[English] - [Cymraeg]
Tracy Parker-Priest reflects on a year of significant change across tribunals, from increased digital uptake to implementing new policy change. She shares what's been achieved, what's ahead, and how tribunals are continuing to serve the people who need them most.

Looking back: what stands out for you from the last year?
The scale of change over the past few years has been remarkable. If I had to pick one achievement, it would be how far we’ve come with digital services and the difference that has made for people using them.
In immigration and asylum, 98% of appeals are now submitted digitally. In social security and child support, it’s 83%. These statistics represent real people being able to submit their cases, upload evidence, and track progress online, without the delays and uncertainty that came with paper-based processes.
At the same time, tribunals have handled a significant increase in demand – by almost 16% in the last year across all jurisdictions, and the open caseload has grown to over 840,000 cases. This reflects the importance of tribunals for people appealing decisions that directly affect their livelihoods, immigration status and entitlement to support.
What has been biggest impact on people using tribunals services?
For anyone appealing a benefits decision, challenging an immigration ruling, or bringing an employment claim, the biggest difference has been improved clarity and accessibility.
Digital services are faster, more transparent, and easier to understand. When you can see where your case stands, what you need to do next, that makes an already difficult process feel a little less daunting. We’ve heard positive feedback from both users and legal practitioners about that improved clarity.
Digital services aren’t right for everyone though, so we’ve kept paper processes in place for those unable to access them online. Inclusion isn’t an afterthought – it's built into how we design our services.
How has working with partner organisations helped?
Tribunals do not operate in isolation. So much of what we deliver depends on close working with our justice partners, including the Home Office and the Ministry of Justice.
For example, we’re implementing new legislation to introduce a 24-week timeframe within the First-tier Tribunal Immigration and Asylum Chamber, to decide appeals from people receiving accommodation support, and non-detained foreign national offenders. This is a collaborative effort, and we’re on track for implementation before the end of 2026.
We’re also working closely with the Ministry of Housing, Communities and Local Government to prepare for the expected increase in residential property tribunal hearings following the Royal Assent of the Renters' Rights Act. We engage regularly with our tribunal’s engagement groups, where we listen to feedback from legal professionals and other stakeholder groups. Their input genuinely shapes how we improve, influences our service design and helps to prioritise improvements.
What excites you most about the next 12 months?
There’s a lot to look forward to, even against a challenging backdrop.
In immigration and asylum, for example, we're developing AI transcription and we’ll be looking at how we can develop it further to support judicial processes.
More broadly, I’m excited about what continued investment in service design can achieve. We test services with real users and refine them based on what we learn, to build something that works for them. That approach is beginning to show results, which I want us to build on.
What specific challenges face tribunals, and how do you plan to meet them?
The most significant challenge we face is the growing caseload that impacts people’s lives. We’re using every tool available to us to work more efficiently and reduce outstanding cases, including virtual hearings to increase capacity and a new online service to manage infected blood compensation appeals to the Social Security and Child Support Tribunal.
We’re also preparing for the potential impact of the Employment Rights Act, which received Royal Assent in December 2025, and possible increases in employment tribunal cases. We’re also considering how the creation of the Fair Work Agency might affect the types of cases we handle in future.
None of these challenges have easy or immediate solutions. But our approach is to plan carefully, work closely with partners, and be transparent about what we know and what we don’t yet know.
How will you maintain the momentum of modernisation?
Modernisation cannot be a one-off project - it needs to be built into the way we work every day.
One of the things I think we’ve got right is the phased, careful approach we take to introducing new services, working closely with staff and judges. We don’t replace everything at once. New services are introduced alongside existing ones while we monitor performance, gather feedback, and address issues quickly. That reduces risk and builds trust, among staff, judiciary, and the people using those services.
We also measure what we do. Quarterly publication of tribunals statistics and monthly management information provide a regular snapshot of how services are performing. That visibility keeps us accountable and helps us to make better decisions.
What aspect of the modernisation process are you most proud of?
It is hard to choose just one thing, but I would point to the work in the War Pensions and Armed Forces Compensation Chamber. We now provide a single, consistent digital service, which matters enormously to veterans and their families. This represents the kind of user-focused work that I think defines what modernisation should look like.
More broadly, I’m proud that we’ve managed to keep improving services at a time of real pressure. The people who come to tribunals are often in difficult circumstances. Keeping that human reality at the centre of everything we do, while managing rising caseloads and complex policy change, is essential.
[English] - [Cymraeg]
Y tribiwnlysoedd yn 2026: cynnydd, partneriaethau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae Tracy Parker-Priest yn myfyrio ar flwyddyn o newid arwyddocaol ar draws y tribiwnlysoedd, o gynnydd yn y defnydd o wasanaethau digidol i roi newidiadau polisi newydd ar waith. Mae'n rhannu'r hyn sydd wedi'i gyflawni, beth sydd o'n blaenau, a sut mae'r tribiwnlysoedd yn parhau i wasanaethu'r bobl sydd eu hangen mwyaf.

Wrth edrych yn ôl: beth sy'n sefyll allan fwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf?
Mae graddfa'r newid dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol. Os oedd rhaid i mi ddewis un cyflawniad penodol, yna dw i'n dewis pa mor bell rydym wedi dod gyda'n gwasanaethau digidol a'r gwahaniaeth mae hyn wedi'i wneud i'r bobl sy'n eu defnyddio.
Yn y tribiwnlys mewnfudo a lloches, mae 98% o apeliadau yn cael eu cyflwyno'n ddigidol bellach. Yn y tribwinlys nawdd cymdeithasol a chynnal plant, mae'n 83%. Mae'r ystadegau hyn yn cynrychioli pobl go iawn sy'n gallu cyflwyno eu hachosion, uwchlwytho tystiolaeth, ac olrhain cynnydd ar-lein, heb yr oedi a'r ansicrwydd a ddaeth gyda gweithdrefnau papur.
Ar yr un pryd, mae tribiwnlysoedd wedi ymdrin â chynnydd sylweddol yn y galw - bron i 16% yn y flwyddyn ddiwethaf ar draws yr holl awdurdodaethau, ac mae'r baich gwaith achosion wedi cynyddu i dros 840,000 o achosion. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y tribiwnlysoedd i bobl sy'n apelio penderfyniadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu bywoliaethau, eu statws mewnfudo a'u hawl i gael cymorth.
Beth sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar bobl sy'n defnyddio gwasanaethau tribiwnlys?
Ar gyfer unrhyw un sy'n apelio penderfyniad ynghylch budd-daliadau, yn herio dyfarniad mewnfudo, neu'n dwyn hawliad cyflogaeth i'r tribiwnlys, y gwahaniaeth mwyaf sydd wedi bod yw'r gwelliant mewn eglurder a hygyrchedd.
Mae gwasanaethau digidol yn gyflymach, yn fwy tryloyw, ac yn haws i'w deall. Pan rydych yn gallu gweld statws eich achos, a'r hyn mae angen i chi ei wneud nesaf, mae'n gwneud proses sydd eisoes yn anodd deimlo ychydig yn llai brawychus. Rydym wedi clywed adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr a gan ymarferwyr cyfreithiol am y gwelliant yn yr eglurder hwnnw.
Nid yw gwasanaethau digidol yn iawn i bawb chwaith, felly rydym wedi cadw'r prosesau papur mewn lle i'r sawl nad ydynt yn gallu cael mynediad atynt ar-lein. Nid yw cynhwysiant yn ôl-ystyriaeth – mae wedi'i ymgorffori yn y ffordd rydym yn dylunio'n gwasanaethau.
Sut mae gweithio gyda sefydliadau partner wedi helpu?
Nid yw tribiwnlysoedd yn gweithredu ar eu pen eu hunain. Mae cymaint o'r hyn rydym yn ei gyflawni yn dibynnu ar weithio'n agos gyda'n partneriaid cyfiawnder, gan gynnwys y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Er enghraifft, rydym yn gweithredu deddfwriaeth newydd i gyflwyno amserlen o 24 wythnos o fewn Siambr Mewnfudo a Lloches y Tribiwnlys Haen Gyntaf, i wneud penderfyniadau ar apeliadau gan bobl sy'n cael cymorth llety, a throseddwyr o dramor nad ydynt wedi'u cadw (FNOs). Ymdrech cydweithredol yw hwn, ac rydym ar y trywydd iawn i'w roi ar waith cyn diwedd 2026.
Rydyn hefyd yn gweithio'n agos â'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i baratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig mewn gwrandawiadau tribiwnlys ynghylch eiddo preswyl yn dilyn y Ddeddf Hawliau Rhentwyr yn cael Cydsyniad Brenhinol. Rydym yn ymgysyllu'n rheolaidd â grwpiau ymgysylltu ein tribiwnlysoedd, ble rydym yn gwrando ar adborth gan weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith a grwpiau rhanddeiliaid eraill. Mae eu mewnbwn wirioneddol yn siapio sut rydym yn gwella, mae'n dylanwadu ar ddyluniad ein gwasanaethau, ac mae'n helpu i flaenoriaethu gwelliannau.
Beth sy'n gwneud i chi deimlo'n gyffrous am y 12 mis nesaf?
Mae yna lawer i edrych ymlaen iddo, hyd yn oed o fewn cyd-destun heriol.
Er enghraifft, yn y tribiwnlys mewnfudo a llochesrydym yn datblygu adnodd trawsgrifio gyda deallusrwydd artiffisial (AI) a byddwn yn edrych ar sut i'w ddatblygu ymhellach i gefnogi prosesau barnwrol.
Yn fwy cyffredinol, rwy'n teimlo'n gyffrous am beth all buddsodiad parhaus mewn dylunio gwasanaethau ei gyflawni. Rydym yn profi gwasanaethau gyda defnyddwyr go iawn, ac yn eu mireinio yn seiliedig ar yr hyn rydym yn ei ddysgu, i adeiladu rhywbeth sy'n gweithio iddyn nhw. Mae'r dull hwnnw yn dechrau arwain at ganlyniadau y gellir eu gweld, yr wyf yn awyddus i ni adeiladu arnynt.
Pa heriau penodol sy'n wynebu'r tribiwnlysoedd, a sut ydych yn bwriadu ymdrin â nhw?
Yr her mwyaf arwyddocaol rydym yn ei hwynebu yw'r baich gwaith cynyddol sy'n effeithio ar fywydau pobl. Rydym yn defnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni i weithio'n fwy effeithlon a lleihau nifer yr achosion sy'n weddill, gan gynnwys cynnal gwrandawiadau rhithiol i gynyddu capasiti, a gwasanaeth ar-lein newydd i reoli apeliadau iawndal gwaed heintiedig a gyflwynir i'r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant.
Rydym hefyd yn paratoi ar gyfer effaith posib y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth, a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn Rhagfyr 2025, a chynnydd posib yn nifer yr achosion tribiwnlys cyflogaeth. Rydym hefyd yn ystyried sut gall creadigaeth yr Asiantaeth Gwaith Teg (Fair Work Agency) effeithio ar y mathau o achosion byddwn yn eu trin yn y dyfodol.
Nid oes datrysiad hawdd neu ddatrysiad ar unwaith i unrhyw un o'r heriau hyn. Ond ein dull yw i gynllunio'n ofalus, gweithio'n agos â phartneriaid, a bod yn dryloyw am yr hyn rydym yn ei wybod a beth nad ydym yn ei wybod eto.
Sut byddwch yn cynnal momentwm moderneiddio?
Ni all moderneiddio fod yn brosiect untro - rhaid iddo gael ei ymgorffori yn y ffordd rydym yn gweithio bob dydd.
Un o'r pethau rwy'n meddwl dan ni wedi'i wneud yn iawn yw'r dull graddol, gofalus a ddefnyddiwn wrth gyflwyno gwasanaethau newydd, gan weithio'n agos gyda staff a barnwyr. Nid ydym yn disodli popeth ar unwaith. Mae gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â rhai presennol wrth i ni fonitro perfformiad, casglu adborth, a mynd i'r afael â phroblemau yn gyflym. Mae hyn yn lleihau risg ac yn adeiladu ffydd ymysg staff, y farnwriaeth, a'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.
Rydym hefyd yn mesur yr hyn rydym yn ei wneud. Mae cyhoeddi ystadegau a gwybodaeth reoli fisol bob chwarter yn darparu cipolwg rheolaidd o sut mae gwasanaethau yn perfformio. Mae'r gwelededd hynny yn ein dal ni'n atebol ac yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell.
Pa agwedd ar foderneiddio ydych chi'n fwyaf balch ohoni?
Mae'n anodd dewis un peth yn unig, ond byddwn i'n cyfeirio at y gwaith yn y Siambr Pensiynau Rhyfel a'r Lluoedd Arfog. Rydym nawr yn darparu un gwasanaeth digidol cyson, sy'n golygu cymaint i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae hyn yn cynrychioli'r math o waith sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr sy'n diffinio sut dylai moderneiddio edrych.
Yn fwy cyffredinol, rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i wella gwasanaethau mewn cyfnod o bwysau gwirioneddol. Mae'r bobl sy'n dod i dribiwnlysoedd yn aml mewn amgylchiadau anodd. Mae cadw'r realiti dynol hwnnw wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud, wrth reoli baich achosion cynyddol a newid polisi cymhleth, yn hanfodol.

Leave a comment