Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2016/10/13/open-book-testing-for-on-boarding-new-starters/

Open book testing for on-boarding new starters

Posted by: , Posted on: - Categories: Court and tribunal reform, Crime, Digital services


[English] - [Cymraeg]

Over the last year, we’ve recruited 13 user testers into the CJS Common Platform Programme (CPP). Over that time, we’ve experimented with a number of on-boarding processes, with varying results.

We needed to get people up to speed quickly about the technologies that we’re using, the application that we’re building and the domain language and context that goes with them.

We have an induction programme that includes an introduction to CPP but lacked the detail to get people ready to contribute to our delivery functions.

We have 3 new starters over the coming weeks and we’re rapidly approaching our first public release - there’s a lot to do. Realistically, we have a big challenge to reduce the on-boarding time from when someone joins, to them contributing to delivery activities.

Brain dumps can be unexciting and there’s only so much you can learn from watching someone else work. Asking someone to get up to speed by reading our internal wiki has limited benefits and it can often be difficult to digest and retain that much information.

We wanted to come up a more engaging way to do this. The Common Platform is an innovative, complex and inspiring programme for change. The introduction for a new starter should reflect that.

So, we are going to try Open Book Testing.

What is Open Book Testing

It’s essentially the same concept as an open book exam; except in our context, the book is the system, product or service that we’re testing.

This is a technique that was developed by Context-Driven-Testing (something that we find extremely useful on the Common Platform). The technique will see a collection of questions, defined by existing service and product experts or other testers, presented to new starters.

The objective is that new starters learn the product and service by exploring and using the application to answer the questions. During this process, testers take notes on what they find.

The outcome should be that the new starter learns about the product and the leadership team learns about how the new starter approaches testing. The new recruit has an opportunity to present findings and compare results with the rest of the team and the system gets a fresh set of eyes over it.

Over the next few weeks, our new starters will go through this process and we’ll publish their experiences as a follow up to this post.


[English] - [Cymraeg]

Profion Llyfr Agored i weithwyr newydd gael ymgyfarwyddo

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi recriwtio 13 o brofwyr i Raglen Platfform Cyffredin y System Cyfiawnder Troseddol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi arbrofi gyda nifer o brosesau ymgyfarwyddo, gyda chanlyniadau cymysg.

Roedd angen i ni gael pobl i ymgyfarwyddo’n gyflym â'r technolegau rydym yn eu defnyddio, y rhaglenni rydym yn eu hadeiladu, a’r iaith arbenigol a'r cyd-destun sy’n berthnasol iddynt.

Mae gennym raglen anwytho sy'n cynnwys cyflwyniad i Raglen Platfform Cyffredin y System Cyfiawnder Troseddol ond nid oes digon o fanylder i baratoi pobl i gyfrannu at ein swyddogaethau cyflawni.

Mae gennym tri gweithiwr newydd yn cychwyn dros yr wythnosau nesaf a bydd ein cyhoeddiad cyntaf yn cael ei ryddhau yn fuan iawn - mae llawer iawn i'w wneud. Yn realistig, mae gennym her fawr i leihau’r cyfnod ymgyfarwyddo o’r adeg bydd rhywun yn ymuno â ni, i’r pwynt ble maent yn cyfrannu at weithgareddau cyflawni.

Gall trosglwyddo llawer o wybodaeth o un person i’r llall (neu ‘brain dumps’) fod yn ddiflas, ac ond hyn a hyn allwch ei ddysgu trwy wylio rhywun arall yn gweithio. Ceir buddion cyfyngedig trwy ofyn i rywun ymgyfarwyddo â’n gwaith trwy ddarllen ein wiki mewnol, ac yn aml gall fod yn anodd prosesu a dal gafael ar gymaint o wybodaeth.

Roedden ni eisiau dyfeisio ffordd fwy deniadol o wneud hyn. Mae’r Platfform Cyffredin yn rhaglen arloesol, cymhleth ac ysbrydol sy’n annog newid. Dylai’r cyflwyniad ar gyfer gweithwyr newydd adlewyrchu hynny.

Felly, rydym am roi cynnig ar Brofion Llyfr Agored.

Beth yw Profion Llyfr Agored

Yn y bôn, mae’r cysyniad yr un fath ag arholiad llyfr agored; ond yn ein cyd-destun ni, y llyfr yw'r system, cynnyrch neu wasanaeth yr ydym yn ei brofi.

Datblygwyd y dechneg hon gan ‘Context-Driven-Testing’ (rhywbeth yr ydym yn ystyried yn ddefnyddiol iawn ar y Platfform Cyffredin). Bydd y dechneg hon yn cynnwys cyflwyno cyfres o gwestiynau, a ddiffinnir gan y gwasanaeth presennol ac arbenigwyr cynnyrch neu brofwyr eraill, i weithwyr newydd.

Y nod yw bod gweithwyr newydd yn dysgu am y cynnyrch a’r gwasanaeth trwy archwilio a defnyddio’r cymhwysiad i ateb y cwestiynau. Yn ystod y broses hon, bydd profwyr yn cadw nodiadau am yr hyn y maent yn canfod.

Dylai'r gweithiwr newydd ddysgu am y cynnyrch ac mae’r tîm arweinyddiaeth yn dysgu sut mae'r gweithiwr newydd yn ymdrin â’r profion. Mae gan y gweithiwr newydd gyfle i gyflwyno canfyddiadau a chymharu canlyniadau gyda gweddill y tîm a cheir safbwynt ffres ar y system gan y gweithiwr newydd.

Sharing and comments

Share this page