Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2017/12/20/successful-reform-roadshows-more-dates-announced/

Successful reform roadshows - more dates announced...

Posted by: , Posted on: - Categories: Civil, Court and tribunal reform, Crime, Digital services, Family, Tribunals


[English] - [Cymraeg]

Not even a bitterly cold December evening in London could deter the scores of legal professionals taking part in the third of our courts and tribunals reform roadshow events held in the Great Hall of the Royal Courts of Justice last week.

Like the first two, in Newcastle and Manchester, this was a meeting full of ideas, commitment and challenge that discussed the overall reform programme with a particular focus on scheduling and listing practice, flexible operating hours and virtual hearings.

Three months ago, in a series of blogs, I set out why I believe the reform our justice system is so necessary, how the changes we have introduced are already making a positive difference and what the next phase of modernisation will include and look like.

Yet I was also clear that we in HMCTS needed to do more to engage directly with those who work within the system to enhance wider understanding of the reform programme, and – more importantly – to listen to the views and insights of those with first-hand experience in order to improve what we do and how we do it.

I am determined to ensure that this is more than just warm words, and the legal professional roadshows are one part of our efforts to do a lot more to engage with – and listen to - all those who work in the justice system, as well as those who use and need it. We’re doing this at all levels, from asking what needs improvement overall to testing new individual ways of doing things with real people, from ensuring our language is clear and intelligible to making sure changes we make actually help.

More than 150 legal professionals gave up their spare time to take part in the three roadshow events – and the feedback from those that attended has been encouragingly positive. I was impressed by the high quality of the contributions of all those who took part, reflecting the deep commitment to the justice system of all those who practise and the real determination to change what isn’t working.

Yet our engagement is also asking questions about different ways of doing things, and presenting and testing opportunities not just for gradual improvement but for real innovation. But here, too, the discussions demonstrated a real willingness to embrace reform. For example, on virtual hearings, where many of the roadshow conversations were particularly rich, there was an understandable caution about the circumstances where such hearings would not be appropriate combined with a real enthusiasm for the ways in which they might improve case management and progress hearings in particular. Likewise on scheduling and listing where there was great appetite for change.

Of course, there was some criticism too, particularly on flexible operating hours. But many of those attending appreciated both our willingness to engage and the opportunity it gave for them to hear how specific policies and initiatives fit into the wider whole of reform.

We are currently going through the hundreds of comments, suggestions and ideas offered to us at the three events, and in the New Year we will publish a summary of the discussions. They will help shape what we are doing. Meanwhile, I am pleased to announce the next three legal professional reform roadshow events are to be held in in Birmingham (29 January), Winchester (5 February) and Leeds (19 February). We will publicise these widely to make sure as many people as possible have a chance to attend.

These events are a start rather than a full answer to the need to be more responsive and open. But I hope they signal a commitment on our part to engage and to listen more intently, and a willingness to develop a collaborative approach to much-needed reform.

Thank you to all those who took part and I hope others will sign up to attend the next three, with more to follow too. I cannot guarantee high temperatures (though we will try to improve on the rather Arctic conditions of the RCJ) – but based on the events we’ve held so far, serious and valuable discussions on important issues will certainly feature.

Have a very merry Christmas and a happy New Year, from me and from all in HMCTS.


[English] - [Cymraeg]

Ni allai noson gythreulig o oer ym mis Rhagfyr yn Llundain hyd yn oed rwystro ugeiniau o weithwyr yn y proffesiwn cyfreithiol rhag cymryd rhan yn nhrydedd sioe deithiol ein rhaglen ddiwygio llysoedd a thribiwnlysoedd a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr y Llysoedd Barn Brenhinol yr wythnos ddiwethaf.

Fel y ddau gyntaf, a gynhaliwyd yng Nghastellnewydd a Manceinion, roedd hwn yn gyfarfod llawn syniadau, ymrwymiad a heriau a oedd ymdrin â’r rhaglen ddiwygio yn ei chyfanrwydd gyda ffocws penodol ar amserlennu ac arferion rhestru, oriau gweithredu hyblyg a gwrandawiadau rhith.

Tri mis yn ôl, mewn cyfres o flogiau, nodais pam fy mod yn credu bod diwygio ein system cyfiawnder mor angenrheidiol, sut mae’r newidiadau yr ydym eisoes wedi’u cyflwyno yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a beth fydd y cam nesaf o ran moderneiddio yn ei gynnwys a sut bydd yn edrych.

Er hynny, dywedais yn glir ein bod ni yn GLlTEM angen gwneud mwy i gysylltu’n uniongyrchol â’r rhai hynny’n sy’n gweithio yn y system i ennyn dealltwriaeth ehangach o’r rhaglen ddiwygio, ac – yn bwysicach fyth – gwrnado ar safbwyntiau a barn y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol i wella’r hyn a wnawn a sut yr ydym yn ei wneud.

Rwy’n benderfynol i sicrhau fod hyn yn fwy na gwag siarad, ac mae’r sioeau teithiol ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yn un rhan o’n hymdrechion i wneud llawer mwy i gysylltu â - a gwrnado ar - yr holl rai sy’n gweithio yn y system cyfiawnder, yn ogystal â’r rhai sy’n ei defnyddio ac sydd ei hangen. Rydym yn gwneud hyn ar bob lefel, o ofyn beth sydd angen ei wella yn gyffredinol, i roi cynnig ar ffyrdd unigol newydd o wneud pethau gyda phobl go iawn, o sicrhau bod ein hiaith yn glir a dealladwy a gwneud yn siŵr bod y newidiadau yr ydym yn eu gwneud yn helpu.

Rhoddodd dros 150 o weithiwr yn y proffesiwn cyfreithiol o’u hamser i gymryd rhan yn y tair sioe deithiol - ac roedd yr adborth a gafwyd gan y rhai hynny a oedd yn bresennol yn gadarnhaol iawn. Cafodd safon uchel y cyfraniadau gan bawb a oedd yn bresennol argraff dda iawn arnaf. Roeddynt yn adlewyrchu ymrwymiad dwfn i’r system cyfiawnder gan yr holl ymarferwyr ynghyd â deisyfiad go iawn i newid beth sydd ddim yn gweithio.

Er hynny, mae’r cwestiynau a ddaeth i’r fei yn y digwyddiadau hyn yn dal i ofyn am ffyrdd gwahanol o wneud pethau, a chyflwyno a phrofi cyfleoedd nid yn unig ar gyfer gwella yn raddol ond hefyd ar gyfer arloesi go iawn. Nid yw hyn bob amser yn hawdd. Roedd y trafodaethau hyn hefyd yn dangos parodrwydd go iawn i groesawu’r newidiadau arfaethedig o ran diwygio. Er enghraifft, gwrandawiadau rhith, a oedd yn ganolog i’r rhan fwyaf o sgyrsiau yn y sioeau teithiol. Roedd consyrn rhesymol ynghylch yr amgylchiadau lle na fyddai gwrandawiadau o'r fath yn briodol, ynghyd â brwdfrydedd gwirioneddol ar gyfer y ffyrdd y gallant wella’r ffordd maent yn rheoli achosion a datblygu gwrandawiadau yn benodol. Rhywbeth yn debyg oedd y teimladau ynghylch amserlennu a rhestru lle’r oedd awydd mawr am newid.

Wrth gwrs, roedd rhywfaint o feirniadaeth hefyd, ar oriau gweithredu hyblyg yn enwedig. Er hynny, roedd y rhan fwyaf o’r rheiny a oedd yn bresennol yn gwerthfawrogi ein parodrwydd i fod yn barod i siarad, a’r cyfle a roddwyd iddynt i glywed sut mae polisïau a mentrau penodol yn ffitio o fewn y broses ddiwygio ehangach.

Rydym ar hyn o bryd yn edrych drwy gannoedd o sylwadau, awgrymiadau a syniadau a gynigiwyd inni yn y tri digwyddiad, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r trafodaethau yn y Flwyddyn Newydd. Byddant yn helpu i lywio beth yr ydym yn ei wneud. Yn y cyfamser, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd y tair sioe deithiol nesaf ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yn cael eu cynnal yn Birmingham (29 Ionawr), Caerwynt (5 Chwefror) a Leeds (19 Chwefror). Byddwn yn lledaenu hyn yn eang i wneud yn siŵr y bydd cymaint o bobl â phosibl yn cael y cyfle i fynychu.

Man cychwyn yw’r digwyddiadau hyn yn hytrach nag ateb llawn i’r angen i fod yn fwy atebol ac agored. Wedi dweud hynny, rwy’n gobeithio eu bod yn cyfleu ein hymrwymiad i gysylltu â phobl a gwrando yn fwy astud, a’n parodrwydd i ddatblygu dull cydweithredol ar gyfer y gwaith mawr sydd angen ei wneud o ran y rhaglen ddiwygio.

Diolch i bawb a gymerodd ran ac rwy’n gobeithio y bydd mwy yn cofrestru i fynychu'r tri nesaf, gyda rhagor i ddilyn hefyd. Ni allaf warantu y bydd hi’n gynnes iawn (er y byddwn yn ceisio gwella ar yr amodau rhewllyd yn y Llysoedd Barn Brenhinol) - ond yn seiliedig ar y digwyddiadau yr ydym wedi'u cynnal hyd yn hyn, bydd trafodaethau difrifol a gwerthfawr ar faterion pwysig yn sicr o chwarae rhan bwysig.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gennyf i a phawb arall yn GLlTEM.

Sharing and comments

Share this page