[English] - [Cymraeg]
More court and tribunal services are available online than ever before. For many people, this makes it easier to access justice. But we know that not everyone has the technology, skills or confidence needed to use digital services.
That's why we offer the Digital Support Service. The service helps people who do not have access, whether through a lack of internet access or device, skills or confidence - to benefit from our online services.
From April 2027, we're changing how support is delivered, and I want to share with you how this will improve the experience of some of our most disadvantaged users.

Understanding the barriers people face
Digital exclusion is often linked to other challenges people may be experiencing. Someone may be living with a disability or health condition, struggling financially, facing language barriers, or dealing with a stressful and difficult situation. People living in rural areas can also face challenges, such as poor internet connectivity or limited access to digital services.
Greater understanding about our users needs means our approach cannot follow a one-size-fits-all solution. In the future, support will be able to identify wider needs, adapt the way help is provided, and, where appropriate, connect someone with other sources of support beyond their immediate digital problem.
A more local approach to support
To define our future service, we used evidence from the current service, an independent evaluation and extensive engagement with organisations that support digitally excluded people.
What we heard was clear. Local organisations often have a better understanding of the communities they serve and can reach people who may not know support is available. From April 2027, Digital Support will be delivered through 11 regional grants covering England, Wales and Scotland, rather than through a single national provider.
The successful organisations are all part of the Citizens Advice network. Each organisation will run support in their region, working in partnership with other Citizens Advice organisations to make sure support is available across their region.
They also plan to work in trusted community settings including libraries, community centres and health settings, enabling us to reach our users where they are based, rather than forcing them to visit a potentially unfamiliar building. The organisations awarded funding are listed at the end of this blog.
Because our new partners are familiar with our work, support will cover all our online services and new ones as they're introduced, this is important because it means people can be helped immediately to access new services and without needing to wait for our partners to update their systems or train their staff.
What this means for users
For those experiencing digital exclusion, often alongside other complex and overlapping barriers, the changes will make sure help reaches the people who need it most, so that everyone can access justice.
Courts and tribunals users will continue to receive tailored support, whether that's help completing forms, accessing clear guidance, or more intensive one-to-one support to understand a process or upload evidence. It will be available face-to-face, by telephone or remotely, and people will be able to ask for help directly or access assistance through a direct referral from HMCTS.
This means that whether a person is responding to a Single Justice Notice, appealing a benefit decision or applying for help with fees, they can benefit from support to complete an online court form and access justice.
From April 2027 our Digital Support Service will be provided by:
- East Midlands - Citizens Advice North East Derbyshire
- East of England - Citizens Advice Essex
- London, South East and Scotland - Arun and Chichester Citizens Advice
- North East - Citizens Advice County Durham
- North West - Citizens Advice Liverpool
- South West - Citizens Advice Somerset
- West Midlands - Citizens Advice Solihull Borough
- Yorkshire and the Humber - North Yorkshire Citizens Advice and Law Centre
- Wales - Citizens Advice Merthyr Tydfil
[English] - [Cymraeg]
Gwella cymorth i bobl sydd angen help gan ddefnyddio gwasanaethau llys a thribiwnlys ar-lein
Mae mwy o wasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd ar gael ar-lein nag erioed o'r blaen. I lawer o bobl, mae hyn yn ei gwneud hi'n haws cael mynediad at gyfiawnder. Ond gwyddom nad oes gan bawb y dechnoleg, y sgiliau neu'r hyder sydd eu hangen i ddefnyddio gwasanaethau digidol.
Dyna pam rydyn ni'n cynnig y Gwasanaeth Cymorth Digidol. Mae'r gwasanaeth yn helpu pobl nad oes ganddynt fynediad, boed hynny trwy ddiffyg mynediad i'r rhyngrwyd neu ddyfais, sgiliau neu hyder - i elwa o'n gwasanaethau ar-lein.
O fis Ebrill 2027 ymlaen, rydym yn newid sut mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu, ac rwyf am rannu gyda chi sut y bydd hyn yn gwella profiad rhai o'n defnyddwyr sydd dan anfantais fwyaf.
Deall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu
Mae allgáu’n ddigidol yn aml yn gysylltiedig â heriau eraill y gall pobl eu profi. Gall rhywun fod yn byw gydag anabledd neu gyflwr iechyd, yn cael trafferth yn ariannol, yn wynebu rhwystrau iaith, neu'n delio â sefyllfa anodd ac sy’n peri straen. Gall pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig hefyd wynebu heriau, fel cysylltiad gwael â’r rhyngrwyd neu fynediad cyfyngedig at wasanaethau digidol.
Mae gwell dealltwriaeth o anghenion ein defnyddwyr yn golygu na all ein dull ddilyn datrysiad un maint i bawb. Yn y dyfodol, bydd cymorth yn gallu nodi anghenion ehangach, addasu'r ffordd y darperir help, ac, lle bo hynny'n briodol, cyfeirio rhywun at ffynonellau cymorth eraill y tu hwnt i'w problem ddigidol uniongyrchol.
Dull mwy lleol o gefnogi
Er mwyn diffinio ein gwasanaeth yn y dyfodol, gwnaethom ddefnyddio tystiolaeth o'r gwasanaeth presennol, gwerthusiad annibynnol ac ymgysylltiad helaeth â sefydliadau sy'n cefnogi pobl sydd wedi'u heithrio'n ddigidol.
Roedd yr hyn a glywsom yn glir. Mae sefydliadau lleol yn aml yn cael gwell dealltwriaeth o'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu a gallant gyrraedd pobl nad ydynt efallai'n gwybod bod cymorth ar gael. O fis Ebrill 2027 ymlaen, bydd Cymorth Digidol yn cael ei ddarparu trwy 11 grant rhanbarthol sy'n cwmpasu Cymru, Lloegr a'r Alban, yn hytrach na thrwy un darparwr cenedlaethol.
Mae'r sefydliadau llwyddiannus i gyd yn rhan o'r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth. Bydd pob sefydliad yn cynnal cymorth yn eu rhanbarth, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau Cyngor ar Bopeth eraill i sicrhau bod cymorth ar gael ar draws eu rhanbarth.
Maent hefyd yn bwriadu gweithio mewn lleoliadau cymunedol dibynadwy gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a lleoliadau iechyd, gan ein galluogi i gyrraedd ein defnyddwyr lle maent wedi'u lleoli, yn hytrach na'u gorfodi i ymweld ag adeilad a allai fod yn anghyfarwydd. Mae'r sefydliadau sy'n derbyn cyllid wedi'u rhestru ar ddiwedd y blog hwn.
Oherwydd bod ein partneriaid newydd yn gyfarwydd â'n gwaith, bydd cymorth yn cwmpasu ein holl wasanaethau ar-lein a rhai newydd wrth iddynt gael eu cyflwyno, mae hyn yn bwysig oherwydd mae'n golygu y gellir helpu pobl ar unwaith i gael mynediad at wasanaethau newydd a heb orfod aros i'n partneriaid ddiweddaru eu systemau neu hyfforddi eu staff.
Beth mae hyn yn ei olygu i ddefnyddwyr
I'r rhai sy'n profi allgáu’n ddigidol, yn aml ochr yn ochr â rhwystrau cymhleth a gorgyffwrdd, bydd y newidiadau yn sicrhau bod help yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf, fel y gall pawb gael mynediad at gyfiawnder.
Bydd defnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd yn parhau i dderbyn cymorth wedi'i deilwra, boed hynny'n help i lenwi ffurflenni, cael mynediad at ganllawiau clir, neu gymorth un-i-un mwy dwys i ddeall proses neu uwchlwytho tystiolaeth. Bydd ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu o bell, a bydd pobl yn gallu gofyn am gymorth yn uniongyrchol neu gael mynediad at gymorth drwy atgyfeiriad uniongyrchol gan GLlTEF.
Mae hyn yn golygu, p'un a yw unigolyn yn ymateb i Hysbysiad Un Ynad, yn apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal neu'n gwneud cais am help i dalu ffioedd, gallant elwa o gymorth i lenwi ffurflen llys ar-lein a chael mynediad at gyfiawnder.
O fis Ebrill 2027 bydd ein Gwasanaeth Cymorth Digidol yn cael ei ddarparu gan:
- Dwyrain Canolbarth Lloegr - Cyngor ar Bopeth Gogledd Ddwyrain Swydd Derby
- Dwyrain Lloegr - Cyngor ar Bopeth Essex
- Llundain, De-ddwyrain Lloegr a'r Alban - Cyngor ar Bopeth Arun a Chichester
- Gogledd Ddwyrain Lloegr - Cyngor ar Bopeth Sir Durham
- Gogledd Orllewin Lloegr - Cyngor ar Bopeth Lerpwl
- De Orllewin Lloegr - Cyngor ar Bopeth Gwlad yr Haf
- Gorllewin Canolbarth Lloegr - Cyngor ar Bopeth Bwrdeistref Solihull
- Swydd Efrog a'r Humber - Cyngor ar Bopeth a Chanolfan y Gyfraith Gogledd Swydd Efrog
- Cymru - Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful

Leave a comment