Skip to main content

This blog post was published under the 2015-2024 Conservative Administration

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2021/03/23/covid-one-year-on/

COVID: one year on

Posted by: , Posted on: - Categories: COVID-19


[English] - [Cymraeg]

Last March, I don’t think any of us could have imagined the challenges we’d face in the next 12 months.

CEO Kevin Sadler

Those challenges have come into every part of our lives. They’ve changed how, and sometimes where, we work; they’ve affected how we spend our free time; they’ve led to us missing our loved ones; and sadly, for some of us, they’ve led to the illness and loss of family and friends.

As we mark the anniversary of the first nationwide ‘lockdown’, I wanted to take some time to reflect on the last year and the incredible work done - in the face of adversity and sometimes personal tragedy - by the thousands of people working in our courts and tribunals.

In those early weeks of the pandemic, huge parts of life shutdown: businesses shut their doors; schools were closed to most students; and weddings, holidays, and social events were postponed.

Some of us switched to working from home, often while trying to juggle home schooling with our work commitments. Many others, meanwhile, kept travelling to work, and remained in public-facing roles despite the virus.

It was also a time of tremendous worry, particularly for those who are especially vulnerable to the virus or those with elderly or unwell friends and relatives. Even those lucky enough to be in robust health could be struck down by COVID, as the many stories on TV and in the newspapers showed.

Thousands of people were told to ‘shield’ for their own protection – hardly able to enjoy the glorious weather that helped to offset the horrible news coming to us each day, from both close to home and around the globe.

Saddest of all is that, as the year progressed, tens of thousands of people lost a loved one. Those losses have affected all of us.

But in the past year I’ve also witnessed tremendous fortitude and kindness, not least from HMCTS staff and contractors, who have worked tirelessly to keep court and tribunal services running, at times in the face of personal tragedy.

And from the start we’ve been supported by legal professionals, the judiciary, and our partners through the justice system. We couldn’t have carried on without them.

Pausing the justice system was not an option, even if face-to-face work reduced significantly for a time while we put in place measures to make our courts and tribunals buildings COVID-safe.

Across the country our people faced exactly the same challenges as the rest of the population in getting supermarket slots, or caring for children or older relatives. Yet, they kept working – from homes, offices, courts and tribunals and kept making sure that essential services were running.

I’ve always been immensely proud of the people in HMCTS. But even more so in the past year as they have shown time and again that what they do is more than just a job. When the time came, I never doubted they would step up to the mark to do what was needed to keep courts and tribunals services functioning.

In the most challenging situation many of us have ever faced, our people didn’t just keep doing things in the usual way, they innovated.

Digital processes were rapidly expanded or improvised, remote hearings were used in new ways and existing pilots were opened up to the whole country. Our existing courts and tribunals buildings were adapted to allow for socially distanced working. And we’ve even opened more than 50 new courtrooms – the Nightingale Courts – to allow us to hear more cases.

Our people did all of this to protect some of the most vulnerable people in society: including victims, witnesses, defendants, at-risk children and people appealing decisions about benefits, immigration status and mental health care.

The challenges of COVID in our personal lives, in society, and in HMCTS aren’t over yet. But with the rollout of the vaccine we can finally see light at the end of the tunnel.

We’re working hard towards recovery, and we’re well on our way to making sure that the disruptions of the past year are mitigated and reduced. There may be more bumps in the road ahead, but we can now believe that we are past the darkest days of the pandemic.

On this very sombre anniversary – one that none of us ever wanted to mark – I want to thank once again the incredible people in HMCTS, the judiciary, our justice partners and all professional court users. Together, we have made it through an exceptionally challenging year and kept justice running.

 


[English] - [Cymraeg]

COVID: blwyddyn yn ddiweddarach

Gan Kevin Sadler, Prif Weithredwr dros dro GLlTEM

Ym mis Mawrth y llynedd, nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw un ohonom wedi gallu dychmygu’r fath heriau y byddem yn eu hwynebu yn y 12 mis i ddod.

Mae’r heriau hynny wedi effeithio ar bob rhan o’n bywydau. Maen nhw wedi newid sut, ac weithiau lle, rydym yn gweithio; maen nhw wedi effeithio ar sut rydym yn treulio ein hamser rhydd; maen nhw wedi arwain at gyfnodau hir heb weld ein hanwyliaid; ac yn anffodus, ar gyfer rhai ohonom mae wedi arwain at salwch a cholli aelodau o’r teulu a ffrindiau.

Wrth i ni nodi blwyddyn ers y ‘cyfnod clo’ cenedlaethol cyntaf, roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a’r gwaith anhygoel a wnaed – er gwaethaf yr amgylchiadau heriol ac, mewn rhai achosion, trasiedi personol – gan y miloedd o bobl sy’n gweithio yn ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd.

Yn wythnosau cyntaf y pandemig, roedd rhannau enfawr o’n bywydau wedi dod i stop: mi wnaeth busnesau gau, roedd yr ysgolion ar gau i’r mwyafrif o ddisgyblion; a phriodasau, gwyliau ac achlysuron cymdeithasol wedi’u gohirio.

Dechreuodd rhai ohonom weithio o adref, yn aml yn ceisio taro cydbwysedd rhwng helpu i addysgu’r plant a’n hymrwymiadau gwaith. Tra bod eraill, ar y llaw arall, yn parhau i deithio i’r gwaith a chyflawni rolau rheng flaen er gwaethaf y feirws.

Roedd hefyd yn gyfnod o bryder ofnadwy, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny oedd mwyaf agored i niwed gan y feirws, neu’r rhai hynny sydd â ffrindiau neu aelodau o’r teulu sy’n hŷn neu’n dioddef salwch. Roedd y feirws hyd yn oed yn gallu trechu’r  rhai hynny oedd yn ddigon ffodus i fod mewn iechyd da, fel oedd yr holl straeon ar y newyddion ac yn y papurau newydd yn dangos.

Cafodd miloedd o bobl eu cyfarwyddo i ‘warchod’ i ddiogelu eu hunain – ac nid oeddynt yn gallu gwneud y gorau o’r tywydd hyfryd wnaeth ei wneud yn haws i ymdopi â’r newyddion ofnadwy am y feirws oedd yn dod bob dydd, yn agos i adra ac ar draws y byd fel ei gilydd.

Y peth mwyaf trist yw, wrth i’r flwyddyn fynd ei blaen, collodd miloedd o bobl un neu fwy o’u hanwyliaid. Mi wnaeth y colledion hynny effeithio arnom oll.

Ond yn y flwyddyn ddiwethaf rwyf hefyd wedi bod yn dyst i gryfder, dewrder a charedigrwydd anferthol, yn cynnwys gan staff a chontractwyr GLlTEM, sydd wedi gweithio mor ddiwyd i sicrhau bod y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn parhau i weithredu, a hynny weithiau wrth wynebu trasiedi personol.

O’r cychwyn cyntaf mae gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, y farnwriaeth a’n partneriaid ledled y system gyfiawnder wedi ein cefnogi. Ni fyddai wedi bod yn bosib i ni barhau i weithredu heb eu cefnogaeth.

Nid oedd cymryd seibiant o weithredu’r system gyfiawnder yn opsiwn. Er bod gwaith wyneb yn wyneb wedi lleihau’n sylweddol am gyfnod, rhoesom fesurau mewn lle i sicrhau bod ein hadeiladau llys a thribiwnlys yn ddiogel rhag COVID.

Ledled y wlad, mi oedd ein pobl yn wynebu’r un heriau â gweddill y boblogaeth, yn ceisio cael ‘slot’ archfarchnad, neu’n gofalu am ein plant neu berthnasau hŷn. Er hynny, maen nhw wedi parhau i weithio  - o adref, o’r swyddfa ac yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu.

Rwyf wastad wedi bod yn hynod falch o bobl GLlTEM. Mae’r balchder hynny wedi bod yn fwy nag erioed o’r blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - maen nhw wedi dangos tro ar ôl thro bod yr hyn maen nhw’n ei wneud yn fwy na swydd yn unig. Pan ddaeth yr amser i weithredu, roeddwn i’n amau dim y byddan nhw’n wynebu’r her yn gadarn a gwneud yr hyn oedd ei angen i gadw’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd i fynd.

Yn y sefyllfa fwyaf heriol y mae llawer ohonom erioed wedi’i hwynebu, nid oedd ein pobl wedi parhau i wneud pethau yn y ffordd arferol, mi wnaethon nhw arloesi.

Cafodd prosesau digidol eu hymestyn neu eu haddasu ar gyflymder, gyda gwrandawiadau o bell yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd newydd a chyffrous a chafodd cynlluniau peilot eu hymestyn ar draws gweddill y wlad. Addaswyd ein hadeiladau llys a thribiwnlys i ganiatáu gweithio gyda threfniadau ymbellhau cymdeithasol. Rydym hefyd wedi agor dros 50 o ystafelloedd llys newydd – y Llysoedd Nightingale – i’n caniatáu i wrando mwy o achosion.

Gwnaeth ein pobl yr holl bethau hyn i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas: yn cynnwys dioddefwyr, tystion, diffynyddion, plant mewn perygl a phobl yn apelio penderfyniadau ynghylch budd-daliadau, statws mewnfudo a gofal iechyd meddwl.

Nid yw’r heriau yng nghyswllt COVID yn ein bywydau personol, yn ein cymdeithas ac yn GLlTEM wedi dod i ben eto. Fodd bynnag, wrth i’r rhaglen frechu fynd yn ei blaen, gallwn weld o’r diwedd y daw eto haul ar fryn.

Rydym yn gweithio’n ddiwyd i adfer ein gwasanaethau, ac rydym wedi gwneud cynnydd da yn sicrhau bod prosesau mewn lle i liniaru a lleihau’r aflonyddwch a achoswyd yn y flwyddyn ddiwethaf. Gall fod mwy o rwystrau o’n blaenau, ond gallwn ddechrau credu nawr bod y gwaethaf o’r pandemig drosodd.

Ar y pen-blwydd difrifol hwn - un doedd neb eisiau ei ddathlu - hoffwn ddiolch unwaith eto i’r holl bobl anhygoel yn GLlTEM, y farnwriaeth, ein partneriaid cyfiawnder a holl ddefnyddwyr proffesiynol y llysoedd. Gyda’n gilydd, rydym wedi llwyddo i oroesi blwyddyn eithriadol o heriol ac wedi sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i gael ei weinyddu.

Sharing and comments

Share this page