[English] - [Cymraeg]
Earlier this month, I shared how we're strengthening user-centred design (UCD) at HMCTS and why investing in design capability is so important to improving justice services. If you haven't read that blog yet, I'd encourage you to start there.
In this blog, I want to focus on what's next. Simply put, we're building something exciting and we're looking for talented people to help shape it.
A unique opportunity to join us at a pivotal moment
We've set out a clear ambition for the future of UCD at HMCTS. We're creating a stronger in-house profession, growing our expertise and ensuring user needs are at the centre of how we design and improve services.
That means we're expanding our team and recruiting more permanent civil servants across the UCD function, including 6 senior leaders across interaction and content design who will champion their professions and work alongside service design and user research to embed iterative user-centred design approaches across HMCTS.
This is more than a recruitment campaign, it's an opportunity to join a profession that is growing, influencing decisions and helping shape services used by millions of people, from members of the public and legal professionals to court and tribunal staff.
You'll be joining at a time when the function is evolving. You'll have the opportunity not just to contribute to services, but to help shape the future direction of UCD within one of the largest organisations in government.

Work that really matters
Designing for justice is different.
Our users are often navigating situations that can be stressful, unfamiliar and life-changing. They may be resolving family disputes, attending court, seeking compensation, appealing decisions or progressing a case through the justice system. Good design can make those experiences clearer, simpler and less daunting. That makes the work both challenging and rewarding.
Our teams tackle complex problems every day, working across organisational boundaries, balancing user needs with operational realities and designing services that work for a wide range of users. For UCD professionals who want to make a meaningful impact, there aren't many opportunities quite like it.
Building a multidisciplinary community
We're investing in all areas of user-centred design, including service design, content design and interaction design. We've already made great progress in growing the profession, but we're not standing still.
We’re continuing to strengthen our content and interaction design capability as we build a more balanced and mature multidisciplinary function. We know that excellent digital services rely on strong design expertise, and we're keen to attract people who are passionate about creating intuitive, accessible and user-focused experiences.
Alongside recruitment, we're building a strong professional community where people can develop their skills, share knowledge and learn from one another. We want HMCTS to be a place where UCD professionals can build long-term careers and do some of the best work of their lives.
Strengthening our interaction and content design capabilities
Our interaction designers work across internal and public-facing services, creating accessible, inclusive experiences that put user needs first. Working closely with researchers, accessibility specialists, content designers and developers, they use a range of techniques to test and refine ideas, from early sketches to coded prototypes. The team also shares learning across government and has recently explored how AI could enhance both the way we work and the services we deliver.
Our content designers work across GOV.UK guidance and digital services, ensuring users get the right information at the right point in their journey. By working across both areas, designers build broad expertise, share knowledge and support one another to continually improve the quality and consistency of our content.
Both professions play a vital role in helping us design services that are simple, accessible and centred around user needs. As our teams grow, we are focusing on working more strategically, strengthening collaboration across HMCTS and making the most of new technologies, including AI, to improve outcomes for users.
To support this, we'll soon introduce a new multidisciplinary team model, enabling senior designers to act as UCD leads and provide stronger user-centred leadership across services.
Why join HMCTS?
People often join HMCTS because they want to work on services that matter.
They stay because of the scale of the challenges, the opportunity to influence change and the supportive community around them.
Our teams work with researchers, developers, product managers, operational colleagues and policy experts to solve real problems for real users.
You'll have the opportunity to work across a broad and varied portfolio of services, develop your professional skills and contribute to work with a direct impact on access to justice. Most importantly, you'll be part of a community that cares deeply about improving outcomes for users.
Come and help us build what's next
We're proud of what we've achieved so far, but we know there's much more to do.
As we continue to grow our UCD profession, we're looking for talented people who are curious, collaborative and passionate about creating better services. If that sounds like you, we'd love to hear from you.
Keep an eye on Civil Service Jobs and HMCTS recruitment channel for upcoming opportunities. The future of user-centred design at HMCTS is being built right now. We'd love you to be part of it.
[English] - [Cymraeg]
Rydym yn adeiladu dyfodol dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn GLlTEF
Yn gynharach y mis hwn, rhannais sut rydym yn cryfhau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn GLlTEF a pham fod buddsoddi mewn gallu dylunio mor bwysig i wella gwasanaethau cyfiawnder. Os nad ydych wedi darllen y blog hwnnw eto, byddwn yn eich annog i ddechrau yno.
Yn y blog hwn, rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn sydd nesaf. Yn syml, rydyn ni'n adeiladu rhywbeth cyffrous ac rydyn ni'n chwilio am bobl dalentog i'n helpu i'w siapio.
Cyfle unigryw i ymuno â ni ar adeg dyngedfennol
Rydym wedi gosod uchelgais glir ar gyfer dyfodol UCD yn GLlTEF. Rydym yn creu proffesiwn mewnol cryfach, yn tyfu ein harbenigedd a sicrhau bod anghenion defnyddwyr wrth wraidd sut rydym yn dylunio a gwella gwasanaethau.
Mae hynny'n golygu ein bod yn ehangu ein tîm ac yn recriwtio mwy o weision sifil parhaol ar draws y swyddogaeth UCD, gan gynnwys 6 uwch arweinydd ar draws y meysydd rhyngweithio a dylunio cynnwys a fydd yn hyrwyddo eu proffesiynau ac yn gweithio ochr yn ochr â dylunio gwasanaethau ac ymchwil defnyddwyr i ymgorffori dulliau dylunio ailadroddus sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar draws GLlTEF.
Mae hon yn fwy nag ymgyrch recriwtio, mae'n gyfle i ymuno â phroffesiwn sy'n tyfu, yn dylanwadu ar benderfyniadau ac yn helpu i siapio gwasanaethau a ddefnyddir gan filiynau o bobl, o aelodau o'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol i staff y llysoedd a’r tribiwnlys.
Byddwch yn ymuno ar adeg pan fydd y swyddogaeth yn esblygu. Byddwch yn cael cyfle nid yn unig i gyfrannu at wasanaethau, ond i helpu i lunio cyfeiriad UCD yn y dyfodol o fewn un o'r sefydliadau mwyaf yn y llywodraeth.

Gwaith sy'n wirioneddol bwysig
Mae dylunio ar gyfer cyfiawnder yn wahanol.
Mae ein defnyddwyr yn aml yn llywio sefyllfaoedd a all fod yn straen, yn anghyfarwydd ac yn newid eu bywyd. Efallai y byddant yn datrys anghydfodau teuluol, yn mynychu'r llys, yn ceisio iawndal, yn apelio yn erbyn penderfyniadau neu'n bwrw ymlaen ag achos drwy'r system gyfiawnder. Gall dylunio da wneud y profiadau hynny yn gliriach, yn symlach ac yn llai brawychus. Mae hynny'n gwneud y gwaith yn heriol ac yn werth chweil.
Mae ein timau yn mynd i'r afael â phroblemau cymhleth bob dydd, gan weithio ar draws ffiniau sefydliadol, cydbwyso anghenion defnyddwyr â realiti gweithredol a dylunio gwasanaethau sy'n gweithio ar gyfer ystod eang o ddefnyddwyr. I weithwyr proffesiynol UCD sydd eisiau cael effaith ystyrlon, nid oes llawer o gyfleoedd tebyg iddo.
Adeiladu cymuned amlddisgyblaethol
Rydym yn buddsoddi ym mhob maes dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan gynnwys dylunio gwasanaethau, dylunio cynnwys a dylunio rhyngweithio. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd mawr wrth dyfu'r proffesiwn, ond nid ydym yn sefyll yn llonydd.
Rydym yn parhau i gryfhau ein gallu dylunio cynnwys a rhyngweithio wrth i ni adeiladu swyddogaeth amlddisgyblaethol fwy cytbwys ac aeddfed. Rydym yn gwybod bod gwasanaethau digidol rhagorol yn dibynnu ar arbenigedd dylunio cryf, ac rydym yn awyddus i ddenu pobl sy'n angerddol am greu profiadau greddfol, hygyrch a chanolbwyntio ar y defnyddiwr.
Ochr yn ochr â recriwtio, rydym yn adeiladu cymuned broffesiynol gref lle gall pobl ddatblygu eu sgiliau, rhannu gwybodaeth a dysgu oddi wrth ei gilydd. Rydym am i GLlTEF fod yn lle, lle gall gweithwyr proffesiynol UCD adeiladu gyrfaoedd hirdymor a gwneud rhai o waith gorau eu bywydau.
Cryfhau ein galluoedd dylunio rhyngweithio a chynnwys
Mae ein dylunwyr rhyngweithio yn gweithio ar draws gwasanaethau mewnol a chyhoeddus, gan greu profiadau hygyrch, cynhwysol sy'n rhoi anghenion defnyddwyr yn gyntaf. Gan weithio'n agos gydag ymchwilwyr, arbenigwyr hygyrchedd, dylunwyr cynnwys a datblygwyr, maent yn defnyddio ystod o dechnegau i brofi a mireinio syniadau, o frasluniau cynnar i brototeipiau wedi'u codio. Mae'r tîm hefyd yn rhannu dysgu ar draws y llywodraeth ac yn ddiweddar mae wedi archwilio sut y gallai AI wella'r ffordd rydym yn gweithio a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Mae ein dylunwyr cynnwys yn gweithio ar draws canllawiau GOV.UK a gwasanaethau digidol, gan sicrhau bod defnyddwyr yn cael yr wybodaeth gywir ar y pwynt iawn yn eu taith. Trwy weithio ar draws y ddau faes, mae dylunwyr yn adeiladu arbenigedd eang, yn rhannu gwybodaeth ac yn cefnogi ei gilydd i wella ansawdd a chysondeb ein cynnwys yn barhaus.
Mae'r ddau broffesiwn yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i ddylunio gwasanaethau sy'n syml, hygyrch ac sy'n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr. Wrth i'n timau dyfu, rydym yn canolbwyntio ar weithio'n fwy strategol, cryfhau cydweithredu ar draws GLlTEF a manteisio i'r eithaf ar dechnolegau newydd, gan gynnwys AI, i wella canlyniadau i ddefnyddwyr.
Er mwyn cefnogi hyn, byddwn yn cyflwyno model tîm amlddisgyblaethol newydd cyn bo hir, sy'n galluogi uwch ddylunwyr i weithredu fel arweinwyr UCD a darparu arweinyddiaeth gryfach sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar draws gwasanaethau.
Pam ymuno â GLlTEF?
Mae pobl yn aml yn ymuno â GLlTEF oherwydd eu bod eisiau gweithio ar wasanaethau sy'n bwysig.
Maen nhw'n aros oherwydd graddfa'r heriau, y cyfle i ddylanwadu ar newid a'r gymuned gefnogol o'u cwmpas.
Mae ein timau'n gweithio gydag ymchwilwyr, datblygwyr, rheolwyr cynnyrch, cydweithwyr gweithredol ac arbenigwyr polisi i ddatrys problemau go iawn i ddefnyddwyr go iawn.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio ar draws portffolio eang ac amrywiol o wasanaethau, datblygu eich sgiliau proffesiynol a chyfrannu at weithio gydag effaith uniongyrchol ar fynediad at gyfiawnder. Yn bwysicaf oll, byddwch chi'n rhan o gymuned sy'n poeni'n ddwfn am wella canlyniadau i ddefnyddwyr.
Dewch i'n helpu i adeiladu'r hyn sydd nesaf
Rydyn ni'n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yn hyn, ond rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud.
Wrth i ni barhau i dyfu ein proffesiwn UCD, rydym yn chwilio am bobl dalentog sy'n chwilfrydig, cydweithredol ac angerddol am greu gwasanaethau gwell. Os yw hynny'n swnio fel chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cadwch lygad ar sianeli recriwtio Civil Service Jobs a GLlTEF am gyfleoedd sydd i ddod. Mae dyfodol dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn GLlTEF yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Byddem wrth ein bodd i chi fod yn rhan ohono.

Leave a comment