[English] - [Cymraeg]
Through mediation we help court users resolve matters of up to £10,000 to save the time, cost and worry of continuing a claim through the courts. We resolve claims ranging from parking penalties to disputes over online shopping. In the last year the Small Claims Mediation Service resolved over 9,000 disputes.
What is mediation?
Working alongside the courts, mediation offers an alternative to taking a claim through the formal court process. It gives individuals a choice to work with a mediator who will help identify the issues and work together to resolve issues.
Importantly, it gives parties control over the outcome, takes away the need for a judge to reach a decision and provides solutions that are tailored to the dispute at hand.
Our service is free and can be quicker than pursuing a claim through courts. The process is less formal and we are neutral throughout. Our job is to work with each party to see if options for resolving a dispute can be agreed to avoid the uncertainty and risk of a full court hearing.
Is mediation right for me?
If you are considering mediation it is possible you’re already unsettled or nervous. Perhaps you’ve had lots of phone calls and emails or you may be feeling anxious about the prospect of attending court.
Mediation is the first opportunity to put the brakes on, draw breath and examine whether a dispute really needs to go to a court hearing. Mediation works best when both sides enter in the spirit of discussing the issues to negotiate a solution. If one of the parties is not yet ready to negotiate mediation is less likely to succeed.
How does mediation work?
Your mediator will book an appointment that lasts up to one hour at a time that is convenient for everyone. The mediator will begin by setting the scene and checking parties are ready and prepared for the session. The session gives an overview of the issues before working together to try and develop options for a resolution.
Once options are explored the mediator will try build an agreement that all parties can support. A mediator will not try to force people to find a settlement and it’s important each party understands that they will not be at a disadvantage if a solution cannot be reached during the session. If an agreement is made parties receive a legally binding standard settlement agreement.
It’s important to note that any agreement is policed by the parties to the claim. If either side does not meet their commitment the claim can return to the court process for a judgment.
How can I make the most of mediation?
It’s important to approach mediation with an open mind. Both parties should be ready to compromise and remember it is not an us versus them process, this is about working together to find a solution acceptable to everyone.
Find out more about the mediation service.
[English] - [Cymraeg]
Cyfryngu: Datrys anghydfodau hawliadau bychain heb fynd i’r llys
Trwy gyfryngu rydym yn helpu defnyddwyr llys i ddatrys materion sy’n ymwneud â symiau hyd at £10,000 i arbed yr amser, y gost a’r pryder sy’n gysylltiedig â symud hawliad yn ei flaen drwy’r llysoedd. Rydym yn datrys hawliadau amrywiol, o gosbau parcio i anghydfodau ynghylch siopa ar-lein. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Gwasanaeth Cyfryngu Hawliadau Bychain wedi datrys dros 9,000 o anghydfodau.
Beth yw cyfryngu?
Gan weithio ochr yn ochr â’r llysoedd, mae cyfryngu yn cynnig dewis amgen yn lle mynd â hawliad drwy’r broses llys ffurfiol. Mae’n rhoi’r dewis i unigolion weithio gyda chyfryngwr, a fydd yn helpu i adnabod y problemau a gweithio ar y cyd i ddatrys y problemau hyn.
Yn bwysig iawn, mae’n rhoi rheolaeth i’r partïon dros y canlyniad, nid oes angen barnwr i wneud penderfyniad ac mae’n darparu datrysiadau sydd wedi’u teilwra i’r anghydfod dan sylw.
Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim a gall fod yn gyflymach na dilyn hawliad drwy’r llysoedd. Mae’r broses yn llai ffurfiol ac rydym yn hollol niwtral trwy gydol y broses. Ein rôl ni yw gweithio gyda phob parti i weld a oes modd cytuno ar opsiynau ar gyfer datrys yr anghydfod i osgoi’r ansicrwydd a’r risg o wrandawiad llys ffurfiol.
A yw cyfryngu yn addas i fi?
Os ydych yn ystyried cyfryngu, mae’n bosibl eich bod eisoes yn teimlo anniddig neu’n nerfus. Efallai eich bod wedi cael llawer o alwadau ffôn a negeseuon e-bost ac yn teimlo’n bryderus am y posibilrwydd o fynychu’r llys.
Cyfryngu yw’r cyfle cyntaf i aros, asesu’r sefyllfa a chymryd amser i ystyried a oes wir angen mynd ag anghydfod i’r llys. Mae cyfryngu yn gweithio orau pan fydd y ddwy ochr yn fodlon i drafod y problemau i negodi datrysiad. Os yw un o’r partïon yn amharod i negodi, mae’r cyfryngu yn llai tebygol o fod yn llwyddiannus.
Sut mae cyfryngu yn gweithio?
Bydd eich cyfryngwr yn trefnu apwyntiad, a fydd yn para am hyd at awr, ar adeg sy’n gyfleus i bawb. Bydd y cyfryngwr yn cychwyn trwy grynhoi’r sefyllfa a gwirio bod y partïon yn barod ac wedi paratoi ar gyfer y sesiwn. Bydd y sesiwn yn darparu crynodeb o’r problemau cyn gweithio ar y cyd i geisio datblygu opsiynau ar gyfer datrysiad.
Ar ôl archwilio i wahanol opsiynau, bydd y cyfryngwr yn ceisio ffurfio cytundeb y gall yr holl bartïon ei gefnogi. Ni fydd cyfryngwr yn gorfodi pobl i gytuno i setliad, ac mae’n bwysig bod pob parti yn deall na fyddant dan anfantais os nad oes modd cytuno ar ddatrysiad yn ystod y sesiwn. Os bydd cytundeb yn cael ei wneud, bydd y partïon yn cael cytundeb setliad safonol sydd wedi’i rwymo mewn cyfraith.
Mae’n bwysig nodi bod unrhyw gytundeb yn cael ei fonitro gan bartïon yr hawliad. Os nad yw’r naill ochr neu’r llall yn bodloni eu hymrwymiad, gall yr hawliad gael ei ddychwelyd i’r broses llys i gael dyfarniad.
Sut galla i wneud y gorau o gyfryngu?
Mae’n bwysig cymryd agwedd agored tuag at gyfryngu. Dylai bod y ddau barti yn barod i gyfaddawdu a chofio nad yw’n broses “ni yn erbyn nhw”. Y nod yw gweithio ar y cyd i ganfod datrysiad sy’n dderbyniol i bawb.
Dod o hyd i fwy am y gwasanaeth cyfryngu.