Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2017/04/06/digital-defence-liverpool-law-courts-research-results/

Digital defence: Liverpool Law Courts research results

Posted by: , Posted on: - Categories: Crime, Digital services


[English] - [Cymraeg]

Firstly, I’d like to thank the defence practitioners who took part in our research event at Liverpool QEII Law Courts on 25 January 2017.

We conducted two types of CJS Common Platform Programme research sessions. The first was 3 30-minute one-to-one interviews that tested the designs of the hearing result screens.

The second 90-minute session was on hearing events. A big thank you to Mike Leeman from BLJ Solicitors who took part in this session and the earlier 30 minute session.

During the day, Rich Platt was fantastic, he helped take me to the area where lawyers get ready to go into court and introduced me to a number of practitioners. We spoke to them and explained about the research sessions that were taking part that day, why defence involvement is so important and asked if they would like to take part. A number of defence practitioners’ took my contact details and said they would be in touch if their court cases finished in time.

At 3pm, just before the second session was due to start a number of practitioners I had spoken to earlier in the day at Liverpool turned up to participate including a prosecutor. This clearly demonstrated to me an appetite from practitioners to get involved in our work, but showed we need to be flexible and work around their existing court commitments.

people talking around tables

So what did we learn in our sessions

There were 29 participants involved in the research, which spanned 3 days and included Judges, staff from HMCTS, CPS, Probation Service and HMP Liverpool and defence practitioners.

The feedback from defence practitioners who were shown the Crown Court hearing result screens were:

  • improvements to the screen designs, for example making the composition of the total sentence clearer
  • improved access to hearing result information in a more timely manner
  • users have different needs dependent on their roles

We learnt from the practitioners and a prosecutor who undertook the card sort exercise in relation to hearing events:

  • Participants generally grouped the cards by 'hearing type', e.g. trials
  • A few also grouped by 'subject', e.g. applications
  • All users agreed with the aims and principles behind removing free-text, as long as we provided for all eventualities

people talking around tables

What happens to this information

The output from this research will help us to create and improve the screen designs for the common platform and how cases are resulted in the Crown Court. We will also use it in the next round of research and testing to ensure any changes meet the needs of users.

Do you want to be kept informed

If you would like to be kept informed of our ongoing defence practitioner research programme or wider common platform programme development please sign up to receive our email alerts. Alternatively, please get in touch with me by email or using the comment facility at the bottom of this page.


[English] - [Cymraeg]

Amddiffyn Digidol: Canlyniadau ymchwil Llysoedd Barn Lerpwl

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i ymarferwyr yr amddiffyniad a gymerodd ran yn ein digwyddiad ymchwil yn Llysoedd Barn Brenhines Elisabeth yr Ail, Lerpwl ar 25 Ionawr 2017.

Cynhaliom ddau fath o sesiynau ymchwil ar gyfer Rhaglen Platfform Cyffredin y System Cyfiawnder Troseddol. Roedd y sesiwn cyntaf yn cynnwys 3 cyfweliad un i un o 30 munud o hyd a oedd yn profi dyluniadau’r sgriniau a oedd yn dangos canlyniadau gwrandawiadau.

Roedd yr ail sesiwn o 90 munud yn ymwneud â digwyddiadau gwrandawiadau. Diolch yn fawr iawn i Mike Leeman o BLl Solicitors a gymerodd ran yn y sesiwn hwn a’r sesiwn 30 munud yn gynharach.

Yn ystod y dydd, roedd Rich Platt yn wych, i fynd a fi i’r man lle’r oedd cyfreithwyr yn paratoi i fynd i’r llys yn ogystal â fy nghyflwyno i nifer o ymarferwyr. Cawsom sgwrs gyda nhw i esbonio’r sesiynau ymchwil a oedd yn cael eu cynnal y diwrnod hwnnw, pam fod cynnwys yr amddiffyniad mor bwysig a gofyn a hoffent gymryd rhan. Cymerodd nifer o ymarferwyr yr amddiffyniad fy manylion cyswllt gan ddweud y byddant yn cysylltu os byddai eu hachosion llys yn gorffen mewn pryd.

Am 3pm, cyn i’r ail sesiwn gychwyn, daeth nifer o ymarferwyr yr oeddwn wedi siarad hefo nhw yn gynharach yn y dydd yn Lerpwl draw i gymryd rhan, gan gynnwys erlynydd. Dangosodd hyn yn glir bod gan ymarferwyr ddiddordeb mewn bod yn rhan o’n gwaith, ond dangosodd bod angen inni fod yn hyblyg a gweithio o amgylch eu hymrwymiadau llys presennol.

Beth wnaethom ni ddysgu yn ein sesiynau

Roedd 29 o ymarferwyr ynghlwm â’r ymchwil. Cynhaliwyd yr ymchwil dros 3 diwrnod ac roedd yn cynnwys Barnwyr, staff o GLlTEM, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Prawf, CEM Lerpwl ac ymarferwyr yr amddiffyniad.

Dyma’r adborth a gafwyd gan ymarferwyr yr amddiffyniad a welodd sgriniau canlyniadau gwrandawiadau Llys y Goron:

  • gwelliannau i ddyluniadau’r sgriniau, er enghraifft, gwneud cyfansoddiad y frawddeg lawn yn gliriach.
  • gwell mynediad at wybodaeth mewn perthynas â chanlyniadau gwrandawiadau mewn modd mwy amserol.
  • mae gan ddefnyddwyr wahanol anghenion yn dibynnu ar eu rolau

Dysgom y canlynol gan ymarferwyr ac erlynydd a gymerodd ran yn yr ymarfer didoli cardiau mewn perthynas â digwyddiadau gwrandawiadau:

  • Yn gyffredinol mi wnaeth y cyfranogwyr grwpio’r cardiau fel ‘math o wrandawiad’, e.e. treialon
  • Hefyd, mi wnaeth rhai eu grwpio fel ‘pwnc’, e.e. ceisiadau
  • Cytunodd pob defnyddiwr gyda’r nodau a'r egwyddorion dros dynnu'r testun rhydd, ar yr amod ein bod yn darparu ar gyfer pob posibilrwydd.

Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth hon

Bydd yr allbynnau o’r ymchwil hwn yn ein helpu ni i greu a gwella’r dyluniadau sgrin ar gyfer y platfform cyffredin a sut mae canlyniadau achosion yn cael eu cofnodi yn Llys y Goron. Byddwn hefyd yn ei ddefnyddio yn rownd nesaf yr ymchwil a byddwn yn ei brofi i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn bodloni anghenion y defnyddwyr.

Ydych chi eisiau cael eich hysbysu

Os hoffech chi gael eich hysbysu o’n rhaglen ymchwil barhaus ar gyfer ymarferwyr yr amddiffyniad neu ddatblygiad ehangach y rhaglen platfform cyffredin, cofrestrwch i gael ein diweddariadau e-bost. Fel arall, cysylltwch â mi drwy e-bost neu drwy ddefnyddio’r adran sylwadau ar waelod y dudalen hon.

Sharing and comments

Share this page