https://insidehmcts.blog.gov.uk/2025/10/02/celebrating-excellence-hmcts-national-awards-showcase-innovation-compassion-and-justice-in-action/

Celebrating Excellence: HMCTS National Awards Showcase Innovation, Compassion and Justice in Action

[English] - [Cymraeg]

The annual HMCTS National Awards celebrate staff who exemplify our values through innovation, crisis response and commitment to putting people first. 

Excellence across our organisation 

Our staff awards celebrate outstanding colleagues who embody our core values of purpose, openness, together, and humanity. An abundance of nominations came in from across the organisation this year, highlighting some of the work that helps to transform lives daily. 

Chosen from the winners of their regional award ceremonies, picking a winner is never easy when there are so many fantastic stories to share. 

Jonathan, based in the Sheffield region, won the Purpose Award for coordinating Operation Stovewood, the UK's largest historic child abuse investigation, helping bring closure to survivors who had waited decades for justice. He was also recognised the following day at the Inspire Justice Awards in London. 

The Low Code team earned our Openness Award for creating tools, such as webforms and PowerApps, that addressed email overload and helped streamline processes, driving real change across HMCTS. 

Liverpool Crown Court received the Together Award for their sensitive management of the complex and high-profile Southport case, while under intense public scrutiny.  

The Operational Delivery Award celebrated frontline excellence and a CEO Award recognised outstanding achievements across all the categories. 

But it was the Humanity Award winner who truly captured what we represent when faced with the most challenging of circumstances. 

When crisis struck, our values guided us

On what seemed like an ordinary morning at London South Employment Tribunal, a serious incident was about to occur outside the building. A member of the security team was injured in an unprovoked attack, but our local team's response showed remarkable character and showcased our values in action. 

Two colleagues with first-aid training immediately came forward to help, treating the guard's wounds as the site’s management team acted quickly to secure the building to keep those in attendance safe from further harm. All while offering support to shaken colleagues and court users who had witnessed the incident unfolding. 

Despite the chaos and trauma of what had happened, the team was committed to maintaining scheduled hearings and ensuring they could continue safely. Their focus remained on ensuring everyone who had travelled to court that day, often for important employment disputes, could still access justice and receive the service they needed. 

What this means for everyone we serve 

This response demonstrates what statistics cannot capture about justice. Yes, we are transforming justice through innovation - our Pathfinder teams have now reduced family court waiting times from 34 weeks to under 15 weeks, but at the beating heart of justice, there are real people who understand that justice encompasses both legal procedures and treating everyone with dignity and respect. 

Whether developing new technology, supporting vulnerable court users, or ensuring everyone feels welcome and included, our teams are determined to ensure excellent public service is a combination of efficiency and compassion. 

The people who make justice possible 

Every one of our award winners, runners up and nominees understands their work directly impacts real lives. From innovative solutions that speed up court processes, to individual acts of kindness that help vulnerable users navigate our system, each contribution matters.  

Work can often be completed under extreme pressure, but our outstanding colleagues are committed to ensuring justice remains accessible to everyone, regardless of the obstacles they face. 

Our annual awards not only recognise past achievements but also inspire our future direction. As we continue modernising the justice system, we're building on foundations of innovation, compassion and unwavering commitment to public service, serving those who need the justice system.

[English] - [Cymraeg]

Dathlu’r Pethau Arbennig: Gwobrau Cenedlaethol GLlTEF yn arddangos arloesedd, tosturi a chyfiawnder ar waith

Mae Gwobrau Cenedlaethol blynyddol GLlTEF yn dathlu staff sy'n destun esiampl o'n gwerthoedd drwy arloesi, ymateb i argyfwng ac ymrwymiad i roi pobl yn gyntaf.

Rhagoriaeth ar draws ein sefydliad

Mae ein gwobrau staff yn dathlu cydweithwyr rhagorol sy'n arddangos ein gwerthoedd craidd o bwrpas, bod yn agored, gyda'n gilydd a dynoliaeth. Daeth digonedd o enwebiadau o bob rhan o'r sefydliad eleni, gan dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith sy'n helpu i drawsnewid bywydau bob dydd.

Wedi'u dewis o blith yr enillwyr yn y seremonïau gwobrwyo rhanbarthol, nid yw dewis enillydd byth yn hawdd pan mae cymaint o straeon gwych i'w rhannu.

Enillodd Jonathan, sy’n gweithio yn rhanbarth Sheffield, y Wobr Pwrpas am gydlynu Operation Stovewood, ymchwiliad cam-drin plant hanesyddol mwyaf y DU, gan helpu goroeswyr i gael cyfiawnder a oedd wedi gorfod aros degawdau amdano. Cafodd ei gydnabod hefyd y diwrnod canlynol yng Ngwobrau Inspire Justice yn Llundain.

Enillodd y tîm Low Code ein Gwobr Bod yn Agored am greu adnoddau, fel ffurflenni gwe a PowerApps, a oedd yn mynd i'r afael ag e-byst diddiwedd ac yn helpu i symleiddio prosesau, gan lywio newid gwirioneddol ar draws GLlTEF.

Derbyniodd Llys y Goron Lerpwl y Wobr Gyda’n Gilydd am eu rheolaeth sensitif o achos cymhleth a phroffil uchel Southport, tra o dan straen o ganlyniad i’r craffu dwys a oedd yn digwydd yn gyhoeddus.

Roedd y Wobr Cyflenwi Gweithredol yn dathlu rhagoriaeth rheng flaen ac roedd Gwobr y Prif Swyddog Gweithredol (CEO) yn cydnabod cyflawniadau eithriadol ar draws yr holl gategorïau.

Ond enillydd y Wobr Ddynoliaeth a gyfleodd yr hyn rydyn ni'n ei gynrychioli wrth wynebu'r amgylchiadau mwyaf heriol.

Pan ddigwyddodd argyfwng, ein gwerthoedd oedd yn ein harwain ni

Ar yr hyn a oedd yn ymddangos fel bore cyffredin yn Nhribiwnlys Cyflogaeth De Llundain, roedd digwyddiad difrifol ar fin digwydd y tu allan i'r adeilad. Cafodd aelod o'r tîm diogelwch ei anafu mewn ymosodiad digymell, ond dangosodd ein tîm lleol gymeriad rhyfeddol a oedd yn arddangos ein gwerthoedd ar waith.

Daeth dau gydweithiwr gyda hyfforddiant cymorth cyntaf ymlaen ar unwaith i helpu, gan drin clwyfau'r swyddog diogelwch wrth i dîm rheoli'r safle weithredu'n gyflym i ddiogelu'r adeilad i gadw'r rhai a oedd yn bresennol yn ddiogel rhag niwed pellach. Y cyfan wrth gynnig cefnogaeth i gydweithwyr a oedd wedi dychryn a defnyddwyr y llys a oedd wedi gweld y digwyddiad yn digwydd.

Er gwaethaf yr anhrefn a'r trawma o'r hyn oedd wedi digwydd, roedd y tîm wedi ymrwymo i gynnal y gwrandawiadau a oedd wedi'u trefnu a sicrhau eu bod yn gallu parhau yn ddiogel. Roedd eu ffocws yn parhau i sicrhau bod pawb a oedd wedi teithio i'r llys y diwrnod hwnnw, yn aml ar gyfer anghydfodau cyflogaeth pwysig, yn dal i gael mynediad at gyfiawnder a derbyn y gwasanaeth yr oedd ei angen arnynt.

Beth mae hyn yn ei olygu i bawb rydyn ni'n ei wasanaethu

Mae'r ymateb hwn yn dangos yr hyn na all ystadegau ei gyfleu am gyfiawnder. Ydyn, rydym yn trawsnewid cyfiawnder trwy arloesi - mae ein timau Braenaru bellach wedi lleihau amseroedd aros yn y llys teulu o 34 wythnos i lai na 15 wythnos, ond wrth wraidd cyfiawnder, mae yna bobl go iawn sy'n deall bod cyfiawnder yn cwmpasu gweithdrefnau cyfreithiol a thrin pawb gydag urddas a pharch.

P'un a yw'n datblygu technoleg newydd, cefnogi defnyddwyr y llys sy’n agored i niwed, neu sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cynnwys, mae ein timau yn benderfynol o sicrhau bod gwasanaeth cyhoeddus rhagorol yn gyfuniad o effeithlonrwydd a thosturi.

Y bobl sy'n gwneud cyfiawnder yn bosibl

Mae pob un o’r rhai hynny sydd wedi ennill gwobrau, y rhai a ddaeth yn ail a’r rhai a gafodd eu henwebu yn deall bod eu gwaith yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau go iawn. O atebion arloesol sy'n cyflymu prosesau llys, i weithredoedd unigol o garedigrwydd sy'n helpu defnyddwyr agored i niwed lywio ein system, mae pob cyfraniad yn bwysig.

Gellir cwblhau gwaith yn aml o dan bwysau eithafol, ond mae ein cydweithwyr rhagorol wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu.

Nid cyflawniadau'r gorffennol yn unig mae’r gwobrau blynyddol yn eu cydnabod ond maent hefyd yn ysbrydoli’r cyfeiriad y byddwn yn ei ddilyn yn y dyfodol. Wrth i ni barhau i foderneiddio'r system gyfiawnder, rydym yn adeiladu ar sylfeini arloesi, tosturi ac ymrwymiad diwyro i wasanaeth cyhoeddus, gan wasanaethu'r rhai sydd angen y system gyfiawnder.

Sharing and comments

Share this page