Rupert Morgan, Property Director at HMCTS, reflects on a year of real progress from a new courthouse roof in Nottingham to a brand new tribunals centre in London and looks ahead to an ambitious programme of investment and improvement.
What stands out as the greatest achievements across our court and tribunal buildings within the last year?
My team is responsible for delivering large-scale projects, such as new court and tribunal buildings, and smaller work, like fixing leaking roofs or refurbishing courtrooms. Each project no matter the scale has an important role to play in delivering justice.
The scale of what the team has delivered this year is something I'm genuinely proud of. We’ve delivered a record number of capital projects across our buildings in 2025/26 around 540 which is a significant increase on previous years.
We opened the new London Tribunals Centre at Newgate Street earlier this year, now the largest tribunal centre in the UK. The new venue replaces two ageing sites with a modern, accessible and flexible centre, providing improved facilities for our users.
And in Harrow, we reopened the Crown Court in April, bringing eight much needed hearing rooms back into operation after nearly three years of closure.

What has made the biggest difference for people using our buildings?
We care deeply about our buildings and the people who use and work in them.
For many people, the improvements that matter most are the ones they may not notice a courtroom that’s the right temperature, a lift that works, a waiting area that’s dignified. That's where a significant portion of our spending goes, because failings in these areas directly impact our users.
But we've also delivered improvements people will notice directly. At Reading Crown Court, we're improving the quality and capacity of the building by creating a new courtroom, a remote hearings room, a viewing room for those attending virtual proceedings in person and a new jury area. This project is expected to complete by the end of 2026.
We’ve replaced the ventilation and cooling systems at Bexley Magistrates Court to make the building more comfortable, refurbished all courtrooms at Darlington Magistrates’ Court and we’re renovating two courtrooms at Manchester’s Crown Square Crown Court.
How has working with partners helped to improve our court and tribunal buildings?
Partnership is central to how we work. Close collaboration with the judiciary and operational colleagues helps us understand where problems are and what impact they're having, shaping how we prioritise the money we spend on maintenance to keep buildings safe, secure, and operational. The project to replace the roof at Nottingham Crown Court is an example of this collaboration in action.
For larger capital projects, partnership with local organisations has also been important. The new City of London Law Courts at Salisbury Square is being delivered with the City of London Corporation.
And in Blackpool, we're working with Blackpool Council on a new purpose-built courthouse.
What are you most excited about for the next 12 months?
The scale of what we can now deliver with our increased funding - £287 million in 2026/27 to deliver vital repairs and digital upgrades across the estate.
We're carrying around 300 ongoing live projects into 2026/27, ranging from essential maintenance through to major new facilities that will add real capacity to the justice system. Projects in Reading and Blackpool will give communities modern, purpose-built spaces, but I'm equally excited about the hundreds of smaller improvements that will make a real difference to people attending our buildings.
I’m particularly excited about the new City of London Law Courts. We’ll start fitting it out this autumn, ready for hearings to begin in 2027.
What are the main challenges with our buildings?
Years of underinvestment meant essential repairs were deferred and problems accumulated. We're now working through that list, prioritising the issues that could affect the ability to hold hearings, but it’s likely that the condition of our buildings will remain a challenge for some time.
We're managing more than 350 buildings, many of which are old or listed, and which weren't designed to meet modern operational or environmental standards. That creates genuine complexity when planning improvements.
Some projects have also been affected by instabilities in the construction industry, causing delays we hadn't anticipated.
Where that’s happened, we've worked to identify new contractors and keep projects moving.
How do you sustain momentum in improving our buildings?
We are focussed on replacing buildings that are too costly to fix, reducing the backlog of maintenance work and improving the environment within our buildings for everyone who uses them.
Knowing what we can spend over a longer period means we can plan better like arranging inspections, designing improvements, hiring contractors providing better value for money and minimising disruption.
Sustainability is also a priority. Our ambition is to reach net zero carbon by 2050, and we're making real progress. Since 2018, HMCTS has reduced its annual CO2 emissions by 40% - which is 30,000kg C02eq.
That’s the equivalent of taking 15,000 cars off the road for a year a real achievement across a complex and ageing estate.
Is there a project you're particularly proud of?
Seeing Harrow Crown Court reopen in April was a real milestone. This £26 million investment addressed the RAAC (reinforced autoclaved aerated concrete) issues that forced its closure in August 2023. The project also involved what is believed to be the largest scaffolding operation of its kind in Europe, reflecting the scale and complexity of the works required.
The court has now returned with eight operational courtrooms, helping to reduce the criminal backlog across London.
I'm also proud of the full range of what the team has delivered. People come to our courts at some of the most difficult moments in their lives, and making the buildings they enter fit for purpose is something my team and I care deeply about.
Find out more
We have record investment, strong partnerships and a clear plan. Every improvement whether a new roof, a working lift or a new building makes a real difference to people who come to court. Follow our progress and find out more about how we are improving our court and tribunal buildings, by listening to our recent podcast.
[English] - [Cymraeg]
Ein hystad llysoedd a thribiwnlysoedd: blwyddyn o gynnydd
Mae Rupert Morgan, Cyfarwyddwr Eiddo yn GLlTEF, yn myfyrio ar flwyddyn o gynnydd gwirioneddol — o do newydd i Adeilad Llys Nottingham i ganolfan tribiwnlysoedd newydd sbon yn Llundain - ac mae'n edrych ymlaen at raglen uchelgeisiol o fuddsoddi a gwelliant.
Beth sy'n sefyll allan fel y cyflawniadau mwyaf ar draws ein llysoedd a thribiwnlysoedd o fewn y flwyddyn ddiwethaf?
Mae fy nhîm i yn gyfrifol am gyflawni prosiectau ar raddfa fawr, fel adeiladau llys a thribiwnlys newydd, a gwaith llai, fel trwsio toeau sy'n gollwng dŵr neu ailwampio ystafelloedd llys. Mae pob prosiect - ni waeth beth yw'r raddfa - yn chwarae rôl bwysig i sicrhau cyfiawnder.
Mae graddfa'r gwaith y mae'r tîm wedi'i gyflawni eleni yn rhywbeth dwi wirioneddol yn falch ohono. Rydym wedi cyflawni'r nifer uchaf erioed o brosiectau ledled ein hadeiladau yn 2025/6 - oddeutu 540 - sy'n gynnydd sylweddol o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.
Bu inni agor Canolfan Tribiwnlysoedd Llundain newydd yn Newgate Street yn gynharach eleni, sydd bellach yn un o'r canolfannau tribiwnlysoedd mwyaf yn y DU. Mae'r lleoliad newydd wedi disodli dau hen safle oedd wedi gweld dyddiau gwell gyda chanolfan fodern, hygyrch a hyblyg, gan ddarparu cyfleusterau gwell i'n defnyddwyr.
Yn Llys y Goron Nottingham, bu inni gwblhau'r gwaith mawr o osod to newydd yn y gwanwyn, gan roi stop i'r holl ddŵr oedd yn gollwng trwy'r to a oedd wedi gorfodi staff i gau ystafelloedd llys ar sawl achlysur.
Ac yn Harrow, bu inni ailagor Llys y Goron ym mis Ebrill, gan ddychwelyd i ddefnyddio wyth ystafell llys yr oedd wir eu hangen yn dilyn bron i dair blynedd o fod ar gau.

Beth sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl sy'n defnyddio ein hadeiladau?
Mae ein hadeiladau a'r bobl sy'n eu defnyddio ac yn gweithio ynddynt yn golygu cymaint i ni.
I lawer o bobl, gall y gwelliannau pwysicaf fod yn rhai llai amlwg - ystafell llys gyda'r tymheredd iawn, lifft sy'n gweithio, ystafell aros braf ac urddasol. Dyna lle mae cyfran sylweddol o'n gwariant yn cael ei wario, oherwydd mae methiannau yn y meysydd hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar ein defnyddwyr.
Ond rydym hefyd wedi cyflawni gwelliannau y bydd pobl yn sylwi arnynt yn syth. Yn Llys y Goron Reading, rydym yn gwella ansawdd a chapasiti yr adeilad trwy greu ystafell llys newydd, ystafell ar gyfer gwrandawiadau o bell, ystafell arsylwi i'r sawl sy'n mynychu achosion rhithiol yn bersonol ac ardal rheithgor newydd. Mae disgwyl i'r prosiect hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd 2026.
Rydym wedi disodli's systemau awyru ac oeri yn Llys Ynadon Bexley i wneud yr adeilad yn fwy cyfforddus, wedi ailwampio'r ystafelloedd llys i gyd yn Llys Ynadon Darlington ac rydym yn adnewyddu dwy ystafell llys yn Llys y Goron Crown Square ym Manceinion.
Sut mae gweithio gyda phartneriaid wedi helpu i wella ein hadeiladau llys a thribiwnlys?
Mae gwaith partneriaeth yn ganolog i'r ffordd rydym yn gweithio. Mae cydweithio'n agos â'r farnwriaeth a chydweithwyr gweithredol yn ein helpu i ddeall lle mae'r problemau a'r effaith maen nhw'n ei gael, gan siapio sut rydym yn blaenoriaethu'r arian rydym yn ei wario ar waith cynnal a chadw i gadw adeiladau'n saff, yn ddiogel ac yn weithredol. Mae'r prosiect i osod to newydd ar Lys y Goron Nottingham yn enghraifft o'r cydweithio hyn ar waith.
Ar gyfer prosiectau cyfalaf mwy, mae partneriaethau gyda sefydliadau lleol wedi bod yn bwysig hefyd. Mae'r Llysoedd Barn Dinas Llundain newydd yn Salisbury Square yn cael ei gyflawni ar y cyd â'r City of London Corporation. Ac yn Blackpool, rydym yn gweithio gyda Chyngor Blackpool ar adeilad llys pwrpasol newydd.
Beth fydd yn digwydd yn y 12 mis nesaf sy'n gwneud i chi deimlo'n gyffrous?
Graddfa'r hyn y gallwn ei wneud gyda'r cyllid cynyddol sydd gennym - £287 miliwn yn 2026/7 i gyflawni gwaith atgyweirio hollbwysig ac uwchraddio digidol ledled yr ystad.
Rydym yn parhau gyda tua 300 o brosiectau cyfredol wrth fynd ymlaen i 2026/7, sy'n amrywio o waith cynnal a chadw hanfodol i gyfleusterau newydd sylweddol a fydd yn ychwanegu capasiti gwirioneddol i'r system gyfiawnder. Bydd prosiectau yn Reading a Blackpool yn darparu gofodau modern, pwrpasol i gymunedau, ond rwyf yr un mor gyffrous am y cannoedd o welliannau llai a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n dod i'n hadeiladau.
Rwyf yn gyffrous yn enwedig am y Llysoedd Barn Dinas Llundain newydd. Byddwn yn dechrau gosod dodrefn ac ati yn yr hydref, yn barod i ddechrau cynnal gwrandawiadau yn 2027.
Beth yw'r prif heriau gyda'n hadeiladau?
Mae blynyddoedd o danfuddsoddi wedi golygu bod gwaith atgyweirio hanfodol wedi'i ohirio ac roedd problemau wedi cronni. Rydym bellach yn gweithio drwy'r rhestr honno, gan flaenoriaethu'r problemau a all effeithio ar y gallu i gynnal gwrandawiadau, ond mae'n debygol y bydd cyflwr ein hadeiladau yn parhau i fod yn her am beth amser.
Rydym yn rheoli dros 350 o adeiladau - gyda llawer ohonynt yn rhai hen neu'n adeiladau rhestredig, ac sydd heb gael eu dylunio i fodloni safonau gweithredol ac amgylcheddol modern. Mae hyn yn creu cymhlethdod gwirioneddol wrth gynllunio gwelliannau.
Mae rhai prosiectau hefyd wedi cael eu heffeithio arnynt gan ansefydlogrwydd o fewn y diwydiant adeiladu, gan achosi oedi nad oeddem wedi rhagweld. Lle bo hynny wedi digwydd, rydym wedi gweithio i adnabod contractwyr newydd a chadw prosiectau yn symud yn eu blaenau.
Sut ydych yn cynnal momentwm wrth wella ein hadeiladau?
Rydym yn canolbwyntio ar ddisodli adeiladau sy'n rhy ddrud i'w trwsio, lleihau'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw a gwella'r amgylchedd o fewn ein hadeiladau i bawb sy'n eu defnyddio.
Mae gwybod faint yr ydym yn gallu ei wario dros gyfnod hwy yn golygu y gallwn gynllunio'n well — fel trefnu archwiliadau, dylunio gwelliannau, cyflogi contractwyr – gan ddarparu gwerth am arian gwell a lleihau aflonyddwch.
Mae cynaliadwyedd hefyd yn flaenoriaeth. Ein huchelgais yw cyrraedd nod carbon net sero erbyn 2050, ac rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol. Ers 2018, mae GLlTEF wedi lleihau ei allyriadau CO2 40% - sef 30,000kg o C02eq. Mae hyn gyfwerth â chymryd 15,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn - cyflawniad gwych ar draws ystad cymhleth sy'n heneiddio.
A oes yna brosiect ydych chi'n wirioneddol falch ohono?
Roedd gweld Llys y Goron Harrow yn ailagor ym mis Ebrill yn garreg filltir go iawn. Mae'r buddsoddiad hwn o £26 miliwn wedi mynd i'r afael â'r problemau RAAC (concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth) a arweiniodd at gau'r adeilad yn Awst 2023. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys yr hyn a gredir yw un o'r gweithrediadau sgaffaldio mwyaf o'i fath yn Ewrop, gan adlewyrchu graddfa a chymhlethdod y gwaith yr oedd ei angen.
Mae'r llys bellach wedi dychwelyd gydag wyth ystafell llys gweithredol, gan helpu i leihau'r ôl-groniad o waith troseddol yn Llundain.
Rwyf hefyd yn falch o amrywiaeth lawn yr hyn mae'r tîm wedi'i gyflawni. Mae pobl yn dod i'n llysoedd yn ystod rhai o adegau anoddaf eu bywydau, ac mae gwneud yr adeiladau maen nhw'n ymweld â hwy yn addas i'r pwrpas yn rhywbeth sy'n agos at galon fy nhîm a finnau.
Rhagor o wybodaeth
Rydym yn buddosddi mwy nag erioed o'r blaen, ac mae gennym bartneriaethau cryf a chynllun clir. Mae pob gwelliant - p'un a yw'n do newydd, lifft sy'n gweithio, neu adeilad newydd - yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy'n dod i'r llys. Dilynwch ein cynnydd i ganfod mwy am sut rydym yn gwella ein hadeiladau llys a thribiwnlys, trwy wrando ar ein podlediad diweddar.
[English] - [Cymraeg]

Leave a comment