Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2020/02/28/a-fresh-young-perspective-on-court-information/

A fresh, young perspective on court information

Posted by: , Posted on: - Categories: Court and tribunal reform, Crime


[English] - [Cymraeg]

Going to court can be a frightening experience for anyone. But even more so if you’re a child or young adult - and you’re facing a criminal charge.

"What’s going on in a court when I first go in. What does everyone there do?"
"What can the Judge do and not do?"
"Will I be able to sit with my Mum?"
"What if I don’t understand what’s happening?"
"Am I allowed to ask questions?"
"Why does everyone have to turn their phone off?"
"Why are you told to always face the front?"

These are some of the most common questions we’re asked by young people going to court for the first time.

We’re working with a group of children and young adults, aged between 14 and 25, who have been directly involved in the youth justice system. We want to use their experiences to guide us in helping others like them who might find themselves in a similar situation.

Young boy standing in front of rom of otehr people talking

The group is called the Youth Advisory Network Ambassadors, brought together by the Youth Justice Board. These volunteers act as ‘ambassadors’ to represent other young people across England and Wales.

We asked them - and other young people, including children in youth custody - about their concerns. They also told us what information they’d have found useful before going to court.

What they told us

We’ve had a great response and received lots of feedback and suggestions including:

  • someone to give the guidance in person
  • information available through different channels (like on an app, in a leaflet, in a video)
  • information presented by young people and from their point of view
  • acknowledgement that a child and a teenager will see things differently
  • different ways to communicate with different types of young people
  • guidance on how to present themselves in court, including what to wear, when to speak and what to bring with them

It’s important we get the tone of our information right. If it’s too formal, as if the police have written it, young people are more likely to ignore it. Our guidance should be sensitive and not assume all defendants are guilty.

The group told us that the physical environment is very important to them. Young people might want to know things like:

"Are the entrances and exits the same for everybody?"
"Why don’t you let us know about security searches at courts before we get there?"
"Will I be safe?"
"Can you see people you know in the waiting area?"

They told us they want guidance on their legal entitlements. They want to understand how under 18s find information about getting a solicitor and if they have to cover the cost themselves. They also want help with questions about specific orders and guidance on whether or not they’ll need to attend court in future.

What we’re doing as a result

We know one size won’t fit all. We recognise there are some common themes coming out around the style and content of the information we make available for children, young adults and their parents or guardian. We intend to start with what our users have told us.

We need to make sure the information we provide is easy to understand and free of language young people don’t understand. We always want to speak to people using our courts in a ‘human’ way.

Nicola Kefford, Head of Stakeholder Engagement and Advice at the Youth Justice Board commented:

We’re fortunate to work with a fantastic group of ambassadors who were able to provide HMCTS with first-hand, honest, valuable insight. This insight, along with a wealth of ideas from the group, will support improvements to the experiences of children and young people attending court in the future.

Children and young people facing court should feel well prepared and safe. Many of the ambassador’s ideas will take us much closer to that being a reality. I’m grateful not only to the ambassadors, but also to HMCTS for listening to an often-marginalised group.

Our priorities

Using the ambassador feedback, we’re starting to work on a guide to the youth court as well as a ‘who’s who’ poster for use online and in court buildings. This information will be available to support young people coming to court. We’re also reviewing our guidance to make sure the language is easy to understand, and the information is clear for children and young adults.

We’re planning work on hearing notices used in the youth court. We’re not able to change the legally-required information in them so we want to find other ways to make them easier to understand.

We’ll continue to work with the ambassadors and the wider network of young people to make sure our work uses their feedback and meets the needs of the groups they’re for.

Their feedback on what works and what doesn’t has given us lots to think about and will remain important as our work develops.


[English] - [Cymraeg]

Golwg newydd ar wybodaeth am y llysoedd

Gall mynd i’r llys fod yn brofiad brawychus i unrhyw un. Ond gall fod yn waeth byth os ydych yn blentyn neu’n oedolyn ifanc - ac os ydych yn wynebu cyhuddiad troseddol.

“Beth fydd yn digwydd yn y llys pan fydda i’n mynd i mewn? Beth mae pawb sydd yn y llys yn ei wneud?
“Beth all y barnwr wneud a beth na all ei wneud?”
“Fydda i’n cael eistedd efo Mam?
“Beth os nad ydw i’n deall beth sy’n digwydd?”
“Ydw i’n cael gofyn cwestiynau?”
“Pam bod rhaid i bawb ddiffodd eu ffonau?”
“Pam eu bod wastad yn dweud wrthych i wynebu’r tu blaen?”

Dyma rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a oedd yn cael eu gofyn gan bobl ifanc a oedd yn dod i’r llys am y tro cyntaf.

Rydym yn gweithio gyda grŵp o blant ac oedolion ifanc rhwng 14 a 25 mlwydd oed, sydd wedi ymwneud yn uniongyrchol â’r system gyfiawnder ieuenctid. Rydym eisiau defnyddio eu profiadau i’n cynorthwyo i helpu rhai eraill tebyg a all fod mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol.

Enw’r grŵp hwn yw Llysgenhadon y Rhwydwaith Ymgynghorol Ieuenctid, a gafodd ei ffurfio gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn gweithredu fel ‘llysgenhadon’ i gynrychioli pobl ifanc eraill ledled Cymru a Lloegr.

Mi wnaethom ofyn iddyn nhw - a phobl ifanc eraill, yn cynnwys plant yn y ddalfa ieuenctid - am eu pryderon. Hefyd, mi wnaethant ddweud wrthym pa wybodaeth fyddai wedi bod yn ddefnyddiol i'w chael cyn dod i'r llys.

Eu sylwadau

Cawsom ymateb gwych, gyda llawer o adborth ac awgrymiadau, yn cynnwys:

  • cael rhywun i roi'r arweiniad yn bersonol
  • sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn sawl gwahanol ffurf (fel ap, taflen wybodaeth a fideo)
  • gwybodaeth yn cael ei chyflwyno gan bobl ifanc ac o’u safbwynt nhw
  • cydnabod y bydd plentyn ac unigolyn yn ei arddegau yn gweld pethau mewn ffordd wahanol
  • gwahanol ffyrdd i gyfathrebu gyda gwahanol fathau o bobl ifanc
  • arweiniad ar sut i ymddwyn yn y llys, yn cynnwys beth i wisgo, pryd i siarad a beth ddylen nhw ddod gyda nhw

Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio'r cywair iawn wrth gyflwyno gwybodaeth. Os yw'r wybodaeth yn rhy ffurfiol, fel petai'r heddlu wedi ei hysgrifennu, mae pobl ifanc yn fwy tebygol o’i hanwybyddu. Dylai ein harweiniad fod yn sensitif a pheidio â chymryd yn ganiataol bod pob diffynnydd yn euog.

Dywedodd y grŵp bod yr amgylchedd ffisegol yn bwysig iawn iddynt. Efallai y bydd pobl ifanc eisiau gwybod pethau fel:

“A fydd pawb yn dod i mewn ac allan trwy’r un drws?
“Pam nad ydych yn dweud wrthym am y prosesau chwilio yn y llysoedd cyn inni ddod i’r llys?”
“Fydda i’n ddiogel?”
“Fedrwch chi weld pobl rydych chi’n eu nabod yn yr ystafell aros?”

Dywedodd y grŵp eu bod eisiau arweiniad ar eu hawliau cyfreithiol. Maen nhw eisiau deall sut mae pobl dan 18 oed yn dod o hyd i wybodaeth am sut i gael cyfreithiwr ac a fydd rhaid iddynt dalu am gostau cyfreithiol eu hunain. Maen nhw hefyd eisiau cymorth gyda chwestiynau am orchmynion penodol ac arweiniad ynglŷn â'r angen i ddod i’r llys yn y dyfodol.

Beth rydym yn ei wneud o ganlyniad i’r adborth

Gwyddom nad yw un ffordd yn gweithio i bawb. Rydym yn cydnabod bod yna themâu cyffredin yn codi o ran arddull a chynnwys yr wybodaeth rydym yn ei rhannu gyda phlant, oedolion ifanc a’u rhieni neu warcheidwaid. Rydym yn bwriadu cychwyn gyda’r pethau mae ein defnyddwyr wedi eu dweud.

Rydym angen sicrhau bod yr wybodaeth rydym yn ei darparu yn hawdd i’w deall a heb unrhyw iaith gymhleth na fydd pobl ifanc yn ei deall. Rydym wastad eisiau siarad gyda'r bobl sy’n defnyddio ein llysoedd mewn ffordd barchus a theg.

Meddai Nicola Kefford, Pennaeth Cynghori ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid:
“Rydym yn ffodus iawn ein bod yn gweithio gyda grŵp anhygoel o lysgenhadon sydd wedi rhannu safbwyntiau gonest a gwerthfawr am eu profiadau personol gyda GLlTEM. Bydd y safbwyntiau hyn, ynghyd â llith o syniadau gan y grŵp, yn helpu i wella profiadau plant a phobl ifanc a fydd yn dod i’r llys yn y dyfodol.

Dylai plant a phobl ifanc sy’n ymddangos gerbron y llys allu teimlo eu bod wedi gallu paratoi’n dda a theimlo’n ddiogel. Bydd llawer o syniadau’r llysgenhadon yn ein helpu i wireddu hynny. Rwy’n ddiolchgar iawn, nid yn unig i’r llysgenhadon, ond hefyd i GLlTEM am wrando ar grŵp sy’n aml yn cael ei esgeuluso.

Ein blaenoriaethau

Trwy ddefnyddio'r adborth gan y llysgenhadon, rydym wedi dechrau paratoi canllaw ar gyfer y llys ieuenctid, ynghyd â phoster ‘Pwy ydy pwy’ a fydd yn cael ei rannu ar-lein a’i arddangos mewn adeiladau llys. Bydd yr wybodaeth hon ar gael i gefnogi pobl ifanc sy’n dod i'r llys. Rydym hefyd yn adolygu ein harweiniad i sicrhau bod yr iaith yn hawdd i'w deall a bod yr wybodaeth yn glir i blant ac oedolion ifanc.

Rydym yn cynllunio gwaith i'w wneud ar hysbysiadau o wrandawiad yn y llys ieuenctid. Ni allwn newid yr wybodaeth o fewn yr hysbysiadau sy’n angenrheidiol yn ôl y gyfraith, felly rydym eisiau meddwl am ffyrdd eraill i’w gwneud yn haws i'w deall.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r llysgenhadon a’r rhwydwaith ehangach o bobl ifanc i sicrhau ein bod yn defnyddio eu hadborth a bod ein gwaith yn bodloni anghenion plant a phobl ifanc.

Mae eu hadborth ar beth sy’n gweithio’n dda a beth nad yw’n gweithio wedi rhoi digon inni gnoi cil arno, a bydd yn parhau i fod yn bwysig inni wrth i’n gwaith ddatblygu.

Sharing and comments

Share this page