https://insidehmcts.blog.gov.uk/2026/05/26/family-courts-what-weve-delivered-and-what-comes-next-for-court-users/

Family courts: what we’ve delivered and what comes next for court users 

Posted by: , Posted on: - Categories: Family, General

Adam Lennon reflects on progress in family justice — from faster probate grants to the majority of divorce applications being made online, and looks forwards to Child Focused Courts, helping families to resolve disputes more quickly.  

What has family justice achieved over the last year? 

For me, the greatest achievement has to be how our digital services are delivering for people going through some of the hardest moments in their lives.  

Over 1.2 million people have now used our online probate service. Between October and December 2025, we issued probate grants in around five weeks - two weeks faster than the same period in 2024. User satisfaction stands at 93% - we’re very proud of that.  Our divorce service is performing similarly well, with 95% of applications now submitted online and satisfaction consistently above 80%. 

The current image has no alternative text. The file name is: Image-2.jpg.jpeg

How has modernisation impacted people needing our family courts 

Giving people more control over their own cases has been a big change. When someone applies online, they can track progress and receive automatic notifications when they need to act — removing the anxiety of not knowing what’s happening. And it also reduces the inconvenience of contacting us by phone.  

We’ve updated guidance on our divorce service, for example, to help people choose the right application type for their circumstances, reducing errors and the frustration of resubmitting. Changes like this can make a real difference to people when they’re dealing with big transitions in their life. 

But, we know digital access is not available for everyone. We continue to work with the We Are Group to provide support for completing online forms, either in person or by phone, and paper applications remain available (and are being improved) alongside digital ones. 

How important are partner organisations in helping us to improve our services? 

A big priority for us is to improve the experience for families managing disputes. We’re preparing more family courts to adopt the child-focused model which uses a 'one report, one hearing' approach and prioritises early intervention by Cafcass and local authorities.  A collaborative approach is going to be vital to the success of expanding the model to more courts - ultimately improving outcomes for children. 

What are you most excited about for the year ahead? 

There’s real momentum in private family law. Our new digital Private Family Law service means child arrangement orders, non-molestation orders, and occupation orders can be submitted online. The service will become available nationally during 2026. 

I’m also excited about our plans to expand the Child Focused Court model in the autumn. In early adopter courts, we’ve seen average case timeliness reduced from 37 weeks to 12 weeks. I’m really looking forward to seeing similar improvements for families as we roll it out further. 

Are there specific challenges in family justice which you’ll be addressing during 2026? 

I want to be honest about where we have more work to do. Family Public Law cases — brought by local authorities when they have concerns about a child's safety — should be resolved within 26 weeks, and whilst 3 weeks quicker that the previous year they are currently taking an average of 37 weeks. At the end of December 2025, there were 10,087 open cases. These involve some of the most vulnerable children in the country so these cases remain a priority for us. 

We’ve committed additional sitting days to these cases and are working closely with the judiciary to streamline processes. Delays have real consequences, so I’m determined to improve this area.  

How will you sustain the momentum of modernisation? 

Although, many of our reformed services are now well established, I’m not complacent. We’re treating improvement as a continuous process that’s built into all our services.  

Modernisation enables us to collect protected characteristics data to identify barriers that might otherwise be hidden. We’re using that to identify differences in outcomes, for example, some ethnic minority applicants, and those whose first language was not English, were more likely to have their probate application paused. Those findings have prompted targeted work to understand why and make practical changes to improve timeliness for those applicants. We’re sustaining improvements by working in partnership with our national services teams. Together, we’ve increased contact satisfaction for the divorce service from 70% to 87% and people calling the probate enquiry line now have their calls answered 27% faster compared to 2022. These are improvements that people can see and feel every day. 

We also continue to work with our partners, listening to their feedback about their daily experiences so that we can react quickly when we need to. 

Can you pick a single aspect of the modernisation process that you’re most proud of? 

Whilst we had a very difficult start to modernisation in this area, the probate service, is  definitely what I am most proud of. Not just the scale of it but the way it has been developed through genuine collaboration with probate professionals and charities. It helps grieving families manage complex legal processes without unnecessary bureaucracy or delay.

When organisations like Remember a Charity say publicly that our improvements matter to them, that means a great deal to all of us working in family justice.  


[English] - [Cymraeg]

Y Llysoedd Teulu: yr hyn rydym wedi'i gyflawni a beth sy'n dod nesaf i ddefnyddwyr y llysoedd

Mae Adam Lennon yn myfyrio ar gynnydd ym maes cyfiawnder teulu - o ddarparu grantiau profiant yn gyflymach, i fwyafrif y ceisiadau am ysgariad yn cael eu gwneud ar-lein - ac mae'n edrych ymlaen at weithrediad Llysoedd sy'n Canolbwyntio ar Blant, a fydd yn helpu teuluoedd i ddatrys anghydfodau'n gynt.

Beth mae cyfiawnder teulu wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf?

Dw i'n meddwl mai'r cyflawniad mwyaf yw sut mae ein gwasanaethau digidol yn cyflawni i bobl sy'n mynd trwy rai o'r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau.

Mae dros 1.2 miliwn o bobl wedi defnyddio ein gwasanaeth profiant ar-lein bellach. Rhwng Hydref a Rhagfyr 2025, bu inni gyhoeddi grant profiant mewn tua pum wythnos - pythefnos yn gynt na'r un cyfnod yn 2024. Mae'r gyfradd bodlonrwydd defnyddwyr yn 93% - ac rydym yn falch iawn o hynny.  Mae ein gwasanaeth ysgaru yn perfformio'n dda hefyd, gyda 95% o geisiadau bellach yn cael eu cyflwyno ar-lein, ac mae'r gyfradd bodlonrwydd defnyddwyr yn uwch na 80% yn gyson.

Sut mae moderneiddio wedi effeithio ar bobl sydd angen ein llysoedd teulu?

Mae rhoi mwy o reolaeth i bobl dros achosion eu hunain wedi bod yn newid mawr. Pan fydd rhywun yn apelio ar-lein, gallant olrhain cynnydd a derbyn hysbysiadau awtomatig pan fydd arnynt angen gweithredu — mae hyn yn dileu'r pryder oherwydd peidio â gwybod beth sy'n digwydd. Mae hefyd yn lleihau'r anghyfleustra o gysylltu â ni dros y ffôn.

Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar ein gwasanaeth ysgaru, er enghraifft, i helpu pobl ddewis y math o gais cywir ar gyfer eu hamgylchiadau nhw. Mae hyn yn lleihau camgymeriadau a rhwystredigaeth oherwydd ailgyflwyno cais. Mae newidiadau fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl pan maent yn ymdrin â newidiadau mawr yn eu bywydau.

Ond, gwyddwn nad yw mynediad digidol ar gael i bawb. Rydym yn parhau i weithio gyda We Are Group i ddarparu cymorth ar gyfer llenwi ffurflenni ar-lein, un ai'n bersonol neu dros y ffôn, ac mae ceisiadau papur yn parhau i fod ar gael (ac yn cael eu gwella) ochr yn ochr â cheisiadau digidol.

Pa mor bwysig yw sefydliadau partner o ran ein helpu i wella ein gwasanaethau?

Blaenoriaeth fawr i ni yw gwella'r profiad i deuluoedd sy'n rheoli anghydfodau. Rydym yn paratoi mwy o lysoedd teulu i fabwysiadu'r model sy'n canolbwyntio ar y plentyn, sy'n defnyddio dull 'un adroddiad, un gwrandawiad' ac mae'n blaenoriaethu ymyrraeth gynnar gan Cafcass ac awdurdodau lleol.  Mae dull cydweithredol yn mynd i fod yn handfodol i sicrhau llwyddiant wrth ymestyn y model i fwy o lysoedd - gan wella canlyniadau i blant yn y pen draw. 

Beth yw'r peth sy'n gwneud i chi deimlo mwyaf gyffrous am y flwyddyn i ddod?

Mae yna momentwm go iawn ym maes cyfraith deulu preifat. Mae ein gwasanaeth digidol Cyfraith Deulu Preifat newydd yn golygu y gellir cyflwyno ceisiadau am orchmynion trefniadau plant, gorchmynion rhag molestu a gorchmynion meddiannu ar-lein. Bydd y gwasanaeth yn dod ar gael yn genedlaethol yn ystod 2026.

Dw i hefyd yn teimlo'n gyffrous am ein cynlluniau i ymestyn y model Canolbwyntio ar y Plentyn yn yr hydref. Yn y llysoedd mabwysiadu cynnar, rydym wedi gweld yr amser ar gyfartaledd i gwblhau achos yn lleihau o 37 wythnos i 12 wythnos. Dw i wir yn edrych ymlaen at weld gwelliannau tebyg i deuluoedd wrth i ni ei gyflwyno ymhellach.

A oes heriau penodol ym maes cyfraith deulu y byddwch yn mynd i'r afael â hwy yn ystod 2026?

Dw i eisiau bod yn onest, mae gennym lawer mwy o waith i'w wneud. Dylai achosion Cyfraith Deulu Preifat - sy'n cael eu dwyn gan awdurdodau lleol pan fo pryderon am ddiogelwch plentyn - gael eu datrys o fewn 26 wythnos, ac er eu bod yn 3 wythnos yn gyflymach na'r flwyddyn flaenorol, maen nhw dal i gymryd 37 wythnos ar gyfartaledd. Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2025, roedd 10,087 o achosion agored. Mae'r rhain yn ymwneud â rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yn y wlad, felly mae'r achosion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

Rydym wedi ymrwymo i ddyddiau eistedd ychwanegol ar gyfer yr achosion hyn, ac rydym yn gweithio'n agos â'r farnwriaeth i symleiddio'r broses. Mae goblygiadau gwirioneddol oherwydd oedi, felly rwy'n benderfynol y gallwn wella yn y maes hwn.

Sut byddwch yn cynnal momentwm moderneiddio?

Er bod llawer o'n gwasanaethau diwygiedig bellach wedi ennill eu plwyf, nid wyf am eistedd yn ôl ac ymlacio. Rydym yn trin gwella fel proses barhaus sydd wedi'i gwreiddio ym mhob un o'n gwasanaethau.

Mae moderneiddio yn ein galluogi i gasglu data am nodweddion gwarchodedig i adnabod rhwystrau a all fod wedi'u cuddio fel arall. Rydym yn defnyddio hynny i adnabod gwahaniaethau mewn canlyniadau, er enghraifft, roedd yn fwy tebygol i rai ceiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, a'r sawl nad Saesneg oedd eu hiaith gyntaf, fod yn destun saib gyda'u cais am brofiant. Mae'r canfyddiadau hynny wedi sbarduno gwaith wedi'i dargedu i ddeall pam, a gwneud newidiadau ymarferol i wella amseroldeb i'r ceiswyr hynny. Rydym yn cynnal gwelliannau trwy weithio mewn partneriaeth â'n tîm gwasanaethau cenedlaethol. Gyda'n gilydd, rydym wedi cynyddu'r gyfradd bodlonrwydd cwsmeriaid ar gyfer y gwasanaeth ysgaru o 70% i 87%, ac mae pobl sy'n ffonio'r llinell ymholiadau profiant bellach yn cael ymateb 27% yn gyflymach o'i gymharu â 2022. Dyma welliannau y mae pobl yn gallu eu gweld a'u teimlo bob dydd.

Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, gan wrando ar eu hadborth am eu profiadau dyddiol fel y gallwn ymateb ar frys pan fo'r angen.

A oes agwedd benodol ar y broses foderneiddio yr ydych yn hynod falch ohoni?

Er ein bod wedi cael cychwyn anodd i'r broses foderneiddio yn y maes hwn, y gwasanaeth profiant, dyma beth yr wyf mwyaf balch ohono, heb os. Nid yn unig y raddfa ond y ffordd y mae wedi datblygu trwy gydweithredu gwirioneddol gydag ymarferwyr profiant ac elusennau. Mae'n helpu teuluoedd sy'n galaru i reoli prosesau cyfreithiol cymhleth heb unrhyw fiwrocratiaeth neu oedi diangen. 

Pan fydd sefydliadau fel Remember a Charity yn dweud yn gyhoeddus bod ein gwelliannau yn bwysig iddyn nhw, mae hyn yn golygu llawer iawn i bawb ohonom sy'n gweithio yn y maes cyfraith deulu.


[English] - [Cymraeg]

Sharing and comments

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.