Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2020/02/11/improving-the-way-organisations-access-and-manage-civil-family-and-tribunal-cases/

Improving the way organisations access and manage civil, family and tribunal cases


[English] - [Cymraeg]

In gathering my thoughts for this blog, I found myself feeling nostalgic about the 1990s, recalling times when familiar faces appeared daily to progress their cases at the public counter in the small South West city where I began my working life.

Life has changed enormously since then, yet the ways in which we expect legal professionals to interact with our civil, family and tribunals services have hardly changed at all.

Man sitting by a laptop at a desk

Perhaps this makes MyHMCTS, a service for legal firms and other organisations, all the more exciting and significant. It signals the start of real change for these frequent users of HMCTS services, in ways much more fitting for the 2020s.

What is MyHMCTS?

When all of our services become available online, MyHMCTS will provide a single place for legal firms and other organisations to issue, pay for and manage applications falling within the jurisdiction of the County Court, Family Court and tribunals.

Employees within an organisation will be able to access all live cases from a single case list. They will receive notifications of any status changes (such as an order having been made) and be able provide others within their organisation with access to their cases. Users with the relevant permissions will also be able to view their Payment by Account (PBA) transactions.

MyHMCTS has been designed based on feedback from legal professionals working in firms of all sizes and in a variety of business areas.

Who is already using it?

Organisations can already register to use MyHMCTS and around 600 have chosen to so far.

At the moment, only probate and divorce services are available online to legal professionals through MyHMCTS, although financial remedy, immigration appeals and family public law (care) proceedings will be joining in the coming months.

Unsurprisingly, those registered so far are mostly firms of solicitors dealing with probate and divorce, along with a smaller number of will writing services, chartered accountants and notaries public.

How do I register?

Registration is free and usually confirmed within three working days.  Anyone wishing to register can do so by visiting our MyHMCTS registration page.

Once registered and confirmed as an administrator for their organisation, MyHMCTS users can invite colleagues to create their own accounts, choosing the type of access required for each person.  From their own login, people can then issue new applications, view case details online and take action to progress cases as needed.

Why register now when only probate and divorce services are available?

  • registered organisations will automatically get access to new services as they become available
  • users will see all their cases progressing online in one place without having to log in and out of individual services, thereby removing the need to telephone, email or visit an HMCTS venue to establish what is happening on a given case
  • users will be able to take action to progress cases issued online, such as uploading a digital bundle quickly and easily from their desk.

What can I expect from MyHMCTS in the future?

We will be adding features to improve MyHMCTS and have already planned to allow administrators to edit access permissions of individual users and to suspend accounts for people within their organisation. Other improvements will include:

  • the ability to file a notice of acting online
  • the ability to share cases with others in their organisation
  • view payment by Account transaction details to those users with the appropriate access permission
  • users will be able to lodge case-related queries using forms with pre-populated case details and add attachments (such as letters) digitally.

Please email us if you have any questions or to provide feedback about MyHMCTS.


[English] - [Cymraeg]

Gwella’r ffordd mae sefydliadau yn cael mynediad at achosion Sifil, Teulu a Thribiwnlys a’r ffordd maent yn cael eu rheoli

Wrth ysgrifennu’r blog hwn, roeddwn yn hiraethu am y 1990au, gan gofio’r adeg pan oeddwn yn gweld yr un hen wynebau yn ddyddiol wrth y cownter yn holi am eu hachosion mewn dinas fechan yn Ne Orllewin Lloegr lle dechreuais fy mywyd gwaith.

Mae bywyd wedi newid yn sylweddol ers hynny, ond wedi dweud hynny, nid yw'r ffordd y disgwyliwn i weithwyr proffesiynol cyfreithiol ryngweithio â'n gwasanaethau sifil, teulu a thribiwnlys wedi newid o gwbl.
Efallai fod hyn yn golygu mai gwasanaeth ar gyfer cwmnïau cyfreithiol a sefydliadau eraill yw MyHMCTS a’i fod yn fwy cyffrous ac arwyddocaol yn hynny o beth. Mae’n arwydd o newid gwirioneddol i’r bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau GLlTEM mewn ffyrdd llawer mwy addas ar gyfer 2020 a thu hwnt.

Beth yw MyHMCTS?

Pan fydd ein gwasanaethau ar gael ar-lein, bydd MyHMCTS yn darparu man unigol i gwmnïau cyfreithiol a sefydliadau eraill gyhoeddi ceisiadau sy'n dod o dan awdurdodaeth y llys sirol, y llys teulu a’r tribiwnlysoedd a’u rheoli, talu amdanynt a’u rheoli.

Bydd gweithwyr o fewn sefydliad yn gallu cael mynediad at bob achos sy’n mynd rhagddo o un rhestr achos. Byddant yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i statws (megis pan fydd gorchymyn wedi'i wneud) ac yn gallu rhoi mynediad i eraill o fewn eu sefydliad at eu hachosion. Bydd defnyddwyr sydd â'r caniatâd perthnasol hefyd yn gallu gweld eu trafodion Trosglwyddiad Cyfrif (PBA).

Lluniwyd MyHMCTS yn seiliedig ar adborth gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol sy'n gweithio i gwmnïau o bob maint ac mewn amrywiaeth o feysydd busnes.

Pwy sy'n ei ddefnyddio'n barod?

Mae sefydliadau eisoes yn gallu cofrestru i ddefnyddio MyHMCTS ac mae tua 600 wedi gwneud hynny hyd yn hyn.

Ar hyn o bryd, dim ond gwasanaethau profiant ac ysgariad sydd ar gael ar-lein i weithwyr proffesiynol cyfreithiol drwy MyHMCTS, bydd datrysiad ariannol, apeliadau mewnfudo ac achosion cyfraith gyhoeddus (gofal) ar gael yn ystod y misoedd nesaf.

Nid yw'n syndod mai’r rhai sydd wedi cofrestru hyd yma yw cwmnïau o gyfreithwyr sy'n delio â phrofiant ac ysgariad, ynghyd â nifer llai o wasanaethau ysgrifennu, cyfrifwyr siartredig a notarïaid cyhoeddus.

Sut ydw i'n cofrestru?

Mae cofrestru gyda MyHMCTS yn rhad ac am ddim ac fel arfer cadarnheir y cofrestriad o fewn tri diwrnod gwaith.  Gall unrhyw un sy'n dymuno cofrestru wneud hynny drwy fynd ar lein.

Ar ôl iddynt gofrestru a chael eu cadarnhau fel gweinyddwr ar gyfer eu sefydliad, gall defnyddwyr MyHMCTS wahodd cydweithwyr i greu eu cyfrifon eu hunain, gan ddewis y math o fynediad sydd ei angen ar gyfer pob unigolyn. O'u cyfrif eu hunain, gall pobl wedyn gyhoeddi ceisiadau newydd, gweld manylion achosion ar-lein a chymryd camau i symud achosion yn eu blaen yn ôl yr angen.

Pam cofrestru nawr pan mai dim ond gwasanaethau profiant ac ysgariad sydd ar gael?

  • Bydd sefydliadau cofrestredig yn cael mynediad at wasanaethau newydd yn awtomatig wrth iddynt ddod ar gael.
  • Bydd y defnyddwyr yn gweld eu holl achosion ar-lein mewn un lle heb orfod mewngofnodi a logio allan o wasanaethau unigol, a thrwy hynny ddileu'r angen i ffonio, anfon e-bost neu fynd i adeilad GLlTEM er mwyn canfod beth sy'n digwydd mewn achos penodol.
  • Bydd defnyddwyr yn gallu cymryd camau i ddatblygu achosion a gyflwynir ar-lein, fel llwytho bwndel digidol yn gyflym ac yn hawdd o'u desgiau.

Beth alla i ei ddisgwyl gan MyHMCTS yn y dyfodol?

Byddwn yn ychwanegu nodweddion i wella MyHMCTS ac rydym eisoes wedi trefnu i alluogi gweinyddwyr i olygu caniatâd defnyddwyr unigol ac i atal cyfrifon ar gyfer pobl o fewn eu sefydliad. Bydd gwelliannau eraill yn cynnwys:

  • Y gallu i ffeilio hysbysiad gweithredu ar-lein.
  • Y gallu i rannu achosion gydag eraill yn eu sefydliad.
  • Bydd manylion trafodion Trosglwyddiad Cyfrif (PBA) ar gael i'r defnyddwyr hynny sydd â'r caniatâd mynediad priodol.
  • Bydd defnyddwyr yn gallu cyflwyno ymholiadau sy'n gysylltiedig ag achosion gan ddefnyddio ffurflenni gyda manylion achos arnynt ac ychwanegu atodiadau (fel llythyrau) yn ddigidol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am MyHMCTS, cysylltwch â ni yn ebost.

Sharing and comments

Share this page