[English] - [Cymraeg]
In March 2018, we moved all the court and tribunal forms and closely related guidance onto new pages on GOV.UK. While the forms themselves have not changed, the new pages have links to related guidance, and we have included any existing notes on how to complete them right next to each form. We’ve also added Plain English descriptions to the top 90% of forms (as measured by the number of downloads.)
We’ve been working to move the remaining court and tribunal guidance from form finder to GOV.UK. This has also given us the opportunity to remove documents that were no longer being used or that were out of date.
Over 90% of user activity in relation to searching and viewing court and tribunal forms and guidance is already taking place on GOV.UK.
What’s changing with search
At the end of June 2018, we’ll have finished moving the guidance to GOV.UK.
We’ll then update form finder so that when you search, your search takes place on GOV.UK. Your results will be restricted to court and tribunal content, to keep them relevant. We plan to make this change at the start of July 2018.
After this your results will look different, but they’ll still be relevant.
Searching court and tribunal content on GOV.UK will be an improvement on the previous form finder search:
• Single search box - there will no longer be a need for you to choose between two search boxes. Your search can combine both form numbers, and words and phrases.
• Common word searches - many searches in form finder currently return no results, for example ‘d8 form’, ‘divorce form’, ‘divorce fees’, ‘divorce petition’ return zero results in the current form finder search, due to the way search terms are matched exactly. In a search of court and tribunal content on GOV.UK, these return relevant results and the correct forms for most of the same search terms, as well as bringing up relevant guidance that was not previously available via the form finder search.
• Quotes and punctuation - the new search supports quote marks for searching for exact phrases, and ignores any commas or other punctuation marks, like a regular search engine.
• All the results are available - prior to the forms moving, many users were searching on GOV.UK for court and tribunal forms and guidance. Because the forms and guidance were not on GOV.UK, they were not finding everything they needed. Likewise, users searching on form finder, were unable to find the many items of guidance that were only available on GOV.UK. Now all the content is in the same place.
We’ve checked hundreds of searches and results for forms and guidance, and worked to optimise the new pages to make sure that they come high up in search for relevant terms.
We’re continually working to improve how people to find the forms and guidance they need. If you have any suggestions for improvement or feedback, please contact us at: hmctsforms@justice.gov.uk.
[English] - [Cymraeg]
Mae cyfleuster chwilio Form Finder yn symud i GOV.UK
Ym mis Mawrth 2018, symudwyd yr holl ffurflenni llys a thribiwnlys a’r canllawiau cysylltiedig i dudalennau newydd ar GOV.UK. Er nad yw'r ffurflenni eu hunain wedi newid, mae gan y tudalennau newydd ddolenni i ganllawiau cysylltiedig, ac rydym wedi cynnwys unrhyw nodiadau sydd eisoes yn bodoli ar sut i'w llenwi wrth ymyl pob ffurflen. Rydym hefyd wedi ychwanegu testun disgrifiadol Saesneg Clir i 90% o’r ffurflenni sy’n cael eu defnyddio fwyaf (fel y dangoswyd gan nifer y lawrlwythiadau.)
Rydym wedi bod yn gweithio i symud y canllawiau llys a thribiwnlys sy'n weddill o Form Finder i GOV.UK. Mae hyn hefyd wedi rhoi cyfle i ni gael gwared ar ddogfennau nad oeddent yn cael eu defnyddio bellach neu a oedd wedi dyddio.
Mae dros 90% o weithgareddau defnyddwyr mewn perthynas â chwilio am, ac edrych ar ffurflenni llys a thribiwnlys a chanllawiau eisoes yn cael ei wneud ar GOV.UK.
Beth sy'n newid gyda’r cyfleuster chwilio
Erbyn diwedd Mehefin 2018, byddwn wedi gorffen symud y canllawiau i GOV.UK.
Yna, byddwn yn diweddaru Form Finder, fel, pan fyddwch yn chwilio, bydd eich chwiliad yn cael ei gynnal ar GOV.UK. Bydd eich canlyniadau yn cael eu cyfyngu i ddogfennau llysoedd a thribiwnlysoedd, er mwyn eu cadw'n berthnasol. Rydym yn bwriadu gwneud y newid hwn dechrau mis Gorffennaf 2018.
Ar ôl hyn, bydd eich canlyniadau yn edrych yn wahanol, ond byddant dal yn berthnasol.
Bydd chwilio am gynnwys sy’n ymwneud â’r llysoedd a'r tribiwnlysoedd ar GOV.UK yn welliant ar y cyfleuster chwilio blaenorol ar Form Finder:
• Blwch Chwilio sengl - Ni fydd angen i chi ddewis rhwng 2 flwch chwilio mwyach. Gall eich chwiliad gyfuno rhifau'r ffurflenni, geiriau ac ymadroddion.
• Chwiliadau geiriau cyffredin – Ar hyn o bryd nid yw nifer o chwiliadau Form Finder yn dychwelyd unrhyw ganlyniadau, er enghraifft nid yw 'ffurflen D8 ', 'ffurflen ysgaru ', 'ffioedd ysgaru', 'deiseb ysgaru' yn dychwelyd unrhyw ganlyniadau yn y cyfleuster chwilio presennol ar Form Finder, oherwydd y ffordd y mae’r termau a chwilir amdanynt yn cyfateb yn union â’i gilydd. O ran chwiliadau i gynnwys y llysoedd a’r tribiwnlysoedd ar GOV.UK, mae'r rhain yn dychwelyd canlyniadau perthnasol a'r ffurflenni cywir ar gyfer y rhan fwyaf o'r termau y chwilir amdanynt, yn ogystal â chyflwyno canllawiau perthnasol nad oedd ar gael yn flaenorol drwy’r cyfleuster chwilio ar Form Finder.
• Dyfyniadau ac atalnodi - Mae'r chwiliad newydd yn cefnogi marciau dyfynnu ar gyfer chwilio am ymadroddion penodol, ac yn anwybyddu unrhyw atalnodau neu farciau atalnodi eraill, fel peiriant chwilio rheolaidd.
• Mae'r holl ganlyniadau ar gael – Yn flaenorol roedd llawer o ddefnyddwyr yn chwilio am ffurflenni llys a thribiwnlys a chanllawiau ar GOV.UK, ond oherwydd nad oedd y ffurflenni a'r canllawiau wedi'u cyhoeddi ar GOV.UK, nid oeddent yn cael hyd i'r hyn yr oedd ei angen arnynt. Roedd llawer o'r canllawiau ar gael ar GOV.UK yn unig, ac nid ar Form Finder.
Rydym wedi gwirio cannoedd o chwiliadau a chanlyniadau am ffurflenni a chanllawiau, ac wedi gweithio i wneud y gorau o'r tudalennau newydd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ymddangos yn uchel wrth chwilio am dermau perthnasol.
Rydym yn gweithio'n barhaus i wella'r ffordd y mae pobl yn dod o hyd i'r ffurflenni a'r canllawiau sydd eu hangen arnynt. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wella’r gwasanaeth neu os hoffech roi adborth, cysylltwch â ni yn: hmctsforms@justice.gov.uk