https://insidehmcts.blog.gov.uk/volunteer-magistrate-inspiration-carols-story-podcast-transcript/
Volunteer, Magistrate, Inspiration: Carol's Story - podcast transcript
[English] - [Cymraeg]
Sian: Welcome to InsideHMCTS. Volunteers' Week 2026 is almost upon us, and to mark the occasion, we're hearing from someone whose story really captures what volunteering is all about. I’m Siân and today I’m meeting Carol Trigg who has been a magistrate for over two decades, giving her time, expertise, and commitment to the justice system in a way that's left a lasting mark. Hi Carol, thanks for joining us today, can you take us back to the beginning. When did your journey as a magistrate first start?
Carol: I first became a magistrate, I was sworn in on the 30th of October 2004. So I'm now in my 22nd year.
Sian: Twenty-two years — that’s remarkable. What did that moment of being sworn in mean to you?
Carol: That day when I was sworn in… it changed everything. The way I think. The way I approach life. So it was the best thing I ever did.
Sian:. I want to ask you about something that is a really significant part of your story. In 2012, your life changed in a very profound way. Can you tell us what happened?
Carol: I've lost the majority of my sight in 2012. I woke up one morning and I thought, I can't see.
Sian: That must have been absolutely devastating. How did you cope in those early days?
Carol: For months it was a really bad dark time for me, really upset, angry, because I wanted to do what I used to do.
Sian: That’s completely understandable. And yet, here you are, still serving as a magistrate today. How did you begin to adapt to that change in your life?
Carol: When you lose your sight, you lose obviously the largest sensory organ. And you then have to rely solely on your hearing.
Sian: And has that shift — relying more on your hearing — actually changed the way you work in the courtroom?
Carol: You're not judging people in any way… because you can't see them.
Sian: That's a really striking observation. I know you're passionate about encouraging others to consider the role, particularly people who might think it isn't for them. What would you say to someone with a disability who is wondering whether they could do this?
Carol: Anybody with any disability, there are adjustments that can be put in place. I believe that anybody that wants to serve in the community should be able to.
Sian: Carol, we're coming towards the end of our conversation, and I want to give you the opportunity to share what this role truly means to you. How would you describe it to someone who has never considered volunteering in this way?
Carol: I always let people know that I am a magistrate. And you can't pay for that feeling of doing something and enjoying it for no monetary reward.
Sian: Carol, thank you so much for joining me today and for sharing your story so openly and honestly. Twenty-two years of service, navigating enormous personal challenges, and still going strong — you are a true inspiration.
To our listeners, if Carol's story has sparked something in you, we'd encourage you to find out more about becoming a magistrate. And if you'd like to see the full conversation with Carol, head over to our YouTube channel where you can watch the video in full.
Thanks for listening to Inside HMCTS.
In the next episode of Inside HMCTS we’ll be talking about social mobility, we hope you can join us again. Thanks for listening.
[English] - [Cymraeg]
Gwirfoddoli, Ynad, Ysbrydoli: Stori Carol - Trawsgrifiad podlediad
Sian: Croeso i Inside HMCTS. Mae hi bron yn Wythnos Gwirfoddolwyr 2026 ac i nodi'r achlysur, rydym yn clywed gan rhywun sydd â stori sydd wirioneddol yn crynhoi beth yw gwirfoddoli. Siân ydw i, a heddiw dw i'n cyfarfod Carol Trigg sydd wedi bod yn ynad ers dros ddau ddegawd, gan roi ei hamser, arbenigedd ac ymrwymiad i'r system gyfiawnder mewn ffordd sydd wedi gadael ei ôl. Helo Carol, diolch am ymuno â ni heddiw, allwch chi fynd â ni yn ôl i'r dechrau. Pryd wnaeth eich siwrnai fel ynad ddechrau?
Carol: Wnes i ddod yn ynad i ddechrau, wnes i dyngu llw ar 30 Hydref 2004. Felly, dw i nawr yn fy 22ain blwyddyn.
Sian: Dwy flynedd ar hugain - mae hynny'n anhygoel. Beth oedd y foment honno o dyngu llw yn ei olygu i chi?
Carol: Y diwrnod hwnnw, pan wnes i dyngu llw .... wnaeth o newid popeth. Y ffordd dw i'n meddwl. Y ffordd dw i'n delio gyda bywyd. Felly, dyna'r peth gorau wnes i erioed.
Sian: Dw i eisiau gofyn i chi am rywbeth sy'n rhan arwyddocaol iawn o'ch stori. Yn 2012, newidiodd eich bywyd yn llwyr. Allwch chi ddweud wrthym beth ddigwyddodd?
Carol: Wnes i golli'r mwyafrif o fy ngolwg yn 2012. Wnes i ddeffro un bore a meddwl, dw i'n methu gweld.
Sian: Mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn gwbl drychinebus. Sut wnaethoch chi ymdopi yn y dyddiau cynnar hynny?
Carol: Am fisoedd roedd yn amser tywyll gwael iawn i mi, roeddwn i’n ofidus iawn, blin, gan fy mod i eisiau gwneud yr hyn yr oeddwn yn arfer ei wneud.
Sian: Mae hynny'n gwbl ddealladwy. Ac eto, dyma chi, yn dal i wasanaethu fel ynad heddiw. Sut wnaethoch chi ddechrau addasu i'r newid hwnnw yn eich bywyd?
Carol: Pan fyddwch yn colli eich golwg, rydych yn amlwg yn colli'r organ synhwyro mwyaf. Ac yna rydych yn gorfod dibynnu ar eich clyw yn unig.
Sian: Ac ydy'r newid hwnnw - yn dibynnu mwy ar eich clyw - mewn gwirionedd wedi newid y ffordd yr ydych yn gweithio yn y llys?
Carol: Nid ydych yn barnu pobl mewn unrhyw ffordd ...oherwydd nad ydych yn gallu eu gweld nhw.
Sian: Mae hynny'n sylw gwirioneddol drawiadol. Dw i'n gwybod eich bod yn angerddol am annog eraill i ystyried y swydd, yn arbennig pobl sy'n meddwl nad yw'n swydd iddyn nhw. Beth fyddech yn ei ddweud wrth rywun ag anabledd sy'n ystyried a allen nhw wneud hyn?
Carol: Unrhyw un gydag unrhyw anabledd, mae yna addasiadau y gellir eu rhoi ar waith. Credaf y dylai unrhyw un sy'n dymuno gwasanaethu yn y gymuned allu gwneud hynny.
Sian: Carol, rydym yn tynnu at ddiwedd ein sgwrs, a dw i eisiau rhoi'r cyfle i chi rannu beth mae'r rôl hon wirioneddol yn ei olygu i chi. Sut fyddech yn ei ddisgrifio i rywun sydd erioed wedi ystyried gwirfoddoli fel hyn?
Carol: Dw i bob amser yn gadael i bobl wybod fy mod yn ynad. Ac ni allwch dalu am y teimlad hwnnw o wneud rhywbeth a'i fwynhau heb unrhyw wobr ariannol.
Sian: Carol, diolch yn fawr iawn am ymuno â mi heddiw ac am rannu eich stori mor agored a gonest. Dwy flynedd ar hugain o wasanaeth, yn llywio heriau personol anferthol, ac yn parhau'n benderfynol - rydych wirioneddol yn ysbrydoliaeth.
I'n gwrandawyr, os yw Carol wedi tanio rhywbeth ynoch chi, byddem yn eich annog i gael rhagor o wybodaeth am fod yn ynad. Ac os hoffech weld y sgwrs lawn gyda Carol, ewch draw i'n sianel YouTube ble gallwch wylio'r fideo yn llawn.
Diolch am wrando ar Inside HMCTS.
Yn y bennod nesaf o Inside HMCTS byddwn yn siarad am symudedd cymdeithasol, gobeithio y gallwch ymuno â ni eto. Diolch am wrando.

Recent Comments