Skip to main content

This blog post was published under the 2015-2024 Conservative Administration

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2018/07/30/realising-the-potential-for-video-hearings/

Realising the potential for video hearings

Posted by: , Posted on: - Categories: Civil, Court and tribunal reform, Crime, Digital services, Family, General, Tribunals


[English] - [Cymraeg]

The use of video links is now a well-established feature of our justice system – and, as the technology improves, we must be ready to take further advantage of it, in the interests of all those who use our courts and tribunals.

That’s why, since March, we have been piloting the use of fully video hearings in the tax tribunal, and using this to understand better how we can introduce this more widely as part of a more accessible and efficient service.

Giving courts the option of using fully video hearings, where appropriate, has real potential to open justice up further, save time and expense for all those taking part, and enable vulnerable witnesses to give evidence confidently and safely.

As the Lord Chief Justice said in a speech last month:

“The advantages of enabling hearings to take place using technology ought to be obvious. If parties and witnesses are able to appear via their computers, it will be easier for them to fit their court appearances around their lives. Hitherto, we have required lives to be fitted around court appearances (however short) with the attendant travelling, wasted time, inconvenience and interruption of work or domestic activities … We should be in the business of minimising the disruption to those caught up in the justice system but whose evidence is needed in those cases that get to trial.”

How might fully video hearings be used?

Many hearings – criminal trials in the Crown Court, for example – should always involve the key parties being present in a physical courtroom. But for many others, a fully-video hearing would both allow greater speed and efficiency, and also be much more considerate of the time of those involved.

A good example is a progress hearing relating to case management issues attended only by legal professionals. There is presently some use of teleconferencing for these hearings, but it could be a great deal easier if more professionals could join such hearings from their office rather than having to travel to a court building.

We also know that there are people with cases before Tribunals who would like the opportunity to have it heard over video or over the telephone (or online) rather than attending in person – whether because it means less travel, less time off work, an easier job arranging childcare, or better accommodation of disability or other needs. And we would also like to look at and test the use of fully video hearings for bail and remand decisions (already often made with the defendant appearing by video from the police station or prison).

What safeguards would be put in place?

Judicial discretion is at the heart of making fully video hearings work, and so it will always be for the judge to decide whether to use the option of a fully video hearing or not, and to ensure the interests of justice are served.

This was reaffirmed by the Lord Chief Justice in his speech:

“The extent to which video hearings will be used in all jurisdictions will be a matter for judges to determine applying the rules and practice directions, and where necessary hearing submissions … Where the use of video links is not appropriate, they will not be used.”

All cases are different – and the nature of court hearings varies widely depending on the jurisdiction and on the stage a case has reached. It will be important that we identify any issues which could mean that video hearings are not appropriate for a given participant. This will always be something that needs careful thought.

For example, it is sometimes asserted that those who are vulnerable or who have disabilities may be disadvantaged by video hearings; but it is essential to understand the nature of the vulnerability or disability – for some people, video hearings will represent a positive advantage. The critical thing is that discretion is applied.

Similarly, the use of video with young people must approached with careful consideration, and the decision taken having had regard to the views of Youth Offending Teams. In general, we would expect to use video significantly less for young people than for adults, but the guiding principle must always be what is in the interests of justice – and so it will always be a judicial decision.

How will we know the technology works?

We are committed to understanding how the technology can work for all parties, and an HMCTS team have been working with members of the judiciary, legal professionals and the public to test how fully video hearings work in a real-life setting.

First, we tested them for legal professionals only in preliminary hearings in the immigration and asylum chamber. Lawyers involved welcomed the opportunity to take part without travelling, and we learnt a lot about how to prepare for such hearings, making sure everyone has the right paperwork in the right place.

Since March, we have been piloting fully video hearings in the tax tribunal – this time with members of the public appealing against tax decisions. There will be an independent process evaluation conducted by academics from the London School of Economics and we will share the results of this evaluation once it is completed.

We are also examining the impact of video hearings on those who take part and looking at international experience too. In Australia, for example, an academic study of a series of mock trials undertaken by the New South Wales Department of Justice found that jurors were influenced by a range of factors but were no more likely to find a defendant guilty if they appeared via video link than if they were physically present.

However, a 2010 study by the Ministry of Justice found that those appearing by video in a video remand pilot were less likely to have legal representation, and that this appeared to have an effect on outcomes (though the authors pointed out that they had not controlled for differences in the two cohorts, so they could not be sure of this). So we are working hard on how we ensure that early access to legal advice will be as readily available for video remand hearings than for those who come to court physically.

Alongside this, we will also be making sure that court reforms maintain and enhance open justice. So we are exploring locating terminals in court buildings to provide the public and media with access to view fully video hearings – and we want to work with representatives of the media industry to ensure these changes work effectively for reporting of proceedings too.

How widely might it be used?

Decisions about whether to use a fully video hearing in any particular circumstance will be for the judiciary – both setting the overall framework and expectations, and deciding in individual cases whether exceptions should be made. So, it is inherently difficult to predict how widely it will be used.

As part of our long-term planning, however, we have made some broad estimates about the potential future use of both video enabled hearings (where one or more participants join via video) and fully video hearings (where all participants join via video), and have worked on these with the judiciary. We are often asked about these assumptions, and though they are for planning only, are not binding, and will never replace individual decision-making, we wanted to share them, because some commentators have been concerned that the majority of hearings might be moved to video. In fact, though we think video will continue to play an important role, our expectation is that, across the system, the vast majority of hearings will continue to take place face to face.

In the civil and family courts, we presently make very little use of video (even for one person to join a hearing), and we know that there are many circumstances where, once we can provide for it, this might be useful. Our working estimate is that around a fifth of civil hearings, and less than a tenth of family cases, might in future make some use of video – most of these involving one or two people joining, and far fewer being fully-video. We think the figure for tribunals will be significantly smaller but we do expect many hearings to be dealt with using continuous online resolution.

Many hearings in the criminal jurisdiction already have witnesses or defendants appearing by video-link. Our future estimates for these jurisdictions therefore focus only on fully-video hearings. We expect less than a tenth of magistrates’ court hearings will be fully-video in future, and less than 1% of Crown Court hearings.

It is important to remember that these figures include preliminary and progress hearings, and that they are estimates to guide our planning, rather than aims or predictions – the true future volume of video hearings will depend on judicial decisions, and may well be higher or lower than the estimates we have set out here.

Has this influenced decisions on court closures?

Importantly, these estimates have played no role in any decision to close a court.

All consultations about court closures to date – and this includes the proposals published in January to close eight further buildings - have been based on current court practices and issues and do not make assumptions about future reforms such as the possible increase in use of video hearings.

We do anticipate, however, that the use of fully video hearings may have an impact on our estate in the future. That’s why we have also consulted on a future estate strategy which includes the need for us to take the implications of reform, including video hearings, into account in future analyses.

So what next?

We have benefited enormously from the active support and help from the judiciary and others in the development of these plans, and we will continue to work with them, and with all interested parties in the future. Our plans for this year include further close work with the police and CPS on options for use of fully video hearings in bail and remand, as well as further developing the technology we have used for the tax tribunal pilot, so that it can be made available in other jurisdictions.

We will also continue to emphasise learning from our experience and improving as we go – particularly listening hard to those using our courts and tribunals. In that spirit, I’d like to leave the last words to some of those involved in the tax tribunal pilot:

“I was really pleased to be able to take part in a video hearing as it meant I did not have to travel to London for a hearing.”

“The video hearing was approached with the seriousness a hearing demands.”

“It was impressive to see HMCTS moving towards something that is future looking.”

[English] - [Cymraeg]

Gwireddu potensial gwrandawiadau trwy gyswllt fideo

Mae defnyddio cyswllt fideo yn nodwedd o’n system gyfiawnder sydd wedi’i hen sefydlu bellach - a, fel mae'r dechnoleg yn gwella, mae'n rhaid i ni fod yn barod i fanteisio arni i'r eithaf, er budd y rhai sy'n defnyddio ein llysoedd a'n tribiwnlysoedd.

Felly, ers mis Mawrth, rydym wedi bod yn cynnal peilot o wrandawiadau a gynhelir yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo yn y tribiwnlys treth, gan ddefnyddio hyn i ddeall yn well sut gallwn gyflwyno'r gwasanaeth hwn yn ehangach fel rhan o wasanaeth mwy hygyrch ac effeithlon.

Trwy roi’r dewis i lysoedd gynnal gwrandawiadau yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo, lle bo'n briodol, mae yna botensial i ymestyn cyfiawnder ymhellach, gan arbed amser ac arian i bawb sy'n cymryd rhan, a galluogi tystion bregus i roi tystiolaeth yn hyderus ac yn ddiogel.

Fel dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus mewn araith y mis diwethaf:

“Dylai manteision defnyddio technoleg i alluogi cynnal gwrandawiadau fod yn amlwg. Os bydd partïon a thystion yn gallu bod yn bresennol trwy eu cyfrifiaduron, bydd yn haws iddynt ddod o hyd i'r amser i ymddangos gerbron y llys. Hyd yn hyn, mae pobl wedi gorfod ymddangos gerbron y llys yn ôl amserlen y llys (ni waeth pa mor fyr yw'r gwrandawiad) gyda’r unigolyn yn gorfod teithio, amser yn cael ei wastraffu, ac mae’n amharu ar eu gwaith neu weithgareddau domestig... Mi ddylem fod yn y busnes o leihau'r anhwylustod i’r rhai hynny sy’n ymwneud â'r system gyfiawnder ond bod angen eu tystiolaeth ar gyfer yr achosion hynny sy'n mynd i dreial."

Sut all gwrandawiadau a gynhelir yn gyfan gwbl trwy gyswllt fideo gael eu defnyddio?

Dylai llawer o wrandawiadau - er enghraifft, treialon troseddol yn Llys y Goron – gael eu cynnal bob tro gyda’r partïon allweddol yn bresennol yn bersonol yn yr ystafell llys. Ond ar gyfer llawer o wrandawiadau eraill, byddai cynnal gwrandawiad yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo yn cyflymu'r broses ac yn fwy effeithlon, a hefyd byddai’n fwy ystyriol o amser y sawl sy'n rhan ohono.

Enghraifft dda yw gwrandawiad cynnydd sy’n ymwneud â materion rheoli achos pan mai ond y proffesiwn cyfreithiol sydd angen mynychu. Ar hyn o bryd, mae cynadleddau ffôn yn cael eu defnyddio weithiau ar gyfer y gwrandawiadau hyn, ond gall fod yn llawer haws os byddai rhagor o weithwyr proffesiynol yn gallu ymuno â gwrandawiadau o'r fath o'r swyddfa yn hytrach na gorfod teithio i adeilad llys.

Rydym hefyd yn gwybod bod yna bobl sydd ag achosion gerbron Tribiwnlysoedd a fyddai’n hoffi cael y cyfle i wrando’r achos drwy gyswllt fideo neu dros y ffôn (neu ar-lein) yn hytrach na mynychu yn bersonol - p'un a yw'n golygu teithio llai, cymryd llai o amser i ffwrdd o’r gwaith, gwneud trefniadau gofal plant yn haws, neu roi darpariaeth well ar gyfer anghenion sy’n ymwneud ag anabledd neu anghenion eraill. Hoffwn edrych hefyd ar roi cynnig ar gynnal gwrandawiadau yn gyfan gwbl trwy gyswllt fideo ar gyfer penderfyniadau mechnïaeth a remand (sydd eisoes yn aml yn cael eu cynnal gyda’r diffynnydd yn ymddangos trwy gyswllt fideo o’r orsaf heddlu neu’r carchar).

Pa fesurau diogelu fyddai’n cael eu rhoi ar waith?

Mae disgresiwn barnwrol yn ganolog i sicrhau bod gwrandawiadau cyfan gwbl trwy gyswllt fideo yn gweithio'n iawn, ac felly'r barnwr fydd wastad yn penderfynu cynnal gwrandawiad yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo ai peidio, a hynny er sicrhau budd cyfiawnder.

Cafodd hyn ei ailddatgan gan yr Arglwydd Brif Ustus yn ei araith:

“Mae’r graddau y bydd gwrandawiadau cyswllt fideo yn cael eu defnyddio ym mhob awdurdodaeth yn fater i farnwyr ei bennu, gan roi rheolau a chyfarwyddiadau ymarfer ar waith, a lle bo'r angen, cyflwyniadau gwrandawiadau...Pan nad yw defnyddio cyswllt fideo yn briodol, ni fydd yn cael ei ddefnyddio."

Mae pob achos yn wahanol – ac mae natur achosion llys yn amrywio’n fawr yn ddibynnol ar yr awdurdodaeth a pha gam o’r broses mae achos wedi ei gyrraedd. Bydd yn bwysig inni adnabod unrhyw faterion a all olygu bod gwrandawiadau drwy gyswllt fideo yn amhriodol ar gyfer unigolyn penodol. Bydd yna wastad angen i ystyried hyn yn ofalus.

Er enghraifft, weithiau honnir y gall gwrandawiadau fideo roi'r rhai hynny sy’n fregus neu sydd ag anableddau dan anfantais; ond mae deall natur y bregusrwydd neu'r anabledd yn hanfodol - ar gyfer rhai, byddai gwrandawiadau fideo yn fanteisiol iddynt. Y peth pwysig yw bod disgresiwn yn cael ei ddefnyddio.

Yn yr un modd, rhaid pwyllo wrth ystyried defnyddio cyswllt fideo gyda phobl ifanc, a sicrhau bod y penderfyniad yn cael ei wneud gan ystyried barn y Timau Troseddwyr Ifanc. Yn gyffredinol, rhagwelwn na fyddwn yn defnyddio cyswllt fideo cymaint ar gyfer pobl ifanc o'i gymharu ag oedolion, ond yr egwyddor arweiniol bob tro yw beth bynnag sydd er budd cyfiawnder - felly penderfyniad barnwrol fydd hyn bob amser.

Sut byddwn yn gwybod bod y dechnoleg yn gweithio?

Rydym wedi ymrwymo i ddeall sut all y dechnoleg weithio i'r holl bartïon, ac mae tîm GLlTEM wedi bod yn gweithio gydag aelodau o'r farnwriaeth, y proffesiwn cyfreithiol a'r cyhoedd i weld sut y byddai gwrandawiadau cyfan gwbl trwy gyswllt fideo yn gweithio yn y byd go iawn.

Yn gyntaf, bu i ni gynnal profion gyda'r proffesiwn cyfreithiol dim ond mewn gwrandawiadau rhagarweiniol yn y siambr mewnfudo a lloches. Roedd y cyfreithwyr oedd yn rhan o'r broses profi yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan heb orfod teithio, a bu inni ddysgu llawer am sut i baratoi ar gyfer gwrandawiadau o’r fath, gan sicrhau bod gan pawb y gwaith papur cywir yn y lle cywir.

Ers mis Mawrth, rydym wedi bod yn cynnal peilot gwrandawiadau fideo yn y tribiwnlys treth - gydag aelodau o'r cyhoedd sy'n apelio yn erbyn penderfyniadau treth. Bydd hyn yn cael ei werthuso'n annibynnol gan academyddion o Ysgol Economeg Llundain a byddwn yn rhannu canlyniadau'r broses werthuso hon pan fydd wedi'i chwblhau.

Rydym hefyd yn archwilio effaith gwrandawiadau cyswllt fideo ar y rhai sy’n cymryd rhan ynddynt ac yn edrych ar brofiad rhyngwladol hefyd. Yn Awstralia, er enghraifft, cynhaliodd Adran Gyfiawnder New South Wales astudiaeth academaidd o gyfres o dreialon ffug. Daethpwyd i’r casgliad fod rheithwyr yn cael eu dylanwadu gan ystod o ffactorau, ond nid oeddynt yn fwy tebygol o gael diffynnydd yn euog os oedd y diffynnydd yn ymddangos drwy gyswllt fideo yn hytrach na bod yn bresennol yn bersonol.

Fodd bynnag, yn ôl astudiaeth gan Y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn 2010, roedd y rhai hynny oedd yn ymddangos trwy gyswllt fideo, fel rhan o gynllun peilot fideo ar gyfer achosion remand, yn llai tebygol o fod â chynrychiolaeth gyfreithiol, ac roedd hyn i weld yn cael effaith ar y canlyniadau (er nododd yr awduron nad oeddynt wedi rheoli ar gyfer gwahaniaethau rhwng y ddwy garfan, felly nid oedd modd iddynt fod yn sicr am hyn). Felly, rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod mynediad cynnar at gyngor cyfreithiol ar gael i’r rhai sy’n mynychu gwrandawiad remand trwy gyswllt fideo i’r un graddau â'r rhai sy'n dod i'r llys yn bersonol.

Ar yr un pryd, byddwn hefyd yn sicrhau bod proses ddiwygio'r llysoedd yn cynnal ac yn gwella cyfiawnder agored. Felly rydym yn ystyried lleoli terfynellau mewn adeiladau llys i alluogi'r cyhoedd a'r cyfryngau i gael mynediad at wrandawiadau’n gyfan gwbl trwy gyswllt fideo - a hoffwn weithio gyda chynrychiolwyr y diwydiant cyfryngau i sicrhau bod y newidiadau hyn yn gweithio’n effeithiol ar gyfer ffilmio achosion hefyd.

I ba raddau y gellir ei ddefnyddio?

Y farnwriaeth fydd yn gwneud penderfyniadau os dylid cynnal gwrandawiad yn gyfan gwbl trwy gyswllt fideo mewn unrhyw sefyllfa benodol ai peidio - gan gynnwys pennu'r fframwaith cyffredinol a’r disgwyliadau ynghyd â phenderfynu a ddylid gwneud eithriadau mewn achosion unigol. Felly, mae’n anodd iawn rhagweld i ba raddau y bydd yn cael ei ddefnyddio.

Fodd bynnag, fel rhan o’n cynllunio hir dymor, rydym wedi gwneud amcangyfrifon bras am y defnydd posibl yn y dyfodol o wrandawiadau gyda chymorth fideo (lle mae un neu fwy o'r sawl sy'n cymryd rhan yn ymuno trwy gyswllt fideo) a gwrandawiadau cyfan gwbl trwy gyswllt fideo (lle mae pawb sy’n cymryd rhan yn ymuno trwy gyswllt fideo) ac rydym wedi gweithio arnynt gyda'r farnwriaeth. Gofynnir yn aml inni am y rhagdybiaethau hyn, ac er eu bod at ddibenion cynllunio yn unig, nid ydynt yn rhwymol, a ni fyddant yn cymryd lle penderfyniadau unigol. Roedden ni eisiau eu rhannu oherwydd bod rhai beirniaid wedi bod yn pryderu efallai y byddai’r mwyafrif o wrandawiadau yn cael eu cynnal trwy gyswllt fideo. Mewn gwirionedd, er ein bod yn credu y bydd fideo yn parhau i chwarae rhan bwysig, ein disgwyliad yw, ar draws y system, y bydd y nifer helaeth o wrandawiadau yn parhau i gael eu cynnal wyneb yn wyneb.

Yn y llysoedd sifil a theulu, nid ydym yn defnyddio cyswllt fideo llawer ar hyn o bryd (hyd yn oed ar gyfer cael un unigolyn i ymuno â'r gwrandawiad trwy gyswllt fideo), ac rydym yn gwybod bod yna lawer o amgylchiadau, unwaith y byddwn yn gallu ei ddarparu, lle gall y cyfleuster hwn fod yn ddefnyddiol. Ein hamcangyfrif ar hyn o bryd yw y gallai tua phumed o wrandawiadau sifil, ac oddeutu chwarter o wrandawiadau teulu, ddefnyddio fideo i ryw raddau - gyda'r mwyafrif o'r rhain yn golygu cael un neu ddau o bobl yn ymuno trwy gyswllt fideo a byddai nifer llawer llai o wrandawiadau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl trwy gyswllt fideo. Credwn y bydd y ffigwr ar gyfer tribiwnlysoedd yn llai o lawer ond rydym yn disgwyl y bydd y cyfleuster datrys achosion ar-lein yn cael ei ddefnyddio i ddelio a llawer o’r gwrandawiadau hyn.

Mewn llawer o wrandawiadau yn yr awdurdodaeth droseddol mae tystion a diffynyddion eisoes yn ymddangos gerbron y llys trwy gyswllt fideo. Felly, mae ein hamcangyfrifon ar gyfer yr awdurdodaethau hyn yn canolbwyntio ar wrandawiadau a gynhelir yn gyfan gwbl trwy gyswllt fideo. Rhagwelwn y bydd llai na degfed o wrandawiadau llys ynadon yn wrandawiadau cyfan gwbl trwy gyswllt fideo a llai na 1% o wrandawiadau Llys y Goron.

Mae'n bwysig cadw mewn cof bod y ffigyrau hyn yn cynnwys gwrandawiadau rhagarweiniol a gwrandawiadau cynnydd, ac amcangyfrifon i helpu ein proses gynllunio ydynt, yn hytrach nag amcanion neu ragfynegiadau. Bydd nifer y gwrandawiadau fideo yn y dyfodol yn ddibynnol ar benderfyniadau barnwrol, a gall fod yn fwy neu’n llai na'r amcangyfrifon rydym wedi'u nodi yma.

A yw hyn wedi dylanwadu ar y broses o gau llysoedd?

Yn bwysig iawn, nid yw'r amcangyfrifon hyn wedi chwarae unrhyw rôl mewn unrhyw benderfyniad i gau llys.

Mae’r holl ymgynghoriadau ynghylch cau llysoedd a gynhaliwyd hyd yn hyn - gan gynnwys y cynigion a gyhoeddwyd ym mis Ionawr i gau 8 adeilad llys arall - wedi'u seilio ar faterion ac arferion cyfredol y llys ac nid ydynt yn gwneud unrhyw ragdybiaethau am unrhyw brosesau diwygio yn y dyfodol, fel y posibilrwydd y bydd nifer y gwrandawiadau cyswllt fideo yn cynyddu.

Fodd bynnag, rhagwelwn y bydd cynnal gwrandawiadau yn gyfan gwbl trwy gyswllt fideo yn cael effaith ar ein hystâd yn y dyfodol. Dyna pam ein bod wedi ymgynghori ar strategaeth ystâd y dyfodol sy'n cynnwys yr angen inni ystyried goblygiadau'r broses ddiwygio, gan gynnwys gwrandawiadau cyswllt fideo, mewn unrhyw ddadansoddiadau yn y dyfodol.

Felly, beth nesaf?

Rydym wedi elwa'n fawr gan y gefnogaeth a'r cymorth rhagweithiol gan y farnwriaeth ac eraill wrth ddatblygu’r cynlluniau hyn a byddwn yn parhau i gydweithio â hwy a chyda'r holl bartïon sydd â diddordeb yn y dyfodol. Mae ein cynlluniau ar gyfer eleni yn cynnwys rhagor o gydweithio agos â'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ynglŷn ag opsiynau ar gyfer gwrandawiadau cyfan gwbl trwy gyswllt fideo ar gyfer gwrandawiadau mechnïaeth a remand, yn ogystal â datblygu’r dechnoleg rydym wedi ei defnyddio ar gyfer y cynllun peilot yn y tribiwnlys treth ymhellach, er mwyn iddi fod ar gael mewn awdurdodaethau eraill.

Byddwn hefyd yn parhau i roi pwyslais ar ddysgu o brofiad a gwella wrth inni fynd yn ein blaenau - gan wrando yn enwedig ar y rhai hynny sy'n defnyddio ein llysoedd a'n tribiwnlysoedd. Gyda’r sylw hwn, hoffwn orffen gydag ambell ddyfyniad gan y sawl oedd yn rhan o’r cynllun peilot yn y tribiwnlys treth:

“Roeddwn i’n hapus iawn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gwrandawiad fideo gan nad oedd rhaid i mi deithio i Lundain ar gyfer gwrandawiad."

“Cafodd y gwrandawiad fideo ei drin gyda’r difrifoldeb y mae gwrandawiad yn ei haeddu."

“Roedd gweld GLlTEM yn symud tuag at rywbeth sy'n anelu at y dyfodol wedi creu argraff fawr."

Sharing and comments

Share this page

2 comments

  1. Comment by James Richardson posted on

    Have you considered the use of digital hearings in the field, for example summary fines cases where means enquiries into I&E or to reduce court hearings for BWT's where there is really zero chance of imprisonment. This would make good use of single justice procedures also of course. It could also lend itself to community initiatives. You could use it for numerous similar scenarios to build a robust policy around the vulnerable/debt (for fines) in partnership with debt advice sector. Could make a real difference to this area and improve compliance and fine recovery performance. (I'm an ex-civil servant so can read between the lines in the performance charts before you tell me it is going really well, when it sort of is not!). So many opportunities but none are mentioned above, it is all about up front case management. So many more opportunities!

    • Replies to James Richardson>

      Comment by Kevin Sadler posted on

      Thank you for your suggestions regarding the possible opportunities for fully video hearings. We are working closely with the judiciary and services to identify any potential jurisdictions and case types or hearing types that might find the use of these hearings appropriate, in addition to those mentioned already.