, hen ffasiwn.

Mae wedi gwneud y broses dair gwaith yn gyflymach nag yr oedd o'r blaen. Mae gwasanaeth cyfryngu am ddim hefyd yn helpu ein defnyddwyr i ddatrys anghydfodau yn gynt ac yn rhatach. Dywedodd un cyfreithiwr wrthym fod gwasanaeth wedi'i foderneiddio yn golygu mai dim ond 10 wythnos yr oedd yn ei gymryd i ddatrys achos cleient, sy'n golygu y gallai ddod o hyd i adeiladwr newydd i drwsio estyniad a wnaed yn wael a mwynhau ei chartref unwaith eto.

I'r rhai a allai fod yn wynebu sefyllfa anobeithiol ac angen ceisio lloches yn y DU, datrys anghydfod gyda'u cyflogwr neu apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau hanfodol, mae ein tribiwnlysoedd yn gweithredu fel cymorth mawr. Cyn i ni ddiwygio'r gwasanaethau hyn, roedd pobl sy'n herio penderfyniadau a wnaed gan sefydliadau neu asiantaethau pwerus yn disgrifio proses anodd, araf. I'r rhai lle nad Saesneg oedd eu hiaith gyntaf, roedd yn waeth fyth. Roedd y rhain yn rwystrau real iawn i gael mynediad at gyfiawnder. Mae dros 600,000 o ddefnyddwyr tribiwnlysoedd wedi elwa o wasanaethau wedi’u moderneiddio sydd wedi trawsnewid ystod o broses apeliadau tribiwnlysoedd.

Gwasanaethau cyson gyda defnyddwyr bodlon

Mae cyfraddau boddhad defnyddwyr ar draws ein gwasanaethau digidol wedi aros yn gyson yn uchel ar draws gwasanaethau sifil, teulu a’r tribiwnlysoedd. Er enghraifft, maen nhw'n 80% mewn achosion ysgariad ar-lein ac 85% ar gyfer apeliadau nawdd cymdeithasol a chynnal plant.

Mae hyn yn rhannol oherwydd gwasanaeth mwy cyson a ddarperir ar draws ein pum Canolfan Wasanaeth genedlaethol. Mae pawb sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth wedi'u lleoli'n ganolog ac o dan yr un to. Gellir nodi, mynd i'r afael â materion a'u datrys yn llawer cyflymach ac effeithlon. Mae wedi rhoi terfyn ar yr angen i anfon gwybodaeth a chyfarwyddiadau ar draws sawl lleoliad.  Mae ein Canolfan Wasanaeth a'n Canolfannau Busnes Cenedlaethol wedi delio â dros 2.3 miliwn o alwadau rhwng Ebrill a Rhagfyr 2024, llawer gan bobl sy'n chwilio am gymorth a gwybodaeth am achosion sifil, teulu neu dribiwnlysoedd.

Mae diwygio cymaint o wasanaethau yn sicr wedi bod yn her ac rydym wedi gwrando, dysgu ac addasu ar hyd y ffordd. Rydym wedi gweithio gyda'n defnyddwyr a'n partneriaid i lywio newid a gwneud pethau'n well. Gallwn weld canlyniadau'r ymgysylltiad hwn - ym mis Ionawr 2024 roedd ôl-groniad o 76,500 o geisiadau profiant a wnaethom eu lleihau i 37,200 ym mis Ionawr 2025. Mae hyn yn ddiolch i wasanaeth modern a chydweithio arloesol gydag arbenigwyr yn y maes.

Beth ydyn ni'n ei wneud nesaf i wella ein gwasanaethau?

Mae ein gwelliannau ymhell o fod drosodd. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau. Byddwn yn cyflwyno'r gwasanaeth teulu cyfraith breifat diwygiedig ac yn gorffen ystod fwy ffocws o wasanaethau yn y llysoedd sifil. Byddwn yn datblygu nodweddion newydd yn y gwasanaethau hawliadau am arian ac iawndal ac yn dylunio gwasanaeth digidol ar gyfer hawliadau meddiant tai.

Yn y blynyddoedd i ddod rwyf eisiau gallu rhannu mwy o straeon fel un Crispin a brofodd wasanaeth didrafferth, cefnogol. Ac nid wyf fyth eto eisiau clywed straeon am brosesau sydd wedi dyddio sy'n golygu bod pobl bron â rhoi'r gorau i'r broses. Rhaid i brofiadau fel hyn aros yn y gorffennol.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau diwygiedig sifil, teulu a’r tribiwnlysoedd, ewch i'n tudalennau GOV.UK. Neu tanysgrifiwch a gwrandwch ar gyfres Podlediad GLlTEF i glywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n defnyddio ac yn darparu ein gwasanaethau.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.