Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2021/02/17/a-year-in-review-how-myhmcts-has-become-an-essential-service-for-professional-users/

A year in review: How MyHMCTS has become an essential service for professional users

Posted by: , Posted on: - Categories: Civil, Court and tribunal reform, Crime, Digital services, Family, General, Tribunals


[English] - [Cymraeg]

Person at laptop

When we launched MyHMCTS in early 2020, little did we realise how important it would prove to be. The service offered, for the first time, the ability for legal professionals to make and manage applications online across a range of services in tribunals and in the civil and family jurisdictions.

At the start of 2020, divorce, probate and financial remedy services were all live on MyHMCTS and we soon added immigration and asylum and family public law services to our offering.

As we approach the first anniversary of its launch, I want to take a moment to reflect on the developments we’ve made to MyHMCTS in the past 12 months to improve the service for our users and look forward to what is left to do during 2021.

Why MyHMCTS has made a difference to users

When COVID-19 hit the UK and millions of people started working from the kitchen table, the benefits of digital working became even more obvious. MyHMCTS offered a flexible, modern and convenient way for professionals to manage applications online, just when demand for remote ways of working went up.

MyHMCTS has supported solicitors and other legal professionals to keep working during lockdowns, shielding, self-isolation or caring commitments. Our users haven’t had to rely on postal services either or needed to call or email a court to ask for an update.

Which additional services are available on MyHMCTS?

During 2020, we improved the overall performance and usability of MyHMCTS and added new services such as multi-factor authentication to keep the system secure.

We also added the ability for an applicant to share a financial remedy or family public law case with someone else from their firm. We’ll be rolling this out to other types of case, as well as exploring how we can enable sharing with others outside applicants’ immediate firm.

Online respondents

In spring 2021, respondents in divorce and financial remedy cases will, for the first time, be able to access and respond to an application online, making the service digital for all parties in the case.

Notice of change

We’re developing a ‘notice of change’ function as, currently, some cases that start off digitally must then switch to paper because parties in a case might make certain changes. This function will allow professional users to notify us when they have been instructed to act on behalf of a party and they will then be able to manage that case digitally.

MyHMCTS support in the future

We will continue to improve the support available to professionals using MyHMCTS. And we are planning to create a team in our Courts and Tribunals Service Centres (CTSC), to offer guidance and answer questions about the online service.

I hope that the next 12 months are as successful for MyHMCTS. I am grateful for the hard work of all those involved in its success so far – from those who helped to roll it out, to MyHMCTS users whose feedback has been invaluable to helping us get this far. I look forward to keeping you informed of our work in 2021 as it progresses.

For more information on MyHMCTS please visit GOV.UK.

 


[English] - [Cymraeg]

Edrych dros y flwyddyn ddiwethaf: Sut mae MyHMCTS wedi dod yn wasanaeth hanfodol i ddefnyddwyr proffesiynol

Gan Steven Chapman, Perchennog y Gwasanaeth, Cydrannau Cyffredin ar draws Gwaith Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

Pan lansiwyd MyHMCTS gennym yn gynnar yn 2020, ychydig a wnaethom sylweddoli pa mor bwysig y byddai'n profi i fod. Roedd y gwasanaeth yn cynnig, am y tro cyntaf, y gallu i weithwyr proffesiynol cyfreithiol wneud a rheoli ceisiadau ar-lein ar draws ystod o wasanaethau mewn tribiwnlysoedd yn ogystal ag awdurdodaethau sifil a theulu.

Ar ddechrau 2020, roedd gwasanaethau ysgariad, profiant a rhwymedi ariannol i gyd yn weithredol ar MyHMCTS a chyn bo hir ychwanegwyd gwasanaethau mewnfudo a lloches a chyfraith deulu cyhoeddus yn ogystal.

Wrth i ni nesáu at flwyddyn ers ei lansio, rwyf eisiau cymryd eiliad i fyfyrio ar y datblygiadau rydym wedi'u gwneud i MyHMCTS yn ystod y 12 mis diwethaf i wella'r gwasanaeth i'n defnyddwyr ac edrychaf ymlaen at yr hyn sydd ar ôl i'w wneud yn ystod 2021.

Pam fod MyHMCTS wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ddefnyddwyr

Pan darodd COVID-19 y DU a bod miliynau o bobl wedi dechrau gweithio o fwrdd y gegin, daeth manteision gweithio’n ddigidol hyd yn oed yn fwy amlwg. Cynigiodd MyHMCTS ffordd hyblyg, fodern a chyfleus i weithwyr proffesiynol reoli ceisiadau ar-lein, ar yr union adeg pan gynyddodd y galw am ffyrdd o weithio o bell.

Mae MyHMCTS wedi cefnogi cyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol eraill i barhau i weithio o adra yn ystod cyfyngiadau symud, gwarchod, hunanynysu neu oherwydd ymrwymiadau gofalu. Nid yw ein defnyddwyr wedi gorfod dibynnu ar wasanaethau post ychwaith neu’r angen iddynt ffonio neu anfon e-bost i’r llys i ofyn am ddiweddariad.

Pa wasanaethau eraill sydd ar gael ar MyHMCTS?

Yn ystod 2020, gwnaethom wella perfformiad a defnyddioldeb cyffredinol MyHMCTS ac ychwanegu gwasanaethau newydd fel proses ddilysu aml-ffactor i gadw'r system yn ddiogel.

Ychwanegwyd hefyd y gallu i geisydd rannu rhwymedi ariannol neu achos cyfraith deulu cyhoeddus gyda rhywun arall o'i gwmni. Byddwn yn cyflwyno hyn i fathau eraill o achosion, yn ogystal ag archwilio sut y gallwn alluogi rhannu gydag eraill y tu allan i gwmni uniongyrchol y ceiswyr.

Atebwyr ar-lein

Yng ngwanwyn 2021, bydd atebwyr mewn achosion ysgariad a rhwymedi ariannol, am y tro cyntaf, yn gallu cael gafael ar gais ac ymateb iddo ar-lein, gan wneud y gwasanaeth yn ddigidol i bob parti yn yr achos.

Hysbysiad o newid

Rydym yn datblygu swyddogaeth 'hysbysiad o newid' oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i rai achosion sy'n dechrau'n ddigidol newid i bapur oherwydd gallai partïon mewn achos wneud rhai newidiadau. Bydd y swyddogaeth hon yn caniatáu i ddefnyddwyr proffesiynol roi gwybod i ni pan gânt gyfarwyddyd i weithredu ar ran parti ac yna byddant yn gallu rheoli'r achos hwnnw'n ddigidol.

Cymorth MyHMCTS yn y dyfodol

Byddwn yn parhau i wella'r cymorth sydd ar gael i weithwyr proffesiynol sy’n ddefnyddio MyHMCTS. Rydym yn bwriadu creu tîm yn ein Canolfannau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd (CTSC), i gynnig arweiniad ac ateb cwestiynau am y gwasanaeth ar-lein.

Gobeithiaf y bydd y 12 mis nesaf yr un mor llwyddiannus i MyHMCTS. Rwy'n ddiolchgar am waith caled pawb sy'n ymwneud â'i lwyddiant hyd yma – o'r rhai a helpodd i'w gyflwyno, i ddefnyddwyr MyHMCTS y mae eu hadborth wedi bod yn amhrisiadwy i'n helpu i gyrraedd y fan hon. Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ein gwaith yn 2021 wrth iddo fynd yn ei flaen.

Rhagor o wybodaeth am MyHMCTS

Sharing and comments

Share this page