Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2019/06/17/court-security-the-view-of-a-court-support-officer/

Court security: the view of a court support officer

Posted by: , Posted on: - Categories: Training and support, Working at HMCTS


[English] - [Cymraeg]

I’m Ella, and I work for HMCTS in Bristol. As a court support officer, my role is really varied. Sometimes I prepare papers and files for court proceedings, other times I produce documents for members of the public. A large part of my role is assisting legal colleagues, court users and senior staff to help keep things running.

Working in a court, every case is unique, which means that every day is different and can present fresh challenges. Our security staff and the procedures they carry out play a vital role in keeping my place of work safe and secure.

Most items removed are brought in by people without malicious intent – people unwittingly caught out with pocket knives or tools they might use in their jobs. Other everyday items, which you wouldn’t typically think of as a risk, are also confiscated – things like perfumes, umbrellas, and bottles of makeup. That’s because items that might not be classed as an offensive weapon when found on the street must be handled with extra caution inside a criminal court, where somebody else could use it to cause harm or disruption.

For example, I recently learnt from one of our security staff that the reason they confiscate perfume is because it can’t be sipped to prove it isn’t a corrosive substance (the so-called “sip test” was introduced in response to a rise in acid attacks). In addition, the glass bottle itself can be used as a weapon. For all of us working in courts, we have to be alert to the fact that everyday objects could be used as a weapon, and security procedures must reflect this.

If you bring in a knife – even a pocket knife under 3 inches (so legal to carry on you) – it will be removed. You can get it back, if you fill out a form which the security staff will provide. Other confiscated items, like make-up, will also be returned as you leave court.

More sinister items, such as knives over three inches are seized, disposed of, and the police called immediately. This has happened a few times at my court, which really brings home to us – as court staff – that our job is unlike most others, and security is very important.

It’s vital that we are all aware and respectful of security, and the reason for the security processes, whether that be compliantly sipping your coffee even if it’s a bit hot, or keeping your ear to the ground to inform staff members of anything you might find concerning.  Without security - our jobs would be a lot more dangerous, so thank you.

This is the last of a series of three blogs from the perspectives of different people who use and work in our courts and tribunals. The series is a part of a wider effort to update our information about court security, our safety processes and the principles which underpin them. To find our more, read Susan’s blog or visit GOV.UK to see our refreshed materials about court security.


[English] - [Cymraeg]

Diogelwch yn y llysoedd: safbwyntiau swyddog cefnogi’r llys

Fy enw i yw Ella ac rwy’n gweithio i GLlTEM ym Mryste. Fel swyddog cefnogi’r llys, mae fy rôl yn un amrywiol dros ben. Weithiau rwy’n paratoi papurau a ffeiliau ar gyfer achosion llys, ac ar adegau eraill rwy'n paratoi dogfennau ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Rhan fawr o fy rôl yw cynorthwyo gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, defnyddwyr y llys, ac uwch swyddogion er mwyn helpu i sicrhau bod pethau fel y dylent fod.

Yn y llys, mae pob achos yn unigryw sy’n golygu bod pob diwrnod yn wahanol a gallaf felly wynebu heriau newydd. Mae ein staff diogelwch a’r prosesau maent yn eu dilyn yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gadw fy ngweithle yn saff a diogel.

Mae’r mwyafrif o eitemau sy’n cael eu tynnu oddi ar bobl wrth iddynt ddod i mewn i’r llys wedi cael eu cario i mewn ganddynt heb fwriad maleisus – mae pobl heb yn wybod iddynt yn cario offer neu gyllyll yn eu pocedi y byddant efallai yn eu defnyddio yn eu gwaith. Mae eitemau eraill, na fyddech o reidrwydd yn tybio y byddant yn achosi risg, hefyd yn cael eu cymryd oddi ar bobl - eitemau megis persawr, ymbaréls, a photeli colur. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod rhaid ymdrin ag eitemau na fyddai efallai yn cael eu hystyried yn ymosodol ar y strydoedd yn fwy gofalus mewn llys troseddol, lle y gallai rhywun arall ei ddefnyddio i achosi niwed neu aflonyddwch.

Er enghraifft, yn ddiweddar mi ddysgais gan un o’n staff diogelwch mai’r rheswm pam eu bod yn atafaelu persawr yw oherwydd ni ellir gofyn i rywun gymryd cegiad ohono i brofi nad yw’n sylwedd cyrydol (cafodd y prawf diogelwch hwn ei gyflwyno mewn ymateb i gynnydd mewn ymosodiadau asid). Hefyd, gellid defnyddio’r botel wydr fel arf. Mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio yn y llysoedd fod yn ymwybodol o’r ffaith y gall pobl ddefnyddio gwrthrychau pob dydd fel arf, ac mae’n rhaid i’n prosesau diogelwch adlewyrchu hyn.

Os byddwch yn dod â chyllell efo chi i’r llys - hyd yn oed cyllell boced dan 3 modfedd o hyd (y gallwch ei chario’n gyfreithiol yn eich poced) - bydd y swyddogion diogelwch yn ei chymryd oddi arnoch. Gallwch gael y gyllell yn ôl drwy lenwi ffurflen sydd ar gael gan y staff diogelwch. Byddwch hefyd yn cael eitemau eraill, megis colur, a gafodd ei gymryd oddi arnoch yn ôl pan fyddwch yn gadael y llys.

Caiff eitemau mwy sinistr, megis cyllyll sy’n fwy na thair modfedd o hyd eu hatafaelu, eu dinistrio, a chaiff yr heddlu eu galw yn syth. Mae hyn wedi digwydd ychydig o weithiau yn y llys lle’r wyf i’n gweithio, sydd wirioneddol yn gwneud i ni sylweddoli bod ein gwaith ni fel staff y llysoedd yn wahanol i’r mwyafrif o swyddi eraill, a bod diogelwch yn eithriadol o bwysig.

Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn ymwybodol o’r prosesau diogelwch, ein bod yn eu parchu a’n bod yn gwybod pam eu bod yn bodoli, boed hynny wrth gymryd cegiad o goffi hyd yn oed os yw braidd yn boeth, neu gadw'n clustiau’n agored a dweud wrth staff y llys am unrhyw beth sy’n peri pryder i ni. Heb brosesau diogelwch – byddai ein swyddi’n llawer mwy peryglus, felly diolch yn fawr.

Dyma’r blog olaf yn y gyfres o flogiau sy’n cyfleu safbwyntiau gwahanol bobl sy’n defnyddio ac sy’n gweithio yn ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd. Mae'r gyfres yn rhan o ymdrech ehangach i ddiweddaru ein gwybodaeth am ddiogelwch y llysoedd, ein prosesau diogelwch a'r egwyddorion sy'n sail iddynt. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch flog Susan neu ewch i GOV.UK i weld ein deunyddiau newydd am ddiogelwch y llysoedd.

Sharing and comments

Share this page