[English] - [Cymraeg]
In my last long blog post I wrote about what we’ve done already as we start to reform courts and tribunals.
We’ve launched our first set of online routes to justice (for applying for divorce and probate, making tax appeals, launching civil money claims, and tracking the progress of social security and child support appeals), and are getting good feedback from people who are using them on their simplicity and speed. We’ve put in place the first pieces of a truly end-to-end system for criminal justice, that links police, the CPS and the courts, and are trialling it in Liverpool. We’re also changing the way we work to support these new services.
We’re investing in repairs and renovations of many of our court buildings, and where we had court building that were not well-used, we have sold them at the pace we said we would, for more than we undertook to raise, and are reinvesting all of the proceeds.
But, though the progress we’ve made is good, the change we want to make is thoroughgoing and ambitious; and there is much more to do.
So in this blog post I’ll talk about what comes next. The work we have done was ‘Stage 1’ of our plan – where we established that we could build good systems for some fairly straightforward things, and created things for one jurisdiction that can later be spread to others (for example, the ‘engine’ of the system we have built to track progress in social security appeals can be used to make similar tracking systems for other kinds of case, without starting again from scratch).
The next 18 months or so are ‘Stage 2’. That means taking the things we’ve begun to develop so far and building them out further – so, for example, we have got a system that allows online applications for divorce; in the next stage, we need to improve it by moving away from ‘print and post’; expand it from a limited ‘private beta’ to a ‘public beta’ available to everyone; and add the next component, which allows for financial remedy to be dealt with through the same system, just as easily. It also means starting a new set of projects – for example, delivering digital systems to support public family law cases from end to end. Below, I set out, by jurisdiction, the main things we will be doing through the next stage – all of which will involve wide testing and consultation.
Crime
Over the next 15 months, we will extend the functionality of the Common Platform in the pilot area, including the type and number of cases passing through it. This will mean legal professionals will have early access to details of their clients’ charges and initial case material online. Work will also start to plan the extension of the system into other Crown Court centres, and magistrates' courts.
We will build on the work to digitise the single justice process in Lavender Hill for Transport for London fare evasion cases to include TV Licensing and DVLA cases enabling greater numbers of high-volume, low-level offences to be dealt with more efficiently.
We’ll also be working with the police, initially in the South-East, to develop, test a ‘virtual hearings’ system that will more consistently allow defendants to appear before magistrates via a video link from a police station to decide whether to grant bail or place on remand; this will also allow representatives to appear remotely, including talking to their clients before the virtual hearing from anywhere.
Family Justice
In family courts, divorce applicants will be able to resolve uncontested cases fully online and resolve financial arrangements too, and we will also extend our early system for probate so that everyone can apply for and receive probate online, quickly and easily.
We are now beginning work on a new project on public family law, working closely with local authorities, practitioners and groups representing those who have been through the system, to support seamless digital working to and through court, so that evidence can be submitted, bundled and shared electronically and cases can be managed much more securely and effectively. This will help us to test and develop a core document management system for the family courts that can then be extended for use in private family law and other jurisdictions and will also enable in-court digital presentation of evidence.
Within the scope of the public law project, we will also digitise the adoption process for both public and private law cases, again developing systems to manage these cases more securely and effectively. Once all the parts are complete, they will fit together – so cases can move seamlessly from one process to another, for example from the issue of a public law case through to a final adoption order, using the same system.
Civil Justice
In civil justice, people will be able to begin, respond and manage their civil money claims online. We’ll also expand the version of the system designed specifically for legal professionals representing many claims. We will also provide an online negotiation and settlement tool, and expect to see many more people getting redress quickly and simply. The system will also start to support cases as they go to and through court, providing a new ‘core case management’ system for the civil courts which will move us away from the current very paper-heavy operation and start to allow fully digital working (so that, for example, advocates can access case information and work on it from anywhere).
Tribunals
In tribunals, people appealing social security and child benefit decisions will be able to make their application fully online, track the progress of their case by text, email or online, and, if judged appropriate, take part either in a virtual hearing, or in an online hearing with the judge able to ask questions through rapid messaging, allowing much faster decision-making in a system where delays can bring real hardship. The system will also support physical hearings for those that need them (and judges will always have discretion over the way cases should be heard).
Similar systems will developed for other tribunals. Virtual hearings (with all parties able to attend from anywhere) are currently being technically tested for immigration and asylum case management and once testing is complete will be further developed for wider pilots, for use where judges deem it appropriate.
Across all jurisdictions
As set out in an earlier blog, we are also starting work on a project to improve scheduling and listing in all jurisdictions – designing systems but also processes and ways of working that will support the judiciary in making their listing decisions with better information, which we intend should allow for more responsiveness and better, data-supported decisions on how heavily to list to avoid wasting the time either of judges, or of those coming to court. We are conscious that many will want to engage in this piece of work, and are planning a programme of roadshows and co-creation events beyond our usual user research and testing.
We will learn from and extend a recent pilot on how we can use existing courtrooms better within the existing court day; and will also test and evaluate some different forms of extended court hours as I detailed in my blog earlier this week – in which I also asked for comments and feedback on what I know is a contentious topic
Our reforms, taken together (and whether or not we extend sitting hours anywhere) will mean we need less physical court space (and as some have pointed out, we have spare space now). We will consult on the principles we should use when deciding whether to close further court buildings, using independently assured methodology for testing travel times and access. But proposals for any actual closures that depend on changing ways of working will come after – not before – those changes have been made and are taking effect.
We will invest the proceeds of sales in reform and upgrading and improving our existing buildings; and we will change the way we approve court maintenance so that we can get things done more quickly. We will also publish a ‘design guide’ that sets out the blueprint for future court buildings, so that as we improve we do so in line with a clear picture of what good looks like. We will use good evidence to improve things like signage, wayfinding and ‘look and feel’ to make our buildings easier to navigate and use.
We will also start to reorganise ourselves in response to these new ways of working. We will support digital services with a friendly voice on the phone, or at the end of a ‘chat’ function; and will radically improve how easy it is to get through to us, and find out what’s happening. We’ll have more staff doing this work, and administration of cases started online, in larger, purpose-designed places; and fewer in small, dispersed administrative teams.
We will work with Good Things Foundation to provide specialist, local face-to-face help for those who need it, including in particular to support those who cannot easily use digital services – we have already contracted with them and they are starting work to support our earliest services.
And finally, we will build excellent data systems into all our new systems – so that we can keep track of how well they and we are working; learn and improve; and measure the right things (for example, finding ways of measuring and then reducing other people’s wasted effort, not just our own use of buildings or speed of resolution).
We’ve clearly got a great deal to do. As we do it, we will remain true to a set of clear principles that we – with the judiciary – set out as we began the programme. We will be:
- Citizen-centred: what we do should be built in partnership with and around the needs of those who use it (the first focus should always be the citizen using the system, but this principle also encompasses the judiciary, legal professionals, business and state users, and those who work in HMCTS)
- Accessible: we should be making the system easier to use for everyone, and removing barriers of complexity and delay; where we build digital systems, they should use the best possible digital design, tested and iterated with those who are going to use them, and always provide help for those who are digitally excluded
- Proportionate and segmented: with fast, fleet digital routes where speed and simplicity is what people want most (no need for face-to-face hearings just to manage process or progress cases); and the full face-to-face ‘majesty of the court’ for serious and complex matters (including family cases involving the contested future of a child; and serious criminal cases, including all Crown Court trials and sentences)
- Just: never compromising on what is right, and building on the best traditions of what is the best justice system in the world
- Transparent: supporting clear lines of sight and good accountability (including allowing suitably anonymised data to be used for research and improvement)
- Sustainable: working efficiently, at the right cost for the work being done, so as to be funded sustainably for the future
- Future proof: building systems that are flexible and adaptable, and having the capability to make rapid change in future in response to feedback, external change, and new ways of doing things
The changes we are making are far-reaching. The task is to make justice easier, faster, and simpler to access, underpinned by slicker and more reliable processes, using the best the modern world can offer. But they do not change the underpinning principles of our system, which remain precious and enduring, and must be our most fundamental yardstick in all we do.
I have written a lot in recent blogs about the importance of engaging and discussing what we are doing, and providing ways to get involved – like the roadshows currently happening to talk about and demonstrate the Common Platform Programme. We’re also looking for legal professionals who represent defendants in civil money claims for our research, if you’re interested please sign up now. Everything I set out above will come with ways to get involved – whether early on in setting out what’s needed, or later in testing early versions of new systems. If you’ve got a bit of the programme you’d particularly like to be involved in, or get updated on, please email us with your details.
[English] - [Cymraeg]
Yn fy mlog diwethaf mi ysgrifennais am yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn barod wrth i ni gychwyn diwygio'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd.
Rydym wedi lansio ein set gyntaf o ffyrdd i bobl gael mynediad at gyfiawnder ar-lein (ar gyfer gwneud cais am ysgariad a phrofiant, gwneud apeliadau treth, hawlio arian yn y llys sifil ac olrhain datblygiad apeliadau nawdd cymdeithasol a chynnal plant), ac rydym yn cael adborth da gan bobl sy’n eu defnyddio ar ba mor syml a chyflym ydynt. Rydym wedi rhoi mewn lle y darnau cyntaf o system wirioneddol o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer cyfiawnder troseddol sy’n cysylltu’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r llysoedd, ac rydym yn ei threialu yn Lerpwl. Rydym hefyd yn newid y ffordd yr ydym yn gweithio er mwyn gallu cefnogi’r gwasanaethau newydd hyn.
Rydym yn buddsoddi arian yn adnewyddu nifer o adeiladau llys, a lle'r oedd gennym adeiladau llys nad oedd yn cael eu defnyddio lawer, rydym wedi eu gwerthu ar y cyflymder y dywedasom y byddem yn ei wneud, am fwy o arian na'r hyn yr oeddem wedi gobeithio ei godi, ac rydym yn ail-fuddsoddi'r holl elw.
Ond, er bod y cynnydd yr ydym wedi’i wneud yn dda, mae’r newidiadau yr ydym eisiau eu gwneud yn uchelgeisiol, ac mae yna lawer iawn mwy i’w wneud.
Felly, yn y blog hwn byddaf yn siarad am beth fydd yn digwydd nesaf. ‘Cam 1’ o’n cynllun oedd y gwaith rydym wedi’i wneud yn barod – lle bu i ni benderfynu bod modd i ni ddatblygu systemau da ar gyfer rhai materion eithaf syml, a chreu pethau ar gyfer un awdurdodaeth y gellir yn ddiweddarach eu hymestyn i awdurdodaethau eraill (er enghraifft, gallwn ddefnyddio’r system yr ydym wedi’u chreu i olrhain cynnydd apeliadau nawdd cymdeithasol ar gyfer creu systemau olrhain tebyg ar gyfer mathau eraill o achosion, heb orfod dechrau o’r dechrau eto.)
Felly am y 18 mis nesaf byddwn yn canolbwyntio ar ‘Cam 2’. Mae hyn yn golygu mynd â'r pethau hynny yr ydym wedi dechrau eu datblygu gam ymhellach - er enghraifft, mae gennym system sy’n galluogi unigolion i wneud cais am ysgariad ar-lein; yn ystod y cam nesaf, mae angen i ni ei datblygu ymhellach drwy symud i ffwrdd o’r system 'argraffu a phostio’; ei hymestyn o fod yn system ‘beta preifat’ gyfyngedig i fod yn system ‘beta cyhoeddus’ sydd ar gael i bawb, ac ychwanegu'r cam nesaf ati, sy’n golygu y bydd modd hefyd delio â rhwymedi ariannol drwy'r un system, a'r un mor hawdd. Mae hefyd yn golygu cychwyn ar set newydd o brosiectau – er enghraifft, datblygu systemau digidol i gefnogi achosion teulu cyfraith cyhoeddus o’r dechrau i'r diwedd. Rwyf nawr am grybwyll, fesul awdurdodaeth, y prif bethau y byddwn yn eu gwneud yn ystod y cam nesaf - a bydd rhaid profi ac ymgynghori gyda phob un ohonynt.
Gwaith Troseddol
Dros y 15 mis nesaf, byddwn yn ymestyn ymarferoldeb y Platfform Cyffredin yn yr ardal beilot, gan gynnwys y math a'r nifer o achosion fydd yn mynd drwyddo. Golyga hyn y bydd gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol fynediad cynnar at fanylion cyhuddiadau eu cleientiaid a dogfennau cychwynnol achosion ar-lein. Bydd gwaith yn dechrau cael ei wneud hefyd i gyflwyno’r system mewn canolfannau Llys y Goron eraill a llysoedd ynadon.
Byddwn yn parhau i weithio i ddigideiddio'r weithdrefn un ynad yn Lavender Hill ar gyfer achosion pheidio â thalu am docyn Transport for London ac ychwanegu achosion Trwyddedu Teledu a DVLA er mwyn gallu delio â mwy o achosion lefel isel yn fwy effeithlon.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r heddlu, yn Ne Ddwyrain Lloegr i ddechrau, er mwyn datblygu a phrofi system 'gwrandawiadau rhith' fydd yn galluogi diffynyddion i ymddangos gerbron yr ynadon drwy gyswllt fideo o orsaf heddlu er mwyn penderfynu a ddylid eu rhyddhau ar fechnïaeth neu eu remandio; bydd hyn hefyd yn galluogi cynrychiolwyr i ymddangos o bell, gan gynnwys siarad â'u cleientiaid cyn y gwrandawiad rhith o unrhyw le.
Cyfiawnder Teulu
Mewn llysoedd teulu, bydd ceiswyr sy’n dymuno cael ysgariad yn gallu datrys achosion diwrthwynebiad yn gyfan gwbl ar-lein yn ogystal â datrys trefniadau ariannol, a byddwn hefyd yn ymestyn y system i gynnwys profiant fel y gall bawb wneud cais, a chael profiant ar-lein yn gyflym ac yn rhwydd.
Rydym nawr yn dechrau gweithio ar brosiect newydd yn ymwneud ag achosion teulu cyfraith cyhoeddus, a byddwn yn gweithio’n agos ag awdurdodau lleol, ymarferwyr a grwpiau sy’n cynrychioli’r rheini sydd wedi bod drwy’r system, i ddatblygu system ddigidol ddi-dor i, a drwy’r llys, fel y gellir cyflwyno, bwndlo a rhannu tystiolaeth yn electronig ac fel y gall achosion gael eu rheoli’n llawer mwy diogel ac effeithiol. Bydd hyn yn ein helpu ni i brofi a datblygu system rheoli dogfennau ar gyfer y llysoedd teulu fydd wedyn yn gallu cael ei defnyddio ar gyfer achosion teulu cyfraith breifat ac awdurdodaethau eraill, a bydd hefyd yn golygu y bydd modd cyflwyno tystiolaeth yn ddigidol yn y llys.
O fewn y prosiect cyfraith gyhoeddus, byddwn hefyd yn digideiddio’r broses fabwysiadu ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus a chyfraith breifat, ac yn datblygu systemau er mwyn gallu rheoli’r achosion hyn yn fwy diogel ac effeithiol. Unwaith y bydd popeth wedi'i gwblhau, byddant yn cydblethu, ac felly bydd modd i achosion symud yn llyfn o un broses i'r llall, er enghraifft bydd modd defnyddio'r un system i gyflwyno achos cyfraith gyhoeddus drwodd i orchymyn mabwysiadu terfynol.
Cyfiawnder Sifil
Yn y maes cyfiawnder sifil, bydd pobl yn gallu dechrau, ymateb i, a rheoli eu hawliadau arian yn y llys sifil ar-lein. Byddwn yn datblygu’r rhan o’r system sydd wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sy’n cynrychioli nifer o hawlwyr, a byddwn hefyd yn datblygu offeryn trafod a setlo ar-lein a’r gobaith ydi y byddwn yn gweld llawer mwy o bobl yn cael iawn yn gyflym ac yn syml. Bydd y system hefyd yn dechrau cefnogi achosion wrth iddynt fynd i, a drwy’r llys, gan ddarparu system rheoli achosion newydd ar gyfer y llysoedd sifil fydd yn golygu symud oddi wrth y broses bresennol sy'n hynod o ddibynnol ar bapur er mwyn gallu gweithio'n gwbl ddigidol (er enghraifft, bydd eiriolwyr yn gallu cael mynediad at wybodaeth am achosion a gweithio arnynt o unrhyw le).
Tribiwnlysoedd
Yn y tribiwnlysoedd, bydd unigolion sy’n apelio yn erbyn penderfyniadau nawdd cymdeithasol a budd-dal plant yn gallu cyflwyno eu hawliad yn gyfan gwbl ar-lein. Byddant yn gallu olrhain eu hachos gan ddefnyddio negeseuon testun, e-bost neu fynd ar-lein, ac os bydd yn briodol, byddant yn gallu cymryd rhan mewn naill ai gwrandawiad rhith neu wrandawiad ar-lein lle bydd y Barnwr yn gallu gofyn cwestiynau iddynt drwy ddefnyddio gwasanaeth negeseua gwib ar-lein. Bydd hyn i gyd yn sicrhau bod penderfyniadau yn gallu cael eu gwneud yn llawer cyflymach mewn system lle gall oedi achosi caledi aruthrol i bobl. Bydd y system hefyd yn cefnogi gwrandawiadau mewn ystafell llys draddodiadol ar gyfer y rheini sydd angen hyn (a bydd gan y Barnwyr wastad ddisgresiwn dros sut y dylid gwrando achosion).
Bydd systemau tebyg hefyd yn cael eu datblygu ar gyfer tribiwnlysoedd eraill. Mae gwrandawiadau rhith (lle gall yr holl bartïon fynychu o unrhyw le) yn cael eu profi ar hyn o bryd gydag achosion mewnfudo a lloches, ac unwaith y bydd y gwaith profi wedi'i gwblhau bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach ar gyfer cynnal rhagor o gynlluniau peilot, i’w defnyddio ar gyfer pryd fydd barnwyr yn ystyried bod hynny’n briodol.
Ar draws yr holl awdurdodaethau
Fel y dywedais mewn blog cynharach, rydym hefyd yn dechrau gweithio ar brosiect i wella amserlenni rhestru ym mhob awdurdodaeth – rydym yn cynllunio systemau, prosesau a ffyrdd o weithio fydd yn cefnogi’r farnwriaeth i wneud penderfyniadau am restru achosion gyda gwell gwybodaeth, a fydd gobeithio yn golygu y bydd gwell penderfyniadau yn cael eu gwneud o ran faint o achosion i’w rhestru er mwyn osgoi gwastraffu amser barnwyr a’r rhai hynny sy’n dod i’r llys. Rydym yn ymwybodol y bydd llawer o bobl eisiau bod yn gysylltiedig â’r darn hwn o waith, ac rydym yn trefnu cyfres o sioeau teithiol a digwyddiadau yn ychwanegol at yr ymchwil defnyddwyr a’r profi rydym yn ei wneud fel arfer.
Byddwn yn dysgu o, ac yn ymestyn cynllun peilot diweddar ar sut y gallwn ddefnyddio ystafelloedd llys yn well, a byddwn hefyd yn profi ac yn gwerthuso rhai ffyrdd gwahanol o ymestyn oriau llys fel y soniais yn fy mlog a gafodd ei ryddhau ychydig o ddyddiau’n ôl - mi ofynnais ynddo hefyd am sylwadau ac adborth ar beth rwy'n gwybod sy'n bwnc dadleuol.
Mae’r holl newidiadau fydd yn deillio o’r rhaglen ddiwygio (os byddwn yn ymestyn oriau eistedd neu beidio) yn golygu y bydd angen llai o ystafelloedd llys traddodiadol arnom (ac fel y mae rhai wedi nodi yn barod, mae gennym rai nad ydynt yn cael eu defnyddio nawr). Byddwn yn ymgynghori ar yr egwyddorion y dylem eu defnyddio pan fyddwn yn penderfynu a ddylid cau rhagor o lysoedd neu beidio, a byddwn yn defnyddio methodoleg sydd wedi’i phrofi’n annibynnol ar gyfer profi amseroedd teithio a hygyrchedd. Dim ond ar ôl i’r newidiadau hynny gael eu gwneud a dod i rym y bydd unrhyw ystyriaeth yn cael ei roi i gynigion i gau rhagor o lysoedd oherwydd newidiadau i’r ffyrdd o weithio.
Byddwn yn buddsoddi’r elw a gafwyd o werthu llysoedd yn diwygio, uwchraddio a gwella ein hadeiladau presennol, a byddwn yn newid y ffordd y byddwn yn cymeradwyo gwaith cynnal a chadw ar y llysoedd fel y gellir rhoi sylw i hyn ynghynt. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ‘canllaw dylunio’ fydd yn lasbrint ar gyfer adeiladau llys yn y dyfodol, fel bod gennym ddarlun clir o beth mae da yn edrych fel wrth i ni wneud unrhyw welliannau. Byddwn yn defnyddio tystiolaeth dda i wella pethau fel arwyddion a sut mae adeiladau yn edrych ac yn teimlo er mwyn gwneud ein hadeiladau yn llefydd haws i’w defnyddio a mynd o’u hamgylch.
Byddwn hefyd yn dechrau aildrefnu ein hunain mewn ymateb i’r ffyrdd newydd hyn o weithio. Byddwn yn cefnogi’r gwasanaethau digidol drwy ddarparu llais cyfeillgar ar y ffôn, neu ar ddiwedd gwasanaeth ‘sgwrsio' a byddwn yn gwella'n sylweddol pa mor hawdd ydyw i bobl gysylltu â ni a chael gwybod beth sy'n digwydd. Bydd gennym fwy o staff yn gwneud y gwaith hwn yn ogystal â gwaith gweinyddol gydag achosion a gafodd eu dechrau ar-lein, a hynny mewn canolfannau mwy fydd wedi cael eu dylunio’n arbennig yn hytrach na’u bod mewn timau gweinyddol bach gwasgaredig.
Byddwn yn gweithio â Good Things Foundation i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb arbenigol a lleol i’r rheini sydd ei angen, gan gynnwys yn benodol cefnogaeth ar gyfer y rheini sydd ddim yn gallu defnyddio gwasanaethau digidol – rydym mewn cysylltiad â nhw’n barod ac maent yn dechrau cefnogi’r gwasanaethau yr ydym eisoes wedi’u datblygu.
Yn olaf, byddwn yn datblygu systemau data ardderchog ar gyfer ein holl systemau newydd fel y gallwn gadw golwg ar sut maent yn datblygu a sut ydym ni'n gweithio, dysgu a gwella, a mesur y pethau iawn (er enghraifft, darganfod ffyrdd o fesur ac yna lleihau ymdrechion gwastraffus pobl eraill, nid yn unig ein defnydd ni o adeiladau neu pa mor sydyn y gwneir penderfyniadau).
Mae’n amlwg fod gennym lawer iawn o waith i’w wneud, ond fel y byddwn yn ei wneud byddwn yn glynu wrth gyfres o egwyddorion clir y bu i ni - gyda'r farnwriaeth - eu gosod wrth i ni ddechrau ar y rhaglen. Byddwn yn:
- Canolbwyntio ar y dinesydd: dylai’r hyn yr ydym yn ei wneud fod mewn partneriaeth gyda, ac yn seiliedig ar anghenion y rheini sy’n defnyddio’r gwasanaeth (dylid canolbwyntio i ddechrau ar yr unigolyn sy’n defnyddio’r system, ond mae’r egwyddor hwn hefyd yn cynnwys y farnwriaeth, y gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, defnyddwyr busnes a’r wladwriaeth, a’r rheini sy’n gweithio i GLlTEM)
- Hygyrch: dylem fod yn gwneud y system yn haws i’w defnyddio i bawb, a chael gwared â rhwystrau sy’n ymwneud â chymhlethdodau ac oedi. Pan fyddwn yn datblygu systemau digidol, dylent fod o’r dyluniad digidol gorau posibl, dylent gael eu profi gyda’r rheini sy’n mynd i’w defnyddio, a dylai fod yna wastad gymorth ar gael i’r rheini nad ydynt yn gallu defnyddio gwasanaethau digidol
- Cymesurol a rhanedig: dylem ddatblygu gwasanaethau cyflym a digidol lle mae cyflymder a symlrwydd yn hollbwysig (nid oes angen gwrandawiadau wyneb yn wyneb dim ond i brosesu neu reoli datblygiad achosion). Dylid defnyddio’r ystafell llys traddodiadol ar gyfer materion difrifol a chymhleth (gan gynnwys achosion teulu sy'n cynnwys materion am ddyfodol plentyn sy'n cael eu herio; ac achosion troseddol difrifol, gan gynnwys pob treial a gwrandawiadau dedfrydu yn Llys y Goron)
- Cyfiawn: peidio byth â chyfaddawdu ar beth sy’n iawn, a datblygu traddodiadau gorau y system cyfiawnder a ystyrir i fod yr orau yn y byd
- Tryloyw: cefnogi llinellau gwelededd clir ac atebolrwydd da (gan gynnwys caniatáu i ddata dienw ac addas gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ymchwil a gwneud gwelliannau)
- Cynaliadwy: gweithio’n effeithlon, am y gost gywir ar gyfer y gwaith sydd i’w wneud, fel bod modd bod yn gynaliadwy yn y dyfodol
- Diogelu’r dyfodol: datblygu systemau sy’n hyblyg ac addas, a gallu gwneud newidiadau cyflym yn y dyfodol mewn ymateb i adborth a gafwyd, ffactorau allanol a ffyrdd newydd o wneud pethau.
Mae’r newidiadau yr ydym yn eu gwneud yn bellgyrhaeddol. Y dasg yw gwneud cyfiawnder yn haws, yn gyflymach ac yn symlach i gael mynediad ati drwy brosesau llyfnach a mwy dibynadwy gan ddefnyddio'r cyfleusterau gorau y gall y byd modern ei gynnig. Ond nid ydynt yn newid egwyddorion ein system, sy’n parhau i fod yn werthfawr ac yn gadarn, a rhaid i hyn fod yn sail i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Rwyf wedi ysgrifennu llawer mewn blogiau diweddar am bwysigrwydd ymgysylltu a thrafod beth ydym yn ei wneud, a darparu ffyrdd i bobl fod yn rhai o hyn - megis y sioeau teithiol sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd er mwyn siarad am, a dangos y Rhaglen Platfform Cyffredin. Rydym hefyd yn edrych am weithwyr cyfreithiol proffesiynol sy’n cynrychioli diffynyddion mewn hawliadau arian yn y llysoedd sifil ar gyfer ein gwaith ymchwil, felly plîs cofrestrwch os oes gennych ddiddordeb . Bydd yna ffordd i bawb fod yn gysylltiedig â phopeth yr wyf wedi’i grybwyll uchod – naill yn gynnar yn y broses wrth benderfynu beth sydd ei angen, neu yn hwyrach ymlaen pan fyddwn yn profi fersiynau cynnar o systemau newydd. Os oes yna ran o’r rhaglen yr hoffech fod yn gysylltiedig â hi, neu gael gwybodaeth am unrhyw ddiweddariadau, e-bostiwch eich manylion i ni.
2 comments
Comment by dennis parker posted on
all brilliant news
Comment by Pete Ryan posted on
This is impressive and excellent news. A sustainable, Open and Public & citizen centric justice system is key.