Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2019/11/01/public-users-asked-for-views-on-open-justice/

Public users asked for views on open justice

Posted by: , Posted on: - Categories: Civil, Court and tribunal reform, Crime, Family, Tribunals, User experience and research


[English] - [Cymraeg]

Open justice is a fundamental principle, essential to our justice system and of paramount importance to the rule of law. The principle requires that ‘justice should not only be done, but should manifestly and undoubtedly be seen to be done’1. We are absolutely committed to ensuring that our reformed courts and tribunals continue to be as open as they are currently.

There are many aspects to open justice, as our court reform programme introduces new digital services and increases the use of video technology, the way in which people interact with courts and tribunals will change - so we need to look at how we maintain open justice in a digital world. Other areas include our use of data, see the recently published report by Dr Natalie Byrom, and media access to courts and court reporting.

In my blog today, I’ll talk about our work with Policy Lab and gathering some of the public perceptions of open justice.

Partnering with Policy Lab

Policy Lab is an open and multidisciplinary team of civil servants, established to develop, test and demonstrate experimental and people-centred approaches to tackling the government’s most tricky policy challenges. They are based in the Cabinet Office and partner with teams across government to help them understand the people their policy affects and to co-design solutions.

We partnered with the Policy Lab to bring some fresh thinking and to understand the general public’s perceptions and expectations of an open justice system, and gauge likely public reaction to some ideas about upholding the openness of the justice system.

Public workshops

Policy Lab ran four workshops in London and Manchester on 2 and 4 July 2019. 44 members of the general public (who have not had recent contact with the justice system) discussed their understanding of and feelings towards open justice. These small focus groups considered a set of provocation scenarios depicting the future, and shared their reactions to some ideas about open justice in a digital age.

People sitting down on chairs reading leaflets with open justice statements

What we learned

Findings from this series or small workshops provided helpful insights that will help us develop our thinking further:

  • Justice was defined very narrowly (primarily in terms of outcomes and criminal cases)
  • The media was by far the biggest medium of hearing/learning about the justice system
  • People saw the main purposes of open justice as seeing people held accountable for their actions and deterrence
  • There was a strong sense that there is a limit to how open justice should be
  • There was a general feeling that justice is open enough
  • It was generally agreed that people are likely to go to or follow cases only if they had a personal connection or interest

The full evaluation report has been published on GOV.UK and you can also find more information on the Policy Lab blog.

Next steps

Our work with the Policy Lab is just the beginning and will be used to inform our design work as we increase the use of digital and video technologies and processes in courts and tribunals. Although a very small sample of people’s views, the findings help us understand the types of implications proposals may have, so we can improve our designs and our services.

We will use this blog to keep you informed on developments in our open justice work. If you have any ideas or views please do not hesitate to include them below using the comment function at the bottom of this page.

¹ The virtues of the principle of open justice were extolled by Lord Hewart CJ in the case of R v Sussex Justices; Ex parte McCarthy [1924]. In his judgment, Lord Hewart stated that ‘justice should not only be done, but should manifestly and undoubtedly be seen to be done’ such that there is no ‘suspicion that there has been an improper interference with the course of justice’


[English] - [Cymraeg]

Gofyn barn y cyhoedd am gyfiawnder agored

Mae cyfiawnder agored yn egwyddor sylfaenol, sy’n hanfodol i’n system gyfiawnder ac sydd o’r pwys mwyaf i drefn y Gyfraith. Mae’r egwyddor yn mynnu ‘bod yn rhaid cael cyfiawnder, ac y dylai’r cyfiawnder hwnnw hefyd fod yn amlwg ac yn ddiamwys’¹. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau y bydd ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd diwygiedig yn dal i fod mor agored ag ydynt ar hyn o bryd.

Mae sawl agwedd ar gyfiawnder agored ac wrth i raglen ddiwygio’r llysoedd gyflwyno gwasanaethau digidol newydd a mwy o ddefnydd o dechnoleg fideo, bydd y ffordd y mae pobl yn ymwneud â’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn newid – felly mae angen meddwl am sut y gellir sicrhau cyfiawnder agored yn y byd digidol. Ymysg y meysydd eraill y bydd yn rhaid meddwl amdanynt mae defnyddio data, gweler yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dr Natalie Byrom, y cyfryngau yn y llysoedd ac adrodd newyddion o’r llysoedd.

Yn y blog heddiw, byddaf yn trafod ein gwaith gyda Policy Lab yn casglu canfyddiad y cyhoedd o gyfiawnder agored.

Partneriaeth gyda Policy Lab

Tîm amlddisgyblaethol, agored o weision sifil yw Policy Lab, a sefydlwyd i ddatblygu, profi ac arddangos dulliau arbrofol o ymdrin â heriau polisi mwyaf dyrys y Llywodraeth. Maent yn gweithio yn Swyddfa’r Cabinet ac yn cydweithio ag amryw dimau eraill o fewn y llywodraeth i’w helpu i ddeall y bobl hynny y mae eu polisïau’n effeithio arnynt a dylunio datrysiadau ar y cyd.

Buom yn cydweithio â Policy Lab i feddwl o’r newydd am ganfyddiadau a disgwyliadau’r cyhoedd ynglŷn â system gyfiawnder agored, a chael amcan o ymateb tebygol y cyhoedd i rai syniadau ynglŷn â chadw’r system gyfiawnder yn un agored.

Gweithdai cyhoeddus

Cynhaliodd Policy Lab bedwar gweithdy yn Llundain a Manceinion ar yr ail a’r pedwerydd o Orffennaf 2019. Trafododd 44 aelod o’r cyhoedd (nad oeddent wedi bod mewn cyswllt diweddar â’r system gyfiawnder) eu dealltwriaeth o gyfiawnder agored a’u teimladau am gyfiawnder agored. Ystyriodd y grwpiau ffocws bychain hyn set a senarios dadleuol yn darlunio’r dyfodol, a rhannodd aelodau’r grwpiau eu hymateb i rai syniadau am gyfiawnder agored yn yr oes ddigidol.

Beth ddaeth i’r amlwg

Darparodd y canfyddiadau o’r gyfres hon o weithdai bychan oleuni defnyddiol a fydd yn ein cynorthwyo i ddatblygu ein syniadau ymhellach:

  • Diffinnid cyfiawnder mewn ffordd gul iawn (yn bennaf yn nhermau canlyniadau ac achosion troseddol)
  • Drwy’r cyfryngau yr oedd y rhan fwyaf o ddigon yn cael clywed am y system gyfiawnder ac yn dysgu amdani
  • Prif bwrpas cyfiawnder agored yng ngolwg pobl oedd sicrhau bod pobl yn cael eu galw i gyfrif am eu gweithredoedd ac atal pobl eraill rhag troseddu
  • Roedd ymdeimlad cryf fod pen draw i ba mor agored y dylai cyfiawnder agored fod
  • Roedd ymdeimlad cyffredinol fod cyfiawnder yn ddigon agored
  • Cytunid yn gyffredinol fod pobl yn fwy tebygol o fynd i wrandawiad neu ddilyn achos os oedd ganddynt gyswllt neu fudd personol

Cyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso llawn ar GOV.UK a cheir rhagor o wybodaeth hefyd ar flog Policy Lab.

Y camau nesaf

Dim ond megis dechrau’r gwaith yw’r bartneriaeth hon gyda Policy Lab ac fe’i defnyddir i ddarparu gwybodaeth ar gyfer ein gwaith dylunio wrth inni ddefnyddio mwy ar brosesau a thechnoleg fideo a digidol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd. Er mai sampl fechan iawn o farn pobl ydynt, mae’r canfyddiadau yn ein helpu i ddeall goblygiadau posibl cynigion, er mwyn inni allu gwella ein dyluniad a’n gwasanaethau.

Byddwn yn defnyddio’r blog hwn i roi gwybod ichi am ddatblygiad ein gwaith ar gyfiawnder agored. Os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau mae croeso ichi eu cynnwys yn y blwch sylwadau ar waelod y dudalen hon.

¹ Canmolwyd rhinweddau egwyddor cyfiawnder agored gan yr Arglwydd Hewart PU yn achos R v Sussex Justices; Ex parte McCarthy [1924]. Yn ei ddyfarniad, mynegodd yr Arglwydd Hewart ‘bod yn rhaid cael cyfiawnder, ac y dylai’r cyfiawnder hwnnw hefyd fod yn amlwg ac yn ddiamwys’ fel na bo unrhyw ‘amheuaeth y bu ymyrraeth amhriodol â chwrs cyfiawnder.’

Sharing and comments

Share this page