[English] - [Cymraeg]
I’m Sue Walker-Russell and I’m a Regional Implementation Co-ordinator for the CJS Common Platform Programme. I’m going to use this blog post to tell you about our online plea service.
What is Online Plea
Online Plea is a public facing service that enables defendants to engage with the Magistrates' court process more easily. The new, digital service offers a means for defendants to respond online to police prosecutions for minor road traffic offences. Defendants involved in summary non-imprisonable motoring offences such as speeding and no insurance can access their case details, view the charges and enter a plea online through a secure portal. This service is an alternative to a postal response or the need to appear at court.
Progress
In August 2014 our online plea service launched in Manchester and Salford Magistrates' court as a pilot area. This model was subsequently released into a number of early adopter sites, between June and August 2015. It has now been released into further courts. Currently the Online Plea service is available in 43 out of a total 44 magistrates' courts nationally.
National roll-out
Since January 2016 there has been a steady increase nationally in sites rolling out online plea. We continue to work with the courts and police forces to implement the remaining sites.
Lessons learned
I think two of the main lessons we learned is not to make assumptions and identify co-dependencies early on. For example we assumed that the unique reference number (URN) would be in the same format across the country. As we expanded roll-out it became clear that this was not the case. We quickly fixed this to avoid future problems and delays.
It became clear early on that there was a dependency on the various police computer systems. Another learning would be to ensure we build strong working relationships with our partners and stakeholders at an early point in a service’s development lifecycle.
I’d be interested in your thoughts on the content of my blog post – please use the comments box at the bottom of this page.
[English] - [Cymraeg]
Ple ar-lein - o ddatblygu i weithredu
Sue Walker-Russell ydw i a fi yw'r Cydlynydd Gweithredu Rhanbarthol ar gyfer Rhaglen Platfform Cyffredin y System Cyfiawnder Troseddol. Rydw i’n mynd i ddefnyddio’r sylwadau yma yn fy mlog i ddweud wrthych chi am ein gwasanaeth ple ar-lein.
Beth yw Ple Ar-lein
Mae Ple Ar-lein yn wasanaeth i’r cyhoedd sy’n galluogi diffynyddion i ymwneud â phroses y Llys Ynadon yn haws. Mae’r gwasanaeth newydd, digidol yn cynnig cyfrwng i ddiffynyddion ymateb ar-lein i erlyniadau gan yr heddlu am fân droseddau ar y ffordd. Gall diffynyddion sy’n gysylltiedig â throseddau moduro nad ydynt yn arwain at ddedfryd o garchar, fel goryrru a dim yswiriant, weld manylion eu hachos, gweld y cyhuddiadau a chyflwyno ple ar-lein ar borthol diogel. Mae’r gwasanaeth hwn yn opsiwn yn lle ymateb drwy’r post neu orfod ymddangos yn y llys.
Cynnydd
Fis Awst 2014, lansiodd ein gwasanaeth ple ar-lein yn Llys Ynadon Manceinion a Salford fel ardal beilot.
Rhyddhawyd y model hwn wedyn i nifer o safleoedd mabwysiadu cynnar, rhwng misoedd Mehefin ac Awst 2015. Mae wedi cael ei ryddhau i lysoedd pellach nawr. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth Ple Ar-lein ar gael mewn 43 allan o gyfanswm o 44 o lysoedd ynadon yn genedlaethol.
Ehangu’n genedlaethol
Ers mis Ionawr 2016, mae cynnydd cyson wedi bod yn genedlaethol yn nifer y safleoedd sy’n ehangu i gynnwys ple ar-lein. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’r llysoedd a’r heddluoedd i gael y safleoedd sy’n weddill i fod yn weithredol.
Y gwersi a ddysgwyd
Rydw i’n credu mai'r ddwy brif wers rydyn ni wedi’u dysgu yw peidio â chymryd pethau’n ganiataol a datgan cyd-ddibyniaeth yn gynnar. Er enghraifft, fe wnaethom gymryd yn ganiataol y byddai'r cyfeirnod unigryw (URN) yn yr un fformat ledled y wlad. Wrth i ni ehangu mwy, daeth yn glir nad oedd hyn yn wir. Rhoddwyd trefn ar hyn yn sydyn iawn er mwyn osgoi problemau ac oedi yn y dyfodol.
Daeth yn glir yn gynnar iawn bod dibyniaeth ar systemau cyfrifiadurol amrywiol yr heddlu. Dysgwyd hefyd bod rhaid i ni sicrhau ein bod yn creu perthnasoedd gwaith cadarn gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid yn gynnar yng nghylch datblygu unrhyw wasanaeth.
Mae gen i ddiddordeb mewn clywed eich barn am y neges yma yn fy mlog - defnyddiwch y bocs sylwadau ar waelod y dudalen yma.