Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2016/07/13/digital-defence-show-and-tell-on-common-platform-programme/

Digital defence show and tell on Common Platform Programme

Posted by: , Posted on: - Categories: Court and tribunal reform, Crime, Digital services


[English] - [Cymraeg]

We held our latest show and tell event for the defence community on 26 May, using an online meeting product. This followed our successful Defence Engagement Event at Liverpool QEII Court on the 10 May. I was keen to arrange an event that provided the defence community with:

Every month we will hold a show and tell so you can see where we are with development and provide us with your feedback.

Liverpool Crown Court pilot

Liverpool Crown Court has been used to pilot a number of new initiatives in recent years. The court centre has been chosen again, this time to pilot a small part of the Common Platform that will be available a little later this year. This is a very important pilot for Liverpool and it is strongly supported by the Recorder and all the other local judges.

man walking in frount of building
Liverpool QE11 Courts Building

Event feedback and engagement

Part of my role is to ensure that defence practitioners are actively involved in the building of the Common Platform. If you have ideas on future events please let me know. I would also like to invite you to participate in a short survey, so we can get your feedback and improve future events. Please email me if you would like the event materials including the outcomes of our research.

Person presenting inside a court room
Leanne Galbraith presenting at Liverpool Crown Court

Do you want to be a Defence Digital Champion

Do you think it is worthwhile setting up a network of defence digital champions? This will involve championing digital products in your local area. By using your local knowledge we will be able to reach as many practitioners as possible, so they have an opportunity to get involved in our development.

Communication ideas

If you have any suggestions on how I can improve the way I communicate with you or this post has prompted any questions, please let me know. I look forward to hearing from you.


[English] - [Cymraeg]

Digwyddiad dangos a dweud ar amddiffyn digidol ar y Rhaglen Platfform Cyffredin

Cynhaliwyd ein digwyddiad dangos a dweud diweddaraf ar gyfer y gymuned amddiffyn ar 26 Mai gan ddefnyddio cynnyrch cyfarfod ar-lein. Roedd hyn yn dilyn ein Digwyddiad Ymgysylltu ag Amddiffyn llwyddiannus yn Llys Lerpwl QEII ar 10 Mai. Roeddwn i’n awyddus i drefnu digwyddiad a oedd yn darparu’r canlynol i’r gymuned amddiffyn:

Bob mis byddwn yn cynnal digwyddiad dangos a dweud fel eich bod yn gallu gweld ble rydyn ni gyda’r datblygiad ac i roi adborth i chi.

Peilot Llys y Goron Lerpwl

Mae Llys y Goron Lerpwl wedi cael ei ddefnyddio i dreialu nifer o fentrau newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae canolfan y llys wedi cael ei dewis eto, y tro yma i dreialu rhan fechan o'r Platfform Cyffredin a fydd ar gael ychydig yn nes ymlaen eleni. Mae hwn yn beilot pwysig iawn i Lerpwl ac mae’n cael cefnogaeth frwd y Cofnodydd a’r holl farnwyr lleol eraill.

Adborth ar y digwyddiad ac ymgysylltu

Un rhan o fy rôl i yw sicrhau bod ymarferwyr amddiffyn yn chwarae rhan bwysig mewn creu’r Platfform Cyffredin. Os oes gennych chi syniadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, rhowch wybod i mi. Hefyd hoffwn eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg byr, fel ein bod yn gallu cael eich adborth a gwella digwyddiadau yn y dyfodol. Anfonwch e-bost ataf os hoffech gael deunyddiau'r digwyddiad, gan gynnwys canlyniadau ein hymchwil.

Ydych chi eisiau bod yn Hyrwyddwr Digidol ar gyfer Amddiffyn

Ydych chi’n credu ei fod yn syniad da sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr digidol ar gyfer amddiffyn? Bydd hyn yn cynnwys hyrwyddo cynhyrchion digidol yn eich ardal leol. Drwy ddefnyddio eich gwybodaeth leol, byddwch yn gallu cyrraedd cymaint o ymarferwyr â phosib, fel eu bod yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein datblygiad.

Syniadau cyfathrebu

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar sut gallaf wella’r ffordd rydw i’n cyfathrebu â chi neu os yw'r neges yma wedi arwain at unrhyw gwestiynau, cofiwch roi gwybod i mi. Edrychaf ymlaen at glywed gennych chi.

Sharing and comments

Share this page